Y Bil Trethiant (Cymru): asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg ar Fil sy'n cynnwys mesurau sy'n ymwneud â llywodraethu, gweinyddu a gweithrediad technegol system dreth Cymru.
Ar y dudalen hon
A yw'r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg?
1. Mae'r cynigion yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau technegol i Ddeddfau Trethi Cymru gyda'r bwriad o wella gweithrediad trethi datganoledig a sicrhau y gall Awdurdod Cyllid Cymru barhau i weinyddu trethi Cymru yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae'r cynigion yn seiliedig ar brofiad gweithredol, adborth gan randdeiliaid a datblygiadau deddfwriaethol mewn rhannau eraill o'r DU.
2. Er nad yw'r cynigion yn ymwneud yn uniongyrchol â'r polisi iaith Gymraeg, addysg na gwaith chynllunio iaith gymunedol, maent yn cefnogi gweinyddiaeth gyhoeddus effeithiol yng Nghymru a byddant yn parhau i gael eu cyflawni drwy sefydliadau sy'n gweithredu yn unol â Safonau'r Gymraeg. Felly mae'r cynigion yn cyd-fynd ag ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i ymgorffori ystyriaeth o'r Gymraeg ym mhob maes polisi.
Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac esboniwch sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oedran (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)?
3. Ni nodwyd unrhyw effeithiau uniongyrchol, boed yn gadarnhaol neu'n andwyol, ar siaradwyr Cymraeg o unrhyw oedran. Mae'r cynigion yn ymwneud â gweinyddu trethi datganoledig, gweithrediad ACC a nifer o newidiadau technegol i ddeddfwriaeth dreth bresennol. Nid ydynt yn effeithio ar gyfleoedd i ddysgu Cymraeg, defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd, na chael mynediad at wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
4. Gofynnodd yr ymgynghoriad yn benodol am farn ynghylch a fyddai'r cynigion yn cael unrhyw effaith ar y Gymraeg. Ni nododd unrhyw ymatebwyr o sylwedd unrhyw effeithiau cadarnhaol na negyddol ar siaradwyr Cymraeg na'r iaith Gymraeg o ganlyniad i'r cynigion.
5. Bydd Llywodraeth Cymru ac ACC yn parhau i ddarparu gwasanaethau, canllawiau a deunydd cyfathrebu yn unol â Safonau’r Gymraeg, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn gallu parhau i gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau perthnasol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith?
6. Ni ddisgwylir i'r cynigion gael unrhyw effaith ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith. Nid ydynt yn effeithio ar bolisi tai, datblygu economaidd, seilwaith cymunedol, symudiadau'r boblogaeth na ffactorau eraill sy'n gysylltiedig yn gyffredin â bywiogrwydd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
7. Gan fod y cynigion yn ymwneud â gweinyddu a gweithredu trethi datganoledig yn unig, ni nodwyd unrhyw gysylltiad uniongyrchol rhwng y mesurau yn y Bil a chynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?
8. Ni nodwyd unrhyw effeithiau ar addysg cyfrwng Cymraeg, addysg ôl-orfodol na dysgu Cymraeg. Nid yw'r cynigion yn effeithio ar ysgolion, colegau, prifysgolion, darpariaeth dysgu oedolion na chyfleoedd i gaffael sgiliau Cymraeg.
9. Gan mai diwygiadau technegol i ddeddfwriaeth dreth yw'r mesurau, ni ddisgwylir iddynt ddylanwadu ar nifer y siaradwyr Cymraeg na mynediad at gyfleoedd i ddysgu'r iaith.
Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar wasanaethau9 sydd ar gael yn y Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)? (e.e. iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd, llywodraeth leol ac ati.)
10. Ni fydd y cynigion yn lleihau nac yn newid y gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg. Bydd Llywodraeth Cymru ac ACC yn parhau i weithredu yn unol â Safonau’r Gymraeg a'r trefniadau presennol i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
11. Os bydd y cynigion yn cael eu derbyn, bydd y Bil a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig yn cael eu cyhoeddi'n ddwyieithog drwy brosesau deddfwriaethol y Senedd. Bydd unrhyw ganllawiau, deunydd cyfathrebu neu ddeunyddiau ategol a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru neu ACC o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth hefyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Felly gall siaradwyr Cymraeg gael gafael o hyd ar wybodaeth a gwasanaethau perthnasol ar sail gyfartal â siaradwyr Saesneg.
Sut byddwch yn sicrhau bod pobl yn gwybod am wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn gallu cael gafael arnynt a'u defnyddio mor hawdd ag y gallant yn Saesneg?
12. Mae darparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol yn Gymraeg a Saesneg yn ganolog i waith ACC. O hydref 2026 ymlaen, bydd safonau’r Gymraeg a gadarnhawyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn gymwys yn ffurfiol i ACC, ac mae safonau’r Gymraeg ar wahân eisoes ar waith ar gyfer Llywodraeth Cymru.
13. Bydd Llywodraeth Cymru ac ACC yn parhau i gyfathrebu â threthdalwyr a rhanddeiliaid yn ddwyieithog, neu yn eu dewis iaith. Bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth ac unrhyw weithgarwch gweithredu dilynol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol drwy hyn. Bydd y trefniadau presennol ar gyfer gohebiaeth, cynnwys digidol a gwasanaethau cwsmeriaid yn Gymraeg yn parhau i fod yn gymwys.
14. Gan nad yw'r cynigion yn cyflwyno gwasanaethau newydd i drethdalwyr, ystyrir nad oes angen unrhyw fesurau ychwanegol y tu hwnt i'r trefniadau presennol ynglŷn â gwasanaethau Cymraeg. Gall siaradwyr Cymraeg gael gafael o hyd ar wybodaeth a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg mor hawdd ag y gallant yn Saesneg, yn eu dewis iaith.
Pa dystiolaeth / data a ddefnyddiwyd gennych i lywio eich asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau â diddordeb Cymraeg?
15. Mae'r asesiad hwn wedi'i lywio gan y ddogfen ymgynghori a'r Crynodeb o'r Ymatebion i'r Ymgynghoriad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru. Adolygwyd y ddwy ddogfen i nodi unrhyw effeithiau uniongyrchol neu anuniongyrchol ar siaradwyr Cymraeg a'r Gymraeg.
16. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cwestiwn penodol ar y Gymraeg. Mae'r crynodeb o'r ymatebion yn nodi nad oedd ymatebwyr o sylwedd wedi nodi unrhyw effeithiau ar y Gymraeg o ganlyniad i'r cynigion.
17. Mae'r asesiad hefyd wedi'i lywio gan Cymraeg 2050 a chyfrifoldebau statudol Llywodraeth Cymru o dan fframwaith Safonau'r Gymraeg.
Pa dystiolaeth arall fyddai'n eich helpu i gynnal gwell asesiad?
18. Ni nodwyd unrhyw fylchau sylweddol yn y dystiolaeth o ystyried natur dechnegol a gweinyddol y cynigion.
19. Os caiff deddfwriaeth ei datblygu ymhellach, bydd ymgysylltu parhaus â Thîm Safonau’r Gymraeg yn helpu i sicrhau na fydd unrhyw effeithiau annisgwyl yn codi ar gyfer darparu gwasanaethau Cymraeg.
Sut byddwch yn gwybod a yw eich polisi yn llwyddiant?
20. Bydd llwyddiant yn cael ei ddangos drwy'r canlynol:
- Deddfau Trethi Cymru mwy eglur ac effeithiol
- ACC yn gweinyddu trethi datganoledig yn effeithlon
- gwybodaeth a gwasanaethau i drethdalwyr yn dal i fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- parhau i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg
- dim tystiolaeth o effeithiau andwyol ar siaradwyr Cymraeg, cymunedau Cymraeg eu hiaith na gwasanaethau Cymraeg a ddarperir
21. Gan nad oes disgwyl i'r cynigion gael effaith uniongyrchol ar nifer y siaradwyr Cymraeg, y defnydd o'r Gymraeg, na chynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith, canlyniad llwyddiannus fydd cynnal safonau gwasanaethau Cymraeg presennol ochr yn ochr â gweithredu'r diwygiadau treth yn effeithiol.
