Y Cynllun Gwella Safleoedd Fferyllfeydd Cymunedol
Cyfeirnod y cymhorthdal: SC11289 - yn cefnogi'r cefnogi Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn darparu gwell gwasanaethau gofal ac iechyd integredig yn agosach i’r cartref.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi’n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Y Cynllun Gwella Safleoedd Fferyllfeydd Cymunedol
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau i sefydlu cynllun o dan adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, adran 1(2), 1(3)(d) ac 1(7)(f) o Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 ac adrannau 1 i 3 o Ddeddf GIG (Cymru) 2006, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt barhau i hyrwyddo gwasanaeth iechyd cynhwysfawr yng Nghymru a’u galluogi i ddarparu’r gwasanaethau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol at y diben hwnnw.
4. Amcanion polisi penodol y cynllun
Bydd y cynllun grant cyfalaf ystadau fferyllfeydd cymunedol yn caniatáu i gontractwyr fferyllfeydd wneud cais am gyllid i roi prosiectau cyfalaf ar waith a fyddai’n eu helpu i gyflawni uchelgeisiau ‘Presgripsiwn Newydd’, gan felly gyflawni un o ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu i ddiwygio gofal sylfaenol a gwella’r mynediad at weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â chyfrannu at ddatblygu economi gryfach a gwyrddach wrth inni wneud cymaint o gynnydd ag y bo modd tuag at sicrhau Cymru sero net.
5. Diben y cynllun
Bydd y cynllun hwn yn cefnogi Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru er mwyn darparu gwell gwasanaethau gofal ac iechyd integredig yn agosach i’r cartref, gan annog y cyhoedd i geisio’r gofal cywir gan y person cywir y tro cyntaf.
Mae’r cynllun yn agored i holl gontractwyr fferyllfeydd cymunedol GIG Cymru (Fferyllwyr y GIG) fel y’u diffinnir gan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
Mae’r Cynllun Gwella Safleoedd Fferyllfeydd Cymunedol yn gynllun grant cyfalaf a weinyddir gan Lywodraeth Cymru. Mae grantiau ar gael hyd at uchafswm o £45,000 fesul ymgeisydd, gyda chyfanswm y gronfa grant yn £700,000 ar gyfer 2025/26. Ar gyfer prosiectau sydd â chyfanswm costau gwerth llai na £5,000, bydd y cynllun yn cynnig 100% o gymorth ariannol. Ar gyfer prosiectau sydd â chyfanswm costau gwerth mwy na £5,000, bydd y cynllun yn cynnig hyd at 50% o gyllid (hyd at uchafswm gwerth y grant o £45,000) gyda chontractwyr fferyllfeydd cymunedol yn ariannu gweddill costau’r prosiect.
6. Awdurdodau cyhoeddus sydd wedi’u hawdurdodi i weithredu’r cynllun
Llywodraeth Cymru
7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Mae’r cynllun yn agored i holl gontractwyr fferyllfeydd cymunedol GIG Cymru (Fferyllwyr y GIG) fel y’u diffinnir gan Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020.
8. Sectorau i’w cefnogi
Gweithgarwch iechyd pobl a gwaith cymdeithasol.
9. Hyd y cynllun
O 12 Mai 2025 hyd at 31 Mawrth 2026.
10. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn
£700,000
11. Ffurf y cymorth
Grantiau.
12. Telerau ac amodau cymhwysedd
Gellir defnyddio grantiau i wella safleoedd fferyllfeydd cymunedol gan ganolbwyntio ar unrhyw un o’r meini prawf a ganlyn:
- Buddsoddi mewn systemau digidol neu awtomatig i wella effeithlonrwydd y ffordd y caiff cyflenwadau meddyginiaethau y GIG eu dosbarthu.
- Gwella mynediad at wasanaethau clinigol fferylliaeth gymunedol y GIG.
- Annog cyfraniad GIG Cymru tuag at uchelgais y Gweinidogion i sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru, ar y cyd, yn garbon sero net erbyn 2030.
13. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Bydd grantiau bach (hyd at £5,000) yn cael eu hariannu yn eu cyfanrwydd gan y Cynllun Gwella Safleoedd Fferyllfeydd Cymunedol.
Ar gyfer prosiectau sydd â chyfanswm costau gwerth mwy na £5,000, dylai contractwyr fferyllfeydd cymunedol anelu at sicrhau cyllid cyfalaf cyfatebol ar gyfer grantiau mwy. Hynny yw, ni ddylai contractwyr fferyllfeydd cymunedol geisio grant i dalu 100% o’r gwaith ffisegol sydd i’w gynnal.
14. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£45,000
15. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
