Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion polisi

Mae cryn dipyn o sylw wedi’i roi, yng Nghymru, y DU a thu hwnt, i'r anawsterau y gall pobl eu hwynebu wrth chwilio am dai fforddiadwy o ansawdd (boed i’w prynu neu eu rhentu). Yn aml, mae’r anawsterau hynny yn gysylltiedig ag ail gartrefi. Mae hyn hefyd yn codi cwestiynau am gynaliadwyedd ein gwasanaethau cymunedol yn ogystal â’r ffaith nad yw cartrefi gwag yn ychwanegu dim at fywiogrwydd ein cymunedau. Mae ail gartrefi yn cyfrannu at yr her o ran fforddiadwyedd ac ynghlwm wrthi, ond ni ellir dweud mai ail gartrefi yw'r unig ‘broblem’.

Rydym yn cynnig pecyn o ymyraethau i gefnogi cymunedau Cymraeg sydd â lefelau uchel o ail gartrefi drwy dynnu ynghyd ymyraethau yn ymwneud â’r economi, tai, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol er mwyn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y cymunedau hyn, lle gall y Gymraeg barhau i ffynnu. Un o themâu canolog y cynllun yw cefnogi cymunedau i ganfod eu syniadau eu hunain a datblygu yn ôl eu hanghenion nhw, gan weithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid perthnasol sydd eisoes yn chwarae rhan bwysig o ran datblygu economaidd, datblygu tai a datblygu cymunedol, yn ogystal â'n partneriaid allweddol sy'n cefnogi'r defnydd o'r iaith yn ein cymunedau.

Bydd Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn cynnwys yr ymyraethau canlynol:

  • Mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol a arweinir gan y gymuned
  • Tai cydweithredol a thai a arweinir gan y gymuned
  • Grŵp llywio asiantiaid eiddo a rhanddeiliaid
  • Ymgyrch addysgiadol - 'Cyfle Teg’
  • Comisiwn Cymunedau Cymraeg
  • Bwrdd Crwn yr Economi, Tai a’r Gymraeg
  • Llysgenhadon diwylliannol
  • Enwau lleoedd Cymraeg

Casglu tystiolaeth ac ymgynghori â phlant a phobl ifanc

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ar draws Cymru a enwir yn y ddeddf i weithio tuag at saith nod llesiant. Dau ohonynt yw ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ a ‘Cymru o gymunedau cydlynus’. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant.

Y rhaglen lywodraethu 

Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yw un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru fel sydd wedi’i nodi yn ein Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026. Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys nifer o ymrwymiadau mewn perthynas â chartrefi, cymunedau a'r Gymraeg.

Cymraeg 2050

Mae strategaeth Cymraeg 2050 hefyd yn yn cynnig gweledigaeth ar gyfer Cymru lle bydd yr iaith yn ffynnu ledled y wlad. Un o brif amcanion y strategaeth yw cefnogi isadeiledd economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg er mwyn iddynt barhau i fod yn gymunedau lle mae'r iaith yn cael ei defnyddio fel prif iaith ac ym mhob agwedd ar fywyd bob dydd.

Ymgynghoriad

Mae'r maes gwaith hwn yn gymhleth. Rydym yn cynnig dull gweithredu sy'n ceisio mynd i'r afael â materion creiddiol y mae cymunedau Cymraeg yn eu hwynebu. Mae amrywiaeth o safbwyntiau ar sut y dylai Llywodraeth Cymru ymateb, ac felly cynhaliwyd ymgynghoriad ar y cynnig hwn rhwng 23 Tachwedd 2021 a 22 Chwefror 2022. Anogwyd pawb yn y cymunedau dan sylw ac mewn mannau eraill yng Nghymru i ymateb i'r ymgynghoriad ac i helpu i lywio Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. Cafwyd 776 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn i gyd.

Adroddiadau

Adroddodd Dr Simon Brooks yn adroddiad Ail Gartrefi

Ers argyfwng ariannol 2008, mae cymunedau Cymraeg fel nifer o gymunedau bregus eraill yng ngwledydd Prydain wedi wynebu newidiadau sosio-economaidd heriol.

‘Gyda’r bleidlais yn 2016 dros adael y Gymuned Ewropeaidd, daeth yn amlwg y byddai ardaloedd gwledig lle mae’r broblem ail gartrefi ar ei dwysaf yn mynd trwy ailstrwythuro sosio-economaidd a chymdeithasol ar lefel eang iawn. Yn ogystal â cholli cymorth Ewropeaidd rhanbarthol, gellid rhagweld gwanhau ar yr economi amaethyddol, rhagor o austerity yn effeithio ar y sector gyhoeddus, ac yn wir llu o heriau economaidd. Mae llawer o’r rhain yn effeithio ar sectorau lle cyflogir canran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg.

‘Mae ailstrwythuro economaidd yn debygol o fod yn heriol iawn o safbwynt cynaliadwyedd cymunedol yn yr ardaloedd hyn, ac felly i’r iaith Gymraeg. Y tebygolrwydd yw y bydd problemau strwythurol megis pobl ifanc Gymraeg yn gadael cymunedau gwledig oherwydd prinder cyfleoedd economaidd yn dwysáu.

Ystyrir y bydd gweithredu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn helpu pobl sydd am aros o fewn eu cymunedau i wneud hynny. Yn anuniongyrchol, gallai hyn gefnogi busnesau lleol, wrth i bobl leol ddefnyddio'r busnesau hynny drwy gydol y flwyddyn. Gallai hefyd gefnogi gwasanaethau lleol gan y byddai pobl yno i’w defnyddio’n gyson. Pan gaiff ail gartrefi a llety gwyliau eu defnyddio am ran o'r flwyddyn yn unig, efallai mai dim ond yn ystod y cyfnodau hynny y caiff gwasanaethau lleol eu defnyddio.

Tystiolaeth a astudiaeth achos

Mae lleoliad gofal plant Conwy yn enghraifft wych o arfer da lle roedd anghenion plant a theuluoedd wrth wraidd datblygu menter gymdeithasol a arweinir gan y gymuned.

Meithrinfa Gymraeg Derwen Ded (derwendeg.cymru) 

Sefydlwyd yn 2016 gyda throsiant o £248,875.

15 aelod o staff.

Prif nod y Feithrinfa yw darparu gofal plant yn y Gymraeg, a fydd yn helpu pob plentyn i gael dyfodol dwyieithog. Mae'r Feithrinfa yn llwyr gefnogi pob teulu di-Gymraeg ac yn croesawu pob plentyn i'r Feithrinfa.

Mae'r Feithrinfa yn cael ei rhedeg gan dîm o unigolion gofalgar sy’n siarad Cymraeg, sy'n creu lleoliad cyfforddus a diogel i blant ddysgu a chwarae drwy'r Gymraeg. Maent yn cynnig awyrgylch croesawgar i bob teulu sy'n cerdded drwy'r drws, gan ennyn ymdeimlad o ddiogelwch ac ymddiriedaeth ymhlith rhieni wrth iddynt adael eu plant yn eu gofal.

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Bydd Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc o fewn ein cymunedau Cymraeg gan y bydd yr ymyraethau hyn yn caniatáu i bobl o bob oedran gymryd camau i reoli a lliniaru effeithiau ail gartrefi a llety gwyliau ar y Gymraeg, a chefnogi cymunedau i gyflwyno ymyraethau lleol i reoli'r diffyg cartrefi sydd ar gael i bobl yr ardal.

Gan gefnogi'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw, a chefnogi a galluogi pobl leol, yn arbennig pobl ifanc a phlant, i aros yn eu bröydd neu ddychwelyd iddynt, bydd yr ymyraethau hyn yn caniatáu i bobl ifanc o fewn ein cymunedau ddefnyddio'r Gymraeg a byw yn ein cymunedau Cymraeg, a phan fydd ein pobl ifanc mewn sefyllfa i brynu neu rentu cartref, efallai y byddant yn gallu parhau i fyw o fewn y gymuned leol.

Sut mae eich cynnig yn cynyddu neu’n herio hawliau plant, fel y’u nodir yn erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol? Gweler yr erthyglau i wybod pa rai sy’n berthnasol i’ch polisi chi.

Sut mae ein cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant
Erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn neu Brotocol Dewisol Cynyddu (X) Herio (X) Esboniad
Erthygl 2 (peidio â gwahaniaethu) Mae'r Confensiwn yn gymwys i bob plentyn heb wahaniaethu rhwng un a’r llall, beth bynnag fo'i ethnigrwydd, ei ryw, ei grefydd, ei iaith, ei alluoedd neu unrhyw statws arall, beth bynnag y mae'n ei feddwl neu'n ei ddweud, a pha fath bynnag o deulu y daw ohono x   Mae Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn gyfres o ymyraethau i gefnogi cymunedau i ddefnyddio'r Gymraeg ac i fyw yn eu cymunedau. Mae'r ymyraethau yn hyrwyddo iaith y plant os mai’r Gymraeg yw honno, ac yn hybu treftadaeth, hunaniaeth ac ethnigrwydd pobl trwy hyrwyddo'r Gymraeg

Erthygl 12 (parch at farn y plentyn) Mae gan bob plentyn yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a'u dymuniadau ynghylch pob mater sy'n effeithio arnyn nhw, ac i’w barn gael ei hystyried a’i chymryd o ddifrif. Mae'r hawl hon yn berthnasol bob amser, er enghraifft yn ystod achosion mewnfudo, a phenderfyniadau ynghylch llety neu fywyd cartref bob dydd y plentyn.

x  

Wrth weithio gyda chymunedau, a chynnal sesiynau ymgysylltu ac ati, byddwn yn parchu barn pob person, sy'n cynnwys barn plant. Byddwn yn ymgynghori’n benodol â phobl ifanc yn ystod Eisteddfod yr Urdd a'r Sioe Amaethyddol Frenhinol. Byddwn hefyd yn trefnu sesiynau ymgysylltu â chymunedau ac yn gofyn i grwpiau cymunedol, ysgolion a chlybiau ddod i’r cyfarfodydd neu i anfon cynrychiolydd.

Erthygl 17 (mynediad at wybodaeth yn y cyfryngau) Mae gan bob plentyn yr hawl i wybodaeth ddibynadwy o amrywiaeth o ffynonellau, a dylai llywodraethau annog y cyfryngau i roi gwybodaeth y gall plant ei deall. Rhaid i lywodraethau helpu i amddiffyn plant rhag deunyddiau a allai eu niweidio. x  

Wrth lunio dogfennau/gwneud cais am dystiolaeth ac ati, caiff dulliau cyfathrebu eu hystyried i sicrhau ein bod yn cyfathrebu yn y ffordd fwyaf effeithiol â phob cymuned. Byddwn yn targedu grwpiau ieuenctid fel Ffermwyr Ifanc, y cyfryngau cymdeithasol ac ati.

Erthygl 13 (rhyddid mynegiant) Rhaid i bob plentyn fod yn rhydd i fynegi ei feddyliau a'i farn ac i gael mynediad at bob math o wybodaeth, cyn belled â bod hynny o fewn y deddfau. x  

Caiff pob person o fewn ein cymunedau fynegi eu meddyliau a'u barn. Gallant wneud hynny mewn digwyddiadau ymgysylltu â'r cyhoedd ac mewn ymateb i gais am dystiolaeth, yn ysgrifenedig neu ar lafar. Rhoddir ystyriaeth i unrhyw beth sy’n atal plant ac eraill yn y gymuned rhag rhoi eu barn, a chaiff camau eu rhoi ar waith i liniaru’r rhwystrau hynny cyn belled ag y bo modd, e.e. cyfieithu, defnyddio oedolion dibynadwy i gyrraedd plant yn eu gofod eu hunain, lleoliadau hygyrch ac ati.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Bydd yr un cyfle i bobl ifanc gyfrannu a gweithredu'r ymyraethau hyn yn eu cymunedau. Byddwn yn sicrhau eu bod yn gallu gwneud hyn drwy:

  • dargedu pobl ifanc yn benodol, fel Clybiau Ffermwyr Ifanc, yr Urdd ac ysgolion lleol
  • wrth weithio gyda chymunedau, bydd angen ysgrifennu dogfennau, astudiaethau achos, ac ati, mewn Cymraeg a Saesneg clir er mwyn i bobl ifanc ddeall
  • mewn perthynas â gwaith ymchwil, byddwn yn nodi’n benodol bod angen ystyried a/neu geisio barn pobl ifanc
  • byddwn yn gwneud 'cais am dystiolaeth' fel rhan o waith Comisiwn Cymunedau Cymru. Byddwn yn sicrhau, felly, fod pobl ifanc hefyd yn gallu rhoi tystiolaeth i'r Comisiwn
  • fel rhan o'r gwaith hwn, byddwn yn sefydlu Rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol. Byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rhan yng nghynllun Llysgenhadon Diwylliannol eu cymunedau. Mae potensial i ddatblygu 'Llysgenhadon Diwylliannol Ifanc’ hefyd. Byddwn yn trafod hyn ymhellach gydag ysgolion lleol a chydweithwyr addysg

Monitro ac adolygu

Caiff y gwaith o weithredu Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg ei fonitro gan Lywodraeth Cymru, a chaiff gwerthusiad annibynnol ei gomisiynu.

Bydd angen tystiolaeth benodol gan ein partneriaid/derbynwyr grant fel rhan o'r broses o fonitro canlyniadau/allbynnau, e.e. astudiaethau achos a thystiolaeth o weithgarwch ac ymgysylltu â grwpiau penodol mewn cymunedau.