Neidio i'r prif gynnwy

Albert Owen yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Bu Albert Owen yn Aelod o Senedd y DU am bum tymor seneddol, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli ei etholaeth gartref, Ynys Môn. Mae ganddo brofiad helaeth ac amrywiol sy’n cynnwys materion Cymreig, ynni, datblygu rhyngwladol, a gweithdrefnau drwy ei aelodaeth o bwyllgorau dethol a Grwpiau Hollbleidiol Seneddol, a gwasanaethu ar Banel Cadeiryddion y Llefarydd.Tra’n Aelod o Senedd y DU dros Ynys Môn, bu’n eiriolwr dros yr etholaeth a Chymru ar amrywiaeth o faterion gwleidyddol, diwydiannol, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Fel Aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd, Tŷ’r Cyffredin, roedd yn un o’r cyntaf i gefnogi’r syniad o gynnwys grwpiau diddordeb, sefydliadau, a’r cyhoedd yn y gwaith o graffu cyn y broses ddeddfu, er mwyn helpu i lunio deddfwriaeth y llywodraeth.

Tra’n Aelod o Bwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin, roedd ganddo ddiddordeb arbennig mewn datganoli, trafnidiaeth, a materion ynni.

Mae ei ddiddordebau’n cynnwys hanes morol a hanes Cymru, cyflawni ei rôl fel noddwr yr Amgueddfa Forol leol ac Is-lywydd yr RNLI. Mae’n mwynhau cerdded ar yr arfordir, teithio, darllen, coginio, a gwylio chwaraeon.