Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, fod chwe Awdurdod Lleol wedi'u dewis i gydweithio â Llywodraeth Cymru i dreialu'r cynnig newydd ar gyfer gofal plant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd pum prosiect, yn cynnig 30 awr yr wythnos o addysg y blynyddoedd cynnar a gofal plant am ddim i blant 3 oed a 4 oed, yn cael eu treialu mewn lleoliadau penodol ardaloedd Ynys Môn, Gwynedd, Sir Fflint, Abertawe, Rhondda Cynon Taf a Blaenau Gwent o fis Medi 2017 ymlaen. Bydd Gwynedd ac Ynys Môn yn gweithio ar brosiect ar y cyd. Bydd ardaloedd eraill a fydd yn mabwysiadu'r cynnig yn cael eu hychwanegu wrth i'r gwaith i dreialu'r cynllun fynd rhagddo.  

Wrth siarad yn y Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Un o'r pryderon y mae rhieni sy'n gweithio wedi'i godi dro ar ôl tro yw cost gofal plant, a'r effaith y mae hynny'n ei gael arnyn nhw, ar eu harian, ac ar ansawdd eu bywyd. 

“Ers dechrau'r haf rydyn ni wedi bod yn siarad â rhieni. Rydyn ni wedi cael adborth gan fwy na 1,500 o rieni hyd yma, ac wedi cynnal grwpiau ffocws mewn gweithleoedd ac mewn cymunedau ledled Cymru. Er y bydd y gwaith hwnnw'n parhau hyd at y gwanwyn, mae'n amlwg hyd yma fod rhieni am i ofal plant fod yn llai o straen ar incwm y teulu, bod ar gael ar adegau ac mewn lleoliadau sy'n ei gwneud yn haws iddyn nhw allu gweithio; gan sicrhau ei bod yn haws fanteisio ar y gofal, a bod cymorth ar gyfer anghenion eu plant.

“Bydd ein cynnig newydd ar gyfer gofal plant yn cyfuno ein darpariaeth lwyddiannus ar gyfer y Cyfnod Sylfaen yn ystod cyfnodau'r tymor, a gofal plant ychwanegol. Yn ystod wythnosau'r flwyddyn pan nad yw'r Cyfnod Sylfaen yn cael ei ddarparu, bydd plant cymwys yn derbyn 30 awr o ofal plant, gan helpu teuluoedd sy'n gweithio i dalu costau gofal yn ystod y gwyliau. 

“Mae helpu rhieni i dalu costau gofal plant yn rhan o'r darlun mawr yn unig. Rhaid inni hefyd ymdrin â gwneud yn siŵr bod y gofal ar gael a'i fod yn hawdd sicrhau'r gofal hwnnw.”

“Y bwriad yw ein bod yn cydweithio â'r sector i sicrhau bod y cynnig mor hyblyg ag sy'n bosibl. Rydyn ni am wneud gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddewis mwy deniadol i'r rhai hynny sydd heb ystyried hynny o'r blaen; a sicrhau bod digon o ddarpariaeth ar gyfer plant sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu a datblygu. 

“Bydd angen inni weithio drwy hyn i gyd gyda rhieni, darparwyr a rhanddeiliaid eraill. Ond rwy hefyd yn awyddus i fwrw ymlaen â'r gwaith ar lawr gwlad. Felly, rwy'n falch i allu cyhoeddi heddiw y byddwn ni'n dechrau profi'r cynnig mewn ardaloedd chwe awdurdod lleol o fis Medi 2017 ymlaen. 

“Bydd profi'r cynnig yn caniatáu inni wneud yn siŵr ein bod yn dysgu am beth sy'n gweithio a beth sydd ddim, gan adeiladu ar brofiad a thystiolaeth i gyflawni'n hamcanion ar gyfer pob rhiant yng Nghymru sy'n gweithio.”

“Bydd cyflawni'r ymrwymiad hwn yn her, a dw i ddim yn tanbrisio'r hyn sydd angen ei wneud. Rhaid inni ymdrin â'r rhwystrau y mae gofal plant yn ei gyflwyno i rieni sydd am gefnogi eu teuluoedd yn y ffordd y gwelan nhw orau. 

“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i rieni ennill llai na'r hyn y mae'n ei gostio iddyn nhw dalu am ofal plant. Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr bod angen gwrthod dyrchafiad, neu swydd well, gan golli cyfleoedd i wella amgylchiadau eich teulu, dim ond oherwydd na allwch chi gael gofal plant pan fyddwch chi ei angen a lle y byddwch chi ei angen. Rydyn ni am i rieni gael mwy o ddewisiadau o ran eu gyrfa.”