Neidio i'r prif gynnwy

Teitl y cynnig:

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Drafft a rheoliadau cysylltiedig 2021

Swyddog(ion) sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig (enw(au) ac enw'r tîm):

Tîm Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol

Adran:

Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus

Pennaeth yr Is-adran/Uwch-swyddog Cyfrifol (enw):

Chris Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymorth i Ddysgwyr

Ysgrifennydd y Cabinet/Gweinidog sy'n gyfrifol:

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Dyddiad Cychwyn:

 2 Mawrth 2021

Cefndir

Mae'r asesiad hwn o'r effaith yn ymwneud â'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft ('y Cod ADY drafft') a'r rheoliadau cysylltiedig fel y rhestrir isod. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn dangos y rhyngweithio rhwng y darpariaethau yn yr offerynnau perthnasol:

  • Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 drafft
  • Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 drafft
  • Rheoliadau Addysg (UCD) (Pwyllgorau Rheoli ETC)(Diwygio) 2021 drafft
  • Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2021 drafft
  • Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gallu unigolion dros oedran ysgol gorfodol a rhieni) (Cymru) 2021 drafft. Gosodwyd y rhain gerbron y Senedd i'w cymeradwyo ar 2 Mawrth 2021.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ('Deddf 2018') yn sicrhau bod yna ddarpariaeth ar gyfer fframwaith statudol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ('ADY’). Bydd yn disodli'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ('AAA') a'r broses o asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau a/neu anableddau dysgu ('AAD') mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.

Mae Deddf 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi cod ar ADY, a gellid ei ddiwygio o bryd i'w gilydd. Mae'r Cod ADY drafft yn canolbwyntio ar ddisgrifio'r swyddogaethau y mae'r Ddeddf a'r rheoliadau drafft yn eu gosod ar unigolion perthnasol. Yn ogystal, mae'r Cod ADY drafft ei hun yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach ('SABau') yng Nghymru. Mae'n rhoi arweiniad hefyd ar y broses o arfer y swyddogaethau hyn. 

Bwriedir i'r Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft gael eu gosod gerbron y Senedd ar 2 Mawrth 2021, gyda'r bwriad y bydd darpariaethau Deddf 2018 a'r rheoliadau yn cychwyn ar 1 Medi 2021, gyda chyfnod o dair blynedd i'w gweithredu cyn y byddant yn gwbl weithredol.

Disgrifiad ac esboniad o effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Effaith y cynnig ar fywydau plant

Yn gyffredinol, drwy weithredu'r Cod ADY drafft, y rheoliadau arfaethedig a Deddf 2018 y bwriad yw y bydd yn cael yr effeithiau cadarnhaol canlynol ar blant a phobl ifanc:

  • system unedig a theg ar draws yr amrediad oedran 0 i 25, sydd ag ADY, darparwyr addysg gwahanol a lefelau amrywiol o angen, gan ddileu anghysondeb ac annhegwch
  • proses fwy hyblyg ac ymatebol o asesu parhaus, gan sicrhau y gall darpariaeth ar gyfer y dysgwr unigol esblygu dros amser wrth i'w anghenion newid
  • dull sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn, gan roi barn y plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y broses a'u cynnwys hwy a'u teuluoedd yn y broses gynllunio, ymyrryd ac adolygu o'r cychwyn cyntaf
  • gwell cefnogaeth a mynediad at wybodaeth a chyngor i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd i ddeall y broses ADY a gwneud dewisiadau gwybodus
  • osgoi dyblygu sy'n deillio o gynlluniau sy'n gwneud yr un peth i raddau helaeth ac integreiddio, lle y bo'n bosibl ac yn briodol gwneud hynny, cynlluniau ac ymyriadau presennol a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc
  • gwell cydweithio rhwng asiantaethau i gynllunio eu hymyriadau, i gytuno ar flaenoriaethau, ac i sicrhau bod adnoddau priodol ar gael mewn pryd i wneud gwahaniaeth
  • lleihau'r tebygolrwydd y bydd anghydfod yn digwydd drwy ddatblygu gwaith partneriaeth cryfach gyda rhieni a hyrwyddo diwylliant o dryloywder, a ddylai annog mwy o ymddiriedaeth rhwng rhieni, darparwyr addysg ac awdurdodau lleol
  • gostyngiad yn nifer yr apeliadau drwy sicrhau y gellir datrys anghytundeb cyn gynted â phosibl
  • cadw ac ymestyn hawliau i apelio i'r Tribiwnlys fel yr amddiffyniad olaf mewn perthynas â pha mor ddigonol yw'r cymorth a ddarperir i bob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY, nid dim ond y rhai sydd ag anghenion cymhleth.

Yn fwy penodol, mae'r gofynion a ddisgrifir yn y Cod ADY drafft, gan gynnwys bwriad y polisi a ddisgrifir mewn perthynas â defnyddio gwahanol bwerau i wneud rheoliadau sydd wedi'u cynnwys yn Neddf 2018, yn ceisio:

  1. sicrhau bod anghenion plentyn neu berson ifanc yn cael eu nodi a'u cynllunio mewn modd amserol drwy bennu amserlenni ar gyfer cyflawni dyletswyddau cyhoeddus yn hyn o beth
  2. sicrhau cysondeb yn y ffordd y caiff cynlluniau eu cofnodi drwy ragnodi cynnwys gorfodol cynlluniau datblygu unigol (CDU) a nodi templedi gorfodol ar gyfer y cynlluniau hynny
  3. sefydlu set gyson o ffactorau a meini prawf i'w defnyddio wrth benderfynu a oes angen darparu CDU ar gyfer rhai pobl ifanc a phersonau dan gadwad
  4. sefydlu pa ddarpariaeth sydd i'w gwneud ar gyfer person a gedwir yn yr ysbyty o dan Ran 3 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  5. caniatáu cyfnod priodol o amser fel y gall plant, eu rhieni, neu bobl ifanc ofyn i awdurdod lleol ailystyried y penderfyniadau a wneir gan ysgolion neu'r CDU y maen nhw'n ei baratoi
  6. nodi prosesau lle gellir trosglwyddo CDUau o un corff i gorff arall
  7. darparu safonau penodol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundeb a darparu gwasanaethau eirioli, hwyluso mynediad cyfartal i'r pethau hyn a lleihau nifer yr achosion o anghytundeb a'u heffaith.

Mae'r gwaith o lunio'r Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft wedi'u harwain hefyd drwy gyflawni bwriadau'r polisi sydd y tu ôl i'r Ddeddf a hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). 

Er enghraifft, pennu amserlenni y cyfeirir atynt ym mharagraff 2.2(a) uchod. Ar y mater hwn, mae angen sicrhau cydbwysedd rhwng cyflawni dyletswyddau'n gyflym iawn (fel y gall plant a phobl ifanc gael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt cyn gynted â phosibl) a'r hyn sy'n deg ac yn rhesymol i'r corff cyhoeddus ei wneud o dan yr holl amgylchiadau posibl a allai godi. Felly, mewn rhai achosion, mae'r amserlen lle mae'n rhaid cymryd camau ar gyfer un dysgwr yn wahanol i'r amserlen ar gyfer un arall (er enghraifft, mae cyfnodau gwahanol yn ôl hunaniaeth y corff y mae’r ddyletswydd yn berthnasol iddo ac yn ôl beth yw'r ddyletswydd). Fodd bynnag, mae rhesymau dros y gwahaniaethau hyn, sy'n ymwneud yn gyffredinol â'r hyn sy'n ymarferol i'r corff cyhoeddus dan sylw o dan yr amgylchiadau tebygol ac mae gofynion neu ganllawiau arfaethedig eraill sy'n ceisio lliniaru gwahaniaethau (er enghraifft, hyd yn oed pan fo gan gorff amserlen hirach i gydymffurfio nag sydd ar gyfer sefyllfa debyg arall, mae'n dal yn ofynnol i'r camau gael eu cymryd yn "brydlon" beth bynnag). 

Mewn perthynas â pharagraff 2.2(c) uchod, a phan fo'n angenrheidiol i berson ifanc ag ADY gael CDU, ni fyddai'r cynigion yn rhoi hawl awtomatig na pharhaus i bob person ifanc o'r fath (hyd at 25 oed). Fodd bynnag, mae'r dull wedi'i lywio drwy geisio rhoi mynediad cyfartal i addysg neu hyfforddiant o gymharu â phobl ifanc nad oes ganddynt ADY.

Ar gyfer y rheoliadau drafft ynghylch pryd y bydd angen CDU ar gyfer person dan gadwad (paragraff 2.2(d) uchod) ac o ran pa ddarpariaeth i'w gwneud ar gyfer person a gedwir yn yr ysbyty dan Ran 3 Deddf Iechyd Meddwl 1983 (paragraff 1.2(d) uchod), y dull cyffredinol a gynigir yw rhoi'r un hawliau â phlant a phobl ifanc eraill, o fewn terfynau'r Ddeddf a dim ond gydag addasiadau sy'n briodol yn wyneb y sefyllfa wahanol.

Yn gyffredinol, wrth lunio'r cynigion a pharatoi'r Cod ADY drafft, er y bu dyfarniadau i'w gwneud ar rai materion ynghylch hawliau, ystyrir bod y cynigion yn gweithredu hawliau perthnasol CCUHP. 

Effaith y cynnig ar wahanol grwpiau o blant

Mae plant a phobl ifanc ag ADY dan anfantais benodol o gymharu â'r rhai nad oes ganddynt ADY. Mae lefelau cyrhaeddiad addysgol ymhlith y rhai sydd ag ADY yn sylweddol is na'r cyfartaledd ac mae'n amharu'n sylweddol ar eu cyfleoedd mewn bywyd o ganlyniad i hynny. Hefyd, mae plant a phobl ifanc y cofnodir ar hyn o bryd bod ganddynt AAA, ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim na'r rhai nad oes ganddynt AAA.

Mae darpariaethau Deddf 2018 a'r is-ddeddfwriaeth a gynhwysir yn y Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft yn rhoi system gymorth i blant a phobl ifanc ag ADY sy'n sicrhau mai nhw yw'r ffocws ac sydd wedi'i chynllunio i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu pennu, a bod y ddarpariaeth sy'n angenrheidiol i ddiwallu'r anghenion hynny yn cael ei chynllunio mewn ffordd fwy amserol, cydweithredol, cyson a theg. Nod ein cynigion yw dileu anghydraddoldebau addysg drwy sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cyflawni ei botensial addysgol ac y bydd yn cael effaith anghymesur o gadarnhaol ar blant a phobl ifanc o gartrefi incwm isel.

Gwneir darpariaeth benodol yn y Cod ADY drafft (Pennod 19) hefyd ar gyfer personau dan gadwad – gan gynnwys y rhai a gedwir dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 – yn wyneb eu hamgylchiadau penodol.

Tystiolaeth a ddefnyddir i lywio asesiadau

Mae'r penderfyniad i ddiwygio'r system anghenion addysgol arbennig (AAA) bresennol yn seiliedig ar ystod eang o dystiolaeth o gyfres o adroddiadau ac adolygiadau yn ogystal â thrwy ymgynghori ac ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid a amlinellir mewn mannau eraill yn yr asesiad hwn o'r effaith.

Rhwng 2003 a 2007, cynhaliwyd adolygiad tair rhan o AAA gan Bwyllgor Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau blaenorol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chyhoeddwyd adroddiadau cysylltiedig yn y drefn ganlynol:

  1. Adnabod ac Ymyrryd yn Gynnar, Tachwedd 2004
  2. Fframwaith Asesu Statudol (Datganiadau), Mai 2006
  3. Pontio, Mawrth 2007.

Cafodd y dystiolaeth a gyflwynwyd yn adroddiadau'r Pwyllgor ei llywio gan adroddiadau cynharach y Comisiwn Archwilio (Anghenion addysgol arbennig: Mater prif ffrwd, (2002) ac Estyn (Cymorth i Blant ag Anghenion Addysgol Arbennig: Trosolwg Estyn, 2003). Gyda'i gilydd, daeth yr adroddiadau hyn i'r casgliad, mewn perthynas â'r system AAA bresennol:

  • mae'r broses asesu sy'n gysylltiedig â datganiadau yn aneffeithlon, yn fiwrocrataidd, yn gostus ac nid yw'n canolbwyntio digon ar y plentyn ac nid yw'r system yn hawdd i'w ddefnyddio
  • yn aml iawn mae anghenion yn cael eu nodi'n hwyr ac nid yw ymyriadau'n ddigon amserol nac effeithiol
  • mae teuluoedd yn teimlo’n aml eu bod yn gorfod brwydro i gael y cymorth cywir i'w plentyn ac nad ydynt yn gwybod ble i droi am wybodaeth a chyngor.

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, cynhaliodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd ymgynghoriad rhagarweiniol eang ar ddiwygiadau posibl i'r system bresennol o gefnogi AAA ac AAD (Datganiadau neu Rywbeth Gwell, 2007). Yn dilyn hynny, sefydlwyd nifer o brosiectau i ddatblygu a threialu systemau a dulliau gweithredu newydd er mwyn helpu i lywio polisi a deddfwriaeth y dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • pedwar cynllun peilot ar gyfer diwygio sy'n cynnwys wyth awdurdod lleol gyda'r nod o ddatblygu a threialu dull cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (gan ddefnyddio CDU) ar gyfer plant a phobl ifanc ag AAA ynghyd â system sicrhau ansawdd newydd ac adnodd cynllunio ac asesu ar-lein
  • chynllun peilot 'hawl i apelio i'r plentyn' sy'n cynnwys dau awdurdod lleol.

Mae'r ymatebion i ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar Ymlaen mewn Partneriaeth dros Blant a Phobl Ifanc ag Anghenion Ychwanegol (2012), y Papur Gwyn (2014) a'r Bil drafft (2015), yr ystyriaethau a'r sylwadau a wnaed mewn perthynas â Deddf 2018 yn ystod y gwaith craffu gan y Cynulliad Cenedlaethol a'r gwaith ymgysylltu ehangach â rhanddeiliaid, wedi cefnogi datblygiad y Ddeddf, y Cod ADY drafft a'r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach.

Ymgynghori â phlant a phobl ifanc

Y prif ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r system ADY newydd oedd yr un a gynhaliwyd mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) drafft. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 6 Gorffennaf a 18 Rhagfyr 2015.

I gefnogi'r ymgynghoriad, cyhoeddwyd Cod ADY drafft ac amlinelliad o'r amserlenni posibl ar gyfer gweithredu'r system newydd arfaethedig.

Cyhoeddwyd dogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc ynghyd ag esboniad hawdd ei ddarllen o'r Bil drafft. Roedd y dogfennau hyn yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno gweithdai cyfranogi pwrpasol gyda phlant, pobl ifanc a'u rhieni/gofalwyr. Cynhaliwyd cyfanswm o 23 o weithdai.

Yn ystod y gweithdai, cafodd safbwyntiau plant a phobl ifanc eu casglu ar wahân i farn eu rhieni/gofalwyr er mwyn sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu cofnodi'n gywir. Cynhaliwyd 19 o weithdai ar gyfer plant a phobl ifanc mewn 16 o leoliadau, gyda chyfanswm o 222 o gyfranogwyr. Cynhaliwyd gweithdai mewn ysgolion arbennig, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, lleoliadau AB ac uned cyfeirio disgyblion, yn ogystal â gyda grŵp o blant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref hefyd.

Cynhaliwyd pedwar gweithdy ar gyfer oedolion a oedd â diddordeb uniongyrchol yn y ddeddfwriaeth; roedd cyfanswm o 45 o oedolion wedi cymryd rhan. Roedd y sesiynau'n cynnwys grŵp o ofalwyr maeth, grŵp cymorth a oedd yn cynnwys rhieni â phlant â datganiad, grŵp blynyddoedd cynnar a grŵp o rieni sy'n addysgu gartref.

Roedd pob gweithdy wedi'i strwythuro er mwyn rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth i gyfranogwyr fel y gallent wneud penderfyniadau wedi'u grymuso wrth ymateb i'r deg cwestiwn ymgynghori a osodwyd, a oedd yn adlewyrchu deg nod craidd y cynigion diwygio. Er bod lefel y gefnogaeth yn uchel ar y cyfan, roedd gwahaniaeth rhwng ymatebion y plant/pobl ifanc, a'r oedolion.

Yn ogystal â'r gyfres o weithdai gyda phlant, pobl ifanc a'u gofalwyr, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddau ddigwyddiad cenedlaethol yn y Gogledd a'r De, a fynychwyd gan 158 o bobl; a chyflwynodd raglen o sesiynau anffurfiol wedi'u targedu gyda rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o'r gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector.

Datblygwyd dogfen ymgynghori hawdd ei darllen a fersiwn plant a phobl ifanc o'r Cod ADY drafft, y Tribiwnlys Addysg Cymru drafft a'r rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft gan Lywodraeth Cymru i'w cyhoeddi. Yn ogystal, cynhelir cyfres o weithdai cyfranogi pwrpasol gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Ystyriwyd sylwadau ac adborth a gafwyd gan blant a phobl ifanc yn ystod y cyfnod ymgynghori a'u defnyddio i fireinio'r Cod ADY drafft a'r rheoliadau fel y bo'n briodol. 

Cynhaliwyd 15 gweithdy ar gyfer plant a phobl ifanc, ac fe’u cynhaliwyd mewn 11 lleoliad gwahanol ledled Cymru. Roedd cyfanswm o 167 o ddysgwyr wedi cymryd rhan.

Cafwyd 7 gweithdy hefyd ar gyfer rhieni a oedd â diddordeb uniongyrchol yn y Cod ADY drafft, ac o'r 6 lleoliad ym mhob rhanbarth yng Nghymru cafwyd cyfanswm o 61 o gyfranogwyr.

Dim ond ychydig o enghreifftiau yw'r rhain o safbwyntiau rhai o'r Plant a'r Bobl Ifanc a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad, ac roedd eu sylwadau'n cynnwys:

  • Mae'n bwysig bod rhieni ac athrawon yn cymryd rhan
  • Bydd, bydd y diwygiadau ADY yn fy helpu i ddysgu
  • Mae bob un ohonom angen gwahanol fath o gymorth sy'n gweithio i ni ac mae angen i bobl ddeall beth yw ein hanghenion
  • Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwrando arnom ni
  • Mae'n dda y byddan nhw'n cydnabod bod angen diwallu fy anghenion hyd yn oed os nad oes gennyf ddiagnosis.

Eglurhad o effaith debygol y cynnig ar hawliau plant

Effaith gyffredinol ar hawliau plant

Fel sy'n ofynnol gan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, datblygwyd y Cod ADY drafft gan Weinidogion Cymru gan roi sylw dyledus i ofynion CCUHP a'i Brotocolau Dewisol.

Yn ogystal, mae datblygu'r Cod ADY drafft wedi ystyried gofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl (CCUHPA) hefyd. Mae gan awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG ddyletswyddau penodol dan Ddeddf 2018 i roi sylw dyledus i CCUHP ac CCUHPA a nodir y rhain ym Mhennod 5 y Cod ADY drafft.

Rhoddir egwyddorion y Confensiynau ar waith yn Neddf a Chod 2018, ac felly wrth arfer eu swyddogaethau dan Ddeddf 2018 ac yn unol â Deddf 2018, mae awdurdodau lleol, ysgolion, SABau a chyrff y GIG yn debygol o fod yn gweithredu erthyglau perthnasol dan y Confensiynau.

Er enghraifft, yn ôl erthygl 12 CCUHP:

  • mae'n rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi sicrwydd i'r plentyn sy'n gallu ffurfio ei farn ei hun, yr hawl i fynegi'r safbwyntiau hynny'n rhydd ym mhob mater sy'n effeithio ar y plentyn, ac y rhoddir sylw dyledus i safbwyntiau'r plentyn yn unol ag oedran ac aeddfedrwydd y plentyn
  • I'r diben hwn, bydd y plentyn yn arbennig yn cael y cyfle i gael ei glywed mewn unrhyw achos barnwrol a gweinyddol sy'n effeithio arno, naill ai'n uniongyrchol, neu drwy gynrychiolydd neu gorff priodol, mewn modd sy'n cyd-fynd â rheolau gweithdrefnol cyfraith genedlaethol.

Rhoddir hyn ar waith yn Neddf 2018, a chaiff ei egluro ym mhenodau perthnasol y Cod ADY drafft, gan (ymhlith pethau eraill):

  • y ddyletswydd dan adran 6 Deddf 2018 ynghylch cynnwys a chefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc (gweler Pennod 4 y Cod ADY drafft)
  • dyletswyddau dan adran 9 Deddf 2018 ynghylch rhoi gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc (yn ogystal ag eraill) am ADY a'r system y darperir ar ei chyfer gan Ran 2 Deddf 2018 (gweler Pennod 6 y Cod ADY drafft), er mwyn hwyluso eu cyfranogiad ynddi
  • hawliau plant a phobl ifanc i wneud apêl i'r Tribiwnlys dan adrannau 70 a 72 Deddf 2018 (gweler Pennod 33 y Cod ADY drafft) gan gynnwys, yn achos plentyn sydd heb y gallu, drwy gyfaill achos dan adran 85 Deddf 2018 (Pennod 30 y Cod ADY drafft).

Mae Pennod 5 y Cod ADY drafft yn nodi, er mwyn ymgorffori hawliau'r Confensiynau hynny ymhellach, bod yna ddyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a chyrff y GIG (dan Adrannau 7 ac 8 Deddf 2018) sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi sylw dyledus i:

  • Rhan 1 o CCUHP wrth arfer swyddogaethau dan Ddeddf 2018 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc
  • CCUHPA a'i brotocol dewisol, wrth arfer swyddogaethau dan Ddeddf 2018 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc anabl. 

Mae'r Cod ADY drafft yn nodi canllawiau ar erthyglau CCUHP sydd fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i ystyriaeth awdurdod lleol neu gorff GIG (er y bydd perthnasedd yr hawliau dan CCUHP yn dibynnu ar yr union gyd-destun y mae'r Confensiwn yn cael ei ystyried ynddo):

  • erthygl 1 – Holl hawliau plant dan y confensiwn
  • erthygl 2 – Dim gwahaniaethu
  • erthygl 3 – Buddiannau gorau'r plentyn
  • erthygl 4 – Sicrhau bod hawliau ar gael i blant
  • erthygl 12 – Parch i farn y plentyn
  • erthygl 13 – Rhyddid mynegiant
  • erthygl 23 – Plant anabl
  • erthygl 28 – Addysg
  • erthygl 29 – Nodau addysg.

Erthyglau CCUHP perthnasol a'r ffordd y cefnogir hawliau dan yr erthyglau hyn

Mae'r gofynion gorfodol a'r canllawiau statudol a nodir yn y Cod ADY drafft yn cefnogi'r erthyglau CCUHP canlynol:

Erthygl 1 - Mae gan bawb dan 18 oed yr holl hawliau yn y Confensiwn hwn

Mae'r Cod ADY drafft a'r rheoliadau drafft yn cefnogi gweithredu Deddf 2018 sy'n cyflwyno system deg lle bydd gan bob plentyn a pherson ifanc hyd at 25 oed sydd ag ADY, waeth beth fo cymhlethdod ei anghenion, gynllun statudol (y CDU).

Mae Deddf 2018 yn sicrhau hefyd bod gan blant a phobl ifanc hyd at 25 oed sy'n mynychu, neu sy'n dymuno mynychu, SABau neu sefydliadau ôl-16 arbenigol yr hawl i apelio; darparu hawliau apelio o'r fath i'r grŵp olaf o ddysgwyr a enwir uchod am y tro cyntaf. Mae Pennod 33 y Cod ADY drafft yn nodi'r manylion mewn perthynas â'r hawliau apelio hyn.

Erthygl 2 - Mae'r Confensiwn yn berthnasol i bawb beth bynnag fo'u hil, crefydd, galluoedd, beth bynnag y maen nhw'n ei feddwl neu'n ei ddweud a pha fath bynnag o deulu y daw ohono

Mae'r Cod ADY drafft a'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â phlant a phobl ifanc sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sydd rhwng 0 a 25 oed, sydd o oedran ysgol gorfodol neu is, neu sydd dros oedran ysgol gorfodol ac yn yr ysgol neu'n dilyn AB. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth benodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu sydd dan gadwad (gan gynnwys y rhai sydd dan gadwad dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae rhai darpariaethau'n gymwys hefyd mewn perthynas â phlant neu bobl ifanc sy'n byw yn Lloegr sy'n mynychu ysgolion a gynhelir neu Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru.

Bydd gweithredu darpariaethau'r Cod ADY drafft, y Ddeddf a'r rheoliadau drafft yn sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc ag ADY, sydd o oedran ysgol gorfodol neu is, neu sydd dros oedran ysgol gorfodol ac yn yr ysgol neu mewn AB, hawl i gael CDU statudol i gefnogi eu dysgu, waeth beth fo difrifoldeb neu gymhlethdod ei hanghenion.

Erthygl 3 - Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn

Annog cydweithio a sicrhau bod sefydliadau'n gweithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn, pan fo awdurdod lleol yn gofyn am gymorth neu wybodaeth gan gorff penodedig arall – gan gynnwys, er enghraifft, awdurdod lleol arall, corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu Sefydliad Addysg Bellach, neu gyrff iechyd penodol – wrth arfer eu swyddogaethau ADY, mae'n rhaid i'r corff hwnnw gydymffurfio â'r cais (oni bai bod amgylchiadau penodedig yn gymwys) gydag amserlen a nodir yn y Cod ADY drafft. Mae hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu nodi'n gynnar a bod y cymorth cywir yn cael ei roi ar waith i alluogi plant a phobl ifanc i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl.

Yn ogystal, bydd dyletswydd newydd ar gyrff y GIG yng Nghymru i ystyried, pan y gofynnir iddynt wneud hynny, ac eto o fewn amserlen a bennir yn y Cod ADY drafft, a oes unrhyw driniaeth neu wasanaeth perthnasol sy'n debygol o fod o fudd wrth fynd i'r afael ag ADY dysgwr. Mae'n rhaid cynnwys unrhyw driniaeth neu wasanaeth a nodir felly yn CDU y dysgwr ac mae'n rhaid i'r corff iechyd sicrhau bod y driniaeth neu'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu.

Bydd rolau newydd y Swyddogion Arweiniol ADY ar gyfer CADY, SACDA a'r Blynyddoedd Cynnar, y nodir eu manylion ym Mhenodau 8, 9 a 10 yn y drefn honno, yn helpu i feithrin gwell perthynas waith ac arferion gwell rhwng asiantaethau sy'n gweithio gyda phlant er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i'r plentyn neu'r person ifanc. Mae'r Cod ADY drafft yn rhoi canllawiau pellach i weithwyr proffesiynol i gefnogi gwaith amlasiantaethol effeithiol.

Erthygl 4 - Dylai llywodraethau sicrhau bod yr hawliau hyn ar gael i blant

Mae Deddf 2018 yn rhoi hawliau i blant, eu rhieni a phobl ifanc i apelio i'r Tribiwnlys Addysg yn erbyn amrywiaeth o benderfyniadau gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â materion ADY, CDUau a gwahaniaethu. Mae Pennod 33 y Cod ADY drafft yn rhoi manylion am hyn.

Mae Deddf 2018 yn gosod dyletswydd hefyd ar unigolion sy'n arfer swyddogaethau dan y Ddeddf honno ynghylch cynnwys a chefnogi plant a'u rhieni, a phobl ifanc yn y penderfyniadau a wneir dan Ddeddf 2018, gan gynnwys wrth ddatblygu'r CDU. Mae'r Cod ADY yn nodi gofynion amrywiol mewn perthynas â darparu gwybodaeth a dogfennau a hysbysu plant a phobl ifanc am benderfyniadau.

Yn ogystal, mae Deddf 2018 yn sicrhau bod yna ddarpariaeth ar gyfer penodi 'cyfaill achos' drwy orchymyn y Tribiwnlys lle nad oes gan y plentyn y gallu. Er y cydnabyddir yn gyffredinol y bydd apeliadau'n cael eu cyflwyno ar ran plant gan eu rhieni, lle nad yw hyn yn digwydd, bydd cyfaill achos yn dal i ganiatáu i'r plentyn arfer hawliau apelio a hawliau eraill dan Ddeddf 2018. Mae Pennod 30 yn rhoi mwy o fanylion mewn perthynas â hyn.

Rhoddir yr hawl i bobl ifanc dros oedran ysgol gorfodol sydd ag ADY i wneud eu penderfyniadau eu hunain mewn perthynas â'u ADY, gan gynnwys yr hawl i atal eu caniatâd i sefydliad addysgol neu awdurdod lleol wneud penderfyniad ynghylch eu ADY.

Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith nad yw'n ofynnol mwyach i'r bobl ifanc hyn fod mewn addysg a gallent yn rhesymol ddisgwyl cael penderfynu ar eu dyfodol addysgol eu hunain. Mae'r Ddeddf yn sicrhau bod yna ddarpariaeth i wneud rheoliadau mewn perthynas â phobl ifanc nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniadau eu hunain.   Datblygwyd Pennod (31) newydd yn y Cod ADY drafft sy'n ymwneud â chynrychiolwyr rhieni plant a phobl ifanc nad oes ganddynt y gallu mewn perthynas â Deddf 2018. Datblygwyd Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gallu unigolion dros oedran ysgol gorfodol a rhieni)(Cymru) 2021 drafft hefyd i ategu'r fframwaith gweithdrefnol yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ("Deddf 2010”). Mae'r rheoliadau'n rhoi'r hawl i unigolion dros oedran ysgol gorfodol a rhieni nad oes ganddynt y gallu i gyflwyno hawliad mewn perthynas â gwahaniaethu ar sail anabledd ac ati o dan yr Atodlen honno. Mae'r rheoliadau'n gwneud hyn drwy sicrhau y gall cynrychiolydd ddod â hawliad ar ran y rhiant neu'r unigolyn dros oedran ysgol gorfodol nad oes ganddynt y gallu. At ddibenion y rheoliadau, nid oes gan unigolyn y gallu o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005, sef, pan nad oes ganddo'r gallu meddyliol, nid y gallu cyfreithiol.

Erthygl 12 - Mae gan blant yr hawl i ddweud beth yn eu barn nhw ddylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnynt, ac i'w barn gael ei hystyried

Bydd y Cod ADY drafft yn sicrhau y bydd llais y plentyn a'r person ifanc wrth wraidd penderfyniadau a wneir yn eu cylch ac wrth wraidd y gwaith cynllunio a fydd yn sicrhau bod eu ADY yn cael eu diwallu. Mae'n adeiladu ar y gofyniad a osodwyd gan Ddeddf 2018 bod barn, dymuniadau a theimladau plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried, er enghraifft wrth baratoi CDU ac wrth ei adolygu.

Yn benodol, mae Pennod 4 y Cod ADY drafft yn egluro'r dyletswyddau ar unigolion sy'n arfer swyddogaethau dan Ran 2 Deddf 2018 mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc i gynnwys a chefnogi'r plentyn a'i riant neu'r person ifanc wrth arfer y swyddogaethau hynny. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y dyletswyddau yn Adran 6 Deddf 2018 i roi sylw i:

  • barn, dymuniadau a theimladau'r plentyn a rhiant y plentyn neu'r person ifanc
  • pa mor bwysig yw sicrhau bod y plentyn a rhiant y plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan mor llawn â phosibl mewn penderfyniadau sy'n ymwneud ag arfer y swyddogaeth dan sylw
  • pa mor bwysig yw sicrhau bod y plentyn a rhiant y plentyn neu'r person ifanc yn cael yr wybodaeth a'r gefnogaeth sy'n ofynnol fel y gallant gyfrannu at y penderfyniadau hynny.

Mae Pennod 4 y Cod ADY drafft yn rhoi canllawiau hefyd i awdurdodau lleol, ysgolion, SABau a chyrff y GIG i ystyried sut gallant annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan ym mhob agwedd ar y system ADY mewn ffordd ystyrlon. Bydd cefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon yn eu helpu i wneud y canlynol:

  • teimlo'n hyderus bod eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau'n cael eu clywed a'u gwerthfawrogi, hyd yn oed os ydynt yn ei chael yn anodd i'w cyfleu
  • bod yn ymwybodol o'u hawliau a'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt
  • datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb a rheolaeth dros eu dysgu.

Mae Pennod 23 y Cod ADY drafft yn nodi bod yn rhaid i awdurdod lleol, ysgol neu SABau sy'n paratoi neu'n diwygio CDU ddefnyddio'r ffurflen safonol yn Atodiad A y Cod ADY drafft ar gyfer y CDU – ac eithrio pan fo'r CDU ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal (ac os felly, mae'n rhaid i awdurdod lleol ddefnyddio'r templed yn Atodiad B y Cod ADY drafft). Mae'r 'Adran 1C: proffil un dudalen' gorfodol o'r templed CDU arfaethedig wedi’i fwriadu’n bennaf ar gyfer nodi crynodeb o farn, dymuniadau a theimladau'r plentyn, rhiant y plentyn neu'r person ifanc mewn perthynas â'u ADY, eu DDdY ac addysg a hyfforddiant. Gallai hyn gynnwys manylion am chwarae, iechyd, annibyniaeth, cyfathrebu, y bobl y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn eu hystyried yn bwysig iddynt (teulu, ffrindiau neu staff cyflogedig), cyfeillgarwch, dyheadau am, er enghraifft, addysg a gyrfa, byw'n annibynnol a chyfrannu at y gymuned, neu unrhyw beth arall y mae'r plentyn, rhiant y plentyn neu'r person ifanc yn ei ystyried yn bwysig.

Mae Deddf 2018 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol hefyd i gyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaeth eiriolaeth annibynnol ar gais. Mae Pennod 32 yn rhoi mwy o fanylion mewn perthynas â'r ddyletswydd hon.

Erthygl 13 - Mae gan blant yr hawl i gael gwybodaeth a'r hawl i rannu'r wybodaeth honno cyn belled nad yw'r wybodaeth yn niweidiol iddynt hwy nac i eraill

Mae Deddf 2018 yn golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth a chyngor am ADY a'r system i blant, pobl ifanc ac eraill fel y nodir yn Neddf 2018. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y trefniadau hyn yn hysbys i amrywiaeth o bobl. Mae dyletswyddau ar gyrff llywodraethu hefyd i sicrhau bod y trefniadau hyn yn hysbys i'w dysgwyr ac i eraill. Mae'r Cod ADY drafft yn cynnig adegau amrywiol lle mae'n rhaid rhoi manylion y trefniadau hyn i blant a phobl ifanc.

Bydd y trefniadau hyn yn helpu plant a phobl ifanc i ddweud eu dweud am yr hyn y maen nhw'n credu y dylai ddigwydd (gweler erthygl 12). Yn gyffredinol, mae'n rhaid rhoi gwybodaeth o'r fath i blant sydd â'r gallu i ddeall y pwnc dan sylw ac mae darpariaeth ar gyfer ei roi i gyfeillion achos mewn achosion lle nad oes gan y plentyn y gallu hwnnw. 

Erthygl 23 - Dylai plant sydd ag unrhyw fath o anabledd gael gofal a chymorth arbennig fel y gallant fyw bywydau llawn ac annibynnol

Dan Ddeddf 2018, bydd gan unigolyn ADY os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd sy'n galw am DDdY. Os oes gan blentyn ADY, bydd yn ofynnol i ysgol neu awdurdod lleol baratoi a chynnal CDU ar ei gyfer a sicrhau'r DDdY y mae'n ei gynnwys, yn ogystal â, os oes angen, lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall, neu fwyd a llety. Mae'r Cod ADY drafft yn rhoi canllawiau ar adnabod ADY a DDdY (ym Mhennod 20) ac yn pennu neu'n disgrifio nifer fawr o ofynion sydd ar awdurdodau lleol, ysgolion a SABau mewn perthynas â pharatoi a chynnal CDUau a darparu DDdY ar gyfer plant ag ADY.

Erthygl 28 - Mae gan blant hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn

Mae Deddf 2018 a'r Cod ADY drafft yn sicrhau bod yna system o gymorth sy'n galluogi plant, a phobl ifanc mewn ysgolion neu sy'n dilyn addysg bellach, yng Nghymru hyd at 25 oed sydd ag ADY, i gael mynediad i'r cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt hwy a'u cyfoedion a manteisio'n llawn arnynt.

Erthygl 29 – Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalent pob plentyn yn llawn. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, a'u diwylliant eu hunain a diwylliannau eraill.

Mae'r darpariaethau Deddf 2018 yn seiliedig ar yr egwyddor y dylid cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i gyflawni ei botensial addysgol. Bydd y CDU statudol yn helpu i sicrhau y bydd pob plentyn a pherson ifanc ag ADY mewn addysg orfodol ac addysg bellach yn cael y ddarpariaeth sydd ei hangen arnynt i wneud hynny.

Effaith negyddol ar hawliau plant sy'n deillio o'r cynnig

Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol ar blant a phobl ifanc o ganlyniad i'r cynigion hyn.