Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cynllun Rheoli Cymorthdaliadau Busnes Cymru

3. Sail gyfreithiol y DU

Y pwerau perthnasol yw Adrannau 60 a 71 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac Adran 1 o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975 (fel y'i diwygiwyd).

4. Amcanion y cynllun

Defnyddir "brand/enw" Busnes Cymru i gyfathrebu â chynulleidfaoedd busnes ynghylch y polisïau, y rhaglenni a'r prosiectau a gyflenwir ar draws Llywodraeth Cymru a thu hwnt. Mae'n siop un stop ar gyfer gwybodaeth, cefnogaeth, cyngor ac atgyfeirio ac fe'i defnyddir hefyd fel enw brand ar gyfer y gwasanaethau.

Darperir Busnes Cymru drwy gyfuniad o dimau 'mewnol' Llywodraeth Cymru, cyflenwyr allanol dan gontract a dyfarniadau grant i sefydliadau allanol. Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn cwmpasu ystod o gynhyrchion a gwasanaethau sy'n cynnig gwybodaeth , cefnogaeth, cyngor ac atgyfeiriadau i fusnesau boed ar-lein, dros y ffôn, yn rhithiol a/neu'n bersonol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pob sector ac mae ar gael ledled Cymru. Fel gwasanaeth cenedlaethol mae gofyn i Busnes Cymru hefyd ymateb ac addasu i amodau neu faterion economaidd sy'n dod i'r amlwg, felly mae hyblygrwydd a'r gallu i addasu yn ffactorau allweddol.

Nod Busnes Cymru yw darparu siop un-stop o wybodaeth, cymorth, cyngor ac atgyfeirio o dan dri nod cyffredinol:

  • Meithrin hyder ac ysbrydoli unigolion, entrepreneuriaid a microfusnesau/BBaChau i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i'w galluogi i gyfrannu at ddatblygu ecosystem gydlynol sy'n weladwy, yn syml ac yn gysylltiedig i sicrhau bod Cymru yn lle gwych i ddechrau a datblygu busnes yn yr economi sylfaenol a'r economi twf.
  • Mynd i'r afael â bwlch allweddol drwy greu'r amodau i fusnesau ddechrau, dal eu tir a datblygu i fod yn fusnesau canolig eu maint mewn ffyrdd cynhwysol a chynaliadwy.
  • Cefnogi cynhyrchiant, gwydnwch, twf, datgarboneiddio a chynaliadwyedd busnesau micro a bach a chanolig. Sicrhau eu perchnogaeth hirdymor yn y dyfodol yng Nghymru gan gadarnhau eu cyfraniad parhaus i economi Cymru.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru (Busnes Cymru)

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Busnesau bach a chanolig (BBaCh)

7. Sector(au) a gefnogir

Bydd pob sector yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn, fodd bynnag, ni allwn gefnogi busnesau a allai ddwyn anfri ar enw LlC (gamblo, clybiau oedolion a siopau oedolion, ac ati...).

8. Hyd y cynllun

1 Mai 2023 hyd 02 Ebrill 2029

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£125,400,000:00 (amcangyfrif)

10. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu ar ffurf cyngor a chymorth – a fydd â gwerth a briodolir iddo ac a gynigir ymlaen llaw mewn llythyr cynnig.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Entrepreneuriaid, microfusnesau a BBaCh yw'r unig fusnesau cymwys.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Prif nodwedd microfusnes yw ei fod yn eiddo ac yn gweithredu'n annibynnol, hynny yw, nid yw'n eiddo i fusnes mawr. Mae'r perchennog-rheolwr fel arfer yn gyfrifol am y rhan fwyaf o agweddau ar y busnes, os nad pob un.
  • Unrhyw gwmni sy'n tyfu, neu gwmni sy'n dangos y potensial i dyfu y mae ei fusnes yn cynhyrchu llif neu enillion ariannol cadarnhaol sylweddol; neu (gan ddefnyddio disgresiwn) llwybr twf uchel, yn gwario llawer o arian, cwmni a gefnogir gan fuddsoddiad ecwiti sy'n cynyddu ar gyfraddau llawer cyflymach na'r economi gyffredinol.
  • busnes twf uchel fel cwmni o 10 neu fwy o weithwyr sy'n tyfu naill ai ei gyflogeion neu ei drosiant o fwy nag 20% y flwyddyn ar gyfartaledd am dair blynedd yn olynol.
  • Rhaid i fusnesau a gefnogir fod yn masnachu o ganolfan yng Nghymru neu fod â'r bwriad i sefydlu lleoliad yng Nghymru.
  • Mewn achos o sioc economaidd neu newidiadau eraill yn yr economi yn ystod oes y contract, mae'r Awdurdod Contractio wedi ymrwymo i weithio gyda'r Cyflenwr i adolygu'r meini prawf cymhwystra yn ôl yr angen.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

I benderfynu ar swm y cymorthdal, byddwn yn defnyddio data hanesyddol sy'n gysylltiedig â Chymorth Gwladwriaethol i bennu uchafswm yr oriau cymorth Yna caiff y ffigur hwn ei luosi gan y gyfradd gyfartalog yr awr ar gyfer ein cynghorwyr dan gontract.

13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£50,000 y flwyddyn. Dyma'r gwerth cymhorthdal unigol mwyaf.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image