Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

3. Sail gyfreithiol y DU

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015

4. Amcanion y Cynllun

Cyllid ledled Cymru ar gyfer awdurdodau lleol drwy Ranbarthau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; a gwasanaethau arbenigol i gyflawni strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

  • Gwasanaeth Arbenigol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
  • Rhanbarthau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgareddau gwasanaeth eraill

8. Hyd y cynllun

365 o ddiwrnodau o 01 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

£10,200,000

10. Ffurf y cymorth

Bydd pob cymhorthdal sy’n cael ei ddyfarnu o dan y Cynllun yn cael ei roi ar ffurf grant.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Gweithredu Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 a chefnogi’r rhai sydd wedi dioddef a goroesi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Cyfrifir dyraniadau rhanbarthol drwy ddefnyddio fformiwla Barnett ar gyfer y rhanbarthau. Mae dyraniadau trydydd sector i lenwi bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£1,000,000 

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image