Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymchwil i baent hanesyddol yn datgelu gwir liw castell 'coch' enwog Cymru.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae arbenigwyr cadwraeth wedi datgelu lliw paent coch gwreiddiol Castell Coch, y castell tylwyth teg eiconig, yn dilyn dadansoddiad gwyddonol manwl o samplau paent sy'n dyddio'n ôl i'r 1880au.

Mae Castell Coch, sydd o dan ofal Cadw, yn un o gestyll mwyaf poblogaidd Cymru, sy'n arbennig am ei ymddangosiad "tylwyth teg" hudolus. Er ei fod wedi tarddu fel porthdy hela canoloesol, y castell hardd a welwn heddiw yw gweledigaeth y dylunydd adnabyddus William Burges. Gweithiodd Burges i'r 3ydd Ardalydd Bute rhwng 1875 ac 1881 i greu campwaith Fictoraidd.

Mae'r paent coch nodedig ar waith pren allanol y castell, gan gynnwys ffenestri, drysau, caeadau, ffasgiau a gwteri, wedi bod yn ganolog i hunaniaeth Castell Coch. Fodd bynnag, roedd blynyddoedd o ailbaentio wedi trawsnewid y lliw yn raddol yn rhywbeth hollol wahanol i weledigaeth wreiddiol y pensaer Fictoraidd William Burges.

Archwiliodd yr ymchwilydd paent pensaernïol Lisa Oestreicher sawl sampl o leoliadau ar draws y castell, gan nodi hyd at un ar bymtheg o wahanol gamau o ailaddurno ers cwblhau'r castell ym 1881.

Datgelodd yr ymchwil hon fod gorffeniad y paent gwreiddiol yn arlliw oren o goch, yn wahanol iawn i'r coch tywyllach a oedd wedi esblygu dros ddegawdau dilynol o ailbaentio.

Darganfuwyd sampl cyfeirio allweddol o dan y rheilen law ar y balconi ger Ystafell Wely yr Arglwyddes Margaret yn Nhŵr y Gegin, lleoliad cysgodol a helpodd i gadw olion y cynllun gwreiddiol.

Bydd y paent newydd, o'r enw 'Castell Coch Red 2025', yn cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio ar gyfer yr holl waith ailaddurno allanol yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Kate Roberts, Prif Weithredwr Cadw:

Mae Castell Coch wedi cyfareddu ymwelwyr ers cenedlaethau gyda'i dyrau eiconig a'i leoliad rhamantus, ond roedd y paent coch nodedig sy'n rhoi ei enw i'r castell wedi symud yn raddol oddi wrth weledigaeth wreiddiol William Burges yn dilyn dros 135 mlynedd o ailbaentio.

Mae'r ymchwil ofalus hon wedi caniatáu inni ddarganfod sut olwg oedd ar y coch hwn pan gafodd y castell ei gwblhau gyntaf. Mae'n hynod o foddhaol gwybod pan fydd ymwelwyr yn gweld Castell Coch yn y dyfodol, byddant yn profi rhywbeth llawer agosach at yr hyn a fwriadodd Burges.

Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i warchod a chyflwyno lleoedd hanesyddol Cymru mewn ffordd mor ddilys â phosibl, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ddod i fwynhau a deall y trysorau hyn.

Roedd ceisio dod o hyd i baent a oedd yn cyfateb i baent 135 mlwydd oed yn dipyn o her. Mae pigmentau coch yn eithriadol o ansefydlog, yn pylu mewn golau ond yn tywyllu pan fyddant wedi'u gorchuddio gan haenau paent diweddarach. Er gwaethaf y cymhlethdodau hyn, mae arbenigwyr wedi llwyddo i lunio lliw newydd sy'n cynrychioli manyleb wreiddiol Burges.

Dywedodd Michael Davies, Pensaer Cadwraeth a weithiodd ar y prosiect:

Er bod ymchwil fanwl ar baent wedi'i chynnal, roedd llawer i'w wneud o hyd cyn inni allu dewis y coch mwyaf priodol. Mae llawer o samplau paent wedi'u cynhyrchu ac mae llawer o drafodaeth wedi bod, ond rydym bellach mor falch o ddychwelyd i'r coch yr oedd William Burges wedi'i ddefnyddio 135 mlynedd yn ôl.

Wrth ailbwyntio waliau Tŵr y Ffynnon, rydym hefyd wedi datgelu'r morter canoloesol pinc/oren yn rhannau isaf y waliau cerrig, a oedd wedi'u gorchuddio o'r blaen, gan ei gwneud hi'n haws gweld y gwahaniaeth rhwng y cyfnod canoloesol a'r cyfnod Fictoraidd o adeiladu.

Mae'r ymchwil hon yn rhan o raglen barhaus Cadw o waith cadwraeth yng Nghastell Coch, sydd wedi cynnwys gwaith atgyweirio i'r waliau allanol a'r simneiau ers 2018 i ddiogelu addurniadau mewnol y castell sy'n arwyddocaol yn rhyngwladol.