Neidio i'r prif gynnwy

Roedd ffermio Cymru yn ganolog heddiw i un o brif ddigwyddiadau amaethyddol y DU, wrth i'r Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, hyrwyddo cynnyrch o'r radd flaenaf a’r dyfodol cynaliadwy yn y sector yng Nghynhadledd Ffermio Rhydychen eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad â chynrychiolwyr yn OFC26 heddiw, tynnodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig sylw at ansawdd ac arloesedd amaethyddiaeth Cymru i gynulleidfa ddylanwadol ledled y DU.  

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Mae hon yn foment nodedig i ffermio yng Nghymru – ar ôl sawl blwyddyn o ddatblygu – dechreuodd ein Cynllun Ffermio Cynaliadwy yr wythnos diwethaf.   Mae'r Cynllun yn bartneriaeth newydd rhwng pobl Cymru a ffermwyr - i'w helpu i gynhyrchu bwyd a mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.  

Ein gweledigaeth yw sector amaethyddiaeth a bwyd ffyniannus, cynaliadwy yng Nghymru sy'n darparu cynnyrch o'r radd flaenaf tra'n diogelu iechyd a lles anifeiliaid a phobl. Gan weithio ar y cyd â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill, rydym nawr yn dod â'r weledigaeth honno yn fyw.

O dan y Cynllun, bydd Taliad Cynhwysol fferm gyfan blynyddol yn mynd i ffermwyr sy'n bodloni cyfres o 12 Cam Gweithredu Cyffredinol. Y tu hwnt i hyn, mae elfennau Dewisol a Chydweithredol ar gael i ffermwyr sy'n dymuno gwella eu cynhyrchiant neu eu heffaith ar yr amgylchedd.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hyd at £238 miliwn i'r Cynllun Taliad Sylfaenol haen Gyffredinol ac etifeddol yn 2026, gan ddarparu sicrwydd ariannol i deuluoedd ffermio.  

Datblygwyd y cynllun trwy gydweithrediad helaeth â'r sector ffermio ac eraill, gyda newidiadau wedi'u gwneud i leihau cymhlethdod a sicrhau hygyrchedd i bob ffermwr, gan gynnwys tenantiaid.