Neidio i'r prif gynnwy

"Mae ein neges i ddioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru yn dal i fod yn glir, rydyn ni yma i'ch cefnogi, ble bynnag a sut bynnag bydd angen."

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol New Pathways, Jackie Stamp a Phrif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly yn dod ynghyd i bwysleisio pwysigrwydd taflu goleuni ar drais rhywiol a grymuso dioddefwyr i geisio cymorth yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol 2021.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda sefydliadau partner fel New Pathways, gwasanaeth cwnsela ac eiriolaeth mwyaf Cymru i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trais neu gam-drin rhywiol, i dynnu sylw at y neges bwysig y bydd cymorth yno bob amser i ddioddefwyr trais rhywiol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt:

Yn anffodus, rydyn ni i gyd yn gwybod bod trais a cham-drin rhywiol yn effeithio ar bob cymuned ledled ein gwlad. Dyna’r gwirionedd llwm ac erchyll, ond rydyn ni’n gwybod hefyd, er mwyn mynd i'r afael â'r broblem, bod rhaid taflu goleuni arno, codi ymwybyddiaeth ohono a sicrhau ein bod yn grymuso dioddefwyr i ofyn am gymorth a chefnogaeth.

Rwy'n hynod falch ein bod ni, ynghyd â’n sefydliadau partner, wedi lansio ein hymgyrch 'Byw Heb Ofn', gwasanaeth 24 awr am ddim sy'n rhoi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol a cham-drin domestig.

Mae ein neges i ddioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru yn parhau i fod yn glir; rydyn ni yma i'ch cefnogi, ble bynnag a sut bynnag bydd angen.

Dywedodd Jackie Stamp, Prif Swyddog Gweithredol New Pathways:

Yn anffodus, mae cywilydd a stigma yn atal y mwyafrif llethol o bobl rhag siarad am drais a cham-drin rhywiol, a phan fyddan nhw'n gwneud hynny, maen nhw'n aml yn cael eu barnu neu ddim yn cael eu credu.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r galw am ein gwasanaethau cwnsela, eiriolaeth a hyfforddiant wedi cynyddu'n ddramatig. Fe wnaethom ni ddarparu dros 4000 o gyrsiau hyfforddi y llynedd ac ar hyn o bryd, rydyn ni’n darparu dros 500 o sesiynau cwnsela personol bob wythnos a gwasanaethau eirioli i 638 o unigolion o bob oed ac o bob cefndir.

Dyna pam ei bod mor bwysig creu cymdeithas a datblygu systemau sy'n annog pobl i ddod ymlaen a chael yr help sydd ei angen arnyn nhw.

Wrth dynnu sylw at bwysigrwydd rhoi gwybod i’r heddlu am drais rhywiol, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly:

Ein neges i ddioddefwyr yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Trais Rhywiol, ac yn wir bob wythnos, yw peidiwch â dioddef yn dawel. Rhowch wybod i'r heddlu, byddwn yno i chi pan fyddwch yn gofyn am help ac yn sicrhau eich bod yn ddiogel.

Rwy'n gwybod y gall fod yn anodd dod ymlaen i roi gwybod am eich profiadau, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn gyda rheoliadau Covid-19 ar waith, ond rwy’ am sicrhau unrhyw un sy'n ystyried gwneud hynny bod ystod eang o gymorth ar gael, nid yn unig gan yr heddlu ond gan asiantaethau partner. Mae Heddlu Gwent yn cymryd pob adroddiad o drais rhywiol o ddifrif a byddwn yn ymchwilio ac yn rhoi cymorth i unrhyw un yr effeithiwyd arno.

Rydyn ni’n cydnabod nad yw’r cartref yn lle diogel i rai. Peidiwch â phoeni am y cyfyngiadau ar symud – gofynnwch am help os ydych chi mewn perygl. Rwy’n annog unrhyw un sydd wedi profi trais rhywiol i geisio cael cymorth a rhoi gwybod i ni drwy ffonio 101 neu 999 mewn argyfwng.

Ychwanegodd Jane Hutt:

Bob dydd, rydyn ni’n chwilio'n barhaus am ffyrdd newydd ac arloesol o drosglwyddo’r neges bod gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth ar gael i ddioddefwyr trais rhywiol a cham-drin domestig. Dyna pam rydyn ni’n gweithio'n agos gyda llu o sefydliadau partner a'r Heddlu ac rwy'n wirioneddol ddiolchgar am bopeth maen nhw’n ei wneud.

I holl ddioddefwyr a goroeswyr trais a cham-drin rhywiol, rydyn ni’n ailadrodd y neges, rydyn ni ar gael i'ch cefnogi, ble bynnag a sut bynnag y mae angen.