Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad ansawdd

Ein nod yw sicrhau bod pobl o bob oedran sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol, neu y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt, yn cael mynediad amserol a theg at wasanaethau o ansawdd uchel fel y gallant fyw eu bywyd gorau.

Mae’r Datganiad Ansawdd ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn disodli Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol.

Cyflwyniad

Mae mwy na 577 o gyflyrau, anhwylderau a syndromau niwrolegol cydnabyddedig sy’n effeithio ar yr ymennydd, madruddyn y cefn, y nerfau a’r cyhyrau. Mae’r systemau hyn, felly, yn rheoli pob agwedd ar y meddwl a’r corff. Gall cyflyrau niwrolegol effeithio ar y ffordd y mae pobl yn meddwl, yn teimlo, ac yn rhyngweithio â’r byd o’u cwmpas. Yn aml, maent yn cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd person a’i allu i fyw’n annibynnol a chymryd rhan mewn bywyd teuluol, ac yn ei gymuned. 

Gall cyflyrau niwrolegol gael eu hachosi gan amryw o ffactorau: anaf trawmatig, llid, haint, dirywiad, neu ffactorau genetig neu amgylcheddol.

Mae pob cyflwr niwrolegol yn dilyn trywydd gwahanol fel clefyd, gan ddechrau o’r cyfnod cyn geni, hyd at oedrannau hŷn. Fodd bynnag, mae rhai pethau yn gyffredin i gyflyrau niwrolegol, a all amlygu eu hunain drwy:

  • ddechrau’n sydyn - gallant wella dros amser neu aros yr un fath
  • gwaethygu’n gynyddol dros amser
  • rhywun yn atglafychu ac yn gwella – gall y cyflwr fynd a dod
  • bod yn sefydlog gydag anghenion sy’n newid

Mae hyn yn gofyn am ddull bioseicogymdeithasol, ac am ddylanwad ymyriadau meddygol, rheolaeth ffarmacolegol a gwaith o reoli symptomau, ac adsefydlu, a hynny fel rhan o ymateb amlbroffesiynol, amlasiantaeth. 

Amcangyfrifir bod gan un o bob chwech o bobl yn y DU gyflwr niwrolegol. Disgwylir i nifer y bobl sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol gynyddu dros y blynyddoedd nesaf wrth i fwy o blant oroesi y tu hwnt i enedigaeth i fod yn oedolion. Wrth i boblogaeth y DU heneiddio, felly hefyd y mae nifer y bobl sy’n byw gyda chyflyrau niwrolegol sy’n gysylltiedig ag oed. Mae nifer y blynyddoedd sy’n cael eu colli oherwydd afiechyd, anabledd neu farwolaeth gynnar o ganlyniad i gyflwr niwrolegol yn uwch na’r nifer yn achos diabetes. Mae cyflyrau niwrolegol yn cael effaith fwy ar ansawdd bywyd nag y mae cyflyrau cardiofasgwlaidd neu ddiabetes yn ei chael.

Gall cyflyrau niwrolegol gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl a’r rhai o’u cwmpas. Rhaid i bobl sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol gael yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn gallu rheoli eu symptomau a byw’n dda o fewn unrhyw gyfyngiadau y mae eu cyflwr yn eu gosod arnynt. Mae angen iddynt allu cael gafael yn gyflym ar ddiagnosis a chymorth parhaus gan ystod eang o wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector, er mwyn iddynt fyw eu bywyd gorau. Mae cymhlethdod anghenion y rhai sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol yn ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau gyfathrebu, cydweithio a chydgysylltu gofal yn gyson ar draws yr holl wasanaethau perthnasol, gan gynnwys gofal pobl hŷn a gofal pediatrig a throsiannol. Byddwn yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion, a’u gofalwyr, i’w helpu i ddeall ystyr ac arwyddocâd eu cyflwr. Byddwn yn cyd-ddatblygu cynlluniau ymyrryd sy’n eu helpu i reoli eu symptomau, lleihau’r risgiau i lesiant, a byw’n dda.

Gan adeiladu ar waith y Cynlluniau Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn 2013 a 2017, bydd y Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol yn arwain ar lefel genedlaethol ac yn ysgogi newid er mwyn darparu gwasanaethau o ansawdd gwell, sy’n fwy gwerthfawr, cyson a hygyrch, i bobl y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnynt. Dylai hyn adlewyrchu heriau’r gweithlu ynghyd ag effaith a chyfleoedd y gwahanol ffyrdd o weithio yn ystod pandemig COVID-19. 

Dylai cynllun ‘Mwy na geiriau’ Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal, drwy egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’, ddod yn rhan annatod o’r ffordd rydym yn darparu ar gyfer pobl sydd â chyflwr niwrolegol. Dylai darparwyr gwasanaethau adeiladu ar yr arferion gorau presennol, a chynllunio, comisiynu a darparu gofal yn seiliedig ar yr egwyddor hon.

Bydd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn parhau i fod yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau i’r rhai sydd â chyflyrau niwrolegol. Byddant yn gweithio’n agos gyda sefydliadau gwirfoddol a phobl sydd â phrofiad bywyd o gyflwr niwrolegol er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i wasanaethau sy’n canolbwyntio ar gleifion. Bydd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cael eu cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau gwell ar gyfer cyflyrau niwrolegol drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y GIG. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol, a fydd yn amlinellu cynllun gweithredu treigl, tair blynedd, i bennu a blaenoriaethu datblygiadau i wasanaethau ar sail ar y priodoleddau ansawdd a ddisgrifir isod. 

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau cyflyrau niwrolegol yng Nghymru

Teg

  • Mae Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r dull cenedlaethol o wella gwasanaethau drwy’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Bydd y rhai sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol, neu y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt, yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau o’r cychwyn cyntaf.
  • Darparu triniaeth amserol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn unol â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran tystiolaeth, safonau, yr arferion gorau a chanllawiau NICE. Bydd hyn yn cynnwys manteisio ar ddiagnosteg, technolegau, triniaethau, technegau a datblygiadau arloesol waeth beth fo’r lleoliad daearyddol neu’r cyflwr o dan sylw.
  • Mae gwasanaethau niwrolegol yn cydweithio drwy’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol mewn dull rhwydwaith er mwyn sicrhau tryloywder, hwyluso tegwch o ran mynediad, a sicrhau cysondeb mewn safonau gofal, tra byddant hefyd yn mynd i’r afael ag amrywiad direswm. Bydd hyn yn cael ei ddatblygu drwy ddulliau gweithredu rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Bydd gwasanaethau niwrolegol yn cael eu mesur a’u dal yn atebol â metrigau, gan gynnwys: Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREM), Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM), dangosfyrddau cenedlaethol, archwiliadau, a herio gan gymheiriaid drwy’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol. Bydd y rhain yn adlewyrchu ansawdd gofal cleifion a’i ganlyniadau.
  • Mae gwasanaethau adsefydlu niwrolegol, gan gynnwys cymorth corfforol, cyfathrebu, gwybyddol a seicolegol, ar gael yn gyson i’r rhai y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt, ac maent wedi’u seilio ar anghenion yr unigolyn, gan gynnwys ystyried anghenion o ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill.

Diogel

  • Defnyddio’r sylfaen dystiolaeth, canllawiau clinigol a dysgu ar y cyd i wella gwasanaethau.
  • Datblygu a gwreiddio gwasanaethau niwro-adsefydlu cynhwysfawr, integredig ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer pob cyflwr, gan gynnwys cymorth seicolegol a chyfleoedd i hunanatgyfeirio ar gyfer y rhai sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol neu y mae cyflwr niwrolegol yn effeithio arnynt.
  • Gwneud gwaith pellach i ddatblygu dangosfyrddau Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth ar gyfer cyflyrau niwrolegol, a hynny er mwyn cyfrannu at ganlyniadau gwasanaethau a gwelliannau iddynt, a’u gwerthuso.
  • Hyrwyddo pwysigrwydd gwaith ymchwil ynghylch cyflyrau niwrolegol, gan helpu cleifion i ddatblygu a chymryd rhan mewn treialon clinigol i gyfrannu at waith y gymuned glinigol, gwella ansawdd bywyd, dylanwadu ar ofal cleifion, a sicrhau’r adnoddau gorau posibl.

Effeithiol

  • Gweithredu dull cydgynhyrchiol o godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol ac ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau effeithiol.
  • Helpu pawb sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol i fyw eu bywyd gorau, gan gydnabod effaith yr amgylchedd ehangach y maent yn byw ynddo a’r angen iddynt gymryd rhan mewn gorchwylion beunyddiol.
  • Gwreiddio gwerthuso a’r gwaith o fesur canlyniadau yn gyson ym mhob gwasanaeth, yn unol â’r fframweithiau gwerthuso ar gyfer adsefydlu.

Effeithlon

  • Defnyddio technoleg ym mhob rhan o’r llwybr er mwyn cydgysylltu ac integreiddio gofal yn well ar draws lleoliadau a disgyblaethau gofal.
  • Darparu ymgyngoriadau ac ymyriadau clinigol wyneb yn wyneb a chan ddefnyddio technoleg pan fo hynny’n briodol. Ni ddylai hyn greu anfantais i’r rhai nad yw’r dechnoleg ar gael iddynt.
  • Datblygu gwaith ymchwil, arloesedd ac addysg ymhellach fel bod modd i ofal clinigol o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gael ei ddarparu gan weithlu integredig, sydd wedi’i hyfforddi’n dda, ac sy’n cael cymorth gan offer modelu a data i lywio’i ddealltwriaeth o’r galw a’r capasiti.
  • Darparu gwasanaethau yn y lleoliad mwyaf priodol, yn agos i’r cartref pan fo hynny’n bosibl.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

  • Bydd gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cynnwys gwneud penderfyniadau ar y cyd yn sicrhau bod pobl y mae cyflyrau niwrolegol yn effeithio arnynt yn gallu defnyddio gwasanaethau mewn ffordd sy’n addas iddynt hwy, a chyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt hwy.
  • Gwerthuso gwasanaethau a llwybrau drwy ddull o gydgynhyrchu, gan sicrhau bod defnyddwyr gwasanaethau yn rhan annatod o’r prosesau o dan sylw.
  • Sicrhau bod gofal yn cael ei integreiddio a’i gydgysylltu ar draws gwasanaethau, proffesiynau ac asiantaethau, gan gydnabod anghenion iechyd a gofal ehangach pobl sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol.
  • Sicrhau mynediad teg at wasanaethau i’r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig (fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010), a darparu gwybodaeth a gwasanaethau yn ôl yr angen mewn ffurf sy’n hygyrch, gan gynnwys ystyried anghenion o ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill.

Amserol

Mae cleifion yn gallu defnyddio’r holl wasanaethau yn amserol ac mewn modd sydd wedi’i gydgysylltu. 

Atodiad A: geirfa

Bioseicogymdeithasol

Dull rhyngddisgyblaethol o ymdrin â’r cysylltiadau rhwng bioleg, seicoleg a ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Cydgynhyrchiol

Ffordd o weithio lle mae darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni canlyniad ar y cyd. Mae wedi’i seilio ar yr egwyddor mai’r rhai y mae gwasanaeth yn effeithio arnynt sydd yn y sefyllfa orau i helpu i’w ddylunio.

Seiliedig ar dystiolaeth

Arferion sy’n cael eu llywio gan waith ymchwil clinigol, tystiolaeth wyddonol, neu farn arbenigol sy’n gadarn ac wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Hwyluswyr a rhwystrau ar gyfer cyflawni llwybrau gofal clinigol (Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Cyngor Meddygol Prydeinig).

Cynllun gweithredu

Cynllun manwl ar gyfer rhoi camau penodol ar waith, ac sydd ag amserlenni clir a thargedau y gellir eu cyflawni.

Amgylchedd byw

Pob agwedd sy’n effeithio ar iechyd a llesiant yr unigolyn a’i ddibynyddion, gan gynnwys sefyllfaoedd ariannol ac economaidd.

Canllawiau NICE

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy’n darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd, iechyd y cyhoedd a gofal cymdeithasol.

Llwybrau

Y daith neu’r llwybr cyffredin a ddilynir gan berson sydd â chyflwr penodol drwy wasanaethau gofal iechyd. Offeryn clinigol yw Llwybr GIG, a ddefnyddir i asesu, brysbennu a chyfeirio pobl drwy wasanaethau gofal iechyd. Gall llwybrau gofal roi disgwyliadau clir i gleifion o’u gofal, darparu ffordd o fesur cynnydd claf, hyrwyddo gwaith tîm ar dîm amlbroffesiynol, a hwyluso’r broses o ddefnyddio canllawiau. 

Ffarmacolegol

Yn gysylltiedig â’r gangen o feddygaeth sy’n ymwneud â dulliau o ddefnyddio cyffuriau, eu heffeithiau, a’r modd y maent yn gweithredu.

Cynnydd

Dyma gyfradd ddatblygu cyflwr, neu’r ffordd y mae’n datblygu, dros amser. Gall hyn fod yn gyflym neu’n araf.

Datganiad Ansawdd

Datganiad o fwriad, ar lefel uchel, ynghylch nodweddion y sefyllfa orau o ran gwasanaethau i bobl sydd â chyflyrau niwrolegol.

Adsefydlu

Proses gyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, sy’n cynnwys dulliau sy’n canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar at ddibenion atal, ar ragsefydlu, hunanreoli â chymorth, ac ar ymyriadau sydd wedi’u cynllunio i sicrhau bod unigolion sydd â chyflyrau iechyd yn gweithredu yn y modd gorau, ac i leihau anabledd ynddynt, gan ryngweithio â’u hamgylchedd. (Taflen wybodaeth Cyfundrefn Iechyd y Byd ynghylch adsefydlu).

Hunanreoli

Y ffyrdd y mae gwasanaethau iechyd a gofal yn annog, yn cynorthwyo ac yn grymuso pobl i reoli eu cyflyrau iechyd corfforol ac iechyd meddwl parhaus, eu hunain.

Manylebau gwasanaeth

Canllaw ysgrifenedig sy’n nodi manylion ynghylch sut y bydd gwasanaethau penodol yn cael eu darparu a’u mesur.

Penderfyniadau ar y cyd

Proses ar y cyd pan fo gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio â pherson i ddod i benderfyniad ynglŷn â gofal. Canllawiau NICE

Y trydydd sector

Elusennau a sefydliadau anllywodraethol.

Amrywiad direswm

Amrywiad na ellir ei esbonio drwy salwch, angen meddygol, neu ofynion meddygaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Fe’i gelwir yn aml yn ‘loteri cod post’.

Gofal Iechyd Seiliedig ar Werth

Sicrhau’r canlyniadau gofal iechyd gorau posibl i’n poblogaeth â’r adnoddau sydd gennym. Gwerth mewn Iechyd (gig.cymru)

Atodiad B – manylebau gwasanaeth a chyfeiriadau

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r gwaith lleol o weithredu llwybrau clinigol delfrydol y cytunir arnynt yn genedlaethol. Ychwanegir y rhain wrth iddynt ddod ar gael, fel y nodir yn y cynllun gweithredu.