Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

1. Bydd y Bil Trethiant (Cymru) arfaethedig yn cyflwyno cyfres o ddiwygiadau technegol i Ddeddfau Trethi Cymru: Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, a Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017. Mae'r cynigion wedi cael eu datblygu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn dilyn wyth mlynedd o brofiad o weinyddu trethi datganoledig yng Nghymru. Diben y Bil yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn parhau i fod yn glir, yn effeithiol ac yn addas at y diben, gan alluogi ACC i weinyddu trethi datganoledig mor effeithlon ac effeithiol â phosibl.

2. Mae'r Bil yn cynnwys pecyn o newidiadau technegol a gweinyddol sy'n ymwneud â threfniadau llywodraethu ACC, pwerau gweinyddu trethi, y Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Nod y cynigion yw mynd i'r afael â meysydd lle mae profiad gweithredol wedi nodi ansicrwydd, gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy eglur, ymateb i adborth gan randdeiliaid, a chysoni agweddau ar weinyddiaeth drethi Cymru â datblygiadau ehangach mewn rhannau eraill o'r DU lle y bo'n briodol.

3. Nid yw'r cynigion yn cyflwyno trethi newydd nac yn newid rhwymedigaethau treth presennol yn sylweddol. Yn hytrach, maent yn ceisio cefnogi system dreth deg, effeithlon a thryloyw sy'n galluogi trethdalwyr a'u cynghorwyr i ddeall a chyflawni eu rhwymedigaethau'n well. Mae refeniw a godir o drethi datganoledig yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau y mae'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn dibynnu arnynt.

4. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn trethdalwyr, cyrff proffesiynol, cynrychiolwyr y diwydiant, academyddion a rhanddeiliaid eraill â diddordeb. Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi'r cynigion a'u nod o wella gweithrediad Deddfau Trethi Cymru ar y cyfan, gan dynnu sylw at bwysigrwydd mesurau diogelu priodol, tryloywder a chanllawiau clir i drethdalwyr.

Nodau polisi ac effeithiau bwriadedig

5. Ers mis Ebrill 2018, bu ACC yn gyfrifol am gasglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar ran Llywodraeth Cymru. Nod y Bil Cynhaliaeth Trethiant arfaethedig yw sicrhau bod Deddfau Trethi Cymru yn parhau i sicrhau'r canlyniadau a fwriadwyd gan y Senedd ac yn gweithredu'n effeithiol yn ymarferol. Mae'r cynigion wedi cael eu llywio gan brofiad gweithredol, ymgysylltu â rhanddeiliaid a datblygiadau mewn deddfwriaeth dreth gysylltiedig mewn rhannau eraill o'r DU.

6. Nod y cynigion yw gwella'r ffordd y caiff trethi datganoledig eu gweinyddu a'u casglu, rhoi mwy o sicrwydd i drethdalwyr a'u cynghorwyr, diogelu refeniw sy'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a chefnogi cydweithio ehangach yn y sector cyhoeddus drwy bwerau cymesur i rannu gwybodaeth.

Pa dystiolaeth a ystyriwyd er mwyn deall sut mae'r cynnig yn cyfrannu at anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol?

7. Mae'r dystiolaeth a ystyriwyd yn cynnwys dogfen ymgynghori'r Papur Gwyn, yr Asesiad Effaith Integredig ac ymatebion rhanddeiliaid i'r ymgynghoriad. Diwygiadau technegol i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig 2017, a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi 2017 yw'r cynigion yn bennaf, a ddatblygwyd yn dilyn wyth mlynedd o brofiad gweithredol o weinyddu trethi Cymru.

8. Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn nodi y bwriedir i'r cynigion sicrhau mwy o eglurder, tegwch, effeithlonrwydd a thryloywder yn y ffordd y gweinyddir trethi Cymru, lleihau amwysedd yn y ddeddfwriaeth, gwella cydymffurfedd, a chefnogi'r broses o gasglu refeniw sy'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn effeithiol. Mae refeniw a gesglir drwy drethi Cymru yn cyfrannu at ariannu gwasanaethau gan gynnwys gwasanaethau iechyd, addysg a llywodraeth leol y mae cymunedau sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn dibynnu arnynt.

9. Mae'r cynigion hefyd wedi cael eu hystyried yn erbyn egwyddorion treth Llywodraeth Cymru, gan gynnwys yr egwyddor y dylai trethi Cymru gyfrannu at nod Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.

10. Mae'r cynigion hefyd wedi cael eu hasesu o ran eu heffaith uniongyrchol bosibl ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. O ystyried eu natur dechnegol a gweithredol gul, a'u bod yn ymwneud yn bennaf â gweinyddu a chasglu trethi datganoledig yn hytrach na newidiadau i gyfraddau treth, bandiau treth neu gymhwysedd i gael rhyddhadau, ni ddisgwylir i'r cynigion gael effaith uniongyrchol sylweddol ar anghydraddoldebau canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol.

11. Disgwylir i nifer y trethdalwyr yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan fesurau unigol fod yn gymharol fach a bwriad y newidiadau yw gwella gweithrediad, eglurder a thegwch y system dreth yn bennaf.

12. Hefyd, bydd y mesurau diogelu presennol o fewn y broses o weinyddu trethi Cymru a'r ffyrdd o gynorthwyo trethdalwyr yn parhau i fod yn gymwys. Mae'r rhain yn helpu i sicrhau y gall trethdalwyr ddeall a chyflawni eu rhwymedigaethau a bod modd adolygu neu herio penderfyniadau lle y bo'n briodol. O ganlyniad, ystyrir bod y cynigion yn debygol o gael effaith niwtral ar anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol, gan gefnogi gweinyddiaeth effeithlon a theg trethi datganoledig.

Pa wybodaeth a gafwyd drwy ymgysylltu â'r rhai yr effeithir arnynt gan y cynnig/penderfyniad ac yn benodol y rhai sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol?

13. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Ionawr 2026 a chafwyd ymatebion gan unigolion, cyrff proffesiynol, cynrychiolwyr y diwydiant ac academyddion. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynigion ar y cyfan, gan dynnu sylw at bwysigrwydd eglurder deddfwriaethol, tegwch, tryloywder, mesurau i ddiogelu trethdalwyr a chanllawiau clir.

14. Er nad oedd y gweithgarwch ymgysylltu wedi'i dargedu'n benodol at bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau bod gweinyddiaeth dreth yn parhau i fod yn hygyrch, yn gymesur ac yn hawdd i drethdalwyr ei deall. Cyfrannodd y Grŵp Diwygio Treth Incwm Isel (LITRG), y Sefydliad Siartredig Trethiant, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), y Grŵp Ymarferwyr Trethi Stamp (STPG), ynghyd â chyrff proffesiynol a threthdalwyr, dystiolaeth a safbwyntiau sy'n berthnasol i brofiad trethdalwyr.

15. Nododd yr ymgynghoriad hefyd bwysigrwydd mesurau diogelu ynghylch rhannu gwybodaeth, prosesau apelio, tryloywder a sicrhau bod trethdalwyr yn deall eu hawliau a'u rhwymedigaethau.

A ystyriwyd nodweddion gwarchodedig?

16. Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn nodi bod ystyriaeth wedi cael ei rhoi i unigolion â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae'r cynigion yn rhai gweinyddol a thechnegol eu natur yn bennaf ac nid ydynt yn targedu grwpiau penodol â nodweddion gwarchodedig.

17. Nid oes unrhyw dystiolaeth y byddai'r cynigion yn gwahaniaethu'n uniongyrchol yn erbyn unigolion â nodweddion gwarchodedig. Fodd bynnag, oherwydd bod anfantais economaidd-gymdeithasol yn aml yn croestorri ag anabledd, oedran, ethnigrwydd a nodweddion gwarchodedig eraill, wrth weithredu'r ddeddfwriaeth dylid parhau i ystyried hygyrchedd, prosesau cyfathrebu a chymorth i drethdalwyr.

A ystyriwyd cymunedau buddiant a chymunedau lle?

18. Mae'r cymunedau buddiant a ystyriwyd yn cynnwys:

  • Trethdalwyr
  • Trethdalwyr incwm isel
  • Prynwyr eiddo
  • Gweithredwyr safleoedd tirlenwi
  • Asiantau a chynghorwyr treth
  • Awdurdodau lleol
  • Trethdalwyr y mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ddeall eu rhwymedigaethau treth a chydymffurfio â nhw
  • Unigolion sy'n dibynnu ar wasanaethau cyhoeddus a ariennir gan refeniw trethi Cymru

Mae cymunedau lle a ystyriwyd yn cynnwys:

  • Cymunedau ledled Cymru sy'n cael budd o wasanaethau cyhoeddus a ariennir drwy drethi datganoledig.
  • Ardaloedd sy'n profi lefelau uwch o amddifadedd lle mae mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau a ariennir yn gyhoeddus.
  • Ardaloedd awdurdod lleol a allai gael budd o drefniadau rhannu gwybodaeth a gweinyddu trethi gwell.

Pa wybodaeth sydd wedi cael ei hystyried ynghylch tueddiadau'r dyfodol?

19.Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn nodi sawl tuedd berthnasol yn y dyfodol:

  • Datganoli cyllidol yn parhau yng Nghymru
  • Mwy o ddigideiddio ym maes gweinyddiaeth dreth.
  • Ehangu cyfrifoldebau ACC, gan gynnwys gweithredu'r ardoll ymwelwyr a'r gofrestr llety ymwelwyr.
  • Galw cynyddol am ddefnydd effeithiol o ddata trethdalwyr i lywio prosesau llunio polisïau.
  • Yr angen i gadw deddfwriaeth dreth Cymru yn gyson â datblygiadau ehangach y DU lle y bo'n briodol.
  • Disgwyliadau cynyddol o ran gwasanaethau cyhoeddus effeithlon a llunio polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Mae'r cynigion yn ceisio sicrhau bod deddfwriaeth dreth Cymru yn addas at y dyfodol a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor gweinyddiaeth dreth.

Pa ddata sydd wedi cael eu hystyried (cenedlaethol a lleol)?

20. Ystyriwyd y ffynonellau canlynol o dystiolaeth:

  • Data gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru a gasglwyd ers 2018.
  • Tystiolaeth ynglŷn â chasglu a chydymffurfio â threthi mewn perthynas â'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.
  • Adborth rhanddeiliaid gan gyrff proffesiynol, cynrychiolwyr y diwydiant a threthdalwyr.
  • Fframweithiau polisi ac egwyddorion treth Llywodraeth Cymru.
  • Tystiolaeth ynghylch cyllid gwasanaethau cyhoeddus a gefnogir gan refeniw trethi datganoledig.
  • Ymatebion i'r ymgynghoriad a dysgu gweithredol o weinyddu trethi Cymru.

Rhowch grynodeb o'r dystiolaeth a dolenni

21. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y cynigion yn rhai technegol a gweinyddol eu natur ac y bwriedir iddynt wella gweithrediad deddfwriaeth dreth Cymru yn hytrach na chyflwyno newidiadau polisi sylweddol a fyddai'n effeithio'n uniongyrchol ar grwpiau economaidd-gymdeithasol. Disgwylir i'r cynigion wella sicrwydd, cydymffurfedd, effeithlonrwydd a thegwch wrth weinyddu trethi a hefyd gefnogi'r broses o gasglu refeniw a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dogfennau allweddol:

  • Papur Gwyn ar Gynigion Deddfwriaethol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru.
  • Crynodeb o'r Ymatebion

Sut y gallai'r cynnig waethygu anghydraddoldebau canlyniadau sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol ymhellach?

22. At ei gilydd, ystyrir bod y risg o waethygu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn isel am nad yw'r cynigion yn creu trethi newydd nac yn newid rhwymedigaethau treth yn sylweddol i'r rhan fwyaf o drethdalwyr. Yn hytrach, maent yn gwneud y ddeddfwriaeth a'r prosesau gweinyddol presennol yn fwy eglur ar y cyfan.

Mae risgiau posibl yn cynnwys:

  • Gallai mwy o eglurder ynghylch pwerau cydymffurfio a gorfodi gael effeithiau anghymesur ar drethdalwyr sydd â mynediad cyfyngedig at gyngor neu gymorth proffesiynol.
  • Gall mwy o rannu gwybodaeth greu pryderon ymhlith trethdalwyr sy'n agored i niwed os na chaiff mesurau diogelu a thryloywder eu cyfleu'n glir.

Rhowch fanylion ynghylch anghydraddoldebau canlyniad sy'n debygol o gael eu heffeithio a'r bobl a'r cymunedau hynny sy'n debygol o gael eu heffeithio

23. Mae grwpiau a allai fod yn fwy sensitif i'r effeithiau yn cynnwys:

  • Trethdalwyr incwm isel
  • Unigolion â gallu ariannol is
  • Busnesau bach sy'n profi pwysau llif arian
  • Unigolion heb fynediad at gyngor treth proffesiynol
  • Pobl sy'n profi sawl math o anfantais

Mae'r canlyniadau posibl yr effeithir arnynt yn cynnwys:

  • Cadernid ariannol
  • Hyder wrth ymgysylltu â systemau treth
  • Y gallu i gydymffurfio â gofynion treth
  • Mynediad at wybodaeth a chymorth

24. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynigion ond tynnwyd sylw at yr angen am gymesuredd, mesurau diogelu priodol, tryloywder a chanllawiau clir i drethdalwyr. Bydd y mesurau hyn yn helpu i liniaru unrhyw effeithiau anfwriadol ar grwpiau sy'n agored i niwed.

Sut y gallai'r penderfyniad wella canlyniadau i bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol?

25. Gall y cynigion gael effeithiau cadarnhaol o bosibl drwy wella'r ffordd y gweinyddir trethi a helpu i gasglu refeniw sy'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus y mae cymunedau difreintiedig yn dibynnu arnynt.

Mae gwelliannau penodol yn cynnwys:

  • Mwy o sicrwydd ac eglurder mewn deddfwriaeth dreth
  • Gwell cysondeb wrth weinyddu trethi
  • Llai o amwysedd a beichiau cydymffurfio
  • Diogelu refeniw cyhoeddus yn well
  • Gwell trefniadau rhannu data i gefnogi polisi cyhoeddus sy'n seiliedig ar dystiolaeth a swyddogaethau awdurdodau lleol
  • Cyllido gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol drwy wella'r ffordd y caiff trethi eu casglu a lefelau cydymffurfio

26. Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn nodi bod y cynigion yn cefnogi egwyddorion treth Llywodraeth Cymru ac yn cyfrannu at nod Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.

Rhowch fanylion am y canlyniadau a fydd yn cael eu gwella ac i bwy

27. Mae'r buddiolwyr posibl yn cynnwys:

  • Dinasyddion sy'n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan refeniw trethi datganoledig
  • Cymunedau sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol sy'n dibynnu'n fwy ar wasanaethau cyhoeddus

Mae'r canlyniadau gwell posibl yn cynnwys:

  • Tegwch a chysondeb wrth weinyddu trethi
  • Hyder y cyhoedd yn systemau treth Cymru
  • Cynaliadwyedd cyllid gwasanaethau cyhoeddus
  • Gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth
  • Effeithlonrwydd gweinyddol a llai o feichiau cydymffurfio

28. Daw'r ymgynghoriad a'r Asesiad Effaith Integredig i'r casgliad y bydd y cynigion yn gwella effeithiolrwydd gweinyddiaeth dreth Cymru, yn gwella eglurder a thryloywder, yn helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ehangach ac yn cyfrannu at system dreth decach a mwy effeithlon.

29. Dylid monitro effaith y ddeddfwriaeth drwy drefniadau llywodraethu, gweithredol a pherfformiad presennol Awdurdod Cyllid Cymru.

Gallai monitro gynnwys:

  • Perfformiad casglu trethi
  • Cyfraddau cydymffurfio
  • Data ar apeliadau ac anghydfodau
  • Adborth a chwynion trethdalwyr
  • Profiad defnyddwyr gwasanaethau
  • Y defnydd o bwerau newydd i rannu gwybodaeth a'u heffeithiolrwydd
  • Gwerthusiad o arbedion effeithlonrwydd gweinyddol a gyflawnwyd
  • Monitro effeithiau a nodwyd drwy asesiadau cydraddoldeb ac economaidd-gymdeithasol yn y dyfodol.

30. Lle y bo'n briodol, dylid dadgrynhoi data i nodi a yw effeithiau anfwriadol yn codi i grwpiau dan anfantais.

31. Mae'n debygol mai cyfyngedig fydd unrhyw waith monitro newydd am fod y cynigion yn rhai technegol a gweinyddol yn bennaf. Fodd bynnag, gellid ystyried casglu:

  • Adborth gan randdeiliaid ar adeg eu rhoi ar waith
  • Data ar y defnydd o'r pwerau newydd a gyflwynwyd drwy'r ddeddfwriaeth
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â dealltwriaeth a hygyrchedd trethdalwyr
  • Tystiolaeth o unrhyw effeithiau anghymesur ar drethdalwyr sy'n agored i niwed
  • Adborth gan awdurdodau lleol o ran darpariaethau rhannu gwybodaeth

32. Mae'r Asesiad Effaith Integredig yn nodi y bydd yn bwysig parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac i asesu effeithiau er mwyn sicrhau bod y cynigion yn dal i fod yn deg ac yn effeithiol a'u bod yn cyd-fynd ag amcanion Llywodraeth Cymru. Byddai cynigion deddfwriaethol yn y dyfodol yn cael eu hategu gan asesiad effaith pellach a chraffu rheoleiddiol.

Asesiad economaidd-gymdeithasol cyffredinol

33. Disgwylir i'r Bil Trethiant (Cymru) gael effaith gadarnhaol niwtral i gymedrol ar anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. Mae'r cynigion yn rhai technegol a gweinyddol yn bennaf, ond drwy wella effeithlonrwydd, tegwch ac effeithiolrwydd y ffordd y gweinyddir trethi Cymru, maent yn cefnogi cyllid cynaliadwy gwasanaethau cyhoeddus sy'n arbennig o bwysig i'r rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Bwriedir i'r diwygiadau arfaethedig gefnogi system dreth deg, dryloyw a chyson. Maent yn gymwys i drethdalwyr sydd o fewn cwmpas y ddeddfwriaeth yn yr un modd ac nid ydynt yn gwahaniaethu rhwng unigolion na grwpiau ar sail statws economaidd-gymdeithasol, nodweddion gwarchodedig nac amgylchiadau personol eraill. Felly, ni nodwyd unrhyw effeithiau gwahaniaethol uniongyrchol.