Neidio i'r prif gynnwys

Cam 1: Nodi'r angen am Asesiad Effaith ar Ddiogelu Data

Trosolwg o'r cynnig

1. Dros amser, mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a Thrysorlys Cymru, gyda chymorth mewnbwn gan arbenigwyr treth, wedi nodi nifer o newidiadau deddfwriaethol arfaethedig i Ddeddfau Trethi Cymru—sef Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017, a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.

2. Mae'r newidiadau arfaethedig yn ymwneud â meysydd lle mae ACC wedi wynebu anawsterau, yn ymarferol, i weithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol neu i roi effaith lawn i'r hyn a ystyrir yn fwriad gwreiddiol y Senedd.

3. Mae'r newidiadau arfaethedig yn fesurau technegol yn bennaf sydd â'r bwriad o egluro a gwella deddfwriaeth trethi datganoledig a sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y dyfodol a chefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae'r cynigion hefyd yn adlewyrchu aeddfedrwydd system dreth ddatganoledig Cymru, gan ddefnyddio profiad gweithredol ACC ers 2018 ac adborth gan randdeiliaid a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus.

4. Mae'r Asesiad Effaith hwn ar Ddiogelu Data yn ystyried diwygiadau arfaethedig y Bil i bwerau ACC i rannu gwybodaeth. Byddai'r cynigion yn diwygio adran 18 o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi i gyflwyno dau borth deddfwriaethol newydd a fyddai'n caniatáu i ACC ddatgelu Gwybodaeth Warchodedig (fel y'i diffiniwyd yn adran 17 o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi):

  1. pan ddatgelir gwybodaeth i awdurdodau lleol Cymru sy'n ymwneud â chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig
  2. pan ddatgelir gwybodaeth sy'n ymwneud â'r ardoll ymwelwyr i awdurdodau lleol at ddibenion swyddogaethau ardoll ymwelwyr ACC ei hun.

5. Mae'r cynigion yn ymwneud â datgelu a defnyddio gwybodaeth sydd gan ACC eisoes. Ni fyddant yn creu ffyrdd newydd o gasglu gwybodaeth gan drethdalwyr na darparwyr llety.

Y fframwaith cyfreithiol presennol

6. Ochr yn ochr â rhwymedigaethau ehangach ACC fel corff cyhoeddus yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018, mae'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn cynnwys fframwaith llym i ACC reoli a rhannu gwybodaeth am drethi. Mae adran 16 yn caniatáu i wybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau ACC gan ACC, neu gan berson y mae swyddogaethau ACC wedi'u dirprwyo iddo, gael ei defnyddio gan y personau hynny mewn perthynas ag unrhyw un o swyddogaethau ACC. Fodd bynnag, mae adran 17 yn gwahardd datgelu 'Gwybodaeth Warchodedig' gan swyddog perthnasol oni chaniateir y datgeliad yn benodol yn adran 18 o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.

7. Diffinnir Gwybodaeth Warchodedig fel gwybodaeth sy'n ymwneud â pherson (y "person a effeithir”):

  1. a ddaeth i law ACC neu a ddaeth i law person y dirprwywyd unrhyw un neu ragor o swyddogaethau ACC iddo mewn cysylltiad â’r swyddogaethau hynny, a
  2. y gellir adnabod y person a effeithir ohoni (boed oherwydd bod yr wybodaeth yn nodi pwy yw’r person a effeithir neu oherwydd y gellir casglu pwy ydyw ohoni).

8. Mae Gwybodaeth Warchodedig yn derm eang yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. Gall Gwybodaeth Warchodedig gynnwys gwybodaeth ar lefel eiddo ac, o dan rai amgylchiadau, ffigurau cyfanredol pan fyddai modd i ddatgeliad allu adnabod person a effeithir. At ddibenion datgelu, mae ACC yn mabwysiadu dull gofalus o asesu a yw gwybodaeth yn warchodedig. Yn ymarferol, gellir trin gwybodaeth fel gwybodaeth warchodedig pan fo risg y gellid casglu pwy yw unigolyn, gan gynnwys pan fo gwybodaeth arall ar gael i'r derbynnydd.

9. Mae adran 18 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn nodi’r datgeliadau a ganiateir ar hyn o bryd. Mae enghreifftiau yn cynnwys datgeliadau ar gyfer rhai o swyddogaethau ACC, datgeliadau gyda chydsyniad, datgeliadau ar gyfer ymchwiliadau neu achosion troseddol, datgeliadau sy'n ofynnol neu a ganiateir gan ddeddfiad arall a datgeliadau i CThEF neu Revenue Scotland mewn cysylltiad â swyddogaethau perthnasol. Y bwlch a nodwyd gan swyddogion yw nad yw'r llwybrau presennol hyn yn rhoi sail addas ar gyfer pob un o'r achosion arfaethedig o rannu ag awdurdodau lleol.

10. Mae Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 yn creu porth arall i ACC rannu gwybodaeth warchodedig. Bydd paragraff 4 o Atodlen 2 (unwaith y bydd wedi cychwyn) yn diwygio adran 18 o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi i ychwanegu datgeliad rhannu gwybodaeth a ganiateir:

(k) os yw’r datgeliad yn datgelu gwybodaeth a ddaeth i law mewn cysylltiad â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, a gwneir y datgeliad -

  1. i awdurdod lleol mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau’r awdurdod lleol, neu
  2. i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'u swyddogaethau o dan adran 2 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51).

11. Yn unol â Gorchymyn Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (Cychwyn) 2025, daeth y ddarpariaeth uchod i rym ar 1 Hydref 2026. Gall ACC bellach rannu data'r cynllun Cofrestru Cenedlaethol yn y modd a ddisgrifir uchod. Cydnabuwyd yn ystod hynt y Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drwy'r Senedd y byddai manylion nad ydynt wedi'u cydgrynhoi (megis cyfeiriadau darparwyr llety cofrestredig) yn ddefnyddiol i awdurdodau lleol ar gyfer materion megis cydymffurfio â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn ogystal ag ymchwil o ystyried y prinder data yn y maes hwnnw ar hyn o bryd.

12. Dylid nodi hefyd fod paragraff 3 o Atodlen 2 o'r Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn diwygio adran 17 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 i ddileu “trethdalwr” yn yr ymadrodd “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr.” Gwneir hyn i adlewyrchu'r ffaith na fydd gwybodaeth sy'n cael ei chasglu a'i rheoli gan ACC, wrth arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â'r gofrestr llety ymwelwyr, bob amser yn wybodaeth am berson sy'n talu treth a gesglir gan ACC. Mae diwygiadau tebyg o ganlyniad i hyn i adran 18 ac 20 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.

Cynigion yn y bil drafft presennol

13. Mae'r Bil yn cynnig dau newid i rannu gwybodaeth drwy ddiwygiadau i'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. O ran mater yr ardoll ymwelwyr, byddai'n ychwanegu is-adran (1A) newydd at adran 18 i ddarparu, er gwaethaf y cyfyngiadau yn adran 18(1)(za), y caniateir datgelu gwybodaeth warchodedig os gwneir hynny i brif gyngor at ddibenion swyddogaethau ACC sy'n ymwneud ag asesu a chasglu'r ardoll ymwelwyr. Ystyr "prif gyngor" yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru o dan adran 192(2) o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.

14. Ar gyfer trethiant lleol, byddai'r Bil yn mewnosod adran 18(1)(l) newydd. Byddai hyn yn caniatáu datgeliad pan fydd yn cael ei wneud i berson cymhwysol mewn cysylltiad â swyddogaeth prif gyngor sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

15. Mae'r Bil yn diffinio person cymhwysol i gynnwys prif gyngor, person sydd wedi'i awdurdodi i arfer unrhyw un o swyddogaethau cyngor o'r fath sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, a pherson sy'n darparu gwasanaethau i gyngor o'r fath sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Mae hyn yn bwysig ar gyfer yr Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data oherwydd gallai'r derbynyddion posibl fod yn ehangach na chyflogeion y cyngor yn unig.

16. Pan ddatgelir Gwybodaeth Warchodedig i brif gyngor at ddibenion swyddogaethau ACC sy'n ymwneud ag asesu a chasglu'r ardoll ymwelwyr neu i berson cymhwysol mewn cysylltiad â swyddogaeth prif gyngor sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, bydd y Bil hefyd yn cyflwyno trosedd newydd i unrhyw berson sy'n datgelu'r wybodaeth honno ymhellach oni chaniateir y datgeliad pellach gan baragraffau (a), (c), (e), (f), (g), (h) ac (l) o adran 18(1) o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi , neu ei fod yn cael ei wneud gyda chydsyniad ysgrifenedig ACC.

17. Wrth ddatblygu'r cynigion, nodwyd bod pwerau i rannu gwybodaeth yn debyg i bwerau awdurdod treth (Cytundeb Defnyddio Data - cynllun peilot rhannu data i adennill dyledion o dan Ddeddf yr Economi Ddigidol ar gyfer awdurdodau lleol ar GOV.UK) yn aml yn cael eu hategu gan droseddau a chyfyngiadau ar ddatgelu o hynny ymlaen. Gall CThEF rannu gwybodaeth warchodedig o dan adrannau 48 a 56 o Ddeddf yr Economi Ddigidol 2017 at ddibenion dyled a thwyll y sector cyhoeddus. Mae adrannau 51 a 59 yn gwahardd datgelu gwybodaeth bersonol a dderbynnir o dan y pwerau hyn ymhellach heb gydsyniad CThEF ac yn gwneud datgeliad heb awdurdod yn drosedd, yn amodol ar amddiffyniadau penodedig h.y. lle roedd person yn credu'n rhesymol fod y datgeliad yn gyfreithlon neu fod yr wybodaeth eisoes wedi'i chyhoeddi'n gyfreithlon.

18. Mae cyflwyno trosedd am ddatgelu gwybodaeth warchodedig o hynny ymlaen yn taro cydbwysedd rhwng diogelu data personol a galluogi cyrff cyhoeddus i ddefnyddio gwybodaeth berthnasol er mwyn helpu i weinyddu eu swyddogaethau trethiant yn effeithiol.

Pam mae angen Asesiad Effaith ar Ddiogelu Data

19. Mae angen Asesiad Effaith ar Ddiogelu Data oherwydd byddai'r cynigion yn creu pyrth statudol newydd ar gyfer rhannu gwybodaeth warchodedig, gan gynnwys data personol. Mae gwybodaeth dreth yn annatod sensitif yn ei chyd-destun, hyd yn oed pan nad yw'n ddata categori arbennig o dan GDPR y DU. Gall ddatgelu defnydd o eiddo, gweithgarwch busnes, patrymau perchnogaeth, penderfyniadau am rwymedigaethau, risg i gydymffurfio ac amgylchiadau ariannol.

20. Cydnabu ymgynghoriad Erthygl 36(4) Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fod y cynnig yn creu pŵer neu rwymedigaeth newydd i brosesu data personol ac yn cynnwys rhannu data personol â chyrff cyhoeddus na allai'r ACC eu rhannu â nhw o'r blaen o dan borth addas o dan y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi.

21. Mae'n bosibl y bydd Erthygl 8 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn berthnasol i'r cynigion, oherwydd gall datgelu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â threthi ac eiddo ymyrryd â bywyd preifat, cartref a gohebiaeth person. Felly rhaid i unrhyw ymyrryd fod yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur.

Rheolyddion a phartïon cysylltiedig

22. Byddai ACC yn penderfynu a ellir gwneud datgeliad o dan y pyrth arfaethedig a byddai'n parhau i fod yn gyfrifol am ei brosesu ei hun. Pan fydd prif gyngor yn cael yr wybodaeth ac yn penderfynu sut y caiff ei defnyddio at ddibenion y dreth gyngor neu ardrethi annomestig, y cyngor fyddai'r rheolydd ar gyfer prosesu o'r fath.

23. Mae'r Bil hefyd yn caniatáu datgeliad i bersonau sydd wedi'u hawdurdodi i arfer swyddogaethau cyngor mewn perthynas â chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig a darparwyr gwasanaethau mewn perthynas â chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Bydd angen i bob trefniant gweithredol fapio derbynyddion yn ofalus a nodi a yw derbynnydd yn gweithredu fel rheolydd, prosesydd neu mewn swyddogaeth arall. Bydd hyn yn arbennig o bwysig i ddarparwyr gwasanaeth dan gontract.

24. Cyn dechrau rhannu gweithredol, bydd gan ACC a phob awdurdod lleol sy'n cymryd rhan y trefniadau llywodraethu rhannu data priodol ar waith. Dylai hyn gynnwys cytundebau rhannu gwybodaeth, memoranda cyd-ddealltwriaeth, llwybrau y cytunir arnynt ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth yn ddiogel, rheolaethau mynediad, trefniadau cadw, trefniadau i roi gwybod am dor diogelwch a dulliau archwilio (dylid datblygu dogfennaeth yn unol â Chod Ymarfer Rhannu Data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth). Ar ben hynny, dylid datblygu hysbysiadau preifatrwydd priodol o dan Erthygl 14 o GDPR y DU. Bydd hyn yn amlinellu sut mae gwybodaeth ACC yn cael ei defnyddio, er enghraifft i gynhyrchu ystadegau anadnabyddadwy a gyda phwy y gellir rhannu'r data.

Cam 2: Cynigion polisi

Cynnig 1: Rhannu gwybodaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru at ddibenion trethiant lleol

25. Mae ACC yn dal gwybodaeth a allai helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i weinyddu trethi lleol yn fwy effeithiol a helpu i gasglu'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn gywir. Yn ymarferol, gall hyn helpu cynghorau i gynnal sylfeini trethu cywir, nodi ail gartrefi, cymhwyso premiymau'r dreth gyngor yn gywir, penderfynu a ddylid trin eiddo fel eiddo domestig neu annomestig, a chefnogi gweithgarwch cydymffurfio lle gallai rhyddhadau neu esemptiadau fod wedi'u hawlio'n anghywir.

26. Byddai'r ddarpariaeth yn y Bil yn creu datgeliad a ganiateir newydd yn adran 18(1)(l) o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi. Mae hyn yn darparu y gellir datgelu gwybodaeth warchodedig i berson cymhwysol mewn cysylltiad â swyddogaeth awdurdod lleol sy'n ymwneud â chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Mae drafftio o'r fath yn ehangach na datgelu i swyddogion a enwyd mewn tîm cyngor yn unig, oherwydd gall person cymhwysol gynnwys y cyngor ei hun, personau awdurdodedig a darparwyr gwasanaethau.

27. Ar hyn o bryd, gall ACC rannu gwybodaeth â CThEF a Revenue Scotland at rai dibenion gweinyddu trethi, ac mae rhannu gwybodaeth eisoes yn cefnogi cydymffurfedd trawslywodraethol â threthi ar lefel genedlaethol. Byddai'r porth arfaethedig yn estyn yr un rhesymeg polisi cyffredinol i awdurdodau lleol, ond dim ond ar gyfer eu swyddogaethau ym maes y dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

28. Byddai'r porth arfaethedig yn ganiataol yn hytrach nag yn orfodol. Ni fyddai'n ofynnol i ACC rannu gwybodaeth dim ond am fod cyngor yn gofyn amdani. Byddai ACC yn cadw rheolaeth dros benderfynu a yw datgeliad yn gyfreithlon, yn angenrheidiol ac yn gymesur o dan yr amgylchiadau.

Cyd-destun polisi ehangach a rhagdybiaethau deddfwriaethol

29. Fel y'i nodwyd ym mharagraffau 10 i 11 a 17, nid yw'r cynnig heb gynsail. Mae swyddogion wedi nodi llwybrau rhannu gwybodaeth presennol neu sy'n datblygu mewn meysydd cysylltiedig, gan gynnwys darpariaethau Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a ddiwygiwyd gan Ddeddf Menter 2016, Deddf Ardrethu Annomestig 2023, Deddf yr Economi Ddigidol 2017 a Deddf Data (Defnydd a Mynediad) 2025. Mae'r enghreifftiau hyn yn dangos bod rhannu gwybodaeth at ddibenion pennu ardrethi, dilysu, dyled a thwyll wedi'i gydnabod fel rhan o weinyddu refeniw cyhoeddus ehangach a bod troseddau hefyd yn gymwys pan ddatgelir gwybodaeth heb gydsyniad yr adran wreiddiol.

Achosion o ddefnydd ymarferol a nodwyd gan awdurdodau lleol yng Nghymru

30. Drwy ymgysylltu â swyddogion refeniw a budd-daliadau awdurdodau lleol, yn ogystal â Rhwydwaith Swyddogion Diogelu Data awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru, nodwyd sawl enghraifft ymarferol lle y gallai gwybodaeth ACC wneud y gwaith o weinyddu trethi lleol yn fwy cywir ac yn llai dwys o ran adnoddau. Mae'r enghreifftiau hyn yn berthnasol i anghenraid a chymesuredd y porth arfaethedig:

  • Premiymau'r dreth gyngor: Gall cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir a gwybodaeth am ail gartrefi helpu cynghorau i gadarnhau a yw premiwm y dreth gyngor yn cael ei godi'n gywir.
  • Gwiriadau perchnogaeth: Gall gwybodaeth am y Dreth Trafodiadau Tir fod o gymorth os na all cyngor gadarnhau perchnogaeth eiddo neu pan fo partïon atebol yn osgoi rhestru eu hunain fel perchnogion drwy ddata'r Gofrestrfa Tir a ddefnyddir gan gynghorau.
  • Ad-daliadau a newidiadau mewn perchnogaeth: gall gwybodaeth am ad-daliadau cyfradd uwch fod o gymorth pan fo ail gartref wedi'i werthu a bod angen i gynghorau reoli ad-daliadau o bremiwm y dreth gyngor.
  • Dosbarthiad eiddo: Gall gwybodaeth am osod yng nghyd-destun yr ardoll ymwelwyr, gan gynnwys nifer y dyddiau y mae eiddo wedi'i osod, helpu i benderfynu a ddylai eiddo fod yn destun y dreth gyngor neu ardrethi annomestig.
  • Rhyddhad eiddo gwag: gall gweithgarwch mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr ddangos defnydd busnes o eiddo ar adeg pan fo rhyddhad eiddo gwag yn cael ei hawlio.
  • Rhyddhad ardrethi busnesau bach: gall data mwy amserol ar lesddaliadau neu drafodiadau helpu cynghorau i nodi achosion pan fo tenantiaid lluosog mewn un safle yn hawlio rhyddhad o dan amgylchiadau nad ydynt wedi'u cofnodi yng ngwybodaeth bresenol Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Pam mae'r porth wedi'i gyfyngu i'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig

31. Mae cymal y Bil yn cyfyngu'r porth trethiant lleol newydd i swyddogaethau awdurdod lleol sy'n ymwneud â chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Mae'r dull culach hwn yn cefnogi egwyddorion lleihau data. Os caiff trethi lleol eu creu yn y dyfodol a bod angen polisi i rannu gwybodaeth ACC ar gyfer y trethi newydd hynny, gellid diwygio'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi ar yr adeg honno. Mae hyn yn osgoi creu porth ehangach nawr ar gyfer trethi neu swyddogaethau nad ydynt wedi'u nodi eto.

Pam mae'r porth yn gulach na phorth y Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru)

32. Mae'r porth trethiant lleol arfaethedig yn fwriadol gulach na phorth adran 18(k) o'r Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru). Mae adran 18(k) yn caniatáu datgelu gwybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o'r Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) i awdurdod lleol mewn cysylltiad â swyddogaeth y cyngor hwnnw, neu i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â swyddogaethau twristiaeth.

33. Y rheswm polisi dros borth culach yma yw nad yw gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr, y Dreth Trafodiadau Tir na'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn wybodaeth gyhoeddus. Mewn gwrthgyferbyniad, efallai fod rhywfaint o wybodaeth sy'n gysylltiedig â chofrestru llety ymwelwyr eisoes ar gael yn gyhoeddus am fod darparwyr yn hysbysebu llety i ymwelwyr. Mae cyfyngu'r porth newydd i swyddogaethau'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn lleihau'r risg o ehangu swyddogaethau'n llechwraidd ac yn cefnogi cymesuredd.

Cynnig 2: Rhannu gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr ar gyfer swyddogaethau ACC

34. Gwnaeth y Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ddiwygio'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi i greu llwybrau rhannu gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ACC. Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae'r newidiadau yn rhyngweithio â swyddogaethau ACC mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr yn gadael bwlch ymarferol. Efallai y gall ACC ddatgelu gwybodaeth i awdurdod lleol yn ystod ymholiad am y Dreth Trafodiadau Tir os oes angen hynny ar gyfer swyddogaethau ACC mewn perthynas â'r dreth honno, ond efallai na all gofyn yr un math o gwestiwn i gefnogi ymholiad ynghylch yr ardoll ymwelwyr.

35.Mae'r rhesymeg dros y newid yn ymarferol ac yn gyfreithiol. Mae cyfyngiad posibl yn y fframwaith rhannu gwybodaeth presennol a allai gyfyngu ar gyfnewid yr wybodaeth sydd ei hangen i helpu i weinyddu'r ardoll ymwelwyr a chydymffurfio â hi o dan rai amgylchiadau. Gall hyn ei gwneud yn fwy anodd datrys achosion sy'n ymwneud â'r ardoll ymwelwyr mewn ffordd amserol ac effeithlon.

36.Mae'r Bil yn mynd i'r afael â hyn drwy ychwanegu is-adran (1A) newydd at adran 18 i ddarparu, er gwaethaf y cyfyngiadau yn adran 18(1)(za), y caniateir datgelu gwybodaeth warchodedig os gwneir hynny i brif gyngor at ddibenion swyddogaethau ACC sy'n ymwneud ag asesu a chasglu'r ardoll ymwelwyr. Bwriad y polisi yw rhoi trethdalwyr yr ardoll ymwelwyr ar yr un sail â threthdalwyr datganoledig a chaniatáu i ACC weinyddu'r ardoll ymwelwyr yn briodol. Ni fwriedir i hyn greu swmp-rannu fel mater o drefn ar gyfer ymholiadau am yr ardoll ymwelwyr; disgwylir i'r defnydd fod yn anfynych ac yn benodol i achos.

Cam 3: Casglu a rhannu data personol

A yw'r cynnig yn cynnwys casglu data personol newydd?

37. Nid yw'r cynnig yn creu llwybr newydd ar gyfer casglu data personol. Mae'n ymwneud â datgelu a defnyddio o hynny ymlaen wybodaeth y mae ACC eisoes wedi'i chael wrth arfer ei swyddogaethau.

Categorïau o ddata personol sy'n debygol o gael eu rhannu

Gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr
  • Nifer yr ymwelwyr a arhosodd dros nos mewn eiddo
  • Swm yr ardoll a gasglwyd
  • Lleoliad yr eiddo
  • Gwybodaeth neu sylwadau a gyflwynwyd i ACC gan neu ar ran person atebol mewn cysylltiad ag adolygiad neu apêl
  • Gwybodaeth arall am yr ardoll ymwelwyr y mae ACC yn ei hystyried yn angenrheidiol i ganiatáu i'r derbynnydd gyflawni ei swyddogaethau.
Gwybodaeth am y Dreth Gwarediadau Tirlenwi
  • Cofrestriadau newydd Safleoedd tirlenwi
  • Data ar drafodiadau risg uwch a allai effeithio ar ardrethi annomestig.
Gwybodaeth am y Dreth Trafodiadau Tir
  • Ffigurau trafodiadau cyfraddau uwch
  • Data ar drafodiadau dibreswyl
  • Manylion trafodiadau risg uwch
  • Gwybodaeth sy'n berthnasol i berchnogaeth eiddo neu newidiadau mewn perchnogaeth
  • Gwybodaeth a allai helpu cynghorau i benderfynu a yw premiymau'r dreth gyngor neu driniaeth ardrethu annomestig yn gywir.
Data celloedd bach a data cyfun

Dylid trin gwybodaeth gyfun celloedd bach neu ar lefel eiddo yn ofalus. Hyd yn oed pan gyflwynir gwybodaeth ar ffurf gyfun, gall fod yn wybodaeth warchodedig o hyd os yw'n ymwneud â nifer mor fach o bobl, trafodiadau neu eiddo fel y gellir casglu pwy yw person. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i ddata eiddo a threthiant lleol, pan fo nifer bach o drafodiadau mewn ardal leol yn gallu gwneud pobl neu fusnesau yn adnabyddadwy, ac felly gall y data hyn fod yn wybodaeth warchodedig o hyd.

At ddibenion datgelu, mae ACC yn mabwysiadu dull gofalus o ymdrin â data cyfun celloedd bach a lefel eiddo. Gellir trin gwybodaeth fel gwybodaeth warchodedig pan fo risg y gellid casglu pwy yw unigolyn, gan gynnwys drwy gyfuno â gwybodaeth arall sydd ar gael i'r derbynnydd.

Derbynyddion gwybodaeth

38. Byddai'r Bil yn caniatáu i ACC, fel y rheolydd data, ddatgelu Gwybodaeth Warchodedig i berson cymhwysol. Mae hyn yn golygu na ddylai'r Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data dybio mai cyflogeion cyngor yw'r unig dderbynyddion. Gall derbynyddion posibl gynnwys:

  • yr awdurdod lleol ei hun
  • swyddogion unigol neu bersonau eraill sydd wedi'u hawdurdodi i arfer swyddogaethau perthnasol o ran y dreth gyngor neu ardrethi annomestig
  • personau sy'n darparu gwasanaethau i awdurdod lleol sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig.

39. Rhagwelir y bydd darparwyr gwasanaethau yn parhau i fod o fewn cwmpas y Bil; os felly, bydd angen i'r trefniadau gweithredol ymdrin â rheolaethau cytundebol, datgelu o hynny ymlaen, mynediad staff, is-gontractio, archwilio, dileu a hysbysiadau tor diogelwch. Bydd y drosedd datgelu Gwybodaeth Warchodedig o hynny ymlaen yn anghywir yn gymwys i'r trefniadau hyn hefyd. Bydd ACC ac yna awdurdodau lleol pan fo Gwybodaeth Warchodedig yn cael ei rhannu wedi hynny yn unol â darpariaethau'r Bil hefyd yn gyfrifol am gydymffurfio â chyfraith diogelu data fel rheolyddion data.

Data categori arbennig a data ar droseddau

40. Ni fwriedir i'r cynigion gynnwys rhannu data categori arbennig fel y'i disgrifiwyd yn Erthygl 9 o GDPR y DU na data ar euogfarnau troseddol a throseddau fel y'u disgrifiwyd yn Erthygl 10. Dylai'r wybodaeth sydd i'w rhannu fod wedi'i chyfyngu i'r hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer gweinyddu trethi lleol a swyddogaethau ACC mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr.

Pynciau data yr effeithir arnynt

41. Mae'r Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data yn nodi'r grwpiau canlynol o bobl yr effeithir arnynt gan ddarpariaethau'r Bil:

  • unigolion sy'n agored i dalu'r Dreth Trafodiadau Tir, y Dreth Gwarediadau Tirlenwi neu'r ardoll ymwelwyr
  • darparwyr llety ymwelwyr, gan gynnwys unig fasnachwyr ac unigolion sy'n gweithredu busnesau llety
  • perchnogion a deiliaid eiddo y mae eu gwybodaeth yn berthnasol i'r dreth gyngor neu ardrethi annomestig
  • unigolion y gellir eu hadnabod o wybodaeth ar lefel eiddo neu setiau data bach.

42. Nid yw'r cynnig wedi'i anelu at unrhyw grŵp penodol fel plant, pobl hŷn na phobl agored i niwed. Byddai unrhyw effaith ar grwpiau o'r fath yn ddamweiniol, er enghraifft am fod person yn drethdalwr, yn berchennog eiddo, yn berson atebol neu'n ddarparwr llety.

Amlder rhannu

43. At ddibenion trethiant lleol, gellir gwneud ceisiadau mewn perthynas ag unigolion neu eiddo penodol, neu gellir rhannu data o bryd i’w gilydd, er enghraifft bob chwarter neu bob blwyddyn, pan fo hynny wedi'i gyfiawnhau ac wedi'u gwmpasu gan drefniant rhannu data y cytunwyd arno. Bydd trefniadau yn cael eu hategu gan waith llywodraethu atodol mewn perthynas â rhannu gwybodaeth a fydd yn cael ei wneud ar y cyd ag awdurdodau lleol.

44.Ar gyfer datgeliadau'r ardoll ymwelwyr a wneir ar gyfer swyddogaethau ACC ei hun, mae'r disgwyliad yn wahanol. Disgwylir i'r datgeliadau hynny fod yn anfynych ac yn benodol i achos, yn hytrach na swmp-rannu fel mater o drefn.

Cam 4: Ymgynghori

Ymgynghoriad cyhoeddus

45. Mae'r cynigion yn rhan o ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol sy'n ymwneud â Deddfau Trethi Cymru Llywodraeth Cymru ac ACC. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 3 Tachwedd 2025 a 26 Ionawr 2026 ac roedd yn ymdrin â diwygiadau arfaethedig i'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, y Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a'r Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi. Y diben datganedig oedd egluro a gwella Deddfau Trethi Cymru a sicrhau eu bod yn addas at y dyfodol fel y gall ACC barhau i reoli trethi Cymru yn effeithiol.

46. Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn y cyhoedd, cyfreithwyr, cynghorwyr treth a chyrff cynrychioliadol. Roedd yn cwmpasu newidiadau technegol, arwahanol yn bennaf, a nodwyd drwy brofiad gweithredol ACC, adborth gan drethdalwyr a chynghorwyr, ymgysylltu â phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus Cymru a datblygiadau yn neddfwriaeth berthnasol y DU.

Crynodeb o'r ymatebion

47. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Rhagfyr 2026. Roedd y mwyafrif o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn cefnogi'r cynigion ar y cyfan, a chadarnhaodd yr ymgynghoriad farn Llywodraeth Cymru y byddai'r newidiadau yn helpu ACC i barhau i reoli trethi Cymru yn effeithiol.

Ymgysylltu ag awdurdodau lleol

48. Bu swyddogion hefyd yn ymgysylltu â Swyddogion Refeniw a Budd-daliadau awdurdodau lleol a Rhwydwaith y Swyddogion Diogelu Data ar ddefnyddiau posibl o ddata ACC. Mae swyddogion awdurdodau lleol wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynnig, gan nodi bod cynlluniau peilot tebyg ar rannu gwybodaeth yn mynd rhagddynt gyda CThEF.[2]. Roedd yr achosion defnydd a drafodwyd yn cynnwys cadarnhau sylfaen y dreth gyngor, nodi ail gartrefi, helpu i gymhwyso premiymau'r dreth gyngor yn gywir, ystyried a ddylid rhestru eiddo ar gyfer y dreth gyngor neu ardrethi annomestig, a chefnogi gweithgarwch cydymffurfio.

49. Ymgysylltwyd â swyddogion awdurdodau lleol mewn perthynas â chyfyngiadau ar ddatgelu o hynny ymlaen hefyd. Roeddent yn deall y rhesymeg dros gyfyngu ar ledaenu gwybodaeth ACC a thros estyn trosedd datgelu anghywir i bersonau sy’n cael gwybodaeth warchodedig o dan y porth newydd.

50. Wrth ymgysylltu, rhoddodd un awdurdod enghreifftiau o reolaethau mewnol presennol, gan nodi bod mynediad at ddata cwsmeriaid y dreth gyngor ac ardrethi annomestig wedi'i gyfyngu i staff refeniw gweithredol, bod systemau wedi'u neilltuo at ddibenion GDPR y DU, ac na chaiff gwybodaeth ei rhyddhau i gynghorwyr oni bai bod y trethdalwr wedi rhoi caniatâd. Mae hyn yn awgrymu y gellir ymgorffori rheolaethau tebyg yn y model o rannu gwybodaeth rhwng ACC ac awdurdodau lleol a gynigir, gan gydnabod y bydd angen dilysu rheolaethau ar gyfer pob cyngor sy'n cymryd rhan.

Ymgynghori â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

51. Mae ffurflen ymholiad Erthygl 36(4) wedi'i pharatoi ar gyfer ymgynghori â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r ffurflen yn nodi bod y cynigion yn ymwneud â data personol ac yn cynnwys pwerau rhannu gwybodaeth newydd. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi rhoi ei sylwadau ar y ddogfen ac wedi cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd wedi mynd i'r afael yn ddigonol â'r materion a godwyd drwy'r broses ymgynghori ac felly wedi cau'r ymgynghoriad.

Cam 5: Anghenraid a chymesuredd

Sail gyfreithlon

52. Byddai'r datgeliadau arfaethedig yn cael eu gwneud o dan byrth statudol yn y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi, fel y'u diwygiwyd gan y Bil. At ddibenion GDPR y DU, y sail gyfreithlon i ACC ac awdurdodau lleol yw bod prosesu yn angenrheidiol er mwyn cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol, yn unol ag Erthygl 6(1)(e) o GDPR y DU. Bydd angen i bob rheolydd fodloni ei hun o hyd bod y prosesu yn cydymffurfio â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Anghenraid

53. Mae angen y porth trethiant lleol am fod ACC yn dal gwybodaeth a allai helpu awdurdodau lleol i weinyddu'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig mewn ffordd berthnasol, ond nid yw fframwaith datgelu deddfwriaethol presennol y Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi yn cynnig llwybr addas ar gyfer pob datgeliad perthnasol.

54. Mae angen y cynnig ynglŷn â'r ardoll ymwelwyr am na fyddai ACC o bosibl yn gallu gwneud ymholiadau ymarferol i awdurdodau lleol i'w helpu i weinyddu'r ardoll ymwelwyr fel arall. Heb y newid, byddai trethdalwyr yr ardoll ymwelwyr yn cael eu trin yn wahanol i drethdalwyr datganoledig mewn sefyllfaoedd tebyg.

Cymesuredd

55. Mae'r cynigion yn gymesur oherwydd bwriedir i'r pyrth fod wedi'u targedu, yn ganiataol ac yn destun mesurau diogelu. ACC fyddai'n penderfynu a yw datgeliad yn briodol. Dim ond mewn cysylltiad â swyddogaethau casglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig y byddai awdurdodau lleol a phersonau cymhwysol yn cael gwybodaeth, nid ar gyfer busnes cyffredinol y cyngor. Disgwylir i ddatgeliadau mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr ar gyfer swyddogaethau ACC ei hun fod yn benodol i achos ac yn anfynych.

56. Mae'r Bil yn defnyddio'r geiriau “mewn cysylltiad â” chasglu a rheoli'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Mae hwnnw'n brawf statudol eang. Er mwyn cynnal cymesuredd yn ymarferol, dylai'r cynllun gweithredol gymhwyso hidlydd ymarferol culach, er enghraifft ei gwneud yn ofynnol cael cysylltiad clir â chasglu, rheoli, cydymffurfio neu orfodi, a'i gwneud yn ofynnol i ACC ystyried yr anghenraid a lleihau data cyn datgelu.

Datgelu o hynny ymlaen a mesurau diogelu cyfreithiol

57. Mae'r Bil yn cynnwys cyfyngiad arfaethedig ar ddatgelu o hynny ymlaen. Oni bai bod eithriad yn gymwys, ni ellid datgelu Gwybodaeth Warchodedig a ddatgelir o dan y porth trethiant lleol newydd ymhellach heb gydsyniad, a all fod yn gyffredinol neu'n benodol. Byddai torri'r cyfyngiad hwnnw yn drosedd. Mae hwn yn fesur diogelu pwysig, yn enwedig oherwydd gallai'r dosbarth arfaethedig o bersonau cymhwysol gynnwys darparwyr gwasanaethau yn ogystal ag awdurdodau lleol a swyddogion awdurdodedig.

58. Mae'r drosedd arfaethedig yn wahanol i'r drosedd bresennol o dan adran 20 o'r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi oherwydd byddai model yr adran 20A newydd yn caniatáu datgeliad pellach gyda chydsyniad ACC. Mae'r drosedd yn gymwys i "berson", sy'n cynnwys unigolion, cyrff corfforaethol a chyrff anghorfforedig. Mae hyn yn ehangach na throsedd sydd wedi'i chyfyngu i swyddogion cyngor unigol ac mae'n berthnasol pan fo darparwyr gwasanaethau neu gyrff eraill yn cael gwybodaeth o bosibl.

Llywodraethu gweithredol

59. Fel y'i hamlinellwyd ym mharagraff 24, ni fydd rhannu gweithredol yn dechrau nes bod model llywodraethu ymarferol ar waith. Fel gofyniad sylfaenol, dylai hyn gwmpasu pwy all ofyn am wybodaeth, pwy all awdurdodi datgeliad yn ACC, y llwybr ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth, derbynyddion a ganiateir, rheolaethau darparwyr gwasanaethau, cyfyngiadau ar ddatgelu o hynny ymlaen, cadw data, gwiriadau cywirdeb, rhoi gwybod am dor cyfraith a threfniadau adolygu.

Hawliau dynol a chymhwysedd deddfwriaethol

60. Mae'n bosibl y bydd Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn berthnasol i'r cynigion. Y cyfiawnhad polisi yw bod gweinyddu'r dreth gyngor, ardrethi annomestig a'r ardoll ymwelwyr yn gywir yn cefnogi uniondeb y system dreth a llesiant economaidd awdurdodau lleol a Chymru yn fwy cyffredinol. Felly, bwriedir i'r ymyrraeth fod yn unol â'r gyfraith, at nod dilys, a dim mwy nag sy'n angenrheidiol.

61. Mae'n bosibl y bydd Erthygl 6 ac Erthygl 7 o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol hefyd yn berthnasol i'r drosedd newydd arfaethedig, datgelu o hynny ymlaen. Mae'r cynnig yn creu model cyfyngu a throsedd sy'n debyg i'r mesurau diogelu a ddefnyddir mewn deddfwriaeth arall sy'n ymwneud â rhannu gwybodaeth.

62. Mae darpariaethau'r Bil yn ymwneud â Chymru ac â threthi datganoledig a threthi lleol. Er bod diogelu data personol yn fater a gedwir yn ôl, nid diben y darpariaethau yw rheoleiddio cyfraith diogelu data. Y diben yw galluogi awdurdodau lleol i wella'r ffordd y rheolir trethiant lleol a helpu ACC i gyflawni swyddogaethau casglu a rheoli trethi.

Camau 6 a 7: Nodi a rheoli risgiau

Risgiau, tebygolrwydd, effaith a lliniaru

Mae ACC yn rhannu mwy o wybodaeth nag sy'n angenrheidiol at y diben perthnasol

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Cyfyngu ar y porth statudol yn ôl diben; mae angen cymeradwyaeth ACC; defnyddio ffurflenni cais templed; cymhwyso amod mewn cytundebau rhannu gwybodaeth i sicrhau bod cyn lleied o ddata â phosibl yn cael eu rhannu.

Mae datgelu i ddarparwyr gwasanaethau yn ehangu'r gronfa o dderbynyddion y tu hwnt i staff y cyngor, ac felly'r risg o ddatgelu o hynny ymlaen heb awdurdod heb reolaethau priodol.

  • Tebygolrwydd: Canolig
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau ymgymryd â diwydrwydd dyladwy, telerau cyfrinachedd cytundebol, mynediad yn seiliedig ar rôl, hawliau archwilio, rheolaethau is-gontractio a dyletswyddau i roi gwybod am dor cyfraith. Sicrhau bod y drosedd datgelu o hynny ymlaen yn anghywir hefyd yn gymwys yn yr achosion hyn.

Defnyddir gwybodaeth gan awdurdod lleol neu berson cymhwysol at ddibenion ehangach y tu hwnt i'r dreth gyngor neu ardrethi annomestig

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Cyfyngu ar y defnydd drwy’r porth statudol a dogfennau gweithredol; gwahardd defnydd eilaidd oni bai ei fod wedi'i awdurdodi o dan y gyfraith a bod ACC wedi cytuno arno; defnydd archwilio. Sicrhau bod y drosedd datgelu o hynny ymlaen yn anghywir hefyd yn gymwys yn yr achosion hyn.

Datgelu o hynny ymlaen heb gydsyniad

  • Tebygolrwydd: Canolig
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Dibynnu ar drosedd adran 20A newydd; pennu’r llwybr cydsynio a’r meini prawf; cyfyngu mynediad i rolau a enwyd; ei gwneud yn ofynnol rhoi hyfforddiant a chadw cofnodion.

Nid yw cydsyniad i ddatgelu o hynny ymlaen yn cael ei reoli'n glir

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Penderfynu a roddir cydsyniad gan ACC, swyddog perthnasol, neu'r swyddog datgelu gwreiddiol.

Mae paru anghywir neu ddata anghywir yn arwain at benderfyniadau trethiant lleol anghywir

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Gwneud proses ddilysu yn ofynnol cyn cymryd camau gorfodi; cofnodi tarddiad data; creu llwybrau cywiro a herio; adolygu ansawdd data yn rheolaidd.

Tryloywder annigonol i drethdalwyr a darparwyr llety

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Canolig
  • Lliniaru: Diweddaru hysbysiadau preifatrwydd; cyhoeddi gwybodaeth glir am y porth, y dibenion a’r mesurau diogelu; esbonio hawliau ac esemptiadau perthnasol.

Tor diogelwch data wrth drosglwyddo neu storio

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Uchel
  • Lliniaru: Defnyddio llwybrau trosglwyddo diogel, amgryptio, cofnodi mynediad, terfynau cadw, rhoi gwybod am achosion o dor cyfraith a gwiriadau sicrwydd rheolaidd.

Nid yw sefydliadau sy'n derbyn yn deall y drosedd datgelu caeth o hynny ymlaen

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Canolig/Uchel
  • Lliniaru: Hyfforddiant gorfodol, cyfarwyddiadau clir ynglŷn ag ymdrin â data, cymeradwyaeth gan dimau sy'n derbyn a deunydd gloywi blynyddol cyn caniatáu mynediad at wybodaeth.

Gweithredu anghyson rhwng awdurdodau lleol

  • Tebygolrwydd: Isel
  • Effaith: Canolig
  • Lliniaru: Defnyddiwch dempledi safonol Cytundebau Rhannu Gwybodaeth a Memoranda Cyd-ddealltwriaeth; rhoi canllawiau gweithredu; gwneud hyfforddiant ac adolygu o bryd i'w gilydd yn ofynnol. Defnyddio Rhwydwaith y Swyddogion Diogelu Data ar y cyd ag awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb yn y dull o rannu data ACC.

Mesurau i leihau risgiau

63. Asesir bod y risg weddilliol yn isel. Gallai effaith camddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth dreth heb awdurdod fod yn uchel, ond dylai fod yn llai tebygol os bydd y pyrth wedi'u drafftio'n dynn ac wedi'u hategu gan fesurau diogelu gweithredol cyn bod unrhyw rannu yn dechrau. At hynny, mae'r drosedd sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth warchodedig o hynny ymlaen yn anghywir yn rhoi cyfrifoldeb uniongyrchol ar dderbynyddion er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei diogelu'n briodol.

Cam 8: Crynodeb o'r prif egwyddorion diogelu data

Cyfreithlondeb, tegwch a thryloywder

64. Rhaid i brosesu fod wedi'i seilio ar y pyrth statudol a'i esbonio drwy wybodaeth glir am breifatrwydd. Dylai fod modd i drethdalwyr a darparwyr llety ddeall pam y gellir rhannu eu gwybodaeth, gyda phwy, ac at ba ddibenion.

Cyfyngu ar ddiben

65. Dim ond mewn cysylltiad â swyddogaethau'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig y dylid defnyddio gwybodaeth a rennir o dan y porth trethiant lleol. Dylai gwybodaeth am yr ardoll ymwelwyr a rennir â chynghorau ar gyfer swyddogaethau ACC fod yn gyfyngedig i'r hyn sydd ei angen ar ACC i weinyddu'r ardoll ymwelwyr.

Lleihau data a ryddheir i'r eithaf

66. Dim ond yr wybodaeth sy'n angenrheidiol at ddibenion penodol y dylid ei rhannu. Dylai ACC ystyried pob datgeliad ac osgoi rhannu rheolaidd neu swmp-rannu oni bai ei fod wedi’i gyfiawnhau ac wedi'i gwmpasu gan drefniant y cytunwyd arno.

Cywirdeb

67. Dylai ACC ac awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth yn gywir ac yn gyfredol. Dylai cynghorau gadarnhau gwybodaeth cyn cymryd camau gorfodi lle y bo'n briodol.

Cyfyngu ar storio

68. Dylid cytuno ar gyfnodau cadw mewn cytundebau rhannu gwybodaeth. Ni ddylid cadw data am gyfnod hwy nag sy'n angenrheidiol at ddibenion perthnasol y dreth gyngor, ardrethi annomestig neu'r ardoll ymwelwyr.

Uniondeb a chyfrinachedd

69. Dylid trosglwyddo a storio gwybodaeth yn ddiogel. Dylid cyfyngu mynediad i unigolion awdurdodedig. Dylid gwahardd datgelu o hynny ymlaen oni roddir cydsyniad yn unol â'r model statudol terfynol neu oni bai bod sail gyfreithiol arall yn gymwys.

Atebolrwydd

70. Dylai ACC, awdurdodau lleol ac unrhyw bersonau cymhwysol sy'n cael gwybodaeth ddogfennu penderfyniadau, cynnal trywyddau archwilio, monitro cydymffurfedd, cofnodi datgeliadau, adolygu effeithiolrwydd a diweddaru'r Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data wrth i'r polisi a'r model gweithredol ddatblygu.

Casgliad

71. Mae'r darpariaethau arfaethedig ynglŷn â rhannu gwybodaeth yn mynd i'r afael â bylchau a nodwyd ym mhwerau datgelu statudol ACC. Bwriedir iddynt helpu i weinyddu'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn gywir ac yn effeithiol a chaniatáu i ACC weinyddu'r ardoll ymwelwyr mewn ffordd ymarferol a chyson.

72.Mae'r cynigion yn cynnwys gwybodaeth warchodedig ac felly bydd angen mesurau diogelu cadarn yn eu cylch. Bwriedir i'r pyrth gael eu drafftio'n gul, dylai datgeliadau aros o dan reolaeth ACC, dylid cyfyngu ar ddatgelu o hynny ymlaen, ac ni ddylai rhannu gweithredol ddechrau nes bod cytundebau rhannu gwybodaeth, memoranda cyd-ddealltwriaeth, rheolaethau mynediad, rheolau cadw, prosesau tor diogelwch a threfniadau archwilio ar waith.

73.Dylid trin yr Asesiad hwn o'r Effaith ar Ddiogelu Data fel dogfen fyw. Dylid ei ailystyried wrth i'r Bil gael ei ddrafftio, ei gyflwyno, ei ddiwygio a'i gychwyn, ac unwaith eto pan gytunir ar drefniadau rhannu gweithredol penodol ag awdurdodau lleol ac unrhyw ddarparwyr gwasanaethau.