Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cronfa Tai â Gofal (HCF)

3. Sail gyfreithiol y DU

Adrannau 1 a 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adrannau 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

4. Amcanion y cynllun

Nod y gronfa yw cefnogi'r gwaith o ddarparu llety a thai â chymorth i bobl ag anghenion gofal a chymorth sy'n agored i niwed mewn cymdeithas. Prif amcan y grant cyfalaf HCF yw darparu cymorth ariannol i sicrhau bod y sefydliadau cyflawni yn parhau i ddatblygu a/neu brynu eiddo i bobl ag anghenion gofal a chymorth i fyw'n annibynnol yn eu cymunedau.

5. Yr awdurdod cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Mae awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, byrddau iechyd a sefydliadau'r trydydd sector yn fentrau cymwys.

7. Sector(au) a gefnogir

Adeiladu

8. Hyd y cynllun

Dyddiad dechrau: 22 Chwefror 2024

Dyddiad dod i ben:  31 Mawrth 2027

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£60 miliwn

10. Math o gefnogaeth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae'r Gronfa Tai â Gofal (HCF) yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau Lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, Byrddau Iechyd a sefydliadau'r Trydydd Sector ar gyfer gwahanol fathau o brosiectau fel grant cyfalaf.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Ar gyfer pob prosiect o dan amcan 1 mae HCF yn cyfrifo'r lefelau grant gan ddefnyddio'r Model Hyfywedd Safonol (“SVM”) ar gyfer buddsoddiadau tai a llety a gaiff eu hariannu a osodir fel tenantiaethau cymdeithasol.

Oherwydd ystod ac amrywiaeth y prosiectau o dan Amcan 2, caiff ceisiadau eu hasesu a chaiff cyfraddau grant eu pennu fesul achos unigol.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£5 miliwn

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image