Neidio i'r prif gynnwy

Mae bellach yn parhau ar ei daith o amgylch Cymru wrth iddo deithio tua'r de i Abaty Tyndyrn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe fydd yn ymddangos yn y safle Cadw poblogaidd ar y 18fed ac yn aros yno tan y 25ain. 

Mae'r llythrennau enfawr 4 metr o uchder ac 11 metr o led sydd wedi eu gwneud o ddrychau ac sy'n ffurfio'r gair 'EPIC' yn rhan o gam diweddaraf ymgyrch marchnata Croeso Cymru i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan antur.  Bydd yn ymddangos mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru dros yr haf. 

Mae’r gosodiad yn dod mewn wythnos lle mae gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru (Cadw) wedi rhyddhau fideo 360° anhygoel o’r haul yn machlud dros yr abaty eiconig.

Cafodd y fideo 60 eiliad, sy’n rhan o gyfres cyfryngau cymdeithasol dan yr enw priodol Munudau Epic, ei ffilmio fel treigl amser noswaith tan nos yn yr abaty, a’i fwriad yw dangos y safle eiconig mewn ffordd newydd llawn dychymyg. 

Mae’r ffilm fer, a luniwyd gan Cadw, yn rhoi profiad cynhwysfawr i wylwyr, gan adael iddyn nhw reoli'r hyn maen nhw’n ei weld gan ddefnyddio penset realiti rhithiol neu dechnoleg cost isel, megis Google Cardboard.

Mae Fiona Wilton yn Is-gadeirydd Cymdeithas Dwristiaeth Dyffryn Gwy a Forest of Dean a pherchennog busnes lleol, y mae yn falch iawn bod yr ardal yn gartref i EPIC a dywedodd: 

"Mae gan ymwelwyr a Dyffryn Gwy ddewis eang o anturiaethau gwych ac y maent yn eu mwynhau yn fawr iawn. O caiacio i lawr yr Afon Gwy i geoguddio lleol gwych neu archwilio celfyddyd Turner a beintiodd yr Abaty neu flasu rhywbeth newydd yn un o'n bwytai gwych – mae yna ddigonedd o amrywiaeth. Ar hyn o bryd, mae sylw  pawb ar ddwy olwyn gan ein bod i gyd yn cyffroi gan lwyddiant y beicwyr Cymreig yn Rio. Ar 8fed o Fedi bydd y ‘Tour of Britain’ yn dod trwy Tyndyrn – a fydd yn siŵr  fod yn ddigwyddiad Epic i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd! "

Dywedodd Nicola Edwards, Rheolwr Bwyd a Thwristiaeth, Cyngor Sir Fynwy: 

"Gan ei fod wedi'i leoli o fewn  Dyffryn Gwy sydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a man geni twristiaeth Prydain,  mae adfeilion atmosfferig Abaty Tyndyrn yn gwneud leoliad gwirioneddol epic ac yn awr byddwn yn cael y llythrennau i brofi hynny! Ar gefn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cylch a gynhaliwyd yn y Fenni yn gynharach y mis a'r ddraig yn hedfan i mewn i Gastell Cas-gwent wythnos diwethaf,  mae Sir Fynwy eisoes wedi cael haf gwych, ac edrychwn ymlaen at barhad y llwyddiant hwn."

Bydd y gosodiad celf teithiol, arloesol hwn yn ganolbwynt i ymwelwyr gymryd  hun-luniau ac mae wedi'i ddylunio i annog rhannu delweddau a chynnwys ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio hashnodau #GwladGwlad a #FindYourEpic ein hymgyrch. Cefnogir y daith gan ymgyrch integredig sy'n cynnwys gweithgarwch Cysylltiadau Cyhoeddus a chyda'r cyfryngau, gan gynnwys hysbysebion digidol, marchnata drwy e-bost a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i dargedu teuluoedd ac ymwelwyr yn ein rhanbarthau craidd yng ngogledd-orllewin Lloegr, canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a de-ddwyrain Lloegr.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, 

"Mae'n gyfnod gwych i dwristiaeth yng Nghymru. Mae mwy o bobl nag erioed yn dod yma ac yn aros yma ac mae hyn oherwydd ein bod yn codi ein proffil ar lwyfan y byd.

"Mae'r wefr ar ôl Pencampwriaeth Ewrop yn wych ac rwy'n hyderus y bydd datblygu atyniadau arloesol newydd, safon y dwristiaeth a mwy o anturiaethau epig tebyg yn parhau i wella twristiaeth yng Nghymru. 

"Mae'r llythrennau 'EPIC' yn anferth a byddant yn ymddangos mewn lleoliadau ar draws Cymru, gan annog pobl i ddod o hyd i brofiadau epig eu hunain yn ystod y Flwyddyn Antur." 

Dyluniwyd y llythrennau mawr 'EPIC' gan asiantaeth greadigol Croeso Cymru, Smorgasbord, ac maent wedi'u creu gan Wild Creations, y cwmni o Gaerdydd a greodd y 'Bêl yn y Wal' yng Nghastell Caerdydd ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

 Mae'r gair 'EPIC' wedi'i greu o ddrychau ac mae wedi'i ddylunio i adlewyrchu harddwch tirlun Cymru.  Cymerodd y gosodiad dair wythnos a phedwar person i'w adeiladu, ac mae pob llythyren yn pwyso 350kg. Bydd angen deg person i'w osod ym mhob lleoliad.