Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ansawdd

Mae un o bob deuddeg o oedolion yng Nghymru yn nodi bod ganddynt salwch anadlol hirdymor, ac mae’r gyfradd cyffredinrwydd asthma yn uwch yng Nghymru na chyfartaledd Ewrop. Cyn pandemig COVID-19, roedd tua 15-16% o’r holl farwolaethau i’w priodoli i glefyd anadlol, ac yn 2019 Cymru oedd â’r gyfradd uchaf ym Mhrydain Fawr o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn achos clefydau’r system anadlol. Mae meddygaeth anadlol yn costio mwy na £400 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru.

Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol yn 2014 i helpu cyrff y GIG i wella ansawdd gwasanaethau a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion. Mae wedi llwyddo i anelu ymdrechion at leihau amrywiadau mewn gofal drwy gyflwyno dulliau cenedlaethol i safoni gofal ar draws byrddau iechyd. Mae’r rhain wedi cynnwys safonau addysgol cenedlaethol ar gyfer pob maes meddygaeth anadlol, canllawiau cenedlaethol ynghylch clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) a rheoli asthma, dulliau o wella ansawdd, ac apiau i gleifion – sydd i gyd ar gael ar un platfform digidol.

Roedd pandemig COVID-19 2020 yn gofyn am ymateb cenedlaethol digynsail i glefyd a oedd yn anhysbys cyn hynny, a nodweddir gan niwmonitis difrifol. Amlygodd hyn bwysigrwydd gwasanaethau clefydau anadlol yn glir. Ymatebodd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol i’r pandemig drwy greu cyfres o ganllawiau clinigol ar asesu a rheoli COVID-19 mewn lleoliadau ysbyty, a fframwaith ar gyfer rheoli COVID-19 mewn gofal cymunedol. Ychwanegwyd at hynny drwy broses genedlaethol o gasglu data ynghylch gofal mewn wardiau ar gyfer COVID-19, a fframwaith cenedlaethol ar gyfer ymadfer ar ôl haint COVID-19, gan gynnwys ap i gleifion.

Mae’r pandemig wedi cael effaith sylweddol hefyd ar brosesau arferol ar gyfer rheoli cyflyrau cronig yr ysgyfaint, yn enwedig darparu adolygiadau blynyddol a sbirometreg. Mae’n bwysig bod gwasanaethau’r GIG yn ymadfer yn gyflym o effaith y pandemig a’u bod yn ailsefydlu prosesau gofal arferol i bobl sydd â chyflyrau cronig yr ysgyfaint. Bydd hyn yn gwella rheolaeth unigol ar glefydau, yn lleihau cymhlethdodau, ac yn osgoi lefelau uwch o alw am ofal iechyd.

Mae’r Datganiad Ansawdd hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod diagnosis, dulliau rheoli, a thriniaethau priodol ar gyfer clefydau anadlol ymysg oedolion, ac ymysg plant a phobl ifanc, fel ei gilydd. Mae wedi’i ategu gan strategaethau a pholisïau cenedlaethol eraill sy’n gysylltiedig ag atal a rhwystro clefydau trosglwyddadwy; yn ogystal â chynlluniau cenedlaethol ynghylch tybaco a gordewdra, y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a’r dull a weithredir ledled y DU ar gyfer ymdrin â chlefydau prin, fel ffeibrosis systig. Dylai’r broses o gynllunio gwasanaethau sicrhau tegwch o ran mynediad, gan gynnwys dulliau wedi’u targedu ar gyfer grwpiau o gleifion y mae’n anodd ymgysylltu â nhw, neu grwpiau sydd fel arfer yn profi canlyniadau anadlol gwaeth.

Mae byrddau iechyd – fel sefydliadau gofal iechyd integredig – yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal anadlol a byddant yn ymateb i’r Datganiad Ansawdd hwn drwy’r broses gynllunio tymor canolig integredig. Bydd olynydd y Grŵp 
Gweithredu ar Iechyd Anadlol yn helpu byrddau iechyd i wella ansawdd, cysondeb, a gwerth y gofal iechyd a ddarperir. Bydd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio egwyddorion gwyddor gweithredu i sicrhau bod canllawiau digidol cenedlaethol, pecynnau addysgol, ac apiau cleifion yn cael eu mabwysiadu ar lefel leol. Bydd hyn yn grymuso gwasanaethau clinigol ar draws gofal sylfaenol, cymunedol, ac eilaidd i ddarparu gofal anadlol rhagorol.

Bydd ansawdd y gofal ar gyfer clefydau anadlol yn cael ei fonitro drwy gyfres o ddangosfyrddau cenedlaethol a thrwy’r Rhaglen Archwilio Genedlaethol Asthma a COPD (nacap.org.uk)

Priodweddau Ansawdd

Teg

  • Mae’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol yn llunio setiau data cenedlaethol i gefnogi penderfyniadau clinigol ac i wella gwaith lleol o gynllunio gwasanaethau clefydau anadlol i oedolion a phlant a phobl ifanc.
  • Mae’r Grŵp Gweithredu ar Iechyd Anadlol yn llunio ac yn cynnal canllawiau, llwybrau a dulliau cenedlaethol (gan gynnwys Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM)) i helpu byrddau iechyd i ddarparu gofal cyson a rhagorol ar gyfer clefydau anadlol. 
  • Mae byrddau iechyd yn darparu (neu’n comisiynu) timau amlbroffesiynol arbenigol, sy’n gymwys i reoli clefydau anadlol cronig oedolion (gan gynnwys twbercwlosis, clefyd interstitaidd, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, asthma, problemau anadlu sy’n gysylltiedig ag anhwylderau cysgu, a darparu therapi ocsigen), sydd ag adnoddau priodol er mwyn diwallu anghenion eu poblogaeth.
  • Mae byrddau iechyd yn comisiynu (neu’n darparu) timau amlbroffesiynol arbenigol rhanbarthol sy’n gymwys i reoli clefydau anadlol cronig ymysg plant a phobl ifanc.

Diogel

  • Mae byrddau iechyd, fel y bo’n briodol, yn derbyn cleifion sydd ag achos mwy difrifol o fethiant organ unigol yn y system anadlol i uned cymorth anadlu, neu uned gofal dwys, sydd â staff ac offer sy’n bodloni canllawiau cenedlaethol.
  • Mae byrddau iechyd yn darparu (neu’n comisiynu) gwasanaethau ar gyfer asthma anodd i bobl sydd â chlefyd difrifol neu heb ei reoli. Mae’r gwasanaethau hyn yn cydweithio ar lefel genedlaethol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ac y gellir cael gafael yn briodol ar therapi meddyginiaeth fiolegol.
  • Mae byrddau iechyd yn cymryd rhan mewn archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer clefydau anadlol ac yn cymhwyso methodoleg gwella ansawdd ac adnoddau gwella ansawdd cenedlaethol mewn ymateb i’r canfyddiadau.
  • Dylai pob claf yr ystyrir defnyddio therapi ocsigen hirdymor ar ei gyfer yn y cartref gael asesiad safonol yn unol â chanllawiau Cymdeithas Thorasig Prydain.

Effeithiol

  • Pan fo’n briodol, mae oedolion y mae clefyd anadlol cronig yn effeithio arnynt yn cael gofal ac adolygiadau arferol ym maes gofal sylfaenol a chymunedol gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gymwys i reoli cyflwr anadlol y claf.
  • Dylai pobl sydd â chlefyd anadlol, a rhieni plant sydd â chlefyd anadlol, sy’n defnyddio tybaco gael cyngor cryno ar roi’r gorau iddo, a dylid cynnig Therapi Disodli Nicotin iddynt a’u hatgyfeirio at wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu.
  • Mae pobl sydd â chlefyd anadlol cronig yn cael cynnig eu brechiadau arferol er mwyn lleihau eu risg o waethygu a gorfod mynd i’r ysbyty.
  • Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cydweithio â phartneriaid o’r byd academaidd a byd diwydiant, fel Arloesedd Anadlol Cymru, i gyflymu gweithgareddau ymchwil ac arloesedd ym maes meddygaeth anadlol.
  • Mae gan fyrddau iechyd arweinydd clinigol a chorfforaethol enwebedig ar gyfer twbercwlosis a chynllun lleol ynghylch atal a rheoli, er mwyn sicrhau bod gwasanaethau’n gallu ymdrin â’r gwaith o reoli achosion cymhleth ac ymateb i unrhyw ddigwyddiadau neu frigiadau o achosion.

Effeithlon

  • Mae pobl sy’n ymgyflwyno sawl gwaith yn yr ysbyty â chlefyd y llwybrau anadlu yn cael eu cynorthwyo gan aelod priodol o dîm amlbroffesiynol i wella’u rheolaeth ar y clefyd a lleihau eu risg o dderbyniadau pellach ar gyfer gofal heb ei drefnu.
  • Mae cleifion newydd sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, a’r rhai sydd eisoes ar gofrestr clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, â thystiolaeth, sydd wedi’i chodio yn y cofnod clinigol, o sbirometreg a gyflawnir gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd wedi’i hyfforddi’n briodol.
  • Mae cleifion asthma newydd, a’r rhai sydd eisoes ar gofrestr asthma, â thystiolaeth wedi’i chodio o glefyd yn unol â’r canllaw cenedlaethol.
  • Mae adolygiadau o’r defnydd o feddyginiaethau yn hwyluso newidiadau priodol ac sydd wedi’u teilwra i’r unigolyn mewn arferion presgripsiynu, gan sicrhau y rhoddir mwy o bresgripsiynau am anadlyddion is o ran potensial cynhesu bydeang fel canran o gyfanswm yr anadlyddion sy’n cael eu presgripsiynu, defnyddio llai o anadlyddion SABA, a sicrhau llai o bresgripsiynu hirdymor o steroidau a gymerir drwy’r geg.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Dylai sbirometreg fod ar gael i gleifion dros 12 oed mewn gofal sylfaenol neu gymunedol a dylai’r canlyniadau fod ar gael i’r holl dimau clinigol perthnasol drwy Borth Clinigol Cymru a systemau contractwyr annibynnol. 
  • Mae apiau cleifion yn cael eu cynnig i bob claf sydd ag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint – neu i rieni plant sydd ag asthma – fel cynllun hunanreoli digidol i gleifion.
  • Sicrhau bod modd cael gafael ar gyfleoedd adsefydlu priodol, gan gynnwys presgripsiynu cymdeithasol, atgyfeiriadau ar gyfer ymarfer corff, a gwasanaethau adsefydlu ysgyfeintiol; ynghyd â grwpiau cymorth cymheiriaid, gan gynnwys o’r trydydd sector.

Amserol

  • Mae pob claf sy’n cael ei dderbyn i’r ysbyty y mae ei brif salwch yn salwch anadlol yn cael ei weld gan arbenigwr anadlol o fewn 24 awr.
  • Mae pob claf sydd angen cymorth anadlu anfewnwthiol yn ei gael cyn pen dwy awr ar ôl cyrraedd yr ysbyty ac, fel y bo’n briodol, yn cael ei reoli mewn uned cymorth anadlu neu uned gofal dwys.
  • Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cynllunio ar gyfer amrywiadau tymhorol mewn achosion acíwt o glefyd anadlol yn gwaethygu ac yn darparu gwasanaethau yn y gymuned y gellir cael gafael arnynt yn gyflym, er mwyn osgoi derbyniadau diangen.

Atodiad A: Canllawiau rheoli clinigol

Mae’r canllawiau rheoli clinigol (icst.org.uk) a ganlyn ar gael i’w defnyddio yng Nghymru:

  • Canllawiau ar reoli a phresgripsiynu: clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint 
  • Canllawiau ar reoli a phresgripsiynu: asthma ymysg oedolion 
  • Canllawiau ar osgoi derbyniadau oherwydd clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint
  • Llwybrau gofal ar gyfer bronciolitis y feirws syncytiol anadlol
  • Canllawiau ar wneud diagnosis, rheoli a phresgripsiynu ar gyfer asthma ymysg plant a phobl ifanc
  • Llwybr asthma acíwt ar gyfer plant a phobl ifanc