Neidio i'r prif gynnwy
Yr Athro Laura McAllister

Yr Athro Laura McAllister yw cyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

Mae'r Athro Laura McAllister yn Athro Polisi Cyhoeddus a Llywodraethu Cymru yng Nghanolfan Llywodraethu Cymru Prifysgol Caerdydd. Mae hi'n arbenigwraig ar ddatganoli, gwleidyddiaeth ac etholiadau Cymru, polisi cyhoeddus a chynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth.

Mae hi’n gyn-Gadeirydd Chwaraeon Cymru ac yn aelod o fwrdd Uk Sport, yn Gyfarwyddwr cyfredol ar Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn Ddirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA, ac yn gyn gapten rhyngwladol Cymru gyda 24 o gapiau.

Dyfarnwyd CBE iddi yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines, 2016.