Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Rydym yn ymgynghori ar Newidiadau arfaethedig i faes y Dyniaethau i gynnwys cyfeiriad penodol at hanes Cymru a'r byd yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a'r canllawiau.

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd canllawiau Fframwaith Cwricwlwm Cymru ym mis Ionawr 2020 i gefnogi'r gwaith o weithredu trefniadau cwricwlwm ac asesu newydd yng Nghymru. Mae'r Fframwaith yn cynnwys adrannau amrywiol, gan gynnwys elfennau mandadol (megis datganiadau o'r hyn sy'n bwysig) yn ogystal â chanllawiau statudol ehangach. Mae'r Cod datganiadau o’r hyn sy’n bwysig wedi ei ddatblygu o dan adran 6 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf). Mae’n nodi’r 27 o ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar draws y chwe maes dysgu a phrofiad (Meysydd) y mae angen i gwricwlwm pob ysgol a gynhelir a phob lleoliad a ariennir ond nas cynhelir fod yn seiliedig arnynt. Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn rhan o Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

Aeth Llywodraeth Cymru ati i gryfhau’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer Dyniaethau, ar ôl ymgynghoriad yn nhymor yr gwanwyn 2021 i sicrhau bod gofynion astudiaethau hanes cymhleth ac amrywiol Cymru yn glir a gorfodol ar gyfer pob ysgol a lleoliad. Mae’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod hanes Cymru, yn ei holl amrywiaeth a’i gymhlethdod, yn fandadol o fewn y Cwricwlwm newydd i Gymru, ac mae’n ein hymrwymo i adolygu datganiadau mandadol y Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig a chanllawiau ategol eraill. Mae’r datganiad perthnasol bellach yn nodi:

Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.

Er mwyn cryfhau’r ymrwymiad hwn a rennir ymhellach, ac er mwyn sicrhau mwy o eglurder i ysgolion a lleoliadau, rydym yn cynnig y dylid diweddaru’r Cod datganiadau o'r hyn sy'n bwysig er mwyn cyfeirio’n benodol at 'hanes Cymru a'r byd’. Os cytunir, bydd y diweddariad hwn hefyd yn cael ei adlewyrchu mewn adrannau perthnasol o ganllawiau Maes y Dyniaethau.

Er mwyn cefnogi’r gofyniad hwn, yn unol â’r Cytundeb Cydweithio, byddwn hefyd yn comisiynu datblygu llinell amser drosfwaol o hanes Cymru. Darperir rhagor o wybodaeth am hyn maes o law.

Newidiadau arfaethedig i’r maes Dyniaethau mewn perthynas â hanes Cymru a’r byd

Rydym yn cynnig gwneud newid i’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig canlynol fel yr amlygir isod:

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Gall gwerthfawrogi hunaniaeth, treftadaeth a chynefin, gan gynnwys hanes Cymru a’r byd, ddylanwadu’n emosiynol ac yn ysbrydol ar ddysgwyr, a bod o gymorth i greu ymdeimlad o hunan ac o berthyn. Trwy ddeall eu hunain, mae dysgwyr yn meithrin eu hunaniaeth, ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw. O ganlyniad, daw dysgwyr i ddeall y gall y dewisiadau y mae pob un ohonon ni’n eu gwneud gael effaith sylweddol ar gymdeithas, boed yn ddewisiadau unigol neu ar y cyd.

Drwy glywed straeon eu hardal leol a straeon Cymru yn gyson, yn ogystal â straeon y byd ehangach, gall dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, lluosieithog ac amrywiol cymunedau ddoe a heddiw. Mae’r straeon hyn yn amrywiol, yn cwmpasu gwahanol gymunedau, yn ogystal â straeon pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn enwedig. Mae hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau, profiadau a safbwyntiau eu hardal leol, Cymru a’r byd yn ehangach.

Dros amser, mae lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn esblygu, gan brofi parhad a newid sydd wedi effeithio ar fywydau’r dysgwyr eu hunain ac ar fywydau pobl eraill, ac mae’r effaith yn parhau. Wrth iddyn nhw archwilio hyn, gall dysgwyr ddod i werthfawrogi sut mae’r esblygiad hwn yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl, credoau crefyddol ac anghrefyddol a bydolygon. Gall hefyd fod o gymorth iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth o achosion, canlyniadau ac arwyddocâd y newidiadau a’r rhyng-berthnasau sydd wedi ffurfio cymdeithasau ar wahanol lefelau o ddatblygiad.

Gall profiadau yn y Maes hwn annog dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Caiff cymdeithasau eu nodweddu gan amrywiaeth o normau a gwerthoedd diwylliannol, ieithyddol, economaidd, cyfreithiol a gwleidyddol. Maen nhw hefyd yn ddeinamig, gan sbarduno ac ymateb i newidiadau, ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Gall dysgwyr archwilio’r cysylltiadau a’r rhyng-ddibyniaethau rhwng y cymdeithasau hyn, yn y gorffennol a’r presennol, yng nghyd-destun globaleiddio byd-eang. Gall ymwneud pellach eu hannog hefyd i archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau ac egwyddorion sydd wrth wraidd ac yn llywio cymdeithas ddynol.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys cronoleg, newid a pharhad, amrywiaeth, achos ac effaith, cydgysylltiad, cymuned, hunaniaeth a pherthyn, awdurdod a llywodraethiant.

Er mwyn cefnogi’r newid arfaethedig i’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig o ran y Dyniaethau ym mharagraff 2.1, rydym hefyd yn cynnig y newidiadau canlynol i adrannau o ganllawiau o fewn canllawiau’r maes Dyniaethau :

Cyflwyniad y Dyniaethau, paragraff 4

Mae’r Dyniaethau yn ganolog i ddysgwyr ddod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mewn cyd-destunau cyfoes a hanesyddol, gall ymchwilio ac archwilio’r profiad dynol yn eu hardal eu hunain a gweddill Cymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach, fod o gymorth i ddysgwyr ddarganfod eu treftadaeth a datblygu ymdeimlad o le a chynefin. Gall hyn hefyd hyrwyddo dealltwriaeth o’r ffordd y mae pobl Cymru, ei chymunedau, ei hanes, ei diwylliant, ei thirwedd, ei hadnoddau a’i diwydiannau yn cydberthyn i weddill y byd. Yn ei dro bydd ystyried safbwyntiau gwahanol o gymorth i hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru ac fel rhan o hanes Cymru. Gyda’i gilydd, bydd y profiadau hyn o gymorth i ddysgwyr werthfawrogi cymaint rhan ydyn nhw o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a allai eu hysgogi i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.

Cynllunio eich Cwricwlwm

Ystyriaethau penodol ar gyfer y Maes hwn.

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn cyfeirio at yr angen am ymwybyddiaeth gyson o stori leol y dysgwyr a hanes Cymru, yn ogystal â stori y byd yn ehangach, a galluogi dysgwyr i ddod i ddeall natur gymhleth, lluosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a’r presennol. Dylai dysgwyr fod wedi eu gwreiddio mewn dealltwriaeth o’r hunaniaethau, tirweddau a’r hanesion sy’n dod at ei gilydd i ffurfio eu cynefin. Bydd hyn nid yn unig yn eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o’u hunaniaeth a’u lles, ond bydd hefyd yn datblygu dealltwriaeth o hunaniaeth pobl eraill a gwneud cysylltiadau gyda phobl, lleoedd a hanes mewn lleoedd eraill yng Nghymru ac ar draws y byd. Mae cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladolyn rhan greiddiol o’r Maes, ac yn ffurfio rhan o’r egwyddorion allweddol a ddisgrifir isod sy’n ymwneud â dewis y cynnwys.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

Ydy ychwanegu ‘hanes Cymru a’r byd’ yn y datganiad o’r hyn sy’n bwysig a’r canllawiau cysylltiedig yn egluro’n well bwysigrwydd addysgu hanes Cymru fel rhan o addysgu treftadaeth?

Cwestiwn 2

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn elfennau allweddol o strwythurau’r cwricwlwm ar gyfer pob Maes Dysgu a Phrofiad (Maes). Ydy’r cynnig o ychwanegu ‘hanes Cymru a’r byd’ at ddatganiad y Maes Dyniaethau yn glir ac yn hygyrch, ac yn darparu dealltwriaeth o’r cwmpas ar gyfer datblygu’r cwricwlwm?

Cwestiwn 3

Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig wedi eu mireinio ar ôl ystyried materion fel rhan o hynt deddfwriaeth gysylltiol gan y Senedd yn 2021. Ydy’r newidiadau arfaethedig i’r Maes Dyniaethau yn darparu digon o eglurder a chymorth i ysgolion a lleoliadau wrth iddynt drefnu’r cwricwlwm?

Cwestiwn 4

I gefnogi ysgolion i ymgysylltu â’r newidiadau arfaethedig i’r datganiad o’r hyn sy’n bwysig a’r canllawiau cysylltiedig, byddwn hefyd yn comisiynu datblygu llinell amser drosfwaol o hanes Cymru. Sut gallai llinell amser o’r fath ac unrhyw adnoddau cysylltiedig gefnogi ysgolion i ymgysylltu â’r gofynion mandadol arfaethedig a amlygir yn yr ymgynghoriad hwn?

Cwestiwn 5

Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r diwygiadau arfaethedig i’r Maes Dyniaethau yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 6

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y diwygiadau arfaethedig i’r Maes Dyniaethau gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb. Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
K9 5AF

Ffon: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

 

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae’r dogfennau ymgynghori ar gael o wefan Llywodraeth Cymru yn llyw.cymru/ymgynghoriadau.

Gellir gweld Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yma: Cwricwlwm i Gymru - Hwb (gov.wales).