Neidio i'r prif gynnwy

Gweledigaeth

Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefydau’r Afu yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau’r afu i blant ac oedolion yng Nghymru ar gyfer y degawd nesaf. Bydd yn cael ei gefnogi gan Weithrediaeth y GIG a’i weithredu drwy gyfres o gynlluniau galluogi byrddau iechyd a gwaith ar y cyd â rhwydweithiau a rhaglenni eraill. Ymhlith y meysydd allweddol y bydd gwasanaethau hepatoleg yn cydweithio â nhw mae gwasanaethau diabetes a gordewdra, gwasanaethau camddefnyddio alcohol a sylweddau a’r rhwydwaith hepatitis feirysol cronig.

Cyflwyniad

Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru o glefydau cronig yr afu wedi mwy na dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf. Clefyd ar yr afu bellach yw’r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ymhlith pobl rhwng 35 a 49 oed yn y DU. Yn yr un modd â llawer o gyflyrau iechyd, mae’r ffordd y mae plant ac oedolion yn byw eu bywydau yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y risg o ddatblygu clefydau cronig yr afu. Yfed gormod o alcohol a gordewdra yw’r achosion mwyaf cyffredin o glefydau’r afu yng Nghymru o hyd. Mae’r mwyafrif helaeth o gleifion sydd â chlefyd cronig yr afu yn dioddef o sirosis. Gall gwell ymwybyddiaeth o’r ffactorau risg ar gyfer clefydau’r afu a chanfod ffibrosis yr afu yn gynnar helpu i atal sirosis rhag datblygu. Ar ben hynny, mae sirosis yn ffactor risg mawr ar gyfer canser yr afu cychwynnol (HCC) sy’n datblygu mewn 200 o bobl y flwyddyn yng Nghymru a dyma’r chweched canser mwyaf cyffredin ledled byd.

Un math o glefyd ar yr afu y gellir ei atal, ei drin ac weithiau o bosibl ei wella yw hepatitis feirysol cronig, a achosir gan feirysau a gludir yn y gwaed (BBV), sef Hepatitis B ac C. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo ei hun i gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd o ddileu feirysau a gludir yn y gwaed erbyn 2030. Mae rhai o’r targedau hyn yn ymwneud ag atal drwy frechu babanod a grwpiau risg uchel fel gweithwyr gofal iechyd. Mae canfod achosion asymptomatig sydd heb gael diagnosis yn gynnar yn parhau i fod yn ymyrraeth allweddol er mwyn gwella canlyniadau drwy driniaeth wrthfeirol gynnar.

Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o glefydau’r afu a’u hatal lle bynnag y bo modd, gan sicrhau bod gan gleifion sydd â chlefyd ar yr afu fynediad amserol at lwybrau gofal o ansawdd uchel, waeth ble maent yn byw.

Cydweithio

Gan adeiladu ar waith y Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu, bydd angen parhaus i ddarparu arweinyddiaeth genedlaethol a hyrwyddo’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o ansawdd gwell, gwerth uwch, sy’n fwy hygyrch, i gleifion sydd â chlefyd ar yr afu a’r rhai sy’n wynebu’r risg o ddatblygu’r clefyd. Bydd dull rhwydwaith, sy’n dod â phartneriaid ac arbenigwyr system allweddol ynghyd, yn datblygu ymhellach y llwybrau delfrydol i fynd i’r afael ag amrywiadau dieisiau mewn gofal wrth gynnal arweinyddiaeth genedlaethol, ymgysylltu’n lleol a chydweithio’n barhaus â’r trydydd sector, sy’n rhoi llais cenedlaethol i brofiad y claf. 

Mae amddifadedd yn effeithio’n andwyol ar ganlyniadau clefydau’r afu. Felly mae angen sicrhau mynediad teg at wasanaethau’r afu i bobl sydd wedi wynebu anghydraddoldeb. Bydd angen ailddychmygu rhai llwybrau mewn modd hyblyg ac arloesol i gyflawni hyn. Mae angen hefyd datblygu mwy o wytnwch a chydgynhyrchu ynghyd â buddsoddiad yn y gweithlu ar gyfer gwasanaethau’r afu. Bydd Cofrestrfa Afu Cymru a fframwaith gofal iechyd seiliedig ar werth yn llywio ein gwelliannau. Bydd cynnwys y cleifion a’r cyhoedd (PPI) yn barhaus yn ganolog i’r gwelliannau hyn gan ddefnyddio’r canlyniadau sy’n bwysig i bobl er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau a wneir ynghylch gofal a mynediad at wasanaethau, yn cael eu cydgynhyrchu yn unol â’r egwyddorion yn ‘WHC/2023/001’. 

Mae angen cydweithio ar draws byrddau iechyd, defnyddwyr gwasanaethau, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill i amlinellu rhaglen waith gytunedig sy’n nodi a blaenoriaethu datblygiadau mewn gwasanaethau clefydau’r afu. 

Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru; bydd y rhain yn cael eu nodi yn Atodiad A wrth iddynt ddod ar gael.

Bydd byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i’r rhai sydd â chlefyd ar yr afu yn unol â safonau proffesiynol, canllawiau clinigol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Byddant yn cael eu cefnogi i ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer clefydau’r afu drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y GIG. 

Dylai cynllun 'Mwy na geiriau' Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal, drwy egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’, ddod yn rhan annatod o ofal cleifion. Dylai darparwyr gwasanaethau adeiladu ar yr arferion gorau presennol, a chynllunio, comisiynu a darparu gofal yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

Yn unol â’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol mae’r datganiad ansawdd hwn yn canolbwyntio ar weithredu’r llwybrau delfrydol cenedlaethol i gefnogi gwelliannau lleol yn ansawdd gwasanaethau a mynd i’r afael ag amrywiadau dieisiau mewn gofal. Mae Cymru eisoes yn ymfalchïo mewn llwybr prawf gwaed afu annormal er mwyn canfod clefydau’r afu yn gynnar ym maes gofal sylfaenol. Mewn achosion pan na fo’r llwybrau hyn yn bodoli eto, bydd angen eu datblygu o fewn y fframwaith hwn.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau’r afu yng Nghymru

Teg

1.    Ar hyn o bryd mae Cydweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r dull cenedlaethol o wella gwasanaethau drwy’r Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu (LDIG). Mae gwasanaethau’r afu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn cydweithio â’r Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu i hyrwyddo tryloywder, cefnogi mynediad teg a sicrhau cysondeb o ran safonau gofal wrth dynnu sylw at amrywiad direswm.
2.    Bydd gwasanaethau ar gyfer clefydau’r afu yn cael eu targedu a'u hysbysu’n briodol i sicrhau mynediad cyfartal i oedolion a phlant yng Nghymru, waeth beth fo’u cod post, tarddiad ethnig neu rywedd (neu hunaniaeth rhywedd).

Diogel

3.    Cynhelir archwiliadau a thriniaethau yn unol â’r dystiolaeth, safonau a chanllawiau NICE diweddaraf, gan gynnwys mynediad at ddiagnosteg, technolegau, triniaethau a thechnegau newydd. Ystyrir hefyd ganllawiau Cymru (fel y rheini sy’n deillio o Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru) a Chylchlythyrau Iechyd Cymru (WHC).

4.    Bydd plant ac oedolion sydd â chlefyd ar yr afu yn parhau i gael gofal priodol gan dimau amlddisgyblaethol arbenigol gyda mynediad at ganolfannau trawsblannu lle bo angen. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth diogelu i gleifion ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty, a gwybodaeth ysgrifenedig i gleifion, teuluoedd a gofalwyr.

5.    Mae dangosfwrdd gofal iechyd seiliedig ar werth (WBHC) wedi cael ei ddatblygu ar gyfer clefydau’r afu gan adeiladu ar waith Cofrestra Afu Cymru.

Effeithiol

6.    Mae pwysigrwydd gwaith ymchwil ynghylch clefydau’r afu i wella ansawdd bywyd, defnyddio adnoddau’n ofalus a dylanwadu ar ofal cleifion yn cael ei hyrwyddo.

7.    Bydd ffocws parhaus ar gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis feirysol cronig (B ac C) fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd fel y nodir yn WHC/2017/048.

8.    Caiff atal clefydau’r afu ei hyrwyddo drwy gyngor ar ffordd o fyw a darpariaeth ymyriadau priodol drwy ofal sylfaenol ac eilaidd. Mae’r nodau parhaus o ddatblygu Timau Gofal Alcohol 7 Diwrnod yr Wythnos ym mhob bwrdd iechyd yn un enghraifft o’r fath. Yn ogystal, bydd cysylltiad â’r Cynlluniau Gweithredu Cenedlaethol ar Atal Gordewdra (Pwysau Iach, Cymru Iach) a Chamddefnyddio Sylweddau yn rhan annatod o’r nod hwn.

Effeithlon

9.    Mae’r galluogwyr digidol ar gyfer gofal gwell yn cael eu harneisio drwy weithredu systemau cymorth ar-lein, ymgynghoriadau digidol a chymorth drwy’r system. Mae angen comisiynu’r platfform digidol i gefnogi’r llwybr prawf gwaed afu annormal Cymru gyfan ar sail gynaliadwy fel y gellir datblygu adnoddau tebyg i feysydd clinigol eraill o bwys strategol.

10.    Bydd y gweithlu ar gyfer gwasanaethau’r afu yn cael ei ddatblygu ymhellach, er mwyn sicrhau ei fod yn gynaliadwy, wedi’i ddosbarthu’n deg ac yn cael ei ehangu i ateb y cynnydd a ragwelir yn y galw am ofal. Bydd Cofrestrfa Afu Cymru a dangosfwrdd gofal iechyd seiliedig ar werth yn allweddol i hyn.

11.    Mae ymchwil, arloesedd ac addysg yn cael eu datblygu ymhellach fel bod modd i ofal clinigol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gael ei ddarparu gan weithlu arbenigol, sydd wedi’i hyfforddi’n dda.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

12.    Bydd gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan annatod o’r diwylliant. Mae cydgynhyrchu gofal yn sicrhau bod cleifion sy’n cael eu heffeithio gan glefydau’r afu a’u teuluoedd/gofalwyr yn cyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt.

13.    Mae ymrwymiad parhaus i’r targedau dileu feirysau a gludir yn y gwaed a osodwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Er mwyn cyflawni’r safon hon, mae angen mynediad ar bob claf sydd â chlefyd cronig yr afu at arbenigwyr nyrsio Hepatoleg a/neu Hepatitis Feirysol.

14.    Mae mynediad teg at wasanaethau i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig (fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010), a darperir gwybodaeth yn ôl yr angen mewn ffurf sy’n hygyrch, gan gynnwys ystyried anghenion o ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill.

Amserol

15.    Mae gwasanaethau’r afu sy’n cael eu darparu gan Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd yn cael eu harchwilio a’u monitro o ran ansawdd gofal a chanlyniadau cleifion. Bydd llawer o hyn yn cael ei gyflawni drwy barhau i gymryd rhan yng nghynllun achredu 'Improving Quality in Liver Services' Coleg Brenhinol y Meddygon. Nodir enghreifftiau penodol o fesurau prydlondeb yn Nhabl 1.

Nodir metrigau penodol a chanlyniadau arfaethedig sy’n ymwneud ag ansawdd a phrydlondeb gwasanaethau hepatoleg clinigol yn Nhabl 1.

Tabl 1: Canlyniadau arfaethedig a thrawsweithio ar gyfer clefydau’r afu
Canlyniadau arfaethedig (rhestr sy’n esblygu) Trawsweithio

Mwy o gydnabyddiaeth o’r ffactorau rhagdueddu ar gyfer clefydau’r afu mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd:

  • Gwella’r profion am ffibrosis mewn anhwylderau defnyddio alcohol
  • Llwybrau ar gyfer clefydau’r afu sy’n gysylltiedig â metabolaeth (clefyd yr afu brasterog yn bennaf)
  • Ymrwymiad i dargedau dileu feirysau a gludir yn y gwaed Sefydliad Iechyd y Byd a chymryd camau i gyflawni’r targedau hynny

Sefydlu dangosfwrdd gofal iechyd seiliedig ar werth i ddiffinio’r gwaith o:

  • Ddadansoddi’r bwlch rhwng y galw a’r capasiti
  • Ehangu’r gweithlu o ran clefydau’r afu, gan gynnwys meddygon a nyrsys arbenigol, fel bod digon i ateb y galw mewn modd amserol
  • Datblygu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMS)/ Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMS)/ Mesurau Canlyniadau Clinigol a Adroddir (CROMS)

Mae pob Bwrdd Iechyd yn parhau i ymgysylltu â’r cynllun 'Improving Quality in Liver Services' fel cyfrwng ar gyfer sicrhau gwelliannau parhaus yn y gwasanaeth a chael adolygiadau gan gymheiriaid. Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol adrodd ar sawl Dangosydd Perfformiad Allweddol:

  • Cyfran y triniaethau draenio asgites a wneir fel achosion dydd
  • Mynediad at ofal diwedd oes
  • Cyfran y cleifion sy’n cael eu derbyn gyda chlefyd ar yr afu a welir gan arbenigwr o fewn 24 awr
  • Canran y rhai sydd ag asgites sy’n cael tap asgitig o fewn 24 awr
  • Canran y rhai sydd â gwythiennau faricos sy’n cael gwrthfiotigau a therlipresin

Cynnydd parhaus o ran amlder y diagnosis o sirosis a diagnosis cynnar o’r cyflwr

Llai o farwolaethau o glefydau’r afu

Gwell cyfraddau cyfeirio ar gyfer trawsblaniad yr afu

Cynyddu cyfran y cleifion sydd â chanser yr afu cychwynnol (HCC) sy’n cael therapi a chyfran y canserau sy’n cael eu canfod drwy oruchwylio

Dylai pob bwrdd iechyd gael timau gofal alcohol 7 diwrnod yr wythnos

Datblygu ymchwil 

Ffurfioli rhwydweithiau cyflawni gweithredol amlddisgyblaethol rhanbarthol a chenedlaethol – Carsinoma Hepatogellog (HCC)/Siyntio Portosystemig Mewnhepatig Trawsfyddol (TIPS)/Clefydau Prin yr Afu/Pontio yn ystod y glasoed

Coleg Brenhinol y Meddygon

Cymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhwydwaith Feirysau a Gludir yn y Gwaed

Gwasanaethau atal a thrin HIV

Gordewdra a gwasanaethau bariatrig

Gwasanaethau camddefnyddio alcohol a sylweddau

Sefydliadau’r trydydd sector gan gynnwys British Liver Trust, Children’s Liver Disease Foundation a Hepatitis C Trust

Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Geirfa

Feirysau a Gludir yn y Gwaed (BBV )

Feirysau y mae rhai pobl yn cario yn eu gwaed ac y gellir eu lledaenu o un person i’r llall. Yn berthnasol i’r datganiad hwn mae’r feirysau hepatitis B ac C sy’n achosi clefydau cronig yr afu yn aml.

Clinical Research Organisation and Management (CROM)

Cwmni sy’n darparu gwasanaethau yn y sector gofal iechyd, gan gynnwys gweithgareddau ymchwil clinigol a Thwristiaeth Feddygol.

Gofal Diwedd Oes (EOLC)

Cymorth i bobl sydd ym misoedd neu flynyddoedd olaf eu bywyd. 

Bwrdd iechyd (HB)

Mae’n gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau’r GIG yn ei ardal.
HCC    Carsinoma Hepatogellog    Math o ganser yr afu. Enw arall arno yw hepatoma.

Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV)

Feirws a gludir yn y gwaed sy’n ymosod ar system imiwnedd y corff.

Improving Quality in Liver Services (Rhaglen) (IQILS)   

Cynllun achredu a gynhelir gan Goleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer ysbytai sy’n gofalu am bobl sydd â chyflwr ar yr afu i ddangos eu bod yn darparu gwasanaethau’r afu o ansawdd uchel i gleifion.

Clefydau’r afu (LD)

Mae’n cyfeirio at unrhyw rai o’r cyflyrau sy’n gallu effeithio ar yr afu a’i niweidio.

Grŵp Gweithredu Clefydau’r Afu (LDIG)

Mae’n cefnogi’r cynnydd a wneir wrth gyflawni’r blaenoriaethau a nodir yn ‘Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu’.

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE)

Corff cyhoeddus anadrannol sy’n datblygu ac yn darparu canllawiau a chyngor cenedlaethol i wella iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a Lloegr.

Cynnwys y Cleifion a’r Cyhoedd (PPI) 

Casglu barn a wneir gan neu gydag aelodau’r cyhoedd.

Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREM)

Asesu ansawdd profiadau gofal iechyd, gan ganolbwyntio ar gleifion.

Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM)

Asesu ansawdd y gofal a ddarperir i gleifion GIG o safbwynt y claf.

Siyntio Portosystemig Mewnhepatig Trawsfyddol (Triniaeth) (TIPS)

Mewnosod stent (tiwb) i ddatgywasgu’r wythïen bortal i mewn i brif wythiennau’r abdomen.

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth (VBHC)

Gwella canlyniadau iechyd mewn ffordd sy’n ariannol gynaliadwy ac yn canolbwyntio ar werth cleifion.

Cylchlythyr Iechyd Cymru (WHC)

Canllawiau iechyd sy’n cael eu cyhoeddi i fyrddau iechyd a gweithwyr proffesiynol fel cylchlythyr ac yn gosod y safon sy’n ofynnol ar gyfer y GIG.

Sefydliad Iechyd y Byd (WHO)

Asiantaeth arbenigol o’r Cenhedloedd Unedig sy’n gyfrifol am iechyd cyhoeddus rhyngwladol.

Atodiad A - manylebau gwasanaeth 

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r gwaith lleol o weithredu llwybrau clinigol delfrydol y cytunir arnynt yn genedlaethol. Ychwanegir y rhain wrth iddynt ddod ar gael.

  1. Llwybr Prawf Gwaed Afu Annormal Cymru Gyfan
  2. Safonau Feirysau a Gludir yn y Gwaed Sefydliad Iechyd y Byd
  3. Safonau 'Improving Quality in Liver Services'