Neidio i'r prif gynnwy

Mae Arweinydd y Tŷ sy'n gyfrifol am faterion digidol wedi cyhoeddi mesurau newydd a fydd yn estyn ymhellach fand eang cyflym a dibynadwy yng Nghymru ar ôl i brosiect Cyflymu Cymru ddod i ben.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers i'r prosiect ddechrau yn 2013, mae gwasanaethau band eang cyflym iawn ar gael bellach i ddwywaith yn fwy o leoedd na chynt.

Mae adroddiad diweddaraf Ofcom (Rhagfyr 2017) yn dangos bod modd i fwy o bobl yng Nghymru nag yn unrhyw un o'r gwledydd datganoledig eraill fanteisio ar fand eang cyflym iawn, dros 30Mbps, a hynny er gwaethaf yr heriau sydd ynghlwm wrth dopograffi'r wlad.

Mae proses drylwyr o brofi a dilysu yn mynd rhagddi ar hyn o bryd ynghylch y data diweddaraf sydd wedi'u cyflwyno gan Openreach. Y nod yw cyhoeddi ffigurau terfynol y prosiect erbyn y Gwanwyn.

Bydd £80 miliwn ar gael ar gyfer rhoi'r mesurau newydd ar waith a byddant yn cynnwys cynllun newydd ar gyfer darparu band eang cyflym iawn sy'n destun proses dendro ar hyn o bryd. Bydd y cynllun newydd yn annog cyflenwi mewn ardaloedd gwledig, yn rhoi blaenoriaeth i fusnesau a hefyd yn hwyluso gwasanaethau gwibgyswllt 100Mbps.  

Fel rhan o'r cynllun hwn bydd atebion yn ceisio cael eu creu ar gyfer ardaloedd sydd â'r cyflymder lawrlwytho gwaethaf a hefyd ardaloedd lle nad oes modd i lawer o bobl fanteisio ar ddata symudol 4G.  Bydd yn cynnwys camau a fydd yn helpu i sicrhau bod cymunedau'n cael eu hysbysu lle y bo'n ymarferol o safbwynt a fyddant yn rhan o'r cynllun.

Mae'r mesurau newydd hefyd yn cynnwys adolygu a chynnal y cynlluniau talebau presennol ar gyfer pobl nad oes modd iddynt fanteisio ar fand eang cyflym iawn a hefyd parhau â'r gwaith o ddatblygu cynllun tebyg sy'n canolbwyntio'n benodol ar gymunedau.    Bydd tîm allgymorth band eang yn cydweithio â chlystyrau o gartrefi neu fusnesau ar gyfer caffael ateb.

Yn olaf, bydd Openreach hefyd yn gweithio am ddeufis ychwanegol, a hynny'n ddi-dâl, o dan y cytundeb presennol er mwyn sicrhau bod modd i 2,500 eiddo arall fanteisio ar fand eang cyflym iawn. Mae Openreach hefyd wedi derbyn gwahoddiad i ddarparu manylion ynghylch strwythurau sydd wedi'u hadeiladu ond heb eu cwblhau a bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried sut y gall y rhain gael eu cwblhau o dan y cytundeb grant presennol.

Dywedodd Julie James:

"Mae Cyflymu Cymru wedi trawsnewid y sefyllfa o ran band eang yng Nghymru. Mae'r cynllun wedi galluogi i lawer o ardaloedd yng Nghymru nad oedd ganddynt gyswllt band eang ynghynt fanteisio ar fand eang cyflym iawn.

"Mae'n rhaid i ni gofio'r holl bethau sylweddol y mae'r prosiect peirianyddol mawr hwn wedi'u cyflawni. Mae cartrefi a busnesau ar draws Cymru bellach yn elwa ar holl fanteision gwasanaethau digidol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y buddsoddiad hwn.

"Er gwaethaf llwyddiant Cyflymu Cymru wrth drawsnewid cysylltedd band eang ar draws Cymru mae mwy o waith i'w wneud o hyd. Mae'r Llywodraeth hon wedi'i hymrwymo i gymryd camau pellach.

"Bydd y mesurau newydd ac amrywiol rwy'n eu cyhoeddi heddiw, gyda'i gilydd, yn ein helpu i gyflawni'r uchelgais a ddisgrifir yn Symud Cymru Ymlaen sef  dod â phobl ynghyd yn ddigidol drwy gynnig band eang cyflym a dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru.

“Bydd y cynllun newydd, y cynllun cymunedol a'n cynlluniau talebau yn creu pecyn cynhwysfawr o ymyriadau a fydd yn ein helpu i wynebu'r heriau sydd o'n blaenau."