Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn galw am system gyfiawnder decach a mwy effeithiol, wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer anghenion Cymru, wrth iddo annerch cynulleidfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn dadlau nad yw'r trefniadau presennol yn addas i'r diben, a bod angen datganoli plismona a chyfiawnder er mwyn rhoi sylw i gymhlethdod sydd wrth galon y setliad datganoli.

Gweledigaeth y Cwnsler Cyffredinol yw system gyfiawnder sy'n adlewyrchu gwerthoedd a nodweddion penodol cymdeithas yng Nghymru, ac sy'n hybu cyfiawnder cymdeithasol ac economaidd. Bydd hefyd yn siarad am yr hyn y gall y system gyfiawnder yng Nghymru ei wneud i gynyddu tegwch, cydraddoldeb a ffyniant i bawb.

Wrth siarad mewn digwyddiad a drefnwyd gan Sefydliad Bevan, bydd y Cwnsler Cyffredinol yn cyfeirio at y system gyfiawnder ei hun ac effaith y meysydd plismona a chyfiawnder, sydd heb eu datganoli, ar y gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cyn y digwyddiad heddiw, dywedodd Jeremy Miles:

"Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymroddedig i sicrhau Cymru deg a chyfartal, ond er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o Gymru gyfiawn, mae angen newid sylfaenol. Mae rôl hanfodol gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth y cyn Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, wrth lunio ein dyfodol.

"Rwy'n poeni nad yw system gyfiawnder Cymru a Lloegr yn addas i'r diben, ac mae llinell fympwyol rhwng yr hyn sydd wedi ei ddatganoli a'r hyn sydd heb ei ddatganoli. O ganlyniad, does dim modd i wasanaethau cyhoeddus fod yn gwbl gyson ac integredig – ac mae hynny’n anfanteisiol i bobl Cymru, sy'n haeddu gwell."