Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Strôc yw'r pedwerydd prif achos marwolaeth yng Nghymru ac mae'n cael effaith hirdymor sylweddol ar oroeswyr. Ar hyn o bryd, mae bron i 70,000 o oroeswyr strôc yn byw yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod 7,400 o bobl yn cael strôc bob blwyddyn. Gall strôc newid bywyd rhywun yn sydyn, ond, gyda'r cymorth arbenigol cywir, gall pobl wella'n dda a symud ymlaen i ailadeiladu eu bywydau.

Gyda disgwyl i nifer y goroeswyr strôc gynyddu 50% dros yr 20 mlynedd nesaf, mae’n hanfodol bod strôc yn cael ei hatal yn effeithiol pan fo hynny’n bosibl, a bod cyflyrau risg uchel yn cael eu canfod mor gynnar ag sy’n bosibl a’u rheoli yn y ffordd orau bosibl. Mae angen cefnogi unigolion i gyd-gynllunio eu gofal a, phan fo hynny’n briodol, i reoli eu gofal eu hunain. Sicrhau bod y risg o gael strôc mor isel â phosibl i bobl o bob oed yw ein nod o hyd. Pan fydd strôc yn digwydd, rydym am sicrhau bod y tebygolrwydd o oroesi, a dychwelyd i fyw bywyd annibynnol cyn gynted ag sy’n bosibl, yn rhagorol i bawb.

Gan adeiladu ar waith y Cynllun Cyflawni ar gyfer Strôc a oedd yn weithredol cyn hyn, a chan weithredu ar argymhellion y Grŵp Trawsbleidiol ar Strôc, rhaid i’r cam nesaf o wella gwasanaethau i oroeswyr strôc a'u gofalwyr ysgogi newid er mwyn darparu gwasanaethau strôc o ansawdd gwell, gwerth uwch, sy’n fwy hygyrch. Rhaid manteisio ar y consensws eang a geir ynghylch y meysydd a ddylai gael blaenoriaeth, fel ad-drefnu a chynllunio gwasanaethau, a gwasanaethau thrombectomi, thrombolysis, delweddu ac adsefydlu.

Rhaid datblygu ymhellach y llwybrau gorau posibl i fynd i'r afael ag amrywiadau mewn gofal na ellir eu cyfiawnhau, gan barhau hefyd i ddatblygu arweinyddiaeth genedlaethol, ymgysyllu’n lleol a chydweithio’n barhaus â'r trydydd sector, sy'n amlygu llais cenedlaethol profiad bywyd uniongyrchol. Bydd hyn yn sicrhau bod dull hirdymor a chyson ar waith ar gyfer gwella canlyniadau, fel y rhagwelir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau strôc yn unol â safonau proffesiynol, canllawiau clinigol a’r priodoleddau ansawdd a nodir isod. Bydd byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yn cael eu cefnogi i ddarparu gwasanaethau strôc gwell drwy swyddogaeth Gweithrediaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc fydd yn ymgymryd â’r swyddogaeth hon. Bydd yn cydweithio â’r byrddau iechyd, defnyddwyr gwasanaethau, y trydydd sector a rhanddeiliaid eraill i lunio cynllun gweithredu tair blynedd, treigl sy’n nodi’r datblygiadau ym maes gwasanaethau strôc, ac yn eu blaenoriaethu, yn seiliedig ar y priodoleddau ansawdd a ddisgrifir isod. Bydd manylebau gwasanaeth manwl hefyd yn cael eu datblygu i gefnogi’r trefniadau cynllunio ac atebolrwydd ar gyfer y GIG yng Nghymru – pan fydd y rhain ar gael, cânt eu nodi yn Atodiad A.

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol yn rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol ac mae’r Fframwaith Diogelwch ac Ansawdd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systematig yn lleol. Mae’r datganiad ansawdd hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu’r llwybrau gorau posibl yn genedlaethol i helpu i wella ansawdd gwasanaethau yn lleol a mynd i’r afael ag amrywiadau mewn gofal na ellir eu cyfiawnhau.

Mae angen canolbwyntio hefyd ar weithio gyda grwpiau eraill wrth ymateb i feysydd fel iechyd y cyhoedd, atal, adsefydlu, gofal i’r rheini sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithio â gwasanaethau cyflyrau eraill – er enghraifft, cardiofasgwlaidd, niwrolegol a diabetes.

Priodoleddau ansawdd gwasanaethau strôc yng Nghymru

Diogel

Mae pwyslais parhaus ar lefel system ar drawsnewid llwybrau yn unol â’r sylfaen dystiolaeth a chanllawiau clinigol er mwyn gallu adfer gwasanaethau a’u hailosod i’r un lefelau â chyn y pandemig.

Mae model newydd yn cael ei gefnogi ar gyfer darparu gwasanaethau strôc, drwy ganolfannau strôc cynhwysfawr a dull rhwydwaith o weithio ar draws ffiniau sy'n ceisio gwella llwybr y claf yn gyfan, gan gynnwys mynediad at brofion diagnostig, ymyriadau a gwasanaethau adsefydlu, gan gynnwys trefniadau rhyddhau cynnar â chymorth a gwasanaethau cymorth seicolegol.

Mae gwasanaethau yn cael eu had-drefnu i gyflawni’r canlyniadau a ddisgwylir mewn gwasanaethau o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y claf, ac i sicrhau y gellir bodloni safonau cenedlaethol mewn modd cyson a chynaliadwy.

Amserol

Mae mynediad cyflym i gadarnhau strôc a darpariaeth ymyriadau, triniaethau a gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y lleoliad mwyaf priodol ar gael fel mater o drefn.

Effeithiol

Mae gwasanaeth atal rhagofalus ar gyfer strôc a gwasanaeth atal eilaidd ar gyfer strôc, drwy ymyriadau sy’n cynnwys triniaeth a chyngor, yn cael eu hybu yn barhaus, yn unol â'r sylfaen dystiolaeth bresennol ac sy'n esblygu.

Mae llwybrau cenedlaethol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, ar gyfer cleifion strôc yn gynhwysfawr ac yn rhan gwbl annatod o’r ddarpariaeth gwasanaethau yn lleol.

Mae gwasanaethau adsefydlu a chymorth corfforol, cyfathrebu, gwybyddol a seicolegol hirdymor ar gael yn gyson i oroeswyr strôc a gofalwyr.

Canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae cydweithio wrth gynnig gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan annatod o’r diwylliant a chefnogir hyn gyda dull cyffredin o asesu a rheoli anghenion pobl, gan gynnwys cymhwyso Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif.

Mae trefniadau ar gyfer cyd-gynllunio gofal a gwneud penderfyniadau ar y cyd yn sicrhau bod unigolion sy’n cael eu heffeithio gan strôc, neu sydd mewn perygl o gael strôc, yn cyflawni’r canlyniadau sy’n bwysig iddynt.

Mae pwysigrwydd cymorth adsefydlu, ymyriadau therapiwtig cynnar, trefniadau hunanreoli, cymorth gan gymheiriaid ac ymgyngoriadau grŵp i wasanaethau sy’n helpu gyda bywyd ar ôl strôc yn cael ei gydnabod.

Mae mynediad teg at wasanaethau i'r rhai sydd â nodweddion gwarchodedig (fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010), a darperir gwybodaeth yn ôl yr angen mewn ffurf sy'n hygyrch, gan gynnwys ystyried anghenion o ran y Gymraeg ac ieithoedd eraill.

Effeithlon

Mae cyflyrau risg uchel, fel ffibriliad atrïaidd a phyliau o isgemia dros dro yn cael eu canfod, eu rheoli, a rhoddir diagnosis ohonynt, yn effeithiol ac yn unol â chanllawiau clinigol.

Mae dull gweithredu cenedlaethol ar waith mewn perthynas â systemau gwybodeg er mwyn darparu data diagnosteg cyflym, perthnasol, o ansawdd uchel, sydd wedi’u safoni ar gyfer ysgogi gwelliannau i wasanaethau.

Mae dull cyfun ar waith ar gyfer cynnal ymgyngoriadau clinigol, gan ddefnyddio galluogwyr digidol pan fo'n briodol.

Mae gallu ein gweithlu strôc amlddisgyblaethol i fodloni gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg drwy weithredu Strategaeth y Gweithlu yn cael ei gefnogi a’i ddatblygu ymhellach.

Mae ymchwil, arloesi ac addysg yn cael eu datblygu ymhellach er mwyn gallu darparu gofal clinigol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o ansawdd uchel, gan weithlu arbenigol sydd wedi'i hyfforddi'n dda.

Teg

Mae Gweithrediaeth y GIG, drwy ei Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc, yn cefnogi’r dull cenedlaethol o wella gwasanaethau.

Mae gwasanaethau strôc yn cydweithio drwy’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc i sicrhau tryloywder ac i gefnogi mynediad teg a chysondeb mewn safonau gofal gan dynnu sylw at unrhyw amrywiadau na ellir eu cyfiawnhau, a mynd i’r afael â’r amrywiadau hynny.

Mae perfformiad gwasanaethau strôc yn cael ei fesur, ac maent yn atebol, drwy ddefnyddio metrigau cadarn: Rhaglen Archwilio Genedlaethol ar gyfer Strôc Sentinel (SSNAP); archwiliadau sefydliadol; a’r Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREM) a’r Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM).

Mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod arloesi ac ymyriadau wedi'u targedu ar gael ar draws y llwybr strôc i’r holl oroeswyr strôc yng Nghymru.

Atodiad A – Manylebau gwasanaeth

Bydd Gweithrediaeth y GIG yn cefnogi’r gwaith yn lleol o weithredu’r llwybrau clinigol gorau y cytunwyd arnynt yn genedlaethol. Bydd y rhain yn cael eu cynnwys pan fyddant ar gael.