Neidio i'r prif gynnwy

Philip Rycroft yn aelod o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Bu Philip Rycroft yn was sifil am 30 o flynyddoedd. Bu’n gweithio ar lefel uwch i’r llywodraeth ddatganoledig yn yr Alban cyn symud i Swyddfa’r Cabinet yn Llundain, lle bu’n arwain gwaith y gwasanaeth sifil ar y cyfansoddiad a datganoli i Lywodraeth y DU. Ei swydd ddiwethaf oedd Ysgrifennydd Parhaol  yn yr Adran Ymadael â’r UE.

Mae bellach yn gyfarwyddwr anweithredol, yn ymgynghorydd, ac yn academydd ym Mhrifysgol Caeredin a’r Bennett Institute for Public Policy ym Mhrifysgol Caergrawnt.