Neidio i'r prif gynnwy

Y clafr yw un o'r clefydau mwyaf heintus sy’n effeithio ar ddefaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r clafr yn glefyd hysbysadwy ond nid yw'n effeithio ar bobl. Mae gwiddon sy'n byw ar groen y ddafad yn gadael eu baw arni gan greu adwaith sy'n gwneud iddi grafu'n wyllt. Mae'r crafu'n gallu achosi gofid mawr gan rwystro'r anifail rhag pori.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych chi'n meddwl bod y clafr ar eich defaid, dywedwch wrth eich milfeddyg preifat ar unwaith.                                            

Rhaid ichi drin a rheoli'r clafr yn eich diadell. Gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau cyfreithiol os na wnewch chi, o dan Orchymyn y Clafr 1997.

Arwyddion clinigol

Mae'n gallu bod yn anodd adnabod y clafr. Dylech chwilio am symptomau fel:

  • colli gwlân
  • crafu ofnadwy
  • briwiau ar y croen

Trosglwyddo, atal a thriniaeth

Mae'r clafr yn cael ei ledaenu:

  • trwy gysylltiad uniongyrchol â defaid heintiedig
  • cysylltiad â mannau a gwrthrychau y mae defaid heintiedig newydd fod wrthyn nhw

Mae'r gwiddonyn sy'n achosi'r clafr yn gallu byw am hyd at 17 niwrnod oddi ar y ddafad.

I rwystro'r clafr rhag lledaenu, dilynwch y mesurau bioddiogelwch canlynol:

  • rhoi stoc newydd mewn cwarantîn
  • ynysu stoc sydd wedi'u heintio
  • gosod ffensys dwbl
  • rhoi profion gwaed i ddarganfod y clafr cyn i symptomau clinigol ymddangos

Gan ei bod hi'n gallu bod yn anodd adnabod y clafr, trafodwch y canlynol gyda'ch milfeddyg:

  • unrhyw bryderon
  • cynlluniau trin
  • mesurau i amddiffyn eich diadell