Ffurflen gais am cyllid i ddarparu a datblygu cyfleoedd gwaith ieuenctid i bobl ifanc 11 i 25 oed.
Dogfennau

Ffurflen gais , math o ffeil: DOCX, maint ffeil: 237 KB
DOCX
237 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Cymhwysedd
Er mwyn ymgeisio am gyllid rhaid i chi:
- fod yn sefydliad ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol sy’n gweithredu ledled Cymru (gweithredu mewn 18 o awdurdodau lleol o leiaf, nail ai’n gorfforol neu’n ddigidol), a/neu
- fod yn darparu gwasanaethau gwaith ieuenctid arbenigol wedi’u hanelu at bobl ifanc â nodweddion gwarchodedig neu sydd o gefndir economaidd-gymdeithasol difreintiedig nad ydynt yn wasanaethau sy’n cael eu darparu’n eang unrhyw le arall ac a fyddai o berthnasedd strategol i’r strategaeth gwaith ieuenctid drwy sicrhau bod cyfleoedd yn fwy cydradd ac amrywiol.
Gall Ceisiadau fod yn gynigion ar y cyd.
- fod yn cyflawni gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed yn unol â:
- Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid
- Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion a Dibenion
- Strategaeth Genedlaethol Gwaith Ieuenctid Cymru 2019
- gydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011, a’r Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.
- dangos sut yr ydych yn bodloni gofynion iaith y bobl ifanc yr ydych yn gweithio gyda nhw, a
- dangos sut y byddwch yn rhannu sgiliau ac arferion addawol gydag eraill, yn enwedig o ran cynyddu cydraddoldeb ac estyn allan i wella cynwysoldeb.
Ceisiadau
Cynigir y bydd y cylch ariannu newydd yn dechrau ym mis Mai 2023 ac yn dod i ben ar 31 Mawrth 2025.
I wneud cais am y grant, rhaid llenwi ffurflen gais a dychwelyd copi caled erbyn 10am ar 11 Ebrill 2023.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael gan:
Y Gangen Ymgysylltu ag Ieuenctid
Ffôn: 0300 250 0485. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
E-bost: gwaithieuenctid@llyw.cymru