Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu adroddiad thematig Estyn ar y Cwricwlwm Sgiliau Byw'n Annibynnol mewn Addysg Bellach. Rydym yn nodi'r canfyddiadau ac yn derbyn yr argymhellion sy’n ymwneud â Llywodraeth Cymru. 

Cafodd yr adolygiad ei gomisiynu a'i ariannu gan Medr fel ychwanegiad yn ystod y flwyddyn at gylch gwaith Estyn ar gyfer 2024 i 2025. Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar sefydlu darlun cenedlaethol o ddarpariaeth Sgiliau Byw’n Annibynnol ar draws Sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru, a gwerthuso effeithiolrwydd llwybrau dysgu y sgiliau hynny wrth ddiwallu anghenion dysgwyr ag anawsterau a (neu) anableddau dysgu, a chefnogi colegau i gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan y Ddeddf a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

Mae'n ystyried y cynnydd a wnaed ers adolygiad Estyn yn 2017, 'Cynnydd a chyrchfannau dysgwyr mewn meysydd dysgu medrau byw'n annibynnol mewn colegau Addysg Bellach'.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at welliannau sylweddol yn y ddarpariaeth ers yr adolygiad diwethaf yn 2017, yn enwedig o ran personoli dysgu a gwella cydweithio, ac mae'n dangos potensial y llwybr cyflogaeth â chymorth i 'newid bywydau' rhai dysgwyr. Canfu'r adroddiad hefyd, fodd bynnag, fod amrywioldeb mewn darpariaeth, asesu ac olrhain anghyson, a gwendidau mewn systemau sicrhau ansawdd yn parhau. 

Mae'r adroddiad yn mynd ymlaen i ddarparu sylwadau ac argymhellion ymarferol i sicrhau bod cynllun a darpariaeth y rhaglen yn diwallu anghenion dysgwyr ag anawsterau a (neu) anableddau dysgu, ac i gefnogi colegau ac awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol i bobl ifanc o dan y Ddeddf a'r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). 

Mae'r rhan fwyaf o'r argymhellion wedi'u cyfeirio at Sefydliadau Addysg Bellach ac Awdurdodau Lleol. Mae dau argymhelliad ar gyfer Medr a thri argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Argymhellion 1 i 2

Argymhellion 1 

Ddiwygio manylebau rhaglenni MBA i: 

  • sicrhau eu bod yn ddyheadol, yn adlewyrchu ADY dysgwyr yn well, yn cynnwys disgwyliadau clir o ran ddeilliannau a dilyniant dysgwyr, a chynorthwyo sefydliadau addysg bellach i ganolbwyntio ar yr unigolyn
  • alinio â chyfrifoldebau statudol colegau o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (2018) a blaenoriaethau cenedlaethol ehangach, yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) 

Argymhellion 2 

Sicrhau bod dysgwyr wedi deall targedau a llwybrau dilyniant yn glir trwy ddarparu arweiniad i’r sector ar feysydd MBA pwysig, fel: 

  • asesiad gwaelodlin yn canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n ymgorffori nodau datblygiad personol
  • cynllunio’r cwricwlwm yn seiliedig ar ddeilliannau, gan gynnwys dysgu achrededig
  • darpariaeth ran-amser
  • pa ddata cyrchfannau i’w gofnodi, a sut i’w ddefnyddio wrth gynllunio ar gyfer gwella
  • dilyniant o fewn llwybrau dysgu, a rhyngddynt 

Argymhellion 3 i 5

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru

Argymhellion 3

Sicrhau bod yr holl bobl ifanc ag ADY yn gallu cael addysg a hyfforddiant ôl-statudol yn unol â’u cyfoedion nad oes ganddynt ADY, yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Argymhellion 4

Sicrhau bod diweddariadau i’r Cod ADY yn darparu canllawiau clir i awdurdodau lleol, ysgolion a sefydliadau addysg bellach ar sut i weithio mewn partneriaeth i gefnogi pontio gwell i addysg drydyddol, ac yn benodol ar raglenni MBA, trwy osod targedau priodol, drafftio CDU a chynllunio’r cwricwlwm.

Argymhellion 5

Darparu mwy o ganllawiau cenedlaethol a mecanweithiau atebolrwydd i sicrhau gweithredu a sicrhau ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol (CDUau) yn gyson ar draws pob rhanbarth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu'r adolygiad i werthuso effeithiolrwydd llwybrau dysgu Sgiliau Byw'n Annibynnol ar lefel genedlaethol i sicrhau bod y cynllun a’r ddarpariaeth yn diwallu anghenion dysgwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y tri argymhelliad.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ymrwymo’n bersonol i arwain y gwelliannau i sicrhau bod y system ADY yn cael ei gweithredu'n fwy cyson ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad at yr addysg a'r hyfforddiant sy'n diwallu eu hanghenion. 

Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar garfan fach a phwysig o ddysgwyr ag anawsterau ac anableddau dysgu yn amrywio o rai cymedrol i rai ddifrifol a dwys, rydym yn cydnabod bod y materion a nodwyd yn adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu'r sbectrwm ehangach o ddysgwyr ag ADY. 

Ym mis Hydref 2024, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg adolygiad o’r fframwaith deddfwriaethol ADY. Dyma'r cam cyntaf i ddeall y problemau sy'n cael eu profi gan y rhai sy'n darparu ac yn defnyddio'r system, ac i nodi sut y gallwn eu datrys. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ei phum blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r heriau a amlygwyd gan yr adolygiad, sef:

  • Darparu eglurder i'r sector addysg ar sut i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.
  • Gwella cysondeb cenedlaethol wrth ddarparu'r system ADY.
  • Sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yr wybodaeth a'r gefnogaeth gywir.
  • Gwella integreiddio a chydweithredu amlasiantaeth i ddiwallu anghenion iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg plant a phobl ifanc ag ADY.
  • Edrych ar weledigaeth tymor hwy ar gyfer system addysg gynhwysol.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda phartneriaid, gan gynnwys y rhai yn y sector ôl-16, i gyd-gynhyrchu atebion ymarferol a chefnogi dysgwyr sy'n defnyddio rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol. Mae'r dull cydweithredol hwn yn cydnabod pwysigrwydd cydweithio i sicrhau parhad a chysondeb mewn cymorth wrth i ddysgwyr drosglwyddo o un cam o'u haddysg i'r llall. Er bod yr adroddiad yn cydnabod gwelliannau mewn cydweithrediad rhwng rhanddeiliaid, mae hefyd yn nodi'r angen am fwy o gysondeb ledled Cymru. 

Mae'r Arweinydd Gweithredu Ôl-16 Cenedlaethol yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, colegau addysg bellach a phartneriaid eraill i ddarparu cymorth a her wrth weithredu a chyflwyno'r system ADY. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys ymgorffori arferion da a dull cyson o weithredu ledled Cymru o ran rhannu gwybodaeth er mwyn trosglwyddo'n llyfn a darparu mynediad at adnoddau a chymorth priodol, gwella ansawdd Cynlluniau Datblygu Unigol, a sicrhau eu bod wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion y person ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn croesawu'r argymhellion ehangach gan eu bod yn cefnogi ein disgwyliadau, a'r dyletswyddau strategol a osodir ar sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol a nodir yn fframwaith deddfwriaethol y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg.

 Mae'r argymhellion yn ffynhonnell bwysig o ystyriaethau i Llywodraeth Cymru, Medr, sefydliadau addysg bellach ac awdurdodau lleol wrth weithio gyda'i gilydd i wella cynllun y rhaglen yn barhaus, a darparu'r system ADY i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at gymorth, addysg a hyfforddiant priodol i ddiwallu eu hanghenion.

Argymhelliad 6 i 11

Argymhellion ar gyfer sefydliadau addysg bellach

Argymhellion 6 

Ymwreiddio cysylltiadau systematig rhwng gosod targedau RARPA a deilliannau bwriadedig CDU i sicrhau cydlyniad statudol.

Argymhellion 7

Darparu dysgu proffesiynol ar gyfer staff addysgu a staff cymorth sydd wedi’i deilwra’n briodol i ddiwallu ehangder yr anghenion dysgu ychwanegol y mae dysgwyr yn eu profi, yn ogystal â’r addysgeg i gefnogi hyn, gan gynnwys sicrhau bod staff sy’n cefnogi datblygiad medrau cyflogadwyedd dysgwyr ac mewn lleoliadau gwaith wedi cael hyfforddiant addas.

 Argymhellion 8

Gweithio gyda chyflogwyr lleol i nodi bylchau mewn medrau a allai gael eu llenwi gan ddysgwyr fel hyfforddeion neu interniaid, gan arwain at wirfoddoli, prentisiaethau neu gyflogaeth am dâl.

Argymhellion 9

Sicrhau bod cyraeddiadau a chyrchfannau dysgwyr MBA yn llywio prosesau hunanwerthuso, gan gynnwys coladu a gwerthuso nifer y dysgwyr sy’n rhoi’r gorau i ddilyn cyrsiau MBA a’r rhesymau dros adael.

Argymhellion 10

Sicrhau bod eu gwefannau’n darparu gwybodaeth hygyrch ar gyfer pobl ifanc ag ADY am y cyrsiau sydd ar gael iddynt.

Argymhellion 11

Sicrhau bod yr holl ddysgwyr y dosbarthwyd bod ganddynt ADY yn bodloni’r diffiniad statudol ac yn meddu ar CDU cyfredol, o ansawdd uchel.

Argymhelliad 12 i 15

Argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol

Argymhellion 12

Sicrhau bod y cyngor a’r arweiniad y maent yn eu rhoi i bobl ifanc ag ADY sy’n gadael addysg statudol yn glir ac yn adlewyrchu eu strategaeth ADY ôl-16, gan weithio gyda Gyrfa Cymru, fel y bo’n briodol.

Argymhellion 13

Gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, cyflogwyr lleol a cholegau arbenigol annibynnol i sicrhau mynediad teg at y ddarpariaeth addysg bellach a hyfforddiant fwyaf addas ar gyfer pob dysgwr ag ADY, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Argymhellion 14

Cynorthwyo ysgolion ac UCDau i sicrhau dealltwriaeth gyson o gyfreithlondeb a phwysigrwydd rhannu gwybodaeth yn amserol wrth i ddisgyblion symud ymlaen i addysg bellach a hyfforddiant, gan gynnwys rhannu CDUau 

Argymhellion 15

Ffurfioli trefniadau i gynorthwyo’r dysgwyr hynny ag ADY sy’n rhoi’r gorau i addysg bellach o ran adolygu, diweddaru neu derfynu CDU yn briodol, a darparu unrhyw gymorth arall yn unol â’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid

Manylion cyhoeddi

Bydd Estyn yn cyhoeddi ei adroddiad thematig llawn ar neu ar ôl 25 Medi ar ei wefan yn wefan Estyn

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei hymateb i'r adroddiad a'i argymhellion yn: Arolygu addysg a hyfforddiant (Estyn) cyn gynted â phosibl ar ôl i Estyn gyhoeddi ei adroddiad. 

Bydd Medr hefyd yn cyhoeddi ei ymateb ei hun i'r adroddiad ar ei wefan yn: Newyddion a chyhoeddiadau.