Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

1.1 Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cyhoeddi ei Chynllun Deallusrwydd Artiffisial (AI) cyntaf i Gymru. Mae’r cynllun yn nodi sut byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth i:

fanteisio ar bŵer AI yn gyfrifol i sicrhau twf economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus o ran y Gymraeg a’r Saesneg, ac i roi sgiliau i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn byd lle mae technolegau deallus yn chwarae rhan flaenllaw, gan sicrhau tegwch i bawb ar yr un pryd.

1.2 Mae'r Cynllun ar lefel uchel ac mae'n cyfuno gweithgarwch AI traws-sector mewn ffordd gydlynol a strwythuredig, gan fynegi ein huchelgais ar y cyd i ddefnyddio AI er lles y cyhoedd, gyrru ein heconomi yn ei blaen, ehangu sgiliau AI ac adlewyrchu gwerthoedd cymdeithas Cymru. Mae'n adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn gosod disgwyliadau ar gyfer y ffordd mae'r llywodraeth ei hun yn gweithio, ond mae hefyd yn arwain sector cyhoeddus Cymru a Chymru gyfan.

1.3 Mae'r Cynllun yn amlinellu pedwar conglfaen strategol a fydd yn ein helpu i wireddu’r weledigaeth hon, gan arwain ein gweithredoedd, ein buddsoddiadau a'n partneriaethau i gysoni gweithgarwch â'n huchelgeisiau:

  • Twf Economaidd - Defnyddio pŵer AI i sbarduno buddsoddiad, cynhyrchiant a ffyniant i Gymru.
  • Addysgu Cymru - Cyflenwi pobl o bob oed â’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu mewn byd sy’n cael ei bweru gan AI.
  • Cyflawni’n Deg - Sicrhau bod AI o fudd i Gymru gyfan, gyda thegwch, cynhwysiant a llesiant yn rhan ganolog ohono.
  • Rhagoriaeth ac Ymddiriedaeth - Arwain y gwaith o fabwysiadu AI yn ddiogel, yn dryloyw ac yn effeithiol ar draws gwasanaethau cyhoeddus.

1.4 Bydd y gwaith o gyflawni'r Cynllun hefyd yn cyd-fynd â'n hegwyddorion y cytunwyd arnynt y dylai datblygu a defnyddio AI fod yn Foesegol, yn Empathig, yn Fentrus ac yn Effeithiol.

Tymor hir

1.5 Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant hirdymor drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae hyn yn golygu bod ein hagwedd at AI yn unigryw. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob penderfyniad ar ddatblygu a mabwysiadu AI ystyried y manteision uniongyrchol, yn ogystal â’i effaith ar genedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau bod cynnydd technolegol yn gwasanaethu cynaliadwyedd, cydraddoldeb a ffyniant hirdymor Cymru.

1.6 Bydd y Cynllun AI i Gymru yn cyfrannu at ein cynnydd tuag at nodau llesiant cenedlaethol y Ddeddf. Gall croesawu arloesi digidol a data arwain at fwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a chadarn. Drwy gyflenwi pobl â’r sgiliau digidol a data sydd eu hangen arnynt a dylunio gwasanaethau o amgylch y defnyddiwr, bydd hyn hefyd yn gwella cydlyniant cymdeithasol, yn creu cymdeithas fwy iach a chyfartal gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, ac yn cyfrannu at sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

1.7 Mae'r cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu yn unol â'r Pum Ffordd o Weithio, sydd wrth wraidd y ffordd rydym yn bwriadu cyflawni’r canlyniadau.

Atal

1.8 Mae AI yn prysur newid ein ffyrdd o fyw, o weithio ac o ddysgu, gyda thwf cwbl newydd yn y defnydd o AI a thechnolegau sy'n seiliedig ar ddata dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'n hanfodol ein bod yn deall ac yn manteisio ar y cyfleoedd hyn yn y dyfodol, ond hefyd yn ymwybodol o'r risgiau cysylltiedig, gan sicrhau ein bod yn cynllunio'n briodol i'w defnyddio yng Nghymru, h.y. casglu data'n ddwyieithog.

1.9 Mae gan AI botensial enfawr i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a'u gwneud yn fwy cost-effeithiol. Fodd bynnag, mae angen lefelau uwch o fuddsoddiad ac uchelgais i sbarduno newid radical. Mae perygl y bydd Cymru'n cael ei gadael ar ôl ac yn colli cyfleoedd i fanteisio ar gyllid, meithrin sgiliau a mabwysiadu AI i wneud ein gwasanaethau cyhoeddus yn well, yn fwy clyfar ac yn fwy effeithlon, yn ogystal ag i dyfu ein heconomi.

1.10 Mae Cymru eisoes wedi profi ein bod ni, fel cenedl, mewn sefyllfa unigryw i arwain o ran arloesi ym maes AI. Ar 13 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad enfawr ar gyfer Ardal Twf AI Gogledd Cymru, ochr yn ochr ag adweithyddion newydd yn Wylfa ar Ynys Môn, a fydd yn sicrhau bod rhanbarth gogledd Cymru yn gallu elwa o fanteision economaidd AI.

1.11 Ar 21 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU hefyd y bydd Ardal Twf AI yn Ne Cymru. Mae cwmnïau fel Vantage Data Centers a Microsoft yn ymuno â'r llywodraeth i ddarparu'r Ardal Twf gyda buddsoddiad posibl o £10 biliwn i ddatgloi miloedd o swyddi, gan gynnwys yng nghyn Ffatri Injans Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

1.12 Bydd y ddwy Ardal Twf yng Nghymru yn cyflymu’r gwaith o ehangu ein canolfannau data AI yn gyflym, a bydd ein cymuned dechnoleg glos yn meithrin cydweithrediad ar draws sectorau. Byddant yn arwain y gwaith o gefnogi buddsoddiadau AI i hwyluso manteision gwirioneddol i'n cymunedau lleol, gan greu swyddi o ansawdd uchel a thyfu ein heconomi. Byddant yn ein helpu i sbarduno buddsoddiad yn y sector hwn yn y dyfodol i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran technoleg drawsnewidiol. Mae seilwaith digidol cyflym a dibynadwy yn sail i'r chwyldro AI, ac mae'n hanfodol i sicrhau'r cyfleoedd y mae'n eu cynrychioli. Mae’n hanfodol cael seilwaith digidol o ansawdd da ar draws pob rhanbarth yng Nghymru er mwyn sicrhau bod AI yn cael ei fabwysiadu gan bawb.

Integreiddio

1.13 Mae’r Cynllun AI i Gymru yn cyfuno gweithgarwch ar draws sectorau. Mae’n disgrifio’r meini adeiladu i archwilio potensial AI mewn ffordd gyfrifol, foesegol a chydweithredol er mwyn creu manteision helaeth. Mae'n adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn gosod disgwyliadau ar gyfer y ffordd mae'r llywodraeth ei hun yn gweithio, ond mae hefyd yn arwain sector cyhoeddus Cymru a Chymru gyfan.

Cydweithio

1.14 Mae maint ac ystwythder Cymru yn ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer treialu atebion AI i ddatrys problemau penodol a'u graddio'n genedlaethol, drwy arloesi cyfrifol a chydweithio traws-sector.

1.15 Mae ein hagwedd at AI sydd wedi’i nodi yn y Cynllun yn seiliedig ar ein gwerthoedd o bartneriaeth gymdeithasol, gwneud penderfyniadau ar y cyd, tegwch, tryloywder, cydraddoldeb a thegwch. Mae'n dangos ein safbwynt o’r radd flaenaf ar hyrwyddo’r broses o fabwysiadu AI yn gyfrifol ac yn foesegol, gan roi partneriaeth gymdeithasol wrth ei gwraidd. Wrth i AI barhau i esblygu, rydym yn ceisio sicrhau bod cynnydd technolegol yn digwydd er lles y cyhoedd ac yn adlewyrchu gwerthoedd y gymdeithas yng Nghymru.

1.16 Mae'r Cynllun hwn ei hun wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, y Grŵp Cynghori Strategol ar AI (sy'n cynnwys arbenigwyr academaidd a diwydiant blaenllaw), a Grŵp traws-sector Arweinyddiaeth AI i Gymru, (sy'n cynnwys cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru).

1.17 Bydd y gwaith o gyflawni'r cynllun trosfwaol yn cael ei arwain a'i gydlynu gan Swyddfa AI Llywodraeth Cymru. Er bod rhai o’r camau gweithredu cyntaf yn y Cynllun wedi’u hariannu, er mwyn gwireddu’r weledigaeth gyffredinol bydd angen buddsoddi a blaenoriaethu sylweddol i gynyddu’r cyfleoedd hirdymor y mae AI yn eu creu o ran strategaeth, polisi a chyflawni. Ar ôl cyhoeddi’r Cynllun AI, bydd angen i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector, y diwydiant a’r byd academaidd ystyried sut bydd y camau gweithredu lefel uchel yn y Cynllun hwn yn cael eu cyflawni ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd, gan ganolbwyntio’n glir ar gydweithio o fewn ac ar draws sectorau.

Cynnwys

1.18 Mae AI yn gatalydd pwerus ar gyfer newid. Fodd bynnag, mae risgiau o ran ei ddefnyddio a rhaid i ni fod yn ymwybodol o'r effeithiau y gallai AI eu cael ar y gweithlu, ar hawliau dynol, ar yr amgylchedd ac ar y gymdeithas ehangach. Mae’n hanfodol sicrhau bod gan y cyhoedd hyder ac ymddiriedaeth o ran defnyddio AI. Bydd hyn yn dibynnu ar ymrwymiad ar y cyd ar draws yr ecosystem AI yng Nghymru i sicrhau bod technolegau AI yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd cyfrifol, tryloyw, moesegol, cynhwysol a diogel.

1.19 Drwy gydweithio sy'n ymgysylltu â'n dinasyddion, yn ogystal â'n sectorau cyhoeddus a phreifat, byddwn yn gweithio ar y cyd i gefnogi gwell llesiant i Gymru.  I gefnogi hyn, mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau lefel uchel i gynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn AI drwy dryloywder, atebolrwydd, a thrafodaethau ystyrlon â'r cyhoedd a chymdeithas sifil am AI a’i ddefnydd ohono, ac i gynnwys y cyhoedd, cymdeithas sifil a gweithwyr yn y gwaith o ddylunio a darparu gwasanaethau ac atebion AI.

1.20 Mae'r cynllun hwn hefyd yn cyd-fynd â dulliau rhyngwladol blaenllaw o fabwysiadu AI, gan ddisgrifio dull gweithredu unigryw Cymru sy’n seiliedig ar degwch, hygyrchedd a dwyieithrwydd.

Effeithiau

1.21 Mae’r Cynllun AI i Gymru yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru gyflawni ei hymrwymiad i sicrhau'r budd mwyaf posibl o AI a chreu'r cyfle mwyaf i lwyddo. Mae AI yn gyfle sylweddol i symud at ffordd wahanol o weithio, gan gael effaith gadarnhaol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ein heconomi a bywydau pobl yng Nghymru.

1.22 Mae defnyddio AI yn effeithiol ac yn gyfrifol yn hanfodol i gefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, gan ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion Cymru yn y tymor hir. Bydd y gwaith o fabwysiadu technolegau AI yn gyfrifol hefyd yn galluogi ein sectorau preifat i addasu a ffynnu, gan ddod â manteision sylweddol i gynhyrchiant economaidd, diogelu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chreu swyddi sy'n talu'n dda.

1.23 Bydd y blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun yn canolbwyntio ar yr agweddau hynny a fydd yn ein galluogi i barhau i arloesi, i ddyfnhau ein heffaith ac i ehangu ein cyrhaeddiad. Bydd yn ein helpu i sbarduno arbedion effeithlonrwydd ar draws y sector cyhoeddus, ar yr un pryd ag ysbrydoli busnesau i fabwysiadu a chroesawu arloesedd AI i sbarduno cynhyrchiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd.

1.24 Bydd y cyfleoedd a ddaw yn sgil AI hefyd yn ein cefnogi i wireddu ein huchelgais o ddefnyddio technoleg i gynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Costau ac arbedion

1.25 Mae’r Cynllun hwn yn pennu trywydd AI i Gymru. Er bod rhai o’r camau gweithredu cyntaf yn y Cynllun wedi’u hariannu, er mwyn gwireddu’r weledigaeth bydd angen buddsoddi a blaenoriaethu sylweddol i gynyddu’r cyfleoedd hirdymor y mae AI yn eu creu o ran strategaeth, polisi a chyflawni. O ystyried y cyfyngiadau presennol ar gyllid cyhoeddus, heb gyllid newydd bydd hyn yn gofyn am ailflaenoriaethu cyllid yn ofalus lle bydd angen pwyso a mesur effeithiau cadarnhaol buddsoddi mewn AI yn erbyn y dadfuddsoddiad o'r cyllidebau presennol. Pan fydd yr effeithiau hyn o bosibl yn disgyn ar awdurdodau lleol, bydd angen ystyried yr effeithiau cronnus posibl. Bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei ddatblygu yn unol â'r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

1.26 Ar ôl cyhoeddi’r Cynllun AI, bydd angen i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector, y diwydiant a’r byd academaidd ystyried sut bydd y camau gweithredu lefel uchel yn y Cynllun hwn yn cael eu cyflawni ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd, gan ganolbwyntio’n glir ar gydweithio o fewn ac ar draws sectorau. Fel rhan o hyn, rhagwelir y bydd dadansoddiad cost a budd yn cael ei gynnal i lywio penderfyniadau, gan gydnabod effeithiau posibl ailflaenoriaethu cyllid o gyllidebau presennol ar y sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Mecanwaith

1.27 Ni chynigir unrhyw ddeddfwriaeth newydd a dylid nodi bod polisi AI wedi'i gadw'n ôl i Lywodraeth y DU. Mae'r Cynllun ar lefel uchel ac mae'n pennu'r cyfeiriad trosfwaol ar gyfer AI yng Nghymru, gyda'r ddarpariaeth yn cael ei datblygu ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd.

Adran 8. Casgliad

8.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu?

1.1 Mae'r Cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu ar y cyd â swyddogion ar draws Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Cymru, Grŵp Cynghori Strategol annibynnol Llywodraeth Cymru ar AI (sy'n cynnwys arbenigwyr academaidd a diwydiant blaenllaw), a Grŵp traws-sector Arweinyddiaeth AI i Gymru, (sy'n cynnwys cynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus Cymru):

Gweinidogion Cymru

  • Prif Weinidog Cymru
  • Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Cyflawni
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol
  • Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Adrannau Llywodraeth Cymru

  • Busnes a Rhanbarthau / Gweithrediadau Busnes
  • Digidol a Thechnoleg – Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
  • Gweithlu a Datblygu Sefydliadol – Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
  • Addysg – Gwasanaethau Digidol Ysgolion
  • Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
  • Llywodraeth Leol a Chynllunio
  • Cynllunio a Chyflwyno AD
  • Polisi a Strategaeth Economaidd
  • Digidol, Data a Thechnoleg
  • Diwylliant, Treftadaeth, Chwaraeon a'r Gymraeg
  • Gwasanaethau Ystadegol
  • Y Prif Swyddog Gwyddonol

Aelodau'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI

  • TUC Cymru
  • Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) / Prifysgol Caergrawnt
  • Kainos
  • CGI
  • Admiral UK
  • Microsoft UK
  • Fforwm AI Ewrop
  • Responsible AI UK
  • Sefydliad Tony Blair ar gyfer Newid Byd-eang

(Sylwch: Mae aelodau'r Grŵp Cynghori Strategol ar AI yn gweithredu mewn rhinwedd bersonol a gwirfoddol, nid ydynt yn cynrychioli eu sefydliad nac unrhyw gysylltiad arall)

Aelodau’r Grŵp Traws-sector Arweinyddiaeth AI i Gymru

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Trafnidiaeth Cymru
  • Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • ProMo Cymru
  • Tai Calon
  • Tai United Welsh
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Awdurdod Cyllid Cymru
  • Sefydliad Alan Turing
  • Llywodraeth Cymru

1.2 Bydd y camau gweithredu lefel uchel a nodir yn y Cynllun yn cael eu cyflawni drwy brosiectau a gweithgareddau y cytunir arnynt ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd drwy gynlluniau gweithredu y cytunwyd arnynt. Yn unol â Safonau Gwasanaeth Digidol Cymru, bydd y rhain yn cael eu datblygu gydag egwyddorion sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, gan gynnwys ymchwil defnyddwyr, i sicrhau bod anghenion y rheini a fydd yn defnyddio'r gwasanaeth yn cael eu deall a'u diwallu. Bydd effeithiau pob gweithgaredd neu brosiect yn cael eu hasesu yn ôl yr angen. 

8.2 Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

3.1 Er na fydd y Cynllun hwn yn cael effaith uniongyrchol sylweddol ar ei ben ei hun, mae'r Cynllun yn hanfodol i gyflawni yn erbyn yr ymrwymiad i sicrhau'r budd mwyaf posibl o AI ac i greu'r cyfle mwyaf i lwyddo. Mae’r cynllun yn nodi sut byddwn yn cyflawni ein gweledigaeth i:

fanteisio ar bŵer AI yn gyfrifol i sicrhau twf economaidd, i wella gwasanaethau cyhoeddus o ran y Gymraeg a’r Saesneg, ac i roi sgiliau i bobl yng Nghymru er mwyn iddynt allu ffynnu mewn byd lle mae technolegau deallus yn chwarae rhan flaenllaw, gan sicrhau tegwch i bawb ar yr un pryd.

3.2 Mae AI yn gyfle sylweddol i symud at ffordd wahanol o weithio, i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol a mwy cost-effeithiol, i ddatgloi twf economaidd cynhwysol ac i uwchsgilio gweithwyr a'r boblogaeth gyffredinol.

3.3 Mae defnyddio AI yn effeithiol ac yn gyfrifol yn hanfodol i gefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus, gan ein helpu i sicrhau canlyniadau gwell i ddinasyddion Cymru yn y tymor hir. Bydd y gwaith o fabwysiadu technolegau AI hefyd yn galluogi ein sectorau preifat i addasu a ffynnu, gan ddod â manteision sylweddol i gynhyrchiant economaidd, diogelu rhagolygon ar gyfer y dyfodol a chreu swyddi sy'n talu'n dda ac a fydd yn para.

3.4 Bydd y cyfleoedd a ddaw yn sgil AI hefyd yn ein cefnogi i wireddu ein huchelgais o ddefnyddio technoleg i gynyddu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg ac i fanteisio'n llawn ar y defnydd moesegol a dwyieithog o dechnolegau newydd.

3.5 Bydd y Cynllun AI i Gymru yn cyfrannu at ein cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol. Gwyddom y gall croesawu arloesi digidol a data arwain at fwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a chadarn. Drwy gyflenwi pobl â’r sgiliau digidol a data sydd eu hangen arnynt a dylunio gwasanaethau o amgylch y defnyddiwr, bydd hyn hefyd yn gwella cydlyniant cymdeithasol, yn creu cymdeithas fwy iach a chyfartal gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, ac yn cyfrannu at sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

3.6 Gall AI hefyd gefnogi monitro amgylcheddol amser real, gan helpu i wneud y defnydd gorau posibl o adnoddau naturiol. Gall gyfrannu at leihau carbon mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft drwy fwy o weithio o bell, gwell gwasanaethau cyhoeddus digidol, moderneiddio'r dechnoleg rydym yn ei defnyddio a defnyddio data'n well. Fodd bynnag, mae gan y defnydd cynyddol o AI y potensial i gynyddu allyriadau CO2 os na chaiff ei weithredu mewn ffordd gyfrifol, gynhwysol a moesegol, sy'n pwyso a mesur enillion perfformiad a chynhyrchiant yn erbyn effeithiau amgylcheddol.

8.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig

  • yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant, a/neu
  • yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

3.7 Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant hirdymor drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae hyn yn golygu bod ein hagwedd at AI yn unigryw. Mae’n golygu bod yn rhaid i bob penderfyniad ar ddatblygu a mabwysiadu AI ystyried y manteision uniongyrchol, yn ogystal â’i effaith ar genedlaethau'r dyfodol, gan sicrhau bod cynnydd technolegol yn gwasanaethu cynaliadwyedd, cydraddoldeb a ffyniant hirdymor Cymru.

3.8 Bydd y Cynllun AI i Gymru yn cyfrannu at ein cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol. Gwyddom y gall croesawu arloesi digidol a data arwain at fwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a chadarn. Drwy gyflenwi pobl â’r sgiliau digidol a data sydd eu hangen arnynt a dylunio gwasanaethau o amgylch y defnyddiwr, bydd hyn hefyd yn gwella cydlyniant cymdeithasol, yn creu cymdeithas fwy iach a chyfartal gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, ac yn cyfrannu at sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Drwy ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o effaith amgylcheddol AI, hyrwyddo arferion AI cynaliadwy ac archwilio rhaglenni AI sy'n cefnogi'r gallu i wrthsefyll yr hinsawdd, rheoli ynni, a'r economi gylchol, bydd hyn yn helpu i gydbwyso manteision AI â gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

3.9 Mae'r Cynllun hwn wedi cael ei ddatblygu yn unol â'r Pum Ffordd o Weithio, ac maent wrth wraidd y ffordd rydym yn bwriadu cyflawni’r canlyniadau rydym am eu gweld.

3.10 Mae Cymru’n wlad fach, a gall arwain y ffordd o ran defnyddio AI i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, datblygu'r economi a lleihau anghydraddoldebau. Drwy gydweithio sy'n ymgysylltu â'n dinasyddion, yn ogystal â'n sectorau cyhoeddus a phreifat, byddwn yn gweithio ar y cyd i wella llesiant Cymru. Mae’r Cynllun AI i Gymru yn cyd-fynd â dulliau gweithredu rhyngwladol ond mae hefyd yn sefydlu rôl unigryw sy’n seiliedig ar degwch, hygyrchedd, dwyieithrwydd a rhagoriaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.

8.4 Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?

4.1 Bydd y gwaith o gyflawni'r Cynllun trosfwaol yn cael ei arwain a'i gydlynu gan Swyddfa AI Llywodraeth Cymru.

4.2 Bydd angen i’r sector cyhoeddus, y trydydd sector, y diwydiant a’r byd academaidd ystyried sut bydd y camau gweithredu lefel uchel yn y Cynllun hwn yn cael eu cyflawni ar lefel leol, ranbarthol a sectoraidd, gan ganolbwyntio’n glir ar gydweithio o fewn ac ar draws sectorau. Disgwylir y bydd y cynlluniau hyn yn nodi'n glir yr amserlenni ar gyfer gweithredu, a sut bydd y cynnydd yn cael ei olrhain a'i fesur.

Pa gynlluniau sydd ar waith ar gyfer adolygu a gwerthuso ôl-weithredu?

4.3 Bydd y Cynllun AI i Gymru yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau ac anghenion sy’n newid drwy gydol ei oes. Oherwydd cyflymder y newid ym maes AI, bydd y Cynllun hwn, a’r cynlluniau gweithredu a fydd yn cyd-fynd â’r Cynllun, angen datblygu’n barhaus i sicrhau eu bod yn dal yn addas i’r diben ym maes AI, sy’n newid drwy’r amser.