Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn defnyddio eich data a'ch hawliau o ran gwybodaeth bersonol.

Cyflwyniad

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru (‘y Comisiwn’) wedi'i sefydlu i gyflawni dau amcan eang. Yr amcan cyntaf yw ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni. Yr ail amcan yw ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.

I'n helpu i gyflawni'r amcanion hyn, rydym yn gofyn barn y bobl bwysicaf yn y drafodaeth hon – sef dinasyddion Cymru.

Data personol

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod. Nid yw gwaith ymgysylltu'r Comisiwn yn gofyn yn benodol am ddata y gellir ei adnabod yn bersonol, ond gall gohebwyr ddewis darparu data personol fel rhan o'u dulliau cyfathrebu â'r Comisiwn.

Ar ôl cael yr wybodaeth, Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar ei chyfer.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer  hwn yw ein tasg gyhoeddus, sef ymarfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru [troednodyn 1]. Mae cyfranogiad unigol yn wirfoddol.

1 Mae'r Comisiwn yn annibynnol ar y Llywodraeth yn yr ystyr ei fod yn gallu datblygu argymhellion, ceisio tystiolaeth ac fel arall gyflawni ei rôl heb ymyrraeth wleidyddol gan Weinidogion. Nid yw'r Cyd-Gadeiryddion a'r Comisiynwyr yn cael eu cyflogi gan Lywodraeth Cymru. Er hynny, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cymorth gweithredol i'r Comisiwn, a bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn rheoli cronfa ddata'r rhestr bostio.

Storio data

Mae data personol pobl sy'n cysylltu â'r Comisiwn yn cael ei gasglu gan swyddogion Llywodraeth Cymru a'i gadw ar gronfa ddata mewn ffeil ddiogel, lle dim ond nifer cyfyngedig o swyddogion Llywodraeth Cymru all gael mynediad at y data.

Mae gwybodaeth bersonol a gwybodaeth categori arbennig a gaiff ei chasglu a'i chadw yn cynnwys manylion personol megis enw, cyfeiriad a manylion cyswllt.

Os ydych wedi cyflwyno gwybodaeth neu dystiolaeth i'r Comisiynydd i'w hystyried, bydd unrhyw ddata y gellir ei adnabod yn bersonol yn cael ei ddileu gan swyddogion Llywodraeth Cymru cyn i'r wybodaeth gael ei throsglwyddo i'r Comisiwn.

Ni chaiff data personol ei rannu y tu allan i Lywodraeth Cymru. Ni fydd data personol, megis enwau, yn cael ei rannu â'r Comisiwn heb ganiatâd penodol.

Defnyddio gwybodaeth

Yn ein cylch gwaith fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law, at y dibenion isod. Mae'r dibenion hyn yn angenrheidiol er mwyn ein galluogi i gyflawni ein tasg gyhoeddus ac wrth arfer ein hawdurdod swyddogol:

  • cysylltu ag unigolion sydd wedi mynegi dymuniad i gael gwybod am weithgarwch y Comisiwn
  • monitro'r ymgysylltiad cyffredinol â'r Comisiwn

Caiff y rhestr hon ei hehangu wrth i waith y Comisiwn ddatblygu.

Hawliau'r unigolyn

O dan y GDPR mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r gwerthusiad hwn:

  • hawl i gael mynediad (gofyn am gopi o'ch data eich hun)
  • hawl i gywiro (cywiro gwybodaeth anghywir)
  • hawl i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu data
  • hawl i ddileu data
  • hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cysylltwch â

Os hoffech drafod sut mae eich data yn cael ei storio a'i brosesu, gallwch cysylltu â swyddog diogelu data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Neu cysylltwch ag Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn:

Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Yn unol â'r hawl derfynol a nodir uchod, gellir cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn: casework@ico.org.uk neu ar 029 2067 8400 / 0303 123 1113. Ceir rhagor o fanylion am y Comisiynydd Gwybodaeth isod. 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)

Churchill House
17 Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH