Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i garreg drws pobl sy’n mabwysiadu mesurau gwarchod llym i’w hamddiffyn eu hunain rhag coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan bawb yn y grŵp yma gyflwr iechyd presennol, tymor hir penodol sy’n cynyddu eu risg o gael coronafeirws.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Frank Atherton wedi ysgrifennu at bob un ohonynt yn gofyn iddynt fabwysiadu mesurau gwarchod – gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos – i amddiffyn eu hiechyd. 

Bydd pobl yn y grŵp hwn sy’n methu gofyn am help gan aelodau’r teulu, ffrindiau neu gymdogion tra maent yn gwarchod eu hunain yn derbyn cefnogaeth, gan gynnwys bocs bwyd wythnosol am ddim.

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James:

“Rydyn ni’n gofyn i lawer o bobl warchod eu hunain am hyd at 12 wythnos ac oherwydd hynny rhaid i ni sicrhau bod y rhai heb deulu a ffrindiau i’w cynorthwyo yn cael cefnogaeth, fel eu bod yn gallu aros gartref yn ddiogel.

“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i roi’r cynllun hwn ar waith mewn ychydig ddyddiau yn unig. Rydw i’n ddiolchgar iddyn nhw am y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn cydlynu’r drefn o ddosbarthu’r bocsys bwyd yma.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £15m ar gael ar gyfer y cynllun dosbarthu bwyd uniongyrchol.

Mae’r bocsys bwyd, y mae pobl yn gofyn amdanynt gan eu hawdurdod lleol, yn cynnwys bwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau a byddant yn darparu bwyd ar gyfer un person sy’n gwarchod ei hun am wythnos. Byddant yn cael eu dosbarthu’n wythnosol yn uniongyrchol i ddrysau pobl. Os oes dau berson cymwys yn gwarchod eu hunain yn y cartref, byddant yn cael dau focs.

Bydd bocs arferol yn cynnwys eitemau amrywiol, fel llaeth oes hir UHT, cynnyrch mewn tuniau, pasta, papur toiled, grawnfwyd i frecwast, rhai ffrwythau a llysiau a bara. Bydd yr holl gynnwys wedi’i labelu yn glir.

Dywedodd y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

“Rydyn ni’n deall bod hwn yn gyfnod pryderus i’n cymunedau ni i gyd ledled Cymru, yn enwedig y rhai yr ydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ymgymryd â mesurau gwarchod ac sy’n methu cael cymorth gan eraill i dderbyn bwyd.              

“Bydd ein bocsys bwyd wythnosol newydd yn darparu bwyd hanfodol i bobl sy’n gwarchod eu hunain ac angen cefnogaeth. Mae’n braf iawn gweld y bocsys yma’n cyrraedd carreg drws pobl.”

Dywedodd Andrew Selley a Hugo Mahoney, prif weithredwyr Bidfood a Brakes, sy’n dosbarthu’r bocsys:

"Rydyn ni’n falch iawn bod dau ddosbarthwr mwyaf y diwydiant gwasanaeth bwyd wedi dod at ei gilydd gyda Llywodraeth Cymru i greu pecynnau bwyd a chyflenwadau hanfodol ar gyfer pobl agored i niwed sy’n ynysu.                                           

“Rydyn ni’n bwriadu defnyddio ein rhwydweithiau dosbarthu i sicrhau ein bod yn cyrraedd pobl agored i niwed ym mhob cornel o Gymru. Mae ein gyrwyr a’n timau warws hynod broffesiynol yn eithriadol ymroddedig er mwyn helpu’r ymdrech genedlaethol hanfodol."