Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad ansawdd ar gyfer canser yn disodli'r cynllun darparu ar gyfer canser Cymru.

Cyflwyniad

Dros y degawd diwethaf, mae canserau wedi bod ymysg y prif bethau sy’n achosi marwolaethau yng Nghymru ac mae hyn yn debygol barhau dros y degawdau nesaf oherwydd natur y boblogaeth sy’n heneiddio. Mae’n hanfodol bod canser yn cael ei atal yn effeithiol lle bo hynny’n bosibl, bod achosion o ganser yn cael eu canfod ar gamau cynharach lle mae’n haws eu trin, bod llwybrau triniaeth cymhleth yn cael eu hoptimeiddio, a bod pobl yn cael eu cefnogi’n briodol drwy'r cyfan ac yn cynllunio eu gofal ar y cyd. Y nod yn y pen draw yw gwella goroesiad y boblogaeth a lleihau cyfradd y marwolaethau cysylltiedig â chanser.

Gan adeiladu ar waith Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Canser 2012 a 2016, rhaid i’r cam pum mlynedd nesaf o ddatblygu gwasanaethau canser fanteisio ar y consensws eang sydd wedi dod i’r amlwg o ran meysydd blaenoriaeth, dwyn rhaglenni i fodolaeth, a chynnal yr arweinyddiaeth genedlaethol a’r ymgysylltu lleol sydd wedi’i gyflawni. Bydd hyn yn sicrhau bod dull hirdymor a chyson o wella canlyniadau ar waith, fel yr ystyrir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac a ddangosir gan brofiad rhyngwladol.

Tynnwyd sylw at gyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach a disgrifiwyd hynny yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae’n rhan o’r broses o ganolbwyntio mwy ar ansawdd wrth ddarparu gofal iechyd, a ddisgrifiwyd yn Cymru Iachach a’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch. Bydd datganiadau ansawdd yn rhan annatod o’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Lansiwyd y Datganiad Ansawdd hwn yn ystod pandemig COVID-19, a gafodd effaith sylweddol ar wasanaethau canser. Mae’r Datganiad Ansawdd yn cynnwys canolbwyntio ar adferiad ar unwaith yn y tymor byr, yn ogystal ag ystyried y potensial ar gyfer datblygiadau arloesol a thrawsnewidiol, fel biopsi hylifol, yn tymor hwy. Fodd bynnag, mae’n canolbwyntio’n sylweddol ar ddatblygu gwasanaethau tymor canolig yn ystod Tymor y Senedd.

Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau canser yn unol â safonau proffesiynol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’n cael eu cyfarwyddo, eu cefnogi a’u galluogi i ddarparu gwell gwasanaethau canser drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y GIG. Cyflawnir hyn drwy ei Fwrdd Rhwydwaith Canser Cymru, a gefnogir gan gyllid cenedlaethol. Bydd y rhwydwaith clinigol yn llunio cynllun gweithredu treigl tair blynedd sy’n nodi ac yn blaenoriaethu datblygiadau mewn gwasanaethau canser yn seiliedig ar y priodoleddau ansawdd a ddisgrifir isod. Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru; bydd y rhain yn cael eu nodi yn Atodiad A wrth iddynt ddod ar gael.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol ac yn pwysleisio pwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systemig yn lleol. Mae’r datganiad ansawdd hwn yn canolbwyntio ar y llwybrau sydd wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol i gefnogi gwelliannau lleol yn ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. Y gwaith parhaus o roi’r un llwybr canser ar waith a’i ddatblygu ymhellach, yn ogystal â’r llwybrau wedi’u hoptimeiddio’n genedlaethol sy’n sail iddo, yw’r cyfrwng a fydd yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gofal cyson o ansawdd uchel a gwell canlyniadau o ran canser.

Uned Deallusrwydd a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (phw.nhs.wales) sy'n adrodd am gyfraddau goroesi canser a marwolaethau oherwydd canser.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau canser yng Nghymru

Teg

1.    Gweithrediaeth y GIG sy’n arwain y dull cenedlaethol o wella gwasanaethau drwy ei bwrdd rhwydwaith clinigol ar gyfer canser.

2.    Mae gwasanaethau canser yn cydweithio drwy’r rhwydwaith clinigol i sicrhau tryloywder ac i gefnogi mynediad cyfartal a chysondeb mewn safonau gofal.

3.    Mae set ddata SCP, archwiliadau clinigol, PROMs ac adolygiadau cymheiriaid yn elfennau allweddol sy’n cefnogi trafodaethau ynghylch atebolrwydd. 

4.    Mae sganio'r gorwel ar gyfer datblygiadau arloesol trawsnewidiol yn helpu i’w mabwysiadu’n gyflymach ac yn fwy eang yn lleol.

5.    Mae’r gweithlu canser wedi’i gynllunio i fodloni’r galw a ragwelir; oncoleg glinigol a meddygol, nyrsys canser arbenigol, ffiseg feddygol a radiograffyddion therapiwtig yn benodol.

Diogel

6.    Ar lefel system, mynd ati ar unwaith i ganolbwyntio ar ddychwelyd y niferoedd ar restrau aros i’w lefelau cyn y pandemig.

7.    Mae rhaglenni a argymhellir ar gyfer y boblogaeth a rhaglenni sgrinio wedi’u targedu ar gael; mae’r nifer sy’n cymryd rhan yn bodloni safonau’r gwasanaeth ac mae’r cyfranogiad yn deg.

8.    Mae gwasanaethau canser mwy arbenigol sy’n fregus neu’n methu cyrraedd safonau hanfodol wedi’u had-drefnu i fod yn wasanaethau rhanbarthol, uwch-ranbarthol neu genedlaethol mwy cadarn.

9.    Mae Gwasanaethau Oncoleg Acíwt cwbl integredig ar gael ym mhob ysbyty acíwt.

Effeithiol

10.    Mae mwy o achosion o ganser yn cael eu canfod ar gamau cynharach lle mae’n haws eu trin drwy fynediad mwy amserol at ymchwiliadau diagnostig.

11.    Mae technegau llawfeddygol, radiotherapi, therapïau gwrth-ganser systemig a therapïau genomig seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn rheolaidd.

12.    Mae pob claf cymwys yn cael cynnig mynediad at dreialon ymchwil ac mae Cymru’n darparu seilwaith cefnogi rhagorol ar gyfer ymchwil canser.

Effeithlon

13.    Mae’r Un Llwybr Canser a’i Lwybrau sydd wedi’u Hoptimeiddio’n Genedlaethol yn gynhwysfawr ac wedi’u sefydlu’n llwyr yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau lleol.

14.    Mae’r cofnod cleifion canser yn cael ei ddarparu ar lwyfan TG modern a chadarn sy’n golygu bod modd integreiddio gofal yn fwy eang, ac mae’n darparu’r data perthnasol i lywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau.

15.    Mae clinigwyr sy’n gweithio mewn llwybrau canser yn gweithio hyd eithaf eu trwydded, neu’n cael eu cefnogi i wella eu cymysgedd sgiliau. Maent hefyd yn cael eu galluogi i gymryd rhan yn y cylch sicrhau ansawdd ac mewn gweithgarwch ymchwil.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

16.    Mae gofal canser sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wedi’i sefydlu’n ddiwylliannol a’i gefnogi gan ddull cyffredin o asesu a rheoli anghenion pobl.  

17.    Mae cynllunio gofal ar y cyd yn sicrhau bod pobl y mae canser yn effeithio arnynt yn cyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt.

18.    Mae meddygaeth fanwl yn golygu bod modd targedu triniaethau’n well.

19.    Mae cyn-sefydlu ac ailsefydlu yn rhannau allweddol o’r llwybr canser; gan gynnwys gwneud i bob cyswllt gyfrif.

Amserol

20.  Mae o leiaf 75% o'r bobl sy'n cael eu hatgyfeirio i’r llwybr lle’r amheuir canser yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i’r adeg y caiff ei amau.

21.    Mae amseroldeb llwybrau canser yn cael ei fesur ar draws eu hyd cyfan, y tu hwnt i’r driniaeth ddiffiniol gyntaf, gan gynnwys y clefydau sy’n digwydd dro ar ôl tro.

22.    Mae cydweithio’n agos â rhwydweithiau a rhaglenni diagnostig cenedlaethol yn rhoi gwell mynediad at ymchwiliadau diagnostig.

Atotiad A - manylebau gwasanaeth

Bydd gweithrediaeth y GIG yn goruchwylio’r gwaith o weithredu’r llwybrau clinigol gorau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol:

  • canser y fron
  • canser plant
  • canser y colon a’r rhefr
  • canser gynaecolegol
  • canser y pen a'r gwddf
  • canser yr ysgyfaint
  • canser niwroendocrin
  • canser pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc
  • canser gastrogoluddol uchaf
  • canser wrolegol

A hefyd y manylebau gwasanaeth (gig.cymru) canlynol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol:

  • Llawdriniaeth Hepato-Pancreato-Bustlaidd
  • Llawdriniaeth Oesoffago-Gastrig
  • Canolfan Diagnosis Cyflym