Cylch gorchwyl
Crynodeb o ddiben y bwrdd a sut y bydd yn gweithio.
Cynnwys
Diben a chylch gorchwyl
Pwrpas y Bwrdd Teithio Llesol yw cydlynu gweithgarwch i helpu i roi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar waith yn effeithiol.
Bydd hyn yn cynnwys y tasgau penodol canlynol:
- cyfrannu at adolygu prosiectau teithio llesol sy’n cael eu cynnal a chefnogi'r gwaith o gymryd unrhyw gamau sy’n cael eu hargymell ar ôl eu hystyried gan Weinidogion
- cynghori ar ddatblygu a gweithredu'r Cynllun Gweithredu Teithio Llesol, gan gynnwys sicrhau bod sefydliadau’n cyflawni o fewn eu maes cyfrifoldeb
- cynghori a chraffu ar dargedau
- cynghori ar weithgarwch ehangach i gefnogi'r gwaith o roi’r Ddeddf ar waith a'r nifer ar draws portfolios sy’n teithio’n llesol, yng nghyd-destun y saith nod llesiant a'r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae pedwar is-grŵp i gynorthwyo'r Bwrdd. Yr is-grwpiau yw:
- Grŵp Cynghori Cenedlaethol Teithio Llesol i Ysgolion
- Newid Ymddygiad a Chyfathrebu
- Hyfforddi a Meithrin Galluoedd
- Teithio Llesol Cynhwysol
Aelodaeth
Cadeirydd
Dr Dafydd Trystan Davies, Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd Teithio Llesol
Aelodau
Uwch swyddogion Llywodraeth Cymru, yn cynrychioli portffolios y Gweinidogion canlynol:
- Economi a Seilwaith
- Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus
- Addysg
- Yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Rhanddeiliaid allanol:
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Anabledd Cymru
- Living Streets
- Sustrans
- Beicio Cymru
- Ramblers Cymru
- Cycling UK
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Cycle to Work Alliance
- Arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus, Cyfathrebu a Thrafnidiaeth Annibynnol
- Grŵp traws-bleidiol y Senedd ar deithio llesol
Caiff cynrychiolwyr adrannau a sefydliadau eraill ac unigolion eu gwahodd i ddod i gyfarfodydd neu i roi cyflwyniadau yn ôl y gofyn.
Gweithrediad
Mae'r Bwrdd yn adrodd i'r Ysgrifennydd y Dirprwy Weinidog dros Newid yn yr Hinsawdd.
Bydd y Bwrdd llawn yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn fel arfer.
Bydd unrhyw gyfathrebu y mae ei angen rhwng cyfarfodydd yn digwydd dros e-bost.
Llywodraeth Cymru fydd yn darparu’r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y cyfarfodydd, gan ddosbarthu gwahoddiadau a llunio nodiadau, a bydd yn darparu mannau cyfarfod yn un o'i swyddfeydd.