Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru am i chi ddweud eich dweud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers ei lansio, mae'r comisiwn wedi derbyn llawer o ddiddordeb gan unigolion sydd eisiau cyfrannu. Fe lansion ni arolwg Dweud Eich Dweud ym mis Mawrth fel ffordd o roi cyfle i bobl rannu eu safbwyntiau o’r dechrau un.

Ers ei lansio, mae dros 1800 o bobl wedi ymateb i’n gwahoddiad i ‘ddweud eich dweud’, ac rydyn ni’n parhau i gael llif cyson o ymatebwyr.

Yn ogystal â chlywed gan bobl sydd â diddordeb yn y materion yma, rydyn ni hefyd yn dechrau clywed gan bobl sy’n newydd i’r sgwrs. Mae hyn yn bwysig iawn i ni, ac rydyn ni eisiau adeiladu ar y momentwm rydyn ni wedi’i greu hyd yma.

O ganlyniad i’r gwaith ymgysylltu parhaus yma, byddwn ni’n cadw’r arolwg ar agor am y tro, fel bod modd i bobl barhau i rannu eu safbwyntiau.

Bydd y safbwyntiau a gafwyd cyn diwedd mis Gorffennaf yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad interim, ochr yn ochr â’n gweithgarwch ymgysylltu cymunedol a ariennir a’r dystiolaeth rydyn ni wedi’i chlywed gan ystod eang o unigolion a grwpiau. Bydd ymatebion i’r arolwg ar ôl y pwynt yma yn llywio gwaith y Comisiwn yn 2023, a byddan nhw’n cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.

Bydd ein gwaith ymgysylltu yn parhau drwy gydol cyfnod y Comisiwn, hyd ddiwedd 2023.  Rydyn ni wrthi’n datblygu cyfleoedd newydd i gymryd rhan yng ngwaith y Comisiwn, ac i barhau â’r sgwrs gyda phobl o bob cefndir ac ym mhob cornel o Gymru.

Dilynwch ni i glywed y diweddaraf!