Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru am gymryd y camau nesaf tuag at ddyfodol sydd â llai o gyfyngiadau COVID cyfreithiol, a heddiw mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi amlinellu cynllun tymor hirach ar gyfer yr haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un o 17 Gorffennaf. Gohiriwyd gwneud y newidiadau hyn bedair wythnos yn ôl oherwydd ymddangosiad a lledaeniad amrywiolyn Delta ar draws y DU, ac er mwyn gallu brechu mwy o bobl yng Nghymru.

A bydd yna newidiadau pellach i’r rheolau ar gyfer y tu allan wrth i Gymru gymryd y cam gofalus cyntaf tuag at lefel rhybudd sero newydd.

Mae manylion lefel rhybudd sero wedi’u hamlinellu yn y fersiwn ddiweddaraf o Gynllun Rheoli’r Coronafeirws, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw. Os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny, bydd Cymru yn symud i’r lefel hon ar 7 Awst.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Rydyn ni’n dechrau ar gyfnod newydd yn y pandemig. Mae niferoedd yr achosion o’r feirws wedi codi’n sydyn ers i amrywiolyn Delta ddod i’r amlwg chwe wythnos yn ôl, ond diolch i’n rhaglen frechu ragorol, dydyn ni ddim yn gweld niferoedd mawr o bobl yn mynd yn ddifrifol sâl nac yn gorfod mynd i’r ysbyty am driniaeth.

“Fe allwn ni fod yn rhesymol hyderus bod y rhaglen frechu wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng haint a salwch difrifol. Ond mae yna risg o hyd y gallai’r drydedd don hon o’r pandemig greu niwed gwirioneddol – naill ai yn uniongyrchol yn sgil y feirws neu’n anuniongyrchol, er enghraifft yn sgil gorfod ynysu.

“Fe allwn ni symud i lefel rhybudd un ar gyfer ardaloedd dan do o 17 Gorffennaf a mynd ymhellach o ran ardaloedd awyr agored gan ein bod ni’n gwybod bod y risg o drosglwyddo’r feirws y tu allan yn is.

“Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi cynlluniau ar gyfer lefel rhybudd sero newydd, a fydd yn golygu llai o gyfyngiadau cyfreithiol, ond lle bydd yn dal i fod angen i bob un ohonon ni gymryd camau i’n diogelu ein hunain.”

O 17 Gorffennaf, bydd Cymru yn symud yn llawn i lefel rhybudd un, sy’n golygu:

  • Gall hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.  
  • Gellir cynnal digwyddiadau sydd wedi’u trefnu dan do ar gyfer hyd at 1,000 yn eistedd a hyd at 200 yn sefyll. 
  • Gall canolfannau sglefrio iâ ailagor.

Bydd Cymru hefyd yn cymryd y cam cyntaf i lefel rhybudd sero wrth i’r cyfyngiadau ar faint o bobl all gyfarfod mewn mannau cyhoeddus neu mewn digwyddiadau ddod i ben. Bydd mwy o hyblygrwydd hefyd o ran pellter corfforol mewn digwyddiadau a safleoedd awyr agored.

Hefyd o 17 Gorffennaf:

  • Rheolau newydd ar gyfer canolfannau gweithgarwch preswyl i blant fel y gall grwpiau o hyd at 30 o blant ymweld.
  • Gofyniad penodol i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth gynhwysfawr ar y risgiau a’r camau lliniaru a nodwyd yn eu hasesiad risg COVID ar gyfer eu gweithwyr.

Os bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd sero ar 7 Awst, bydd pob safle yn cael agor, a’r rhan fwyaf – er nad pob un – o’r cyfyngiadau yn dod i ben, a bydd yn dal i fod yn ofynnol i bob sefydliad a busnes gynnal asesiadau risg COVID. Bydd y rhain yn penderfynu pa fesurau rhesymol y mae angen eu gweithredu er mwyn cadw’r gweithwyr, y cwsmeriaid a’r ymwelwyr yn ddiogel.

Ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol chwaith ar nifer y bobl all gyfarfod â’i gilydd dan do, gan gynnwys mewn cartrefi preifat.

Bydd yn dal i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o ardaloedd cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus ar lefel rhybudd sero o 7 Awst, ac eithrio lleoliadau lletygarwch.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Dydy’r pandemig ddim drosodd, ac mae’r feirws yn dal i ledaenu ar draws Cymru. Mae’n bwysig, felly, bod pawb yn derbyn y cynnig i gael eu brechu a’n bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i’n cadw ein hunain a’n hanwyliaid yn ddiogel.

“Er bod y brechlynnau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng y feirws a’r angen i fynd i’r ysbyty, rydyn ni’n gweld pobl ifanc, heini yn dioddef o COVID hir, sydd, yn achos rhai, yn cael effaith enfawr ar eu bywydau.

“Mae yna hyblygrwydd i barhau i wneud i ffwrdd yn raddol â’r cyfyngiadau, ond mae gan bob un ohonon ni ran bwysig iawn i’w chwarae er mwyn cadw Cymru yn ddiogel wrth inni ddechrau ar gyfnod yr haf.”

Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi cadarnhau na fydd angen i bobl sydd wedi cael eu brechu’n llawn yn y DU hunanynysu mwyach wrth ddychwelyd o wlad ar y rhestr oren, yn unol â’r drefn yn yr Alban a Lloegr.