Daeth yr ymgynghoriad i ben 20 Rhagfyr 2024.
Adolygu ymatebion
Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn wrthi’n cael eu hadolygu. Pan fydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn cyhoeddi'r canlyniad.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am gael eich barn ar adrannau wedi'u diweddaru o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru, a fydd yn cael eu diweddaru ar-lein ar Hwb ym mis Ionawr 2025.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar fân ddiweddariadau a diweddariadau hanfodol arfaethedig i rai rhannau o ganllawiau Fframwaith Cwricwlwm i Gymru ar Hwb, sy'n cynnwys:
- geiriad i adlewyrchu'r dull o ymdrin â chrynodebau o’r cwricwlwm ysgol a nodir yn yr adran 'Ymlaen â'r daith', a gyhoeddwyd fis Ionawr diwethaf
- geiriad i gysylltu asesiadau personol yn well â chynnydd ac asesu
- geiriad i egluro newidiadau deddfwriaethol o fis Medi
- mân ddiwygiadau i'r adrannau 'Cynllunio’ch cwricwlwm' a 'Trefniadau Asesu' i ddiweddaru'r iaith er mwyn sicrhau cysondeb ag adrannau eraill o'r Fframwaith. Mae hyn yn adlewyrchu lle rydym wedi cyrraedd yn y broses o gyflwyno'r cwricwlwm yn ogystal â chynnwys dolenni a gwallau teipograffyddol
- diwygio'r adran 'Galluogi dysgu' i ddangos yn well y dylid ei defnyddio wrth gynllunio, trefnu a gweithredu cwricwlwm sy'n addysgegol briodol i bob dysgwr, nid dim ond ein dysgwyr ieuengaf
- nifer o fân newidiadau yn dilyn adolygiad dwyieithog o'r diffiniadau a ddefnyddir ar draws y Fframwaith
Dogfennau ymgynghori
Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 800 KB
PDF
800 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
