Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Fframwaith craffu ar gyfer:

  • Y rheini sy’n gwneud penderfyniadau strategol: aelodau byrddau a phwyllgorau, cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.
  • Uwch-arweinwyr: prif weithredwyr, cadeiryddion a phenaethiaid gwasanaeth.
  • Y rheini sy’n arwain ar lywodraethu a chydymffurfio.

O dan y ddyletswydd hon, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig, wrth iddynt wneud penderfyniadau strategol fel penderfynu ar flaenoriaethau a phennu amcanion, ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cafodd y fframwaith hwn ei ddatblygu er mwyn helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i gyflawni’r ddyletswydd sydd arnynt i roi ‘sylw dyledus’ i’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.

Termau allweddol ar gyfer y rheini sy’n gwneud penderfyniadau

Penderfyniad Strategol

Yn gyffredinol, bydd penderfyniadau strategol yn rhai a fydd yn effeithio ar sut y bydd y corff cyhoeddus perthnasol yn cyflawni ei ddiben statudol arfaethedig (ei swyddogaethau o ran y set o bwerau a dyletswyddau y mae’n eu defnyddio i gyflawni ei gylch gwaith) dros gyfnod sylweddol, ac ni fyddant yn cynnwys penderfyniadau rheolaidd ‘o ddydd i ddydd’.

Sylw Dyledus

Mae sylw dyledus yn gysyniad cyfreithiol sydd wedi ennill ei blwyf yn y gyfraith ar gydraddoldeb. Dylai fod gan gyrff cyhoeddus perthnasol ddealltwriaeth dda o’r cysyniad sylw dyledus mewn perthynas â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’n golygu y dylai’r pwysigrwydd a roddir i fater penodol fod yn gymesur â’i berthnasedd.

Trywydd Archwilio

Yn y cyd-destun hwn, dylai ‘trywydd archwilio’ fod yn gofnod gam wrth gam o’r dystiolaeth a gasglwyd er mwyn llywio penderfyniad.

Anogir cyrff cyhoeddus perthnasol i:

  • Gyflwyno trywydd tystiolaeth clir ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir o dan y ddyletswydd.
  • Sicrhau bod y dystiolaeth yn dangos unrhyw effaith neu effeithiau y byddai’r penderfyniada hynny’n debygol o’u cael ar y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
  • Cyflwyno tystiolaeth i ddangos eu bod wedi rhoi sylw dyledus i’r penderfyniad, gan gynnwys cofnodi unrhyw newidiadau a wnaed i’r penderfyniad.

Gallwch ystyried anfanteision economaiddgymdeithasol wrth ymgymryd â phrosesau sy’n bodoli eisoes, megis asesiadau effaith, systemau ar gyfer ymgysylltu a chynnwys pobl, ystyried tueddiadau yn y dyfodol, a defnyddio’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dylech gyfeirio at yr ‘Offeryn mapio’ i’ch helpu yn hynny o beth:

Rôl penderfynwyr strategol

Mae’r isod yn dod o’r canllawiau anstatudol ac mae’n rhoi enghraifft gam wrth gam o sut y gallech gyflawni’r ddyletswydd yn ymarferol. Diben cam pedwar yw galluogi penderfynwyr i gadarnhau eu bod wedi dilyn yr holl gamau, gan sicrhau bod ‘sylw dyledus’ wedi’i roi.

Er mwyn gwneud penderfyniadau da, rhaid ichi fynd ati’n barhaus i adolygu ac i wella. Dylech barhau i asesu effaith, a chyflwyno newidiadau er mwyn sicrhau bod anghydraddoldeb o ran canlyniadau yn parhau i leihau.

Cam 1: cynllunio

  • A yw’r penderfyniad yn benderfyniad strategol?

Cam 2: tystiolaeth

  • Pa dystiolaeth sydd gennych am anfantais gymdeithasol-economaidd ac anghydraddoldeb posibl o ran canlyniadau mewn perthynas â’r penderfyniad hwn?
  • A ydych wedi cysylltu a thrafod gyda’r rheini yr effeithir arnynt gan y penderfyniad?
  • A ydych wedi ystyried cymunedau a mannau buddiant?

Cam 3: asesu a gwella

  • Beth yw prif nodau ac effeithiau posibl y cynnig?
  • Sut y gellid ailwampio neu wella’r cynnig er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau a achosir gan anfantais gymdeithasol-economaidd?

Cam 4: penderfynwyr strategol

  • Diben y cam hwn yw galluogi penderfynwyr i gadarnhau bod sylw dyledus wedi’i roi, er enghraifft, cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol, aelodau byrddau a phwyllgorau. Dylent fodloni eu hunain bod y corff wedi deall y dystiolaeth a’r effaith debygol, a’i fod wedi ystyried a ellir newid y polisi er mwyn lleihau anghydraddoldeb o ran canlyniadau ac achosir gan anfantais gymdeithasol-economaidd.

Cam 5

  • Y cam hwn yw’r broses o ddarparu tystiolaeth a chofnodi sut y cafodd ‘sylw dyledus’ ei roi. Dylai newidiadau i’r penderfyniad gael eu gwneud a’u cofnodi yn ystod y cam hwn.

Cadarnhau bod sylw dyledus wedi’i roi

Gall penderfynwyr strategol ddefyddio’r rhestr wirio isod i wneud hynny:

Enghreifftiau a allai helpu i gadarnhau bod
sylw dyledus wedi’i roi
Enghreifftiau o wybodaeth y gellid ei darparu
ar gyfer penderfynwyr, neu wybodaeth y gallent
ofyn amdani
Mae digon o dystiolaeth wedi cael ei hystyried, mae unrhyw fylchau yn y dystiolaeth wedi’u nodi, ac mae camau yn eu lle i fynd i’r afael â’r bylchau hynny.

Trywydd archwilio o’r dystiolaeth, gan gynnwys:

Y sefyllfa bresennol, gwybodaeth am dueddiadau yn y dyfodol, gwybodaeth sydd wedi dod i law drwy ymgynghori, ymgysylltu a chynnwys eraill. Dyma rai enghreifftiau o le y gallech ddod o hyd i dystiolaeth:

  • Dogfennau asesu effaith
  • Dogfennau asesu risg
  • Dogfennau ar ddefnyddio’r 5 ffordd o weithio
  • Cynlluniau a chofnodion ymgysylltu
  • Cynlluniau busnes adrannau
  • Prosesau Cynllunio Corfforaethol Strategol
Mae gan bobl a chymunedau, ac yn enwedig y bobl sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol, lais. Adborth ar ôl ymgynghori ac ymgysylltu, prif negeseuon, adroddiadau cryno.
Sut y mae’r penderfyniad yn debygol o effeithio ar anghydraddoldeb o ran canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Dogfennau asesu effaith.
Sut y mae’r penderfyniad yn debygol o
effeithio mwy ar rai cymunedau buddiant neu
gymunedau lle.
Dogfennau asesu effaith.
Yr effaith ar y bobl hynny sydd â nodweddion
gwarchodedig ac effeithiau eraill yng nghyswllt croestoriadedd.
Dogfennau asesu effaith.
Os oes modd, cyflwynwyd newidiadau i sicrhau bod y penderfyniad yn lleihau anghydraddoldeb a achosir gan anfanteision economaidd-gymdeithasol.

Dogfennau asesu effaith.

Papurau a nodiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgorau/cyfarfodydd y bwrdd, cynlluniau prosiect.

Dylech gyfeirio ar dudalen 8 yn y canllawiau anstatudol i gael rhagor o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

The Brown Principles can be used to determine whether due regard has been given. Making Fair Financial Decisions (EHRC, 2019) provides useful information about the ‘Brown Principles’. In addition, Guidance on Making Good Decisions refers to the principle of due regard and assists relevant public bodies to make good decisions that are lawful and comply with the rule of law.

Further detail regarding key terminology is included with published guidance.

Additional resources have been developed to support implementation of the Socio-economic Duty, including guidance, a duty mapping document and a progress tracker tool.


Gallwch ddefnyddio Egwyddorion Brown i benderfynu a oes sylw dyledus wedi’i roi. Mae gwybodaeth ddefnyddiol am ‘Egwyddorion Brown’ i’w gweld yn y ddogfen Fair Financial Decisions (EHRC, 2019). Hefyd, mae Canllawiau ar Wneud Penderfyniadau Da yn cyfeirio at egwyddor sylw dyledus ac yn helpu cyrff cyhoeddus perthnasol i wneud penderfyniadau da sy’n gyfreithlon ac yn cydymffurfio â rheolaeth y gyfraith.

Mae rhagor o wybodaeth am dermau allweddol i’w gweld yn y canllawiau a gyhoeddwyd.

Rydym wedi darparu adnoddau ychwanegol i’ch helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol, gan gynnwys canllawiau, dogfen mapio dyletswyddau ac offeryn tracio cynnydd.