Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar Brexit heddiw yn gyfle hanfodol i ailosod y berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig, yn ôl yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn ceisio defnyddio ailgynulliad y Pwyllgor fel cyfle i gymryd rhan adeiladol yn y gwaith o ddatblygu safbwynt negodi'r DU ar gyfer ymadael â'r UE.

Cyn y cyfarfod, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:  

"Mae Brexit yn mynd i effeithio'n helaeth ar bob rhan o'r DU - dyna pam fod angen adeiladu consensws eang. Mae'r cyfarfod heddiw yn gyfle i ailosod y berthynas waith, a chynnwys y gweinyddiaethau datganoledig wrth ddatblygu safbwynt negodi ar gyfer ymadael â'r UE.

"Rydyn ni wedi dweud yn glir ein bod yn barod i gydweithio'n adeiladol er mwyn cael y fargen orau bosib i bob rhan o'r DU. Yn gynharach yn yr haf, ysgrifennais lythyr ar y cyd gyda Llywodraeth yr Alban at David Davis yn amlinellu nifer o ffyrdd o wella'r cyfarfodydd hyn, er mwyn i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion gyflawni'r hyn y bwriadwyd iddo wneud yn wreiddiol.

"Rydyn ni wedi gosod ein gweledigaeth ar gyfer Cymru ar ôl Brexit yn ein Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru - ac am ddefnyddio'r cyfarfod heddiw i sicrhau fod blaenoriaeth yn cael ei roi i fuddiannau Cymru.

"Rydyn ni'n disgwyl penderfyniad pwysig iawn yr wythnos hon gan y Cyngor Ewropeaidd ar gam nesaf y trafodaethau, felly mae'n hanfodol bwysig i Lywodraeth y DU ein cynnwys a chydweithio gyda ni i adeiladu consensws ynghylch y math o Brydain rydyn ni am ei gweld ar ôl Brexit."