Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi annog pobl Cymru i gyfrannu at ddau ymgynghoriad y DU gyfan ar fesurau i leihau gwastraff plastig.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru, gyda gwledydd eraill y DU, wedi bod yn gweithio ar ddull cynhwysfawr ar gyfer y DU gyfan i fynd i'r afael â'r problemau sy'n cael eu peri gan blastigau untro, sydd yn aml yn cael eu taflu ar ein strydoedd. 

O ganlyniad, heddiw mae gwledydd y DU wedi lansio tri ymgynghoriad ar y cyd, ac mae'r Dirprwy Weinidog yn annog y rhai yng Nghymru sydd â diddordeb i ddweud eu dweud. 


Mae dau ymgynghoriad ar y cyd yn cael eu lansio gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA). Mae'r ymgynghoriad cyntaf, sy'n berthnasol i'r DU gyfan, yn ymwneud â Chyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am Ddeunyddiau Pacio (EPR).  

Ar hyn o bryd yn y DU, amcangyfrifir nad yw cynhyrchwyr yn talu ond tua 10% o holl gost ailgylchu eu gwastraff deunydd pacio. Nod cynlluniau EPR yw sicrhau bod cynhyrchwyr yn ysgwyddo  costau rheoli gwastraff y cynhyrchion y maent yn eu cyflwyno i'r farchnad, un unol â'r egwyddor 'y llygrwr sy'n talu’. 

Mae'r ail ymgynghoriad, sy'n berthnasol i Loegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn ymwneud â chynllun dychwelyd ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd. Cynhaliodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer DRS y llynedd.  

Mae trydydd ymgynghoriad, ar gyfer y DU gyfan, yn cael ei gyhoeddi gan Drysorlys EM heddiw. Mae'n cynnig treth ar gynhyrchu a mewnforio deunyddiau pacio plastig nad ydynt yn cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi'i ailgylchu. 

Meddai Hannah Blythyn: 

“Mae gwastraff plastig a gwastraff deunydd pacio yn faterion pwysig. Bob blwyddyn yn y DU rydyn ni’n cynhyrchu cyfanswm o tuag 11 miliwn o dunelli o wastraff deunydd pacio, ac mae 2.3 miliwn o dunelli o'r gwastraff hwn yn wastraff deunydd pacio. 

"Mae Cymru yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ond rydyn ni am fod yn well. Rydyn ni am gymryd camau i leihau faint o ddeunydd pacio rydyn ni'n ei ddefnyddio, a rhoi cymhellion i annog pobl i ddylunio cynhyrchion a deunyddiau pacio’n well, i sicrhau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu'n hawdd. Gall hyn ysgogi cyfleoedd economaidd ar gyfer Cymru a chefnogi ein nod i fod yn economi fwy cylchol.

"Er bod yr ymgynghoriadau'n cael eu lansio ar y cyd ledled y DU, mae ein lle ni fel un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu yn golygu bod ein hamgylchiadau yn wahanol i weddill y DU. Yn benodol rwy’n awyddus i wneud ymchwil ynghylch a fyddai DRS ar gyfer cynwysyddion diodydd yn gweithio ar gyfer Cymru, gan fod ein cyfradd ailgylchu eisoes yn uchel. 

"Hoffwn i glywed safbwyntiau gan bob sector ar y cynigion hyn, oherwydd fy mod am ddeall yr effaith debygol ar incwm awdurdodau lleol a chyfraddau ailgylchu, a hefyd yr effaith ar fusnesau. Hoffwn i glywed gan aelodau'r cyhoedd hefyd. Pe bai DRS yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, disgwylid i siopwyr dalu ernes ar gynhwysyddion diodydd, a byddai'n rhaid iddyn nhw fynd â chynhwysyddion gwag yn ôl i fannau casglu er mwyn cael eu hernes yn ôl, yn hytrach na defnyddio casgliadau gwastraff o gartrefi a ddarperir gan eu cynghorau.

"Felly, hoffwn i annog pobl yng Nghymru i ddarllen ac i ymateb i'r ymgynghoriadau i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed ynghylch y materion hyn." 

Mae'r dogfennau ar gael ar dudalen ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru.