Neidio i'r prif gynnwy

Y cynnydd hyd yma ar ein cynllun i sefydlu Cymru yn wlad sy'n deall dementia.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Datblygu ein cynllun olynol

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar olynydd y cynllun gweithredu dementia, ac rydym yn defnyddio'r gwerthusiad a gyhoeddwyd o'r cynllun gweithredu dementia i lywio ein dull gweithredu ar gyfer y gwaith hwn.

Rydym wedi ymrwymo i gyd-gynhyrchu'r cynllun newydd, drwy gynnwys partneriaid a phobl sydd â phrofiad bywyd drwy  gydol y broses. Nid yw hon yn broses gyflym, ac ni ddylai fod felly. Dyma daith hirdymor i sicrhau bod y gofal a chymorth gorau posibl yn cael eu darparu i bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'r gwaith hwn yn parhau i symud yn ei flaen, ac mae wedi cynnwys presenoldeb mewn nifer o ddigwyddiadau, ynghyd â holiadur cyhoeddus sy'n cael ei ddefnyddio i lunio ein gweithgareddau ymgysylltu ar gyfer olynydd y cynllun gweithredu dementia.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi dogfen ymgynghori tua diwedd y flwyddyn galendr hon, yn seiliedig ar y gwaith hwn a'r ymgysylltiad parhaus â rhanddeiliaid.

Mae'r gwaith ar ddatblygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer olynydd y cynllun gweithredu dementia yn mynd rhagddo, gan gynnwys ffocws ar strwythur, aelodaeth, ac allbwn ein grwpiau ymgysylltu ac atebolrwydd.

Yn ddiweddar, fe wnaethom ailsefydlu "is-grŵp y Gymraeg a dementia", ac yn ein cyfarfodydd fe wnaethom drafod y gwerthusiad o'r cynllun gweithredu dementia a chlywed am brofiadau aelodau o ofal dementia a'r Gymraeg. Bydd y grŵp yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddarparu eu blaenoriaethau allweddol ar gyfer y cynllun gweithredu dementia newydd. Yn yr un modd, mae gwaith ar y gweill i ailffocysu gweithgarwch y grŵp dysgu a datblygu i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a gweithredu'r cynllun newydd.

Wrth inni edrych i'r dyfodol, bydd y cynllun newydd yn rhoi pwyslais cryf ar wella'n barhaus ac arloesi ym maes dementia. Rydym yn ystyried creu grŵp arloesi ac ymchwil pwrpasol. Bydd y grŵp yn cynnwys:

  • ymchwilwyr
  • arbenigwyr technoleg
  • arweinwyr clinigol
  • unigolion â phrofiad bywyd

Nod y grŵp yw hyrwyddo arloesedd ym maes gofal dementia, cefnogi mentrau ymchwil, a sicrhau bod arferion newydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu hintegreiddio i'r cynllun gweithredu dementia a'i gynlluniau cyflawni.

Iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia

Mae iechyd yr ymennydd yn thema sy'n dod i'r amlwg, ac rydym yn fwyfwy ymwybodol o'r ffactorau addasadwy sy'n chwarae rhan mewn dementia. Byddwn yn edrych i ymgorffori'r mewnwelediadau hyn mewn negeseuon iechyd ehangach yn y dyfodol.

Ym mis Gorffennaf, cynhaliodd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru weminar ar Iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia, gan ofyn y cwestiwn, "sut allwn ni sicrhau newid?". Mynychwyd y digwyddiad gan 190 o bobl, gyda chynrychiolaeth o fyrddau iechyd, awdurdodau lleol, y trydydd sector, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Roedd y cyflwyniadau'n cynnwys trafodaeth ar y fframwaith iechyd a gofal seiliedig ar atal, a ddatblygwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac a gyhoeddwyd ym mis Mai eleni. Mae'r fframwaith yn darparu dull gweithredu systematig ar gyfer deall y camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni nodau atal penodol. Yna rhoddodd Andrew Rogers, darlithydd mewn Iechyd y Cyhoedd, gyflwyniad ar dargedu gweithgarwch atal wrth hybu iechyd cymunedol.

Dilynwyd hyn gan ddiweddariad gan Natalie Elliott, Ymgynghorydd Cenedlaethol Proffesiynau Perthynol i Iechyd, a'r Arweinydd ar gyfer Dementia, ar iechyd yr ymennydd ac atal dementia. Roedd y diweddariad yn cynnwys fframwaith dementia ar gyfer y proffesiynau perthynol i iechyd, clinigau optimeiddio iechyd yr ymennydd, cwrs ar nam gwybyddol ysgafn, yn ogystal ag adnoddau fel cael "sgyrsiau tosturiol".

Rhaglen sgyrsiau tosturiol

Nod y rhaglen sgyrsiau tosturiol, a ddatblygwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yw cefnogi Gweithwyr Iechyd Proffesiynol Perthynol i Iechyd i ddiwallu anghenion cynyddol amrywiol a chymhleth gofal iechyd modern. Cafodd y rhaglen ei datblygu'n seiliedig ar egwyddorion tosturi, hunanofal a chyfweld ysgogol, ac mae wedi cynhyrchu ystod o adnoddau a phecynnau hyfforddi i helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i godi materion, eu trafod yn fyr, a chyfeirio aelodau o'r cyhoedd mewn perthynas ag amrywiaeth o bynciau iechyd a llesiant.

Mae grŵp cenedlaethol o weithwyr proffesiynol a phobl sydd â phrofiad bywyd o ddementia wedi cyd-gynhyrchu adnodd sy'n ymdrin ag iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia, a lansiwyd ym mis Gorffennaf. Mae'r adnodd hwn yn codi ymwybyddiaeth o'r 14 ffactor risg ar gyfer dementia, ac yn darparu gwybodaeth i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol er mwyn magu hyder wrth drafod iechyd yr ymennydd a lleihau risg dementia.

Cefnogi'r ddarpariaeth yn y Gymraeg a gwella ein cynnig gwybodaeth

Prosiect dementia y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Llywodraeth Cymru

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu adnoddau penodol a chynllun i gefnogi'r rheini sy'n gweithio gyda phobl â dementia.

Mae cyllid wedi'i ddarparu i greu rhaglen dysgu Cymraeg sy'n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes hwn a sicrhau bod adnoddau "dysgu Cymraeg" addas ar gael. Bydd yn cynnwys hyrwyddo cyrsiau hunan-astudio ar-lein pwrpasol, ynghyd â chefnogaeth gan diwtor Cymraeg, a ddatblygwyd yn benodol ar gyfer y rheini sy'n gweithio gyda phobl â dementia. Bydd hyn yn arwain at well ymwybyddiaeth o bwysigrwydd defnyddio'r iaith gyda chleifion, ac yn cynyddu'r defnydd ohoni. Bydd gwahanol elfennau o'r rhaglen yn rhoi cyfle i unigolion, sydd heb fawr ddim Cymraeg, ddysgu geiriau sylfaenol i'w defnyddio gyda chleifion a theuluoedd o dan eu gofal.

Bydd cyfle hefyd i unigolion sydd â rhywfaint o Gymraeg, ond heb yr hyder i'w defnyddio, wneud mwy o ddefnydd ohoni wrth ddarparu gofal i gleifion a'u teuluoedd.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun, cysylltwch â:

Dilysu profion asesu gwybyddol Cymraeg

Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad ar ganfyddiadau'r cam cyntaf o'r ymchwil i dilysu profion asesu gwybyddol Cymraeg: cam 1. Nod yr ymchwil hon oedd sefydlu fframwaith asesu cynhwysfawr i gynorthwyo mewn diagnosis cywir o ddementia ymhlith unigolion sy'n siarad Cymraeg. Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • adolygiad o ganllawiau asesu dementia yn y DU
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru i nodi'r profion asesu gwybyddol a ddefnyddir fwyaf mewn Gwasanaethau Asesu'r Cof yng Nghymru
  • archwiliad o briodweddau seicometrig y profion sydd wedi'u cyfieithu i'r Gymraeg

Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys nodi strategaethau i gasglu data o ansawdd uchel ar y profion Cymraeg a ddefnyddir fwyaf er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu dilysu ac y gellir eu dehongli mewn modd dibynadwy mewn lleoliadau clinigol.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed o ran dilysu profion asesu gwybyddol Cymraeg, ac mae'n gosod y sylfaen ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol i sicrhau diagnosis dementia cywir a diwylliannol briodol, gan wella gofal i'r rheini sy'n cael eu heffeithio yng Nghymru yn y pen draw.

Roedd yr adolygiad, a gynhaliwyd rhwng misoedd Chwefror a Mai 2022, yn cynnwys archwiliad systematig o ganllawiau'r DU sy'n cymeradwyo'r defnydd o brofion asesu gwybyddol mewn gwahanol leoliadau gofal dementia, gan gynnwys asesiadau cychwynnol meddygon teulu, gwasanaethau asesu'r cof (MAS), lleoliadau gofal acíwt, a chartrefi gofal ledled Cymru. Fe wnaeth yr adolygiad ystyried priodweddau seicometrig a nodweddion pob prawf a grybwyllir yng nghanllawiau'r DU.

Cynhaliwyd gweithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Mawrth 2023, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o'r ymchwil a datblygu dull cydweithredol gyda MAS a rhanddeiliaid eraill. Trefnwyd nifer o drafodaethau cyhoeddus, cyflwyniadau, a chyfarfodydd i gyfnewid gwybodaeth ymhlith:

  • gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym maes gofal dementia
  • pobl sydd â phrofiad o fyw gyda dementia a'u gofalwyr
  • y gymuned ymchwil academaidd
  • aelodau o'r cyhoedd

Cyfrannodd tua 30 o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau megis Cymdeithas Alzheimer Cymru, Prifysgol Bangor, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, at ddiffinio cwmpas cam un yr ymchwil, gan helpu i lunio'r fethodoleg a argymhellir ar gyfer y camau dilynol.

Defnyddiwyd canfyddiadau cam 1 i sefydlu’r gofynion methodoleg, gan osod y sylfaen ar gyfer camau dilynol y gwaith dilysu. Dylai ymchwil yn y dyfodol adeiladu ar y canfyddiadau hyn i sicrhau bod profion asesu gwybyddol cadarn yn cael eu datblygu, sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn ieithyddol ar gyfer unigolion sy'n siarad Cymraeg.

Daeth yr adroddiad i ben gyda nifer o argymhellion ar gyfer cam nesaf yr ymchwil. Roedd yr argymhellion yn cynnwys blaenoriaethu dilysu'r ACE-III a'r Mini-ACE yn Gymraeg, cyfweld ag ymarferwyr MAS, a chynnal arsylwadau maes. Roedd argymhellion tymor hirach yn cynnwys:

  • cynnal astudiaeth beilot ar gyfer casglu data clinigol
  • casglu data normadol
  • ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid
  • cynhyrchu canllawiau ar gyfer ymarferwyr

Bydd yr argymhellion hyn yn cael eu bwydo i'r broses ymgynghori ar gyfer olynydd y cynllun gweithredu dementia.

Safonau ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch 

Lansiwyd y safonau cyfathrebu a gwybodaeth hygyrch ym mis Medi 2025. Yn 2023, adolygodd Llywodraeth Cymru effeithiolrwydd safonau Cymru gyfan ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch i bobl â nam ar eu synhwyrau a chyfathrebu â hwy, gan edrych ar y rhwystrau sy'n wynebu pobl wrth gael mynediad at ofal iechyd. Bu Llywodraeth Cymru yn cydweithio'n agos ac yn helaeth â chynrychiolwyr o holl gyrff GIG Cymru a phartneriaid allanol. Yn sgil y gwaith hwn, fe wnaethom ddatblygu argymhellion a chamau gweithredu sydd â'r nod o ddileu rhwystrau a sicrhau bod anghenion cyfathrebu a gwybodaeth cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, rhieni, a gofalwyr yn cael eu diwallu mewn modd cyson.

Ar ôl eu hadnewyddu, mae’r safonau bellach yn cynnwys:

  • cleifion nad ydynt yn defnyddio'r Saesneg na'r Gymraeg fel eu prif iaith
  • cleifion sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu oherwydd anabledd, dementia, cyflyrau iechyd meddwl
  • cleifion sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu oherwydd anawsterau dysgu
  • cleifion sy'n wynebu rhwystrau iaith a chyfathrebu sy'n deillio o niwrowahaniaeth neu lythrennedd isel
  • rhieni a gofalwyr (cleifion) sydd eu hunain yn wynebu rhwystrau iaith neu gyfathrebu

Mae'r safonau hefyd yn cyd-fynd â'r:

Mae'r weithrefn weithredu safonol yn ddogfen ganllaw gynhwysfawr ar gyfer staff y GIG i sicrhau bod safonau cyson yn cael eu cynnal wrth gomisiynu gwasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd neu dehongli.

Mae'r safon ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch yn cyfarwyddo ac yn diffinio dull gweithredu penodol a chyson i bractisau meddygon teulu ei ddefnyddio ar gyfer nodi, cofnodi, amlygu, rhannu, a diwallu anghenion gwybodaeth a chyfathrebu cleifion, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a rhieni. Cyhoeddwyd y safon ar gyfer darparu gwybodaeth hygyrch drwy Gylchlythyr Iechyd Cymru yn 2018, ac mae wedi'i hintegreiddio yn y safonau diwygiedig er mwyn sicrhau cysondeb.

Cynyddu cyfraddau ac amseroldeb rhoi diagnosis o ddementia

Mae gwella cyfraddau diagnosis a sicrhau bod data diagnosis ar gael yn parhau i fod yn faes blaenoriaeth. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer byrddau iechyd i gynorthwyo gyda chofnodi diagnosis o ddementia.

Mae'r gwaith hwn wedi cael ei gefnogi gan is-adran ansawdd, diogelwch a gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, sydd wedi datblygu cyfres o "adnoddau cyfathrebu cryno ar gyfraddau diagnosis o ddementia", i godi ymwybyddiaeth o ddementia a chofnodi cyfraddau diagnostig ar gyfer dementia.

Datblygu llwybr colli clyw dementia i Gymru gyfan

Mae yna dystiolaeth bod colli clyw a dementia yn aml yn cyd-ddigwydd ac yn effeithio ar ei gilydd (Livingstone et al. 2017). I bobl â dementia, gall colli clyw achosi problemau ychwanegol, fel dryswch am yr hyn sy'n digwydd o'u cwmpas a phroblemau gyda chyfathrebu (Dementia UK 2021). Ar hyn o bryd mae risg bod gan unigolion â dementia, neu unigolion y mae amheuaeth eu bod â dementia, yn colli clyw mewn modd sydd heb ddiagnosis a heb ei reoli, sy'n effeithio ar ansawdd eu bywydau (Dawes 2019). Canfu'r comisiwn lancet dystiolaeth bod colli clyw heb fod diagnosis a heb ei reoli, yng nghanol oes unigolyn, wedi'i nodi fel ffactor risg dementia y gellir gweithredu i'w leihau.

Cafodd llwybr colli clyw dementia Cymru gyfan ei ddatblygu gan awdiolegwyr i ddisgrifio'r llwybr i gleifion sydd â diagnosis o ddementia, neu gleifion yr amheuir eu bod â dementia, o adeg mynediad at asesiad clyw hyd at fonitro a rheoli colli clyw yn barhaus, gan sicrhau mynediad cyfartal at wasanaethau a chymorth ledled Cymru.

Gweithio ar draws meysydd polisi

Rydym yn aml yn gweithio ar draws timau i sicrhau bod dementia’n cael ei ymgorffori mewn darnau eraill o waith a'n bod yn dysgu o hynny.

Amlygir enghraifft ddiweddar yn adroddiad 2025 cynllun gweithredu cenedlaethol i atal cam-drin pobl hŷn.