Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae'r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol er mwyn iddynt allu cyflwyno'r Cynllun Cymorth Costau Byw a fydd dyfarnu taliadau o £150 a Chynllun Cymorth Disgresiynol ar gyfer Costau Byw ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd y pecyn hwn fel rhan o Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar 15 Chwefror 2022. 

Trosolwg

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o fesurau er mwyn helpu pobl gyda'r argyfwng costau byw. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £152m i ddarparu taliad costau byw o £150 i aelwydydd cymwys (y prif gynllun) a £25m i ddarparu cymorth disgresiynol at ddibenion eraill sy'n ymwneud â chostau byw. 

Bwriedir i'r cynlluniau ddarparu cymorth ar unwaith wrth i Gymru adfer ar ôl y pandemig a helpu aelwydydd i ddelio ag effaith costau ynni a chostau eraill sy'n cynyddu. 

Gall y Gronfa Cymorth Dewisol gael ei defnyddio gan bob awdurdod lleol i gefnogi aelwydydd eraill y mae'n ystyried bod angen cymorth arnynt gyda'u costau byw. Bydd pob awdurdod lleol yn penderfynu pa ddefnydd y bydd yn ei wneud o gymorth disgresiynol fel sy'n briodol i ddiwallu anghenion lleol, yn ei farn ef.

Cymhwystra ar gyfer taliadau: y Cynllun Cymorth Costau Byw

Gellir gwneud taliad o £150 i aelwyd o dan y prif gynllun os bydd y deilia(i)d tŷ yn bodloni un o'r amodau canlynol. 

A. Amod Hawlio Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

Os oedd y deilia(i)d tŷ yn cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ar 15 Chwefror 2022, asesir bod ganddo/ganddynt hawl i gael taliad o £150 yn awtomatig waeth beth fo'r band prisio y mae ei eiddo/eu heiddo ynddo.

B. Amod Bandiau'r Dreth Gyngor

Asesir bod gan aelwydydd sy'n meddiannu eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor hawl i gael taliad o £150 ar yr amod eu bod yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:

  • yn atebol i dalu'r dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022
  • ddim wedi cael eithriad ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022
  • yn byw yn yr eiddo hwnnw fel eu prif breswylfa ar 15 Chwefror 2022
  • Yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill yr eir iddynt yn rheolaidd ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022.

Gall awdurdodau lleol sy'n gweinyddu'r cynllun dybio'n rhesymol bod aelwyd(ydd) sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor hefyd yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau a'r biliau eraill yr eir iddynt yn rheolaidd. 

Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo sy'n cael gostyngiadau yn y band oherwydd addasiadau anabledd yn gymwys i gael taliad, er enghraifft, mae eiddo a brisiwyd fel Band E ond sy'n cael gostyngiad yn y band i Fand D oherwydd addasiadau anabledd yn gymwys.

Mae aelwydydd yn gymwys i gael taliad o dan y cynllun hwn os caiff band eu heiddo fel roedd wedi'i gofnodi yn rhestr bandiau'r dreth gyngor ar 15 Chwefror 2022 ei newid yn ôl-weithredol ar ôl y dyddiad hwn fel ei fod mewn band cymwys, er enghraifft, oherwydd her lwyddiannus i'r band a wnaed i Asiantaeth y Swyddfa Brisio a gwblhawyd ar ôl y dyddiad hwn. Mae aelwydydd sy'n byw mewn adeiladau newydd sy'n aros am fand gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn gymwys i gael taliad os bydd y band a roddwyd wedyn i'r eiddo gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a ddaeth i rym ar 15 Chwefror 2022, yn bodloni'r meini cymhwyso ar gyfer y cynllun.  Dylai unrhyw anghydfod ynghylch bandiau eiddo gael ei ddatrys drwy brosesau arferol Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Fodd bynnag, am resymau gweithredol, ni chaiff taliadau eu gwneud mwyach mewn perthynas â'r rhain ar ôl i'r cynllun ddod i ben ar 30 Medi 2022. 

Mae pob aelwyd wedi'i chyfyngu i un taliad o £150 yn unig

Dim ond un taliad a gaiff ei wneud mewn perthynas ag unrhyw annedd unigol o dan y prif gynllun. Yn achos atebolrwydd ar y cyd ac unigol, dim ond un taliad a gaiff ei wneud a dylid ei dalu i'r unigolyn cyntaf a enwir ar fil y dreth gyngor. Pan nad yw hyn yn bosibl, gall awdurdodau lleol nodi'r unigolyn mwyaf priodol y dylid gwneud y taliad iddo.

Cymhwystra ar gyfer taliadau: y Cynllun Cymorth Disgresiynol ar gyfer Costau Byw

Yn ogystal â chefnogi'r categorïau cymwys a amlinellwyd uchod drwy'r prif gynllun, caiff pob awdurdod lleol ddefnyddio'r cyllid a ddarperir o dan y Cynllun Disgresiynol i gefnogi aelwydydd y mae angen cymorth arnynt gyda'u costau byw, ym marn yr awdurdod lleol. Gall y cymorth hwn fod ar ffurf taliad i aelwyd nad yw wedi'i chwmpasu eisoes gan y prif gynllun, neu gall dalu costau gwasanaethau hanfodol a ddarperir i'r aelwyd, er enghraifft ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim neu brydau bwyd ar glud.  

Bydd pob awdurdod lleol yn penderfynu sut y bydd yn defnyddio'r cyllid sydd ar gael a rhestrir rhai meysydd i'w hystyried yn y cynllun disgresiynol lleol isod:

  • Gellir darparu taliadau (neu gymorth arall) i aelwydydd nad ydynt yn perthyn i un o ddosbarthiadau cymwys A neu B yn y prif gynllun neu sy'n byw mewn eiddo sydd wedi'i eithrio rhag talu'r dreth gyngor, er enghraifft pobl sy'n gadael gofal a phobl sydd wedi'u heithrio oherwydd nam meddyliol difrifol.
  • Gwneir gwneud taliadau i aelwydydd y gellir eu nodi ar wahân sy'n byw mewn Tai Amlfeddiannaeth.
  • Gellir dyfarnu taliad i aelwydydd sy'n cael gwasanaethau cymorth tai a/neu sy'n byw mewn llety dros dro neu loches. 

Edrychwch ar wefan eich awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut bydd y Cynllun Cymorth Disgresiynol yn gweithio yn eich ardal.

Dod o hyd i’ch awdurdod lleol.

Mae natur atodol y cynllun hwn yn cydnabod y gall fod yn fwy anodd nodi'r aelwydydd hyn ac y gall fod angen i awdurdod lleol arfer ei ddisgresiwn wrth benderfynu a ddylai aelwyd fod yn gymwys i gael cymorth. 

Gall yr awdurdod hefyd ddyfarnu swm llai neu dalu mewn rhandaliadau os bydd o'r farn na fyddai gwneud taliad llawn er budd pennaf aelwyd neu y gallai amharu ar ei lles. 

Cydnabyddir y gallai fod yn haws i daliadau neu'r gwaith o ddarparu cymorth arall i aelwydydd o'r fath gael eu gweinyddu/ei weinyddu gan wasanaethau arbenigol yn yr awdurdod lleol – e.e. gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau digartrefedd, gwasanaethau cymorth addysgol ac ati ar wahân i'r gwaith o weinyddu taliadau yn seiliedig ar gofnodion y dreth gyngor.

Proses

Bydd awdurdodau lleol yn defnyddio cronfeydd data'r dreth gyngor sy'n bodoli eisoes i nodi aelwydydd sy'n gymwys i gael taliad o dan y prif Gynllun Cymorth Costau Byw. Maent yn dal yr holl wybodaeth eiddo am fandiau prisio sydd ei hangen i ddewis y garfan berthnasol i gael cymorth. Os delir manylion banc cyfredol gan yr awdurdod lleol ar gyfer taliad drwy ddebyd uniongyrchol a bod yr awdurdod yn fodlon bod y data yn gywir, caiff wneud taliad i'r cyfrif banc perthnasol.

Gofynnir i awdurdodau lleol hefyd nodi aelwydydd cymwys o ddata llwyth achos presennol Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. Os bydd yr awdurdod yn fodlon ei fod yn dal manylion banc cyfredol, unwaith eto caiff wneud taliad i'r cyfrif banc perthnasol.

Fodd bynnag, bydd llawer o aelwydydd yr ymddengys eu bod yn gymwys i gael y taliad o £150 ond na ddelir yr holl wybodaeth angenrheidiol amdanynt. Bydd angen i bobl yn y grŵp hwn gwblhau ffurflen gofrestru er mwyn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen i'r awdurdod. Bydd pob awdurdod lleol yn gyfrifol am ddarparu ei ffurflen gofrestru ei hun ym mha fformat bynnag sy'n briodol, ym marn yr awdurdod lleol. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i lunio ffurflen ‘enghreifftiol’ at y diben hwn. 

Rhaid i ymatebion i'r cofrestriad gael eu cwblhau erbyn 5.00pm ar 30 Medi 2022.

Gofynion hygyrchedd

Bydd angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y ffurflen gofrestru ac unrhyw ddeunyddiau codi ymwybyddiaeth lleol yn hawdd i'w deall. Bydd hefyd angen iddynt ddarparu gwybodaeth yn Gymraeg a Saesneg a helpu cwsmeriaid sy'n ei chael hi'n anodd defnyddio cyfleusterau ar-lein.

Gofynion gwirio

Cadarnhau pwy yw'r deilia(i)d tŷ

Rhagwelir y bydd y wybodaeth a ddarperir drwy'r broses gofrestru a/neu sydd eisoes wedi'i chofnodi fel rhan o gofnodion y dreth gyngor neu ddata Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn ddigonol i gadarnhau pwy yw'r deilia(i)d tŷ (a'i bartner/a'u partner). Gall awdurdodau benderfynu rhoi gwiriadau cadarnhau llymach ar waith yn ôl eu parodrwydd i dderbyn risg a dylid nodi'r rhain yn glir yng nghynnwys y broses gofrestru.

Er mwyn atal awdurdodau rhag gorfod mynd ati i gadarnhau costau eiddo cysylltiedig ar gyfer pob ymgeisydd, cytunwyd, os bydd deiliad tŷ (neu ei bartner) yn atebol i dalu'r dreth gyngor ac yn meddiannu'r eiddo, y gellir derbyn hyn fel prawf mai'r deiliad tŷ a/neu ei bartner sy'n gyfrifol am dalu'r biliau cysylltiedig. 

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn bod risg fach iawn y gallai deiliad tŷ (neu ei bartner) fod yn atebol i dalu'r dreth gyngor ond na fyddai'n gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau. Ni fyddai'r risg hon yn cyfiawnhau mynd ati i gadarnhau atebolrwydd o'r fath ar gyfer pob taliad a byddai'n cael ei lliniaru'n rhannol gan ddatganiad y deiliad tŷ mai ef yw'r talwr biliau cyfleustodau fel rhan o'r broses gofrestru, os bydd angen cofrestriad o'r fath. 

Cydnabyddir hefyd fod rhai sefyllfaoedd lle na fydd yr unigolyn (unigolion) sy'n talu'r biliau cyfleustodau cysylltiedig, o bosibl, yn atebol i dalu'r dreth gyngor. Dylid ystyried aelwydydd o'r fath ar gyfer cymorth o dan y Cynllun Disgresiynol. 

Cadarnhau nad yw'r deiliad tŷ na'i bartner eisoes wedi cael taliad o dan y cynllun

Bwriedir i'r prif gynllun ddarparu cymorth untro i bob aelwyd gymwys er y gellir darparu cymorth ychwanegol o dan y Cynllun Disgresiynol i aelwydydd sydd wedi cael cymorth o dan y prif gynllun. Bydd angen i awdurdodau sicrhau bod ganddynt systemau ar waith i atal taliadau dyblyg rhag cael eu gwneud yn anfwriadol i aelwydydd lle mae'r deiliad tŷ neu ei bartner eisoes wedi cael taliad gan yr awdurdod o dan y cynllun naill ai fel un person neu fel rhan o'r un aelwyd neu aelwyd wahanol.

Penderfyniadau, taliadau ac apeliadau

Penderfyniadau

Nid yw dyfarniad a wneir o dan y Cynllun Cymorth Costau Byw yn daliad argyfwng nac yn daliad yn lle incwm. Am y rheswm hwn, nid oes unrhyw amserlen benodol ar gyfer gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, rhaid i benderfyniadau gael eu gwneud yn brydlon er mwyn hwyluso taliadau cyn gynted â phosibl. Caiff cyfnod addas ei bennu at ddibenion gweithredol.

Taliadau

Anogir awdurdodau i ddarparu taliadau i aelwydydd cymwys yn amserol a dylid gwneud taliadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl i benderfyniad i dalu gael ei wneud. 

Dylid gwneud taliadau o dan y prif gynllun fel un taliad o £150 i fanylion y cyfrif banc sydd ar gael neu a ddarparwyd ar adeg cofrestru. Cydnabyddir ei bod yn bosibl y bydd rhai awdurdodau am wneud taliadau drwy siec neu ddull arall.  Felly, gall awdurdodau lleol ddewis sut y caiff y cymorth hwn ei ddarparu i bob aelwyd gymwys er mwyn sicrhau y caiff taliadau eu gwneud cyn gynted â phosibl. 

Dylai pob derbynnydd gael llythyr, neges e-bost neu neges destun er mwyn cadarnhau ei fod yn gymwys a bod ei daliad wedi'i brosesu.

Apeliadau

Nid oes unrhyw hawl i apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad i beidio â dyfarnu taliad. Ni fydd pobl y gwrthodir dyfarnu taliad iddynt yn gymwys am nad ydynt yn bodloni'r meini prawf cymhwystra. Fodd bynnag, byddai'n arfer dda amlinellu'r rheswm dros wrthod a nodi'n glir y gall pobl ailgyflwyno gwybodaeth os oedd yn anghywir.

Yr Effaith ar Dreth a Budd-daliadau

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cadarnhau bod taliadau a wneir o dan Ddarpariaeth Llesiant Leol yn cael eu diystyru wrth asesu Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm. Felly, nid effeithir ar y rhain. Ni fydd hawlwyr Credyd Cynhwysol yn gweld unrhyw newid yn eu hawl i gael Credyd Cynhwysol o ganlyniad i gael taliad o dan y cynllun hwn.

Mae CThEM wedi cadarnhau y byddai'r taliad o £150 yn cael ei wneud fel Darpariaeth Llesiant Leol ac nad yw'n drethadwy. O ganlyniad, ni fydd angen i awdurdodau roi manylion y taliadau a wneir o dan y cynllun hwn i CThEM. 

Gan fod y taliad hwn yn cael ei ystyried yn Ddarpariaeth Llesiant Leol, caiff ei ddiystyru hefyd fel incwm at ddibenion asesu cymhwystra ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

Cyllid a'r galw rhagamcanol

Cyllid

Fel yr amlinellwyd uchod, mae cyfanswm o £177m wedi'i nodi ar gyfer y Cynllun Cymorth Costau Byw a'r Cynllun Disgresiynol. Nodwyd y bydd cryn nifer o achosion pan na fydd yr awdurdod lleol yn dal yr holl wybodaeth berthnasol i wneud taliad ac y bydd yn rhaid iddo sicrhau bod y cynllun ar gael i bob aelwyd y nodwyd ei bod yn gymwys.

Y galw rhagamcanol

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi tua 740,000 o eiddo sydd ym Mandiau A i D y dreth gyngor ar hyn o bryd. 

Hefyd, mae tua 273,000 o eiddo yn cael cymorth o dan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gan gynnwys 18,600 ym Mandiau E i  I. 

Er mwyn helpu awdurdodau i gynllunio adnoddau, darperir cyfrifiadau manylach o'r niferoedd disgwyliedig ar gyfer pob awdurdod. 

Bydd angen i awdurdodau bennu llinell sylfaen fel man cychwyn ar gyfer cyflwyno'r cynllun drwy dynnu nifer yr eiddo cymwys o gronfeydd data'r dreth gyngor a Chynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor. 

Cofnodion i'w cadw gan awdurdodau yng Nghymru

Dylai awdurdodau roi gwybodaeth y gofynnir amdani i Lywodraeth Cymru er mwyn darparu ar gyfer adrodd ar y ffordd y mae'r Cynllun Cymorth Costau Byw yn cael ei chyflwyno. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys:

  • nifer yr eiddo a nodwyd ym mhob un o fandiau eiddo A i D
  • nifer yr eiddo o gan Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ym Mandiau E i I
  • nifer yr aelwydydd sy'n gymwys
  • nifer y ceisiadau i gofrestru
  • nifer y taliadau a wnaed
  • dadansoddiad o'r categorïau y maent wedi'u talu oddi tanynt. 

Caiff ffurflenni eu cyflwyno bob mis.

Hysbysiadau preifatrwydd

Fel y proseswyr data, dylai awdurdodau ddiweddaru hysbysiadau preifatrwydd er mwyn dangos eu bod yn prosesu taliadau'r Cynllun Cymorth Costau Byw. 

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd.

Monitro a gwerthuso

Caiff y Cynllun Cymorth Costau Byw ei fonitro a chaiff gwerthusiadau eu rhannu â swyddogion Llywodraeth Cymru a chysylltiadau ar gyfer y cynllun o fewn awdurdodau. Rhoddir diweddariadau i Weinidogion Cymru yn ôl yr angen.

Bydd hyn yn cynnwys adrodd ar nifer yr aelwydydd sydd wedi cael cymorth o dan y cynllun, cyfanswm y gwariant a throsolwg o unrhyw broblemau a wynebwyd mewn perthynas â gweinyddu'r cynllun.

Uwchgyfeirio ymholiadau

Dylid cyfeirio ymholiadau ynglŷn â'r cynllun fel a ganlyn:

  • Dylid cyfeirio pob anghydfod sy'n ymwneud â dyfarnu/peidio â dyfarnu taliad at yr awdurdod lleol perthnasol.
  • Dylid cyfeirio problemau sy'n ymwneud ag egwyddorion cyffredinol y prif Gynllun Cymorth Costau Byw at Lywodraeth Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Cwestiynau cyffredin

Os gall awdurdodau nodi aelwydydd cymwys a bod ganddynt fanylion banc cyfredol amdanynt, a all taliad y Cynllun Cymorth Costau Byw gael ei wneud heb fod angen cadarnhau manylion?

A.  Gall, ar yr amod bod yr awdurdod lleol wedi bodloni ei ofynion ei hun.

Bydd grwpiau o aelwydydd incwm isel nad ydynt yn atebol i dalu'r dreth gyngor. Pam nad yw'r rhain wedi'u cynnwys fel aelwydydd cymwys ar gyfer y cynllun?

Bwriedir i'r cynllun hwn roi cymorth i'r rhai y gellir eu nodi'n hawdd drwy ddefnyddio data'r dreth gyngor. Mae Cynllun Disgresiynol hefyd yn cael ei ddarparu er mwyn helpu aelwydydd nad ydynt yn atebol i dalu'r dreth gyngor.

Gall aelwydydd hefyd wneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol os ydynt yn wynebu caledi ariannol. 

A fydd y taliad o £150 yn effeithio ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd?

Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi cadarnhau bod taliadau a wneir o dan Ddarpariaeth Llesiant yn cael eu diystyru wrth asesu Cymorth Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm. Felly, nid effeithir ar y rhain. Nid oes darpariaeth o'r fath ar gyfer hawlwyr Credyd Cynhwysol ond gan nad oes unrhyw gyfnod ynghlwm wrth y taliad, bydd yn cyfrif fel cyfalaf ac efallai y bydd angen i hawlwyr roi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am hyn os bydd eu cyfalaf yn fwy na £5,800. 

Mae deilia(i)d tŷ y mae ei brif/eu prif breswylfa yn Lloegr wedi gwneud cais i'r cynllun ar gyfer ei ail/eu hail eiddo yng Nghymru. Mae/maent yn atebol i dalu'r dreth gyngor ac yn gyfrifol am dalu'r biliau ynni yn yr eiddo, a yw/ydynt yn gymwys i gael taliad?

Nac ydy/ydynt. Bwriedir i'r cynllun gefnogi aelwydydd yn eu prif breswylfa yn unig. 

Mae deilia(i)d tŷ yn berchen ar ddau gartref yng Nghymru, a yw/ydynt yn gymwys i gael cymorth drwy'r cynllun?

Dim ond mewn perthynas â'r eiddo y mae/maent yn byw ynddo fel prif breswylfa (os nad yw/ydynt yn meddiannu un o'r ddau gartref hyn fel eu prif breswylfa). 

Mae deilia(i)d tŷ yn byw mewn eiddo ym Mand E ond yn cael Gostyngiad yn y Band oherwydd Anabledd sy'n lleihau'r taliad i un ar gyfer eiddo ym Mand D – a yw/ydynt yn gymwys?

Ydy/ydynt. Defnyddir y band diwygiedig wrth asesu cymhwystra ar gyfer y cynllun hwn. 

A oes dyddiad targed ar gyfer gwneud taliadau?

Nac oes. Anogir awdurdodau i wneud taliadau yn amserol a chyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl penderfyniad llwyddiannus.

A all deilia(i)d tŷ apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu taliad o dan y Cynllun Cymorth Costau Byw? 

A.  Na all/allant. Nid oes hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â rhoi taliad oherwydd caiff ei wrthod am nad yw'r aelwyd yn bodloni amodau'r cynllun. Dylai awdurdodau ailystyried achosion lle y gallai gwybodaeth newydd newid y canlyniad, er enghraifft, pan gaiff eiddo ei gofrestru'n ôl-weithredol fel un sy'n atebol i dalu'r dreth gyngor.