Neidio i'r prif gynnwy

Mae staff sy’n gweithio yn niwydiant twristiaeth Cymru yn chwarae rôl hanfodol i sicrhau bod ymwelwyr yn cael croeso cynnes Cymreig ac yn dychwelyd adref gydag atgofion gwych o brofiad arbennig, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden heddiw er mwyn nodi Wythnos Twristiaeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o gyfres o ddigwyddiadau i nodi Wythnos Twristiaeth Cymru, a gynhelir yn flynyddol, ymwelodd y Dirprwy Weinidog â Bluestone yn Sir Benfro i gyfarfod rhai o’r staff sy’n yn creu profiadau bythgofiadwy ar gyfer ymwelwyr. Cafodd y Dirprwy Weinidog hefyd gipolwg ar ddatblygiadau newydd y parc ar gyfer yr haf.

Mae parc Bluestone Resort, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed eleni, bellach yn cyflogi mwy na 750 o bobl.

Yn 2021, lansiodd y parc Academi Bluestone, sydd â’r nod o ysbrydoli pobl i ddilyn gyrfaoedd hirdymor yn y maes twristiaeth a lletygarwch. Mae’r academi yn eiriol dros gymysgedd o gyrsiau o dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, sy’n draddodiadol a phwrpasol ac o ansawdd uchel, ochr yn ochr â chyfleoedd am brofiad gwaith â thâl.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Pobl Bluestone, Stuart Davies-Jaynes: 

Mae ein staff yn hanfodol i lwyddiant y busnes ac rydym yn teimlo’n hynod o angerddol dros fuddsoddi yn y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth a phrofiad arbennig i’n gwesteion.

“Mae Academi Bluestone yn un o nifer o ffyrdd yr ydym yn gallu eu defnyddio i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl leol ddatblygu eu gyrfaoedd. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi recriwtio pum prentis newydd, ac mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer 12 lleoliad ychwanegol.  

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu’r Dirprwy Weinidog yma a’i chyflwyno i rai o’n staff gwych – nhw yw dyfodol diwydiant twristiaeth Sir Benfro.”

Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Dirprwy Weinidog, sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros faterion yn ymwneud â thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, yn annerch y diwydiant mewn digwyddiad gan Gynghrair Twristiaeth Cymru yn y Senedd er mwyn dathlu diwydiant twristiaeth Cymru. Yn ystod y digwyddiad bydd ffilmiau ac astudiaethau achos a ddatblygwyd fel rhan o ymgyrch #rhaisyncreuprofiadau, sef  ymgyrch sgiliau a recriwtio sy’n cefnogi’r sector drwy godi ymwybyddiaeth o yrfaoedd gwerthfawr ym maes twristiaeth a lletygarwch, yn cael eu dangos. Mae busnesau o bob rhan o Gymru, gan gynnwys Bluestone, wedi gweithio ar yr ymgyrch, a gellir gweld yr holl ffilmiau ar wefan Cymu’n Gweithio.

Gan siarad cyn y digwyddiad, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Yn ystod Wythnos Twristiaeth Cymru, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r sector yma yng Nghymru. Rwy’n gwybod pa mor galed mae’r diwydiant yn gweithio er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymweld â Chymru yn dychwelyd adref gydag atgofion gwych.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod gwerth y sector twristiaeth fel rhan o’n heconomi ymwelwyr yng Nghymru fel blaenoriaeth. Mae mwy nag un rhan o ddeg o weithlu Cymru yn gyflogedig mewn diwydiannau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, a’r gwariant yn y maes yn cyrraedd mwy na £6 biliwn.

“Yn diweddar cefais y pleser o ymweld â pharc Bluestone Resort yn Sir Benfro. O siarad â staff y parc, mae’n amlwg eu bod yn gweld gyrfa lewyrchus i’w hunain yn y sector twristiaeth yn Sir Benfro a Chymru.

“Mae clywed am yr holl gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael i bobl sydd yn gweithio yn y maes Twristiaeth a Lletygarwch a siarad ag unigolion sydd wedi datblygu yn eu rolau yn wirioneddol wych – mae’r bobl yma yn chwarae rhan arbennig iawn ym mhrofiad pobl o Gymru.”

Wrth gloi dywedodd y Dirprwy Weinidog:

Ein nod yw sicrhau bod Cymru’n  gyrchfan o’r radd flaenaf i dwristiaid a byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau, ymwelwyr a busnesau i gyflawni twf cynaliadwy o fewn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

“Mae’n arbennig o bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd ac edrychaf ymlaen at barhau â’r sgwrs gyda’r sector ar sut yn union i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod Cymru’n parhau i gael ei dathlu fel cyrchfan dwristiaid o safon fyd-eang.”