Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Clybiau Ceir Trydan Cymunedol

3. Sail gyfreithiol y DU

Deddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion y cynllun

Amcanion Llwybr Newydd yw annog pobl i newid o fod yn berchen ar geir preifat (i leihau cyfanswm y milltiroedd sy'n cael eu teithio ar y ffyrdd) ac annog Sero Net Cymru i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.

5. Yr awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Bwriedir y cymhorthdal ar gyfer sefydliadau cymunedol yn y trydydd sector sy'n gallu darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen i safon briodol mewn ardal y nodwyd ei bod yn bodloni'r meini prawf o ran angen.

7. Sector(au) a gefnogir

Trafnidiaeth a storio

8. Hyd y cynllun

Dyddiad dechrau  11/12/2023 

Dyddiad dod i ben  31/12/2029

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£5 miliwn

10. Math o gefnogaeth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun ar ffurf grantiau/benthyciadau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae’n rhaid i'r cyflenwr fedru darparu popeth sydd ei angen er mwyn helpu cymunedau i sefydlu a rhedeg Clwb Ceir Trydan llwyddiannus (h.y. cerbydau, technoleg, marchnata).

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd gwerth y cymhorthdal yn cael ei gyfrifo a'i asesu ar sail nifer y Clybiau Ceir Trydan Cymunedol y disgwylir iddynt gael eu hysgogi (ar unwaith ac yn y tymor hwy) ac ar sail aelodaeth y clybiau hynny. Dylai arwain yn y pen draw at lai o berchenogaeth ar geir preifat ac felly at leihau nifer y milltiroedd sy'n cael eu teithio mewn ceir preifat.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£5 miliwn

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image