Neidio i'r prif gynnwy

Egwyddorion y berthynas

Amcan cytûn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yw cyflawni rhaglen waith a rennir ac y cytunwyd arni, drwy Gytundeb Cydweithio dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd y ddwy ochr yn dibynnu ar ewyllys da, ymddiriedaeth a gweithdrefnau y cytunir arnynt er mwyn cyflawni’r rhaglen waith a rennir. Ar yr un pryd, byddant yn parchu hunaniaeth benodol y ddwy blaid.

Dim ond gwaith Llywodraeth Cymru a Grŵp Senedd Plaid Cymru sydd wedi’i gynnwys yn y Cytundeb Cydweithio fydd yn ffurfio unrhyw ran o’r trefniadau hyn.

Wrth wraidd llwyddiant y Cytundeb bydd ymgynghori agos a rheolaidd rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, ac aelodau dynodedig eraill o blith y ddau bartner.

Bydd y trefniant gweithio gwleidyddol hwn sydd wedi’i gytuno rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cadw at yr egwyddorion canlynol:

  1. cynnal cysylltiadau cadarnhaol, ar sail ymddiriedaeth a pharch gan y ddwy ochr
  2. cyfathrebu mewnol ac allanol effeithiol
  3. rhannu gwybodaeth ar sail ‘dim byd annisgwyl’ a pharchu cyfrinachedd
  4. datrys anghydfod yn brydlon yn unol â phroses y cytunir arni

Nid clymblaid yw’r Cytundeb Cydweithio hwn ac ni fydd gan Blaid Cymru Weinidogion na Dirprwy Weinidogion yn Llywodraeth Cymru.

Llywodraeth Cymru fydd yn parhau i fod yn llwyr atebol, yn gyfreithiol ac yn ffurfiol, am arfer pwerau a neilltuo adnoddau. Serch hynny, yn wleidyddol, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i wneud penderfyniadau ar y cyd â Phlaid Cymru ar draws y meysydd y cytunwyd i gydweithio arnynt.

Peirianwaith

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cytuno i gydweithio, i wneud penderfyniadau polisi, ac i gadw trosolwg ar y gwaith o’u gwireddu, a hynny ar y cyd drwy’r Cytundeb Cydweithio. Ein nod bob amser fydd gweithredu drwy gonsensws, a datrys anghytundeb yn brydlon. Bydd uned yn y gwasanaeth sifil – Uned y Cytundeb Cydweithio – yn cefnogi’r Cytundeb Cydweithio.

Caiff yr Uned ei harwain gan uwch was sifil a bydd trefniadau rheoli llinell y gwas sifil hwnnw’n parhau i fod drwy’r sianeli gwasanaeth sifil arferol. Serch hynny, bydd Uned y Cytundeb Cydweithio yn gweithio’n ddiduedd gyda’r ddau bartner i sicrhau bod y rhaglen waith y cytunwyd arni yn cael ei chyflawni’n effeithiol.

Bydd Uned y Cytundeb Cydweithio yn ymgymryd â’r swyddogaethau canlynol:

  1. cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau ar y cyd a ddisgrifir yn y Cytundeb Cydweithio
  2. darparu cymorth ymarferol a threfniadol
  3. cefnogi’r broses o gyflawni ymrwymiadau polisi’r Cytundeb Cydweithio yn effeithiol
  4. darparu cymorth gweinyddol
  5. bod yn borth at wasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ac at gyngor a ddarperir gan swyddogion mewn perthynas â’r Cytundeb Cydweithio
  6. hyrwyddo’r egwyddor o osgoi anghydfod drwy strwythurau cyfathrebu a llywodraethiant effeithiol, ar lefel swyddogion ac ar lefel wleidyddol
  7. sicrhau bod prosesau y cytunir arnynt yn cael eu parchu a’u dilyn
  8. cynnal trosolwg o gyfathrebu mewn perthynas â chyhoeddiadau polisi ar y cyd sy’n deillio o’r Cytundeb

O ddydd i ddydd, bydd gwaith yn cael ei gyflawni gan y swyddogion enwebedig priodol sy’n gyfrifol am y meysydd polisi a’r rhai sydd â’r arbenigedd priodol i ddelio â’r materion o dan sylw.

Bydd y Prif Weinidog yn penodi dau Gynghorydd Arbennig i helpu i ddarparu cymorth o ddydd i ddydd ar gyfer yr ystod o feysydd yn y Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys (i) cynnal trosolwg lefel uchel, cyflawni a chydlynu gwaith ar y Cytundeb; (ii) datblygu polisïau ac ymgysylltu yn eu cylch; (iii) cyllideb a chyllid; (iv) cyfathrebu a chyflwyno allbynnau polisi; (v) busnes y Senedd; (vi) cysylltu ac ymgynghori â’r Grŵp/y blaid.

Gellir penodi cynghorwyr arbenigol ychwanegol ag arbenigedd priodol i gefnogi’r Cytundeb Cydweithio o gael cytundeb y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ill dau. Bydd yr adnoddau a’r capasiti arbenigol yn Llywodraeth Cymru i gefnogi’r rhaglen waith a rennir yn cael eu hadolygu bob chwe mis.

Ar lefel wleidyddol, bydd Gweinidogion Cymru ac aelodau dynodedig Plaid Cymru yn cytuno ar faterion o fewn cwmpas y Cytundeb, gan gydnabod mai Gweinidogion Cymru fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am y penderfyniadau hynny yn ffurfiol ac yn gyfreithiol.

Bydd pwyllgorau a fydd yn cynnwys Gweinidogion Cymru ac aelodau dynodedig o Grŵp Senedd Plaid Cymru yn cael eu sefydlu i gyfarfod yn rheolaidd a dod i gytundeb drwy gonsensws ar faterion o dan sylw yn y Cytundeb Cydweithio.

Atebolrwydd cyffredinol

Y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru fydd yn gyffredinol atebol am y Cytundeb Cydweithio. Caiff strwythurau ffurfiol eu sefydlu i hwyluso cydweithio ac i ddod i gonsensws ar faterion y cytunir arnynt a meysydd eraill o ddiddordeb cyffredin. Bydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn parhau i fod yn gyfrifol ac yn atebol am faterion staffio’r Gwasanaeth Sifil ac am gyflawni ei rôl fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu o ran defnyddio arian cyhoeddus yn briodol ar draws pob maes, gan gynnwys y rhai o dan sylw yn y Cytundeb hwn.

Fframwaith llywodraethu / Trefniadau trosolwg

Bydd aelod arweiniol dynodedig Plaid Cymru ar gyfer y Cytundeb yn chwarae rôl allweddol o ran cadw trosolwg o’r cynnydd a wneir mewn perthynas â’r Cytundeb a’r gwaith o’i gydlynu.

Caiff Cyd-bwyllgorau Polisi eu sefydlu i weithredu materion sydd o fewn cwmpas y Cytundeb. Bydd y rhain yn cael eu cynnull ar y cyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac aelodau dynodedig Plaid Cymru i ystyried materion a nodir yn y Cytundeb Cydweithio. Bydd y Cyd-bwyllgorau Polisi yn llunio agendâu, yn cytuno ar ffyrdd o weithio, yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn dod i gytundeb drwy gonsensws. Caiff  amlder y cyfarfodydd ei benderfynu ar y cyd gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac aelodau dynodedig Plaid Cymru gan ddibynnu ar rythm busnes dros amser.

Bwrdd Trosolwg ar y Cyd

Caiff y Bwrdd Trosolwg ar y Cyd ei gynnull ar y cyd gan y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru a bydd ganddo ffocws strategol. Cânt eu cefnogi gan eu cydweithwyr a’u swyddogion fel y bo angen. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob rhyw fis ond yn amlach neu’n llai aml os bydd y ddwy ochr yn cytuno. Bydd y Cyd-bwyllgor(au) Polisi yn atebol i’r Bwrdd Trosolwg ar y Cyd.

Bydd y Bwrdd Trosolwg ar y Cyd yn ymgymryd â’r swyddogaethau canlynol:

  1. darparu cyfeiriad strategol i’r Cyd-bwyllgorau Polisi ac atgyfeirio camau gweithredu atynt
  2. cytuno ar amserlenni a thargedau ar gyfer gwneud cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau’r Cytundeb Cydweithio
  3. datrys anghydfod/anghytundeb neu rwystrau a all godi ac nad oes modd eu datrys rywle arall
  4. derbyn adroddiadau cynnydd gan Gyd-bwyllgorau Polisi a chadw trosolwg o’r gwaith o gyflawni’r Cytundeb yn ei gyfanrwydd
  5. derbyn diweddariadau cyllidebol rheolaidd
  6. ystyried y ffordd o ddelio â busnes y Senedd mewn perthynas â’r Cytundeb fel y bo angen
  7. darparu fforwm ar gyfer rhannu gwybodaeth strategol ehangach a all gael effaith ar y Cytundeb

Y Prif Weinidog fydd yn cadeirio’r cyfarfodydd, gan ymgynghori’n agos ag Arweinydd Plaid Cymru.

Bydd y Bwrdd Trosolwg ar y Cyd, ac unrhyw bwyllgor(au) a sefydlir er cymorth iddo, yn cael eu cefnogi gan Uned y Cytundeb Cydweithio:

  1. penderfynu ar ddyddiadau, agenda, lleoliad cyfarfodydd, gyda chytundeb y ddwy ochr
  2. comisiynu papurau trafod yn unol â chyfarwyddyd
  3. cadw cofnodion cyfarfodydd a chamau gweithredu y cytunir arnynt
  4. hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd i’r ddwy ochr

Bydd Uned y Cytundeb Cydweithio yn:

  1. atebol i’r Bwrdd Trosolwg ar y Cyd
  2. gwasanaethu’r ddwy ochr yn gyfartal
  3. cydlynu ac yn llunio datganiadau ynghylch gweithgarwch sy’n deillio o’r Cytundeb Cydweithio ar gyfer eu cyflwyno i’r Senedd

Y Gwasanaeth Sifil

Bydd y Cytundeb yn parchu’r Gwasanaeth Sifil a’i rwymedigaethau, ynghyd â’r fframwaith atebolrwydd, statudol a chyfreithiol y mae’n rhaid i’r gwasanaeth sifil weithredu yn unol ag ef. Gan gadw at y fframwaith hwnnw, bydd gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru yn gweithio’n adeiladol gyda Phlaid Cymru i roi’r Cytundeb ar waith yn llwyddiannus.

Bydd yn ofynnol i unrhyw Gynghorwyr Arbennig a benodir gan y Prif Weinidog i helpu i gefnogi’r Cytundeb weithio yn unol â darpariaethau Cod Ymddygiad Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru. Fel pob Cynghorydd Arbennig, ni fydd ganddynt awdurdod i gyfarwyddo’r gwasanaeth sifil. Bydd gan Gynghorwyr Arbennig a benodir o dan y Cytundeb hwn fynediad at wybodaeth sy’n angenrheidiol iddynt gyflawni eu rôl yn effeithiol mewn perthynas â meysydd polisi’r Cytundeb.

Mae Cynghorwyr Arbennig yn gweithio gyda Gweinidogion a gweision sifil wrth iddynt ystyried a dewis y ffordd orau o gyflawni a gweithredu. Bydd Cynghorwyr Arbennig yn cyfrannu at y broses o flaenoriaethu gwaith cyflawni a gweithredu, a bydd hynny’n debygol o fod yn ystyriaeth bwysig gydol y Cytundeb o ystyried y pwysau a’r blaenoriaethau eraill sy’n cystadlu am sylw.

Ni fydd gan aelodau dynodedig Plaid Cymru fynediad at weision sifil y tu hwnt i’r peirianwaith y cytunir arno gan y Gweinidogion.

Mae’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Parhaol yn disgwyl i’r gwasanaeth sifil weithio’n adeiladol gydag aelodau dynodedig Plaid Cymru yn unol â thelerau’r Cytundeb hwn. Bydd gan aelodau dynodedig Plaid Cymru yr un cyfrifoldebau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru o ran parchu didueddrwydd gwleidyddol y gwasanaeth sifil, trefniadaeth yr Ysgrifennydd Parhaol o ran rheolaeth y gwasanaeth sifil a darpariaethau Cod Recriwtio’r Gwasanaeth Sifil a’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus (ar GOV.UK). Ni fyddant yn gofyn i weision sifil wneud unrhyw beth a allai fod yn groes i God y Gwasanaeth Sifil, nac i ddefnyddio adnoddau cyhoeddus at ddibenion pleidiau gwleidyddol. Bydd aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol ag arfer Gweinidogion, yn trin y gwasanaeth sifil yn broffesiynol, yn gwrtais ac yn barchus a gallant ddisgwyl i’r gwasanaeth sifil eu trin hwythau yn yr un modd.

Pan fyddant yn gweithio o dan ddarpariaethau’r Cytundeb hwn neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fewn cwmpas y Cytundeb, bydd Arweinydd Plaid Cymru, aelod arweiniol dynodedig Plaid Cymru ac aelodau dynodedig eraill Plaid Cymru yn rhwym wrth y Cod Ymddygiad yn Atodiad A. Mae’r cod ymddygiad hwn yn gyson â’r adrannau cyfatebol yng Nghod y Gweinidogion a’r safonau a’r ymddygiad y mae disgwyl i Weinidogion gadw atynt.

Bydd aelodau dynodedig Plaid Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r cyngor a gânt gan y gwasanaeth sifil ac, yn enwedig, gyngor yr Ysgrifennydd Parhaol fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu (neu ei gynrychiolwyr) ar ddefnydd priodol o arian cyhoeddus. Byddai angen datrys unrhyw wrthdaro sy’n codi â chyfrifoldebau’r Prif Swyddog Cyfrifyddu drwy drafod a phe bai angen drwy gyfrwng Cyfarwyddyd Gweinidogol.

Ni fydd aelodau dynodedig yn datgelu cynnwys cyngor a gafwyd gan swyddogion, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, nac unrhyw ddogfennau swyddogol y maent yn eu derbyn neu’n eu gweld wrth gyflawni eu rôl. Byddant hefyd yn parchu’r gofynion GDPR sydd ar Lywodraeth Cymru. Yn ogystal, dylai unrhyw gyngor cyfreithiol a ddarperir gan y Cwnsler Cyffredinol neu Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’u staff gael ei ystyried gan Aelodau yn gyngor sydd â braint broffesiynol gyfreithiol ynghlwm wrtho. Ni ddylid datgelu cyngor o’r fath, na chyfeirio ato, yn unman arall, ni waeth a roddwyd y cyngor hwnnw ar lafar, ar bapur neu ar ffurf electronig.

Cyllideb

Darperir adnoddau fel y cytunwyd ar gyfer y Cytundeb Cydweithio a chaiff y trosolwg o’r gwaith o gyflawni’r Cytundeb, a’r dyraniadau cyllidebol ar ei gyfer, ei fonitro ar y cyd drwy Bwyllgor Cyllid. Bydd aelodau’r Pwyllgor hwn yn cynnwys y Gweinidog sy’n gyfrifol am Gyllid ac aelod dynodedig perthnasol Plaid Cymru. Penderfynir maes o law ar amlder y cyfarfodydd ond cânt eu cynnull yn rheolaidd yn y cyfnod cyn gweithdrefnau’r Senedd ar gyfer y Gyllideb flynyddol, ac adeg unrhyw drafodaethau ar gyllidebau atodol a thanwariant / addasiadau diwedd blwyddyn.

Bydd cylch cyllideb tair blynedd yn sail i’r Cytundeb hwn. Byddai unrhyw adnoddau ychwanegol yn cael eu nodi a’u hystyried ar y cyd o flwyddyn i flwyddyn gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y materion a nodir yn y Cytundeb Cydweithio.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgynghori a chydweithio â Phlaid Cymru drwy gydol y broses ddatblygu a chraffu ar bob cam o gylch y Gyllideb flynyddol.

Ar y sail y bydd yr ymrwymiad uchod yn sicrhau cyllid priodol ar gyfer y rhaglen bolisi a rennir ac yn dylanwadu ar faterion cyllidebol eraill, mae Plaid Cymru yn cytuno i hwyluso’r broses o basio Cyllidebau Blynyddol ac Atodol gydol oes y Cytundeb hwn.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau wedi’u hen sefydlu ar gyfer monitro’r defnydd o arian sy’n cael ei ddyrannu drwy’r broses gyllidebol, ac adrodd ar y defnydd hwnnw. Bydd y gweithdrefnau hyn yn berthnasol yn yr un modd i arian a ddyrennir o dan y Cytundeb hwn. Bydd cyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Parhaol fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu yn parhau i gwmpasu holl wariant Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ymrwymo i gyfathrebu’n effeithiol ac yn amserol â’i gilydd, gan anelu ar y cyd at sicrhau perthynas ‘dim byd annisgwyl’ o ran datganiadau a sylwadau ynglŷn â’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r ddwy ochr yn cytuno i barchu cyfrinachedd eu trafodaethau ac i fod yn dryloyw, yn agored, yn deg ac yn gyson wrth ymwneud â’i gilydd.

Caiff aelod o staff profiadol, sef swyddog amser llawn, ei benodi i fod yn gyfrifol am ymwneud â’r wasg ac am y gwaith cyfathrebu ar y Cytundeb ar lefel y gwasanaeth sifil. Bydd yn rhan o dîm cyfathrebu Llywodraeth Cymru, ond yn gweithio’n agos gydag Uned y Cytundeb Cydweithio a’r cynghorwyr arbennig perthnasol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gydlynu’n effeithiol.

Mae’r Cytundeb Cydweithio yn cwmpasu’r meysydd polisi y cytunwyd arnynt ac y bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydweithio arnynt dros y tair blynedd nesaf. Bydd yn bwysig i’r rhain gael eu cyfathrebu’n glir, gan gydnabod cyfraniad Plaid Cymru yng nghyfathrebu arferol y Llywodraeth. Bydd hyn yn gofyn am gydweithredu a chyfathrebu effeithiol rhwng pawb sy’n rhan o gyflawni’r Cytundeb Cydweithio hwn. Mae hyn yn gyson â’r egwyddor ‘dim byd annisgwyl’, a’r angen i gynnal negeseuon cyson y cytunir arnynt rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn y meysydd sy’n berthnasol i’r Cytundeb Cydweithio.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn ei gwneud yn glir na ellir defnyddio adnoddau’r Llywodraeth at ddibenion pleidiau gwleidyddol.

Gall deunyddiau cyfathrebu wedi’u llunio gan y Llywodraeth o fewn cwmpas y Cytundeb Cydweithio adlewyrchu cyfraniad aelodau dynodedig Plaid Cymru mewn modd ffeithiol. Serch hynny, ni ddylid rhyddhau unrhyw gynnwys y gellid ei ddehongli fel rhywbeth sy’n rhoi llwyfan i hyrwyddo Plaid Cymru fel plaid, gan ddilyn yr un egwyddor ag sy’n berthnasol i Lafur Cymru. Caiff cynadleddau i’r wasg eu cynnal yn rheolaidd o dan ofal y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru ym Mharc Cathays neu leoliad arall addas i gyfathrebu negeseuon y Cytundeb Cydweithio. Caiff adroddiad blynyddol ei lunio gan y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru i amlinellu’r cynnydd a wneir tuag at gyflawni rhaglen y Cytundeb.

Busnes y Senedd

Bydd y ddwy blaid yn gwneud eu trefniadau rheoli busnes eu hunain i sicrhau’r gefnogaeth angenrheidiol yn y Senedd i wireddu’r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio.

Mae’r ddau bartner yn y Cytundeb hwn yn parchu annibyniaeth system pwyllgorau’r Senedd a rolau a swyddogaethau penodol y pleidiau unigol yn y Senedd.

Mae gweithdrefnau a phrosesau priodol wedi’u sefydlu yn Llywodraeth Cymru, Plaid Lafur y Senedd a Grŵp Senedd Plaid Cymru i sicrhau bod modd rhoi sylw i unrhyw faterion sy’n codi ynghylch busnes y Senedd, a bod modd eu datrys.

Meysydd y tu hwnt i’r Cytundeb Cydweithio

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi ymrwymo i gydweithio ar raglen bolisi uchelgeisiol a phellgyrhaeddol.

Mae’n debygol y bydd adegau yn ystod oes y Cytundeb pan all gwaith y Llywodraeth neu waith Grŵp Senedd Plaid Cymru effeithio ar y meysydd polisi penodol o dan sylw yn y Cytundeb.

I leihau’r posibilrwydd o anghytuno yn y berthynas rhwng y ddau bartner, bydd yn bwysig meithrin ymddiriedaeth rhyngddynt a datblygu prosesau ffurfiol ac anffurfiol priodol i alluogi rhannu gwybodaeth at y diben hwn.

Hunaniaethau penodol

O ran materion sydd y tu hwnt i’r Cytundeb Cydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydnabod dilysrwydd hunaniaethau gwleidyddol penodol ei gilydd yn y Senedd a’r tu hwnt. O ganlyniad, bydd yr ymwneud gwleidyddol ynglŷn â phob mater y tu hwnt i’r Cytundeb yn digwydd yn ôl y drefn arferol.

Perthynas â chytundebau eraill

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno i beidio â llunio cytundeb na pherthynas ag unrhyw blaid neu Aelod arall/Aelodau eraill yn y Senedd sy’n anghyson â’r Cytundeb hwn.

Statws

Nid yw’r Cytundeb hwn yn gyfreithadwy ac mae’n gytundeb gwleidyddol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Cychwyn, adolygu a therfynu’r Cytundeb Cydweithio

Mae’r Cytundeb am gyfnod o dair blynedd o’r adeg y llofnodir y ddogfen hon. Caiff ei adolygu a’i adnewyddu’n flynyddol.

Gall y Prif Weinidog neu Arweinydd Plaid Cymru derfynu’r Cytundeb yn gynt drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw.

Ar ôl tair blynedd, gall y ddwy ochr benderfynu adnewyddu telerau’r Cytundeb presennol, dyfnhau’r cydweithio ymhellach neu ddod â’r Cytundeb i ben.

Gall unrhyw benderfyniad i ehangu cwmpas y cydweithio yn y Cytundeb hwn yn y cyfamser ac unrhyw ddiwygiad arall iddo gael eu gwneud drwy gytundeb ar y cyd rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru.

Atodiad A: Cod ar gyfer Aelodau Dynodedig Plaid Cymru sy'n Cymryd Rhan yn y Cytundeb Cydweithio

Noder: Aelodau dynodedig yw'r Aelodau hynny o Grŵp Senedd Plaid Cymru a benodir gan Arweinydd Plaid Cymru ac y darperir eu henwau i'r Prif Weinidog.  Cyhoeddir rhestr o aelodau dynodedig ar wefan Llywodraeth Cymru.  Gall yr enwau hynny newid o bryd i'w gilydd a rhoddir gwybod i'r Prif Weinidog am bob newid cyn gynted ag y bo'n ymarferol.  Dim ond yn ystod cyfnod eu penodiad fel aelodau dynodedig y mae Aelodau o Grŵp Senedd Plaid Cymru wedi'u rhwymo gan y Cod hwn.

Cyflwyniad

1. Mae'r Cod hwn ar gyfer aelodau dynodedig Plaid Cymru ("Aelodau Dynodedig") pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn cwmpas cyfranogaeth yn y Cytundeb Cydweithio ac mae'n seiliedig ar adrannau perthnasol o God y Gweinidogion.  Y bwriad yw bod Aelodau Dynodedig yn cytuno i gael eu rhwymo gan yr un safonau a disgwyliadau ag a roddir ar Weinidogion Llywodraeth Cymru, i'r graddau y maent yn berthnasol ac y mae modd eu haddasu i amgylchiadau'r Cytundeb Cydweithio.  I osgoi amheuaeth, dim ond pan fydd Aelodau Dynodedig yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ynghylch materion o fewn cwmpas y Cytundeb Cydweithio y mae'r Cod hwn yn gymwys ac ni fwriedir i unrhyw beth yn y Cod hwn fynd y tu hwnt i'r rhwymedigaethau y mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru eisoes yn ddarostyngedig iddynt.

Ymddygiad

2. Disgwylir i Aelodau Dynodedig gynnal safonau ymddygiad uchel ac ymddwyn mewn ffordd sy'n cynnal y safonau uchaf o ran priodoldeb wrth ymgymryd â gweithgarwch mewn materion yn ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio, fel y disgwylir iddynt ei wneud yn eu rôl fel ASau.  Dylai Aelodau Dynodedig fod yn broffesiynol ym mhopeth y maent yn ymwneud ag ef a dylent drin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch.  Disgwylir iddynt, yn benodol, barchu Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.

3. Y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, drwy ymgynghori â’i gilydd, fydd, yn y pen draw, yn gyfrifol am farnu cydymffurfiaeth â'r Cod hwn.

Aelodau Dynodedig a’u Lles

4. Mae'r Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru yn cydnabod y gall y pwysau ar Aelodau Dynodedig, fel ar Weinidogion, fod yn sylweddol ar adegau, a byddant yn ystyried lles Aelodau sy'n ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio. 

Penodiadau

5. Nid oes gan Aelodau Dynodedig unrhyw rôl ffurfiol mewn penodiadau cyhoeddus ond bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn ymgynghori â hwy ar gyfer y penodiadau hynny sy'n ymwneud â'r Cytundeb Cydweithio. 

6. Gwneir penodiadau i'r Gwasanaeth Sifil yn unol ag Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil a Chod y Gwasanaeth Sifil.  Gwneir penodiadau cyhoeddus yn unol â gofynion y gyfraith a, lle bo'n briodol, y Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus y mae’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn cyflawni ei rôl reoleiddiol yn unol ag ef.  Mae penodiadau cyhoeddus yn dilyn gweithdrefnau Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru a dylent adlewyrchu a hyrwyddo egwyddorion Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant Llywodraeth Cymru ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.  Mae dyletswydd ar Aelodau, fel sydd ar Weinidogion Cymru, i sicrhau nad yw dylanwad dros benodiadau i’r gwasanaeth sifil a phenodiadau cyhoeddus yn cael ei gamddefnyddio at ddibenion pleidiol.

Perthynas â'r Gwasanaeth Sifil

7. Disgwylir i Aelodau Dynodedig fod yn broffesiynol yn eu perthynas waith â’r Gwasanaeth Sifil a thrin pawb y maent yn dod i gysylltiad â hwy yn ystyriol a chyda pharch.  Gall gweision sifil sydd â phryderon am ymddygiad Aelodau Dynodedig godi'r pryderon hynny gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, fel y mae modd gwneud mewn perthynas â Gweinidogion.  Yn yr un modd, gall Aelodau Dynodedig ddisgwyl i'r gweision sifil y maent yn dod i gysylltiad â hwy eu trin â'r cwrteisi a'r parch sy’n ddyladwy i’w rôl.  Os bydd gan Aelodau Dynodedig bryderon ynghylch ymddygiad gwas sifil, dylent godi'r pryderon hynny gyda’r Ysgrifennydd Parhaol.

8. Pan fo’n briodol o dan y Cytundeb Cydweithio, mae cyfrifoldeb ar y gwasanaeth sifil i ddarparu cyngor diduedd, gwrthrychol a gonest i Aelodau Dynodedig, ochr yn ochr â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys, hyd eithaf eu gallu, yr holl wybodaeth a’r gwaith dadansoddi perthnasol. Dylai Aelodau Dynodedig roi ystyriaeth ddyladwy i gyngor o’r fath ac ni ddylent geisio cyfarwyddo gweision sifil o ran y cyngor y byddant yn ei gael.  Wedi dweud hynny, wrth gwrs, nid oes raid iddynt dderbyn na dilyn y cyngor hwnnw.

9. I hwyluso darparu cyngor a thrafodaeth lawn a gonest rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Aelodau Dynodedig a gweision sifil, dylai'r holl bapurau a dogfennau swyddogol a rennir gydag Aelodau Dynodedig o dan y Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys argymhellion a chyngor, gael eu hystyried gan Aelodau Dynodedig, oni chânt eu hysbysu fel arall, yn rhai a gyflenwir yn gyfrinachol ac na ddylid rhannu eu cynnwys yn unman arall.  Yn yr un modd, dylid ystyried cyngor llafar, trafodaethau polisi a dadleuon fel rhai cyfrinachol na ddylid eu rhannu ymhellach.  Dylid cadw’r safbwyntiau a fynegir a'r cyngor a roddir yn breifat.  Yn ogystal, disgwylir i Aelodau Dynodedig barchu cyfrifoldebau GDPR Llywodraeth Cymru, a chadw atynt.

10. Dylai unrhyw gyngor cyfreithiol gan y Cwnsler Cyffredinol neu Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a’u staff gael ei ystyried gan Aelodau Dynodedig yn gyngor sydd â braint broffesiynol gyfreithiol ynghlwm wrtho.  Ni ddylid datgelu cyngor o’r fath, na chyfeirio ato, yn unman arall, ni waeth a roddwyd y cyngor hwnnw ar lafar, ar bapur neu ar ffurf electronig.

11. Wrth adael eu rôl yn y Cytundeb Cydweithio, ni ddylai Aelodau Dynodedig gadw unrhyw ddogfennau swyddogol sydd yn eu meddiant, boed ar ffurf electronig neu'n gopi caled.

Y Swyddog Cyfrifyddu

12. Yr Ysgrifennydd Parhaol yw Prif Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am stiwardio'r holl arian cyhoeddus o dan reolaeth y Llywodraeth.  Mae aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru wedi’u dynodi i fod yn swyddogion cyfrifyddu ychwanegol sy’n gyfrifol am feysydd diffiniedig o weithgareddau Llywodraeth Cymru.

13. Mae Swyddogion Cyfrifyddu a’u staff yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl gyngor sy’n cael ei roi i Weinidogion ac Aelodau Dynodedig yn cynnwys canllawiau priodol ar ddefnyddio arian cyhoeddus yn briodol ac yn tynnu sylw at unrhyw wrthdaro posibl rhwng bwriad Gweinidogion neu Aelodau Dynodedig a dyletswyddau’r Swyddog Cyfrifyddu.  Ni all Swyddog Cyfrifyddu dderbyn yr amcanion neu’r polisïau heb eu harchwilio.  Dylai Aelodau Dynodedig roi sylw dyledus i rôl y Swyddogion Cyfrifyddu o ran cynnal busnes cyhoeddus yn briodol.

Buddiannau Etholaethol neu Bleidiol

14. Ni ddylid defnyddio cyfleusterau na chymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i Aelodau Dynodedig o dan delerau'r Cytundeb Cydweithio ar gyfer gweithgareddau etholaethol na gweithgareddau plaid y tu hwnt i'r Cytundeb.

15. Pan fydd Aelodau Dynodedig yn rhan o benderfyniadau a allai effeithio’n benodol ar eu hetholaethau neu eu rhanbarthau etholaethol, rhaid iddynt gymryd pob gofal er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl neu wrthdaro buddiannau ymddangosiadol. 

Buddiannau Preifat Aelodau Dynodedig

16. Rhaid i Aelodau Dynodedig sicrhau nad oes unrhyw wrthdaro, nac y gellid cael yr argraff bod gwrthdaro, rhwng eu gweithgareddau o dan y Cytundeb Cydweithio a'u buddiannau preifat.  Mae hyn yn cynnwys buddiannau a all fod yn rhai ariannol neu fel arall, megis cysylltiadau â sefydliadau a allai gael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a'u cynnwys mewn trafodaethau o dan y Cytundeb.  Mae hyn hefyd yn cynnwys priod neu bartner Aelod Dynodedig, yn ogystal ag aelodau o'i deulu agos.

17. Dylai Aelodau Dynodedig fod yn agored mewn Trafodaethau Partneriaeth i ddatgan unrhyw wrthdaro perthnasol neu ymddangosiadol.  Y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, mewn ymgynghoriad â’i gilydd, fydd, yn y pen draw, yn gyfrifol am benderfynu sut y dylid ymdrin ag unrhyw wrthdaro neu wrthdaro ymddangosiadol sydd gan Aelod Dynodedig. 

18. Gall Aelodau Dynodedig ofyn am gyngor anffurfiol a chyfrinachol gan yr Ysgrifennydd Parhaol neu'r Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Moeseg ynghylch nodi gwrthdaro a'r mesurau y gallai fod angen eu rhoi ar waith i'w reoli.

Derbyn Rhoddion a Lletygarwch

19. Ni ddylai Aelodau Dynodedig dderbyn unrhyw roddion na lletygarwch y gellid ystyried eu bod yn eu rhoi o dan rwymedigaeth o ran y ffordd y maent yn cyflawni eu swyddogaethau o dan y Cytundeb Cydweithio.