Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac esboniwch effaith y cynnig ar blant a phobl ifanc

Mae plant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na'r boblogaeth yn gyffredinol. Yn y data diweddaraf gwelwyd cynnydd bach yng nghyfran y plant sydd mewn tlodi incwm cymharol, cynnydd i 29 y cant yn 2015 i 2018. Mae adolygiad o lenyddiaeth gan y Ganolfan Ymchwil i Blentyndod Cynnar (CREC) yn canfod bod y dystiolaeth a archwiliwyd ganddynt yn dangos, yn y DU yn arbennig, mai statws economaidd-gymdeithasol rhieni yw'r prif ragfynegydd o hyd o ran pa blant fydd yn byw bywyd ffyniannus fel oedolion. Maent yn adrodd bod graddau anghydraddoldeb ymhlith plant ifanc yn y DU wedi'i ddogfennu'n eglur; mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu bod hanner y bylchau cyrhaeddiad ymhlith disgyblion eisoes yn bresennol wrth ddechrau addysg gynradd. Gan ddefnyddio data astudiaeth Carfan y Mileniwm, mae'r ymchwil hwn yn dangos bod bylchau mawr yn bodoli yn y DU rhwng geirfa plant 4 a 5 oed o deuluoedd ag incwm canolig a geirfa'r rhai o deuluoedd sydd yn y pumed rhan isaf o ran incwm.  

Felly, mewn perthynas â chyrff cyhoeddus yn bodloni’r gofynion i roi sylw dyledus i’r angen i leihau anghydraddoldebau mewn cyrhaeddiad sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol, ymddengys ei bod yn debygol y bydd y Ddyletswydd yn dod ag effaith gadarnhaol yn ei sgil i blant a phobl ifanc, yn enwedig felly i blant sy’n goddef canlyniadau anghyfartal oherwydd eu statws economaidd-gymdeithasol.  

Eglurwch sut mae’r cynnig yn debygol o effeithio ar hawliau plant

Mae cysylltiad anorfod rhwng cydraddoldeb a gwahaniaethu a hawliau dynol. Mae gan anfantais economaidd-gymdeithasol y potensial i ddifetha gallu person i fanteisio ar yr hawliau dynol sydd ar gael iddynt yn y DU a'u mwynhau, drwy gymysgedd o gyfraith ddomestig Deddf Hawliau Dynol 1998, cyfraith yr UE a chyfraith hawliau dynol ryngwladol. Gall anfantais o'r fath arwain at anghydraddoldebau hirdymor mewn addysg, iechyd, boddhad bywyd, ffyniant a chyfleoedd i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.

Bydd mynd ati i weithredu'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yn y ffordd gywir yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu i’r eithaf eu cyfraniad at yr ymdrech i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau o'r fath, a hefyd i gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chyfraith hawliau dynol ryngwladol, gan gynnwys Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn. Mater i gyrff cyhoeddus fydd deall ble y gallant gael yr effaith fwyaf, ond bydd yn ofynnol i'r cyrff hynny sy'n dod o dan y Ddyletswydd roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldebau canlyniadau o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol drwy'r penderfyniadau a wnânt. Byddai disgwyl i lawer o'r penderfyniadau hyn gael effaith ar blant a phobl ifanc.

Mae'n anghyfreithlon i gyrff cyhoeddus yng Nghymru weithredu mewn modd sy’n anghydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae cyrff cyhoeddus hefyd o dan rwymedigaethau, fel rhan o'r wladwriaeth, i ystyried, arsylwi a rhoi ar waith gytundebau hawliau dynol rhyngwladol a lofnodwyd ac a gadarnhawyd gan y DU. Mae saith offeryn hawliau dynol rhyngwladol i gyd a gadarnhawyd gan y DU, a chan bob un berthnasedd economaidd-gymdeithasol.