Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

3. Sail gyfreithiol y DU

Adran 18 o Ddeddf Dai 1996, ac adrannau 58A a 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, i sefydlu’r Cynllun.

4. Amcanion y Cynllun

Mae’r cynllun cymhorthdal yn cyllido Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar ffurf grantiau i brynu eiddo i gefnogi lesddeiliaid sydd mewn caledi ariannol arwyddocaol trwy’r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd wedi dangos eu hymrwymiad i’r Cynllun trwy lofnodi Cytundeb Partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgareddau eiddo tirol

8. Hyd y Cynllun

2 Mai 2023 i 31 Mawrth 2025

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£30,000,000

10. Ffurf y cymorth

Grant uniongyrchol a benthyciad

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Mae’r cynllun yn agored i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy’n dangos eu hymrwymiad i’r Cynllun trwy lofnodi Cytundeb Partneriaid â Llywodraeth Cymru. Bydd y Cytundeb hwn yn cadarnhau bod y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i gefnogi’r Cynllun ac yn bwriadu cymryd rhan yn y Cynllun yn unol â’r egwyddorion a’r trefniadau y cytunwyd arnynt.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Pennir Cerrig Milltir a Thargedau yn unol â’r Cytundeb Partneriaeth a’r Llythyr Dyfarnu Grant a roddir gyda’r arian a ddyfernir. Bydd y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig yn prynu’r eiddo a nodir trwy’r Cynllun Cymorth i Les-ddeiliaid a bydd yn cadarnhau’r dyddiad cwblhau a ddisgrifir.

Caiff cyfuniad 50:50 o fenthyciad a grant ei neilltuo i’r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i dalu pris prynu’r eiddo. Fel y cytunwyd gan y sector, caiff addasiad o’r Model Hyfywedd Safonol ei ddefnyddio gan y tîm Grantiau Tai Cymdeithasol i gyfrif hyn.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£5,000,000

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Cymru

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image