Y berthynas rhwng datblygiad plant a defnyddio gofal plant: crynodeb
Yn yr adroddiad hwn, archwilio'r berthynas rhwng datblygiad plant a'r defnydd o ofal plant gan ddefnyddio data Understanding Society.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a chefndir
- Mae gofal plant yn cael ei gydnabod gan lunwyr polisi fel sbardun polisi pwysig ar gyfer cyflogaeth rhieni ac i sicrhau bod plant yn cael y cyfleoedd gorau i ddatblygu.
- Yn yr adroddiad hwn, amlinellir a thrafodir canfyddiadau prosiect ymchwil a oedd â'r nod cyffredinol o archwilio'r berthynas rhwng datblygiad plant yn bump ac wyth oed, a'r defnydd o ofal plant mewn oedrannau cynharach ymhlith plant yn y Deyrnas Unedig (DU).
- Roedd yr ymchwil yn manteisio ar arolwg cynrychioliadol mawr o aelwydydd y DU, ac arolwg Understanding Society (USoc), ac roedd yn cynnwys dadansoddiad ystadegol o’r:
- defnydd o ofal plant a mathau penodol o leoliadau dros amser, ac unrhyw wahaniaethau mewn nodweddion ar draws plant a wnaeth ac na wnaeth fynychu gofal plant, yn ogystal ag ar draws y rhai a fynychodd wahanol fathau o leoliadau
- y sgoriau a gafwyd o'r Holiadur Cryfderau ac Anawsterau (SDQ) ar blant pump ac wyth oed, gyda'r nod o asesu'r ymddygiadau a'r anawsterau cymdeithasol-emosiynol ymhlith y plant hyn
- y berthynas rhwng ymddygiadau cymdeithasol-emosiynol plant, wedi'u mesur gan sgoriau SDQ yn bump ac wyth oed, a'r defnydd o ofal plant a mathau penodol o leoliadau mewn oedrannau cynharach, ac unrhyw effeithiau rhyngweithiol gydag incwm aelwydydd fel mesur o gefndir economaidd-gymdeithasol
Canfyddiadau allweddol
Defnyddio gofal plant
- O'u cymharu â phlant nad oeddent yn defnyddio gofal plant, roedd y rhai a wnaeth yn fwy tebygol o fyw mewn aelwydydd gydag incwm cyfartalog uwch ac felly roeddent yn llai tebygol o fyw mewn aelwydydd sydd wedi'u gosod yn y 25% isaf o'r dosbarthiad incwm misol gros. Mae hyn yn unol â'r llenyddiaeth a archwiliwyd yn yr adroddiad sy'n profi bod plant o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai manteisiol yn llai tebygol o fanteisio ar ofal plant.
- O'u cymharu â phlant nad oeddent yn defnyddio gofal plant, roedd gan y rhai a oedd yn ei ddefnyddio rieni a oedd yn fwy tebygol o gael cymwysterau addysg uwch a mamau o'r grŵp ethnig gwyn.
- Yn gyson â'r defnydd amser cymharol gyfyngedig gan rieni sy'n gweithio, roedd plant nad oeddent yn mynychu gofal plant yn llai tebygol o gael rhieni sy'n gweithio ill dau mewn cyflogaeth amser llawn, neu o leiaf y naill mewn cyflogaeth amser llawn a’r llall mewn addysg amser llawn. Ymhlith y plant a oedd yn defnyddio gofal plant, roedd y rhai a oedd yn defnyddio mathau grŵp ffurfiol ac anffurfiol o leoliadau gofal plant yn bennaf yn rhannu cyfrannau tebyg o rieni sy'n gweithio, tra bod y rhai a oedd yn defnyddio lleoliadau unigol ffurfiol yn bennaf [troednodyn 1] yn llawer mwy tebygol o gael rhieni sy'n gweithio.
Sgoriau’r holiadur cryfderau ac anawsterau plant
- Ar draws yr holl sgoriau SDQ yn bump ac wyth oed, roedd sgoriau sy'n dangos llai o anawsterau yn fwy cyffredin. Yn gyffredinol, roedd fel petai plant yn wynebu mwy o heriau yn y sgôr SDQ sy'n gysylltiedig â gorfywiogrwydd a diffyg sylw, ond llai o heriau yn y sgôr sy'n ymwneud â phroblemau perthynas â chyfoedion. Mae'r patrymau hyn yn gyson ar draws sgoriau a gymerwyd yn y ddau oedran.
- Wrth gymharu dosbarthiadau sgoriau ar draws plant pump ac wyth oed, mae'r dosbarthiadau ehangach yn gyffredinol yn wyth oed yn awgrymu bod mwy o amrywiad o fewn y sgoriau SDQ ymhlith plant wyth oed, yn ogystal â sgoriau uwch sy'n dangos mwy o anawsterau o'u cymharu â phlant pump oed.
Ymddygiadau cymdeithasol-emosiynol plant a defnydd o ofal plant
- Ym mhob dadansoddiad, ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethau mewn sgoriau SDQ cyfartalog yn bump ac wyth oed rhwng plant a oedd yn defnyddio ac nad oeddent yn defnyddio gofal plant yn gynharach, hyd yn oed wrth ynysu'r berthynas hon a chaniatáu ar gyfer y rhyngweithio rhwng defnyddio gofal plant ac incwm aelwyd.
- Fodd bynnag, profwyd gwahaniaethau mewn sgoriau SDQ cyfartalog ar draws plant a oedd yn mynychu gofal plant ond o fewn gwahanol fathau o leoliadau gofal plant. O’u cymharu â phlant sy’n mynychu lleoliadau gofal plant anffurfiol a grŵp ffurfiol yn bennaf, mae dadansoddiad disgrifiadol yn dangos bod gan y rhai a oedd yn bennaf mewn lleoliadau unigol ffurfiol gyfartaledd sylweddol uwch yn y sgôr symptomau emosiynol, a hwythau bron yn cyrraedd y trothwy ffiniol ar gyfer risg uchel.[troednodyn 2] Mae hyn yn awgrymu y gallai plant pum oed a gafodd ofal unigol ffurfiol yn dair oed fod wedi bod yn fwy tebygol o ddatblygu symptomau iselder a gorbryder o'u cymharu â'u cyfoedion a gafodd ofal plant mewn lleoliadau anffurfiol a grŵp ffurfiol. Gall y canlyniad hwn adlewyrchu nifer o ffactorau, gan gynnwys y rhyngweithio prinnach â chyfoedion ac aelodau o'r teulu y gallai plant mewn gofal unigol ffurfiol fod wedi'i gael mewn oedrannau iau o'u cymharu â phlant mewn lleoliadau amgen, gan gyfaddawdu felly ymlyniad diogel y plentyn yn ddiweddarach mewn bywyd, fel y trafodwyd yn Waldfogel (2000).[troednodyn 3]
- Mae canlyniadau dadansoddiadau atchweliad sy'n ynysu’r berthynas rhwng sgoriau SDQ a gofal plant yn well yn profi'r gwahaniaethau hyn. Dengys y canlyniadau fod plant a oedd mewn lleoliadau gofal anffurfiol yn ieuengach yn wynebu llai o anawsterau mewn problemau ymddygiad o'u cymharu â phlant mewn gofal unigol ffurfiol, ond dim ond ymhlith y rhai y mae eu hincwm aelwydydd o fewn y 75% uchaf o'r dosbarthiad incwm. Mewn gwirionedd, roedd plant a oedd yn defnyddio lleoliadau gofal anffurfiol ond yn dod o aelwydydd o fewn y 25% isaf o'r dosbarthiad incwm mewn gwirionedd yn wynebu mwy o broblemau perthynas â chyfoedion a heriau ymddygiad rhag-gymdeithasol o'u cymharu â phlant yn yr un sefyllfa incwm ond yn defnyddio lleoliadau gofal unigol a grŵp ffurfiol yn bennaf. Ar ben hynny, roedd y plant hyn yn wynebu mwy o broblemau perthynas â chyfoedion a heriau ymddygiad rhag-gymdeithasol o'u cymharu â phlant yn yr un lleoliad gofal ond mewn aelwydydd gydag incwm ymhlith y 75% uchaf o'r dosbarthiad.
- Mae'r llenyddiaeth a archwiliwyd ynghyd â'r canfyddiadau a drafodwyd yn amlygu bod y cysylltiad rhwng defnyddio gofal plant a chanlyniadau plant yn seiliedig ar berthynas a mecanweithiau cymhleth. Rhaid i'r casgliadau a geir o'r dadansoddiadau ystyried cyfyngiadau’r fethodoleg a’r data, yn ogystal â'r cyd-destun y mae'r ymchwil yn canolbwyntio arno.
Cyfyngiadau ac ymchwil bellach
- Mae cyfyngiadau sy'n gynhenid yn y data a ddefnyddiwyd yn yr astudiaeth yn gosod cyfyngiadau pellach ar ddibynadwyedd posibl canfyddiadau, er gwaethaf dewisiadau methodolegol a wnaed er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn.
- Mae'r cyfyngiadau methodolegol a allai ymyrryd â chanlyniadau'r dadansoddiadau yn cynnwys mewndarddiad[troednodyn 4] y dewis i ddefnyddio gofal plant ac i ddefnyddio mathau penodol o leoliadau gofal plant, yn ogystal â phresenoldeb gwall mesur ym mhob nodwedd, ond yn enwedig o fewn cwblhau'r SDQ.
- Gellir gwella'r cyfyngiadau hyn o ystyried argaeledd data hydredol sy'n cynnwys sampl digon mawr a / neu gyfradd adael gymharol isel, a hefyd sy'n cynnwys mesurau mwy gwrthrychol o ddatblygiad plant a set gyfoethog o nodweddion plant, rhieni ac aelwydydd.
- Mae'r ymchwil a gynhaliwyd yn yr adroddiad yn cynnwys cwmpas ar gyfer ymchwil yn y dyfodol a allai fod yn ymwneud â sbardunau newidiadau yn y defnydd o ofal plant dros amser, effeithiau gwlad a/neu garfan benodol y defnydd o ofal plant ar ganlyniadau plant, effaith gofal plant ar ganlyniadau marchnad lafur rhieni, ac a allai'r effaith hon fod yn wahanol i'r effaith ar ddatblygiad plant, a sut.
Troednodiadau
[1] Mae'r rhain yn cynnwys gwarchodwr plant, nani, au pair neu ofalwr plant yn y cartref, a gwarchodwr plant sy'n dod i'r cartref.
[2] Goodman, R. (1997). The Strengths and Difficulties Questionnaire: A Research Note. Journal of Child Psychology and Psychiatry, 38(5), pp. 495-597.
[3] Waldfogel, J. (2002). Child care, women’s employment, and child outcomes. Journal of Population Economics, 15, pp. 527-548.
[4] Mae problem mewndarddiad yn cyfeirio at gydberthynas rhwng y newidyn annibynnol a'r term gwallus yn y model. Gall nodweddion nad ydynt yn cael eu harsylwi ac felly’n cael eu tybio yn y canfyddiadau hyn gysylltu â'r dewis i ddefnyddio gofal plant neu ddefnyddio math o ofal plant ar un llaw, a chyda mesurau datblygiad plant ar y llaw arall (er enghraifft, gall statws economaidd-gymdeithasol fod yn gysylltiedig â phenderfyniadau ynghylch defnyddio gofal plant a chanlyniadau datblygiad plant). O ganlyniad, gall unrhyw effeithiau a welir o'r dewis i ddefnyddio gofal plant fod yn rhannol oherwydd y nodweddion hyn a nodweddion eraill.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Julia Diniz
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Dr Jack Watkins
Isadran Cefnogi Tystiolaeth Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwil.plantatheuluoedd@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 52/2025
ISBN Digidol: 978-1-83715-891-1

