Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Her Morlyn Llanw

3. Sail gyfreithiol y DU

Mae pwerau Gweinidogion Cymru sy'n caniatáu i Lywodraeth Cymru gefnogi mentrau o dan y cynllun wedi'u cynnwys yn:

  • Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (adrannau 58A a 60(1)(c))

Bydd y cynllun a'r holl gymorthdaliadau a ddarperir o dan y cynllun yn cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymhorthdal y DU.

4. Amcanion y Cynllun

Amcanion polisi'r cynllun yw:

  • deall a mynd i'r afael â rhwystrau sydd wedi atal datblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru hyd yma, a
  • mesur y manteision posibl y gellir eu gwireddu drwy ddatblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru.

Mae hyn yn unol ag ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i "Ddatblygu Her Morlyn Llanw a chefnogi syniadau a all wneud Cymru'n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw newydd".

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Sefydliad prifysgol neu sefydliad addysg uwch tebyg, sefydliad ymchwil y llywodraeth, neu sefydliad ymchwil a thechnoleg nid-er-elw (RTO).

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgareddau proffesiynol, gwyddonol a thechnegol.

8. Hyd y cynllun

Dechrau: Ebrill 2024
Diwedd: Ebrill 2028
Hyd: 4 blynedd

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£750,000

10. Math o gefnogaeth

Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael ei ddyfarnu drwy grantiau

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Rhaid i fentrau fod yn sefydliad prifysgol neu sefydliad addysg uwch tebyg (SAU), sefydliad ymchwil y llywodraeth, neu sefydliad ymchwil a thechnoleg nid-er-elw (RTO). Caniateir cynigion consortiwm neu bartneriaeth, gan gynnwys consortia sy'n cynnwys sefydliadau o fathau eraill.

Mae'n rhaid i fentrau fod yn cynnal ymchwil newydd i ddeall y rhwystrau i ddatblygu morlynnoedd llanw yng Nghymru, a'u meintioli.

Rhaid i fentrau fod yn barod i drwyddedu'r ymchwil fel ei fod ar gael i’r cyhoedd.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Bydd cymorthdaliadau yn 100% o'r gost economaidd lawn (fEC) a gyfrifir yn unol â methodoleg TRAC (Ymagwedd Dryloyw at Gostio a Phrisio) (Prifysgolion a chyrff Addysg Uwch eraill) neu fethodoleg gyfatebol ar gyfer Sefydliadau Ymchwil eraill.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£250,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image