Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei mesurau a'i hopsiynau diweddaraf ar gyfer ffermwyr i'w helpu â'u busnesau yn ystod y cyfnod hir hwn o dywydd sych.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y Sioe Fawr wythnos ddiwethaf, cadeiriodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig 'Gynhadledd Tywydd Sych' gyda phartneriaid o fyd amaeth i drafod y sychder a'i effaith ar ffermwyr. 

Bu'r Gynhadledd yn gyfle i nodi beth allai'r Llywodraeth a'r diwydiant ei wneud gyda'i gilydd i liniaru rhai o'r problemau sydd wedi codi yn sgil y tywydd sych. 

Gyda dim ond 19mm o law wedi cwympo yng Nghymru ers Mehefin, ni welwyd ei debyg o ran ei effaith ar ddŵr, porfa i dda byw a chnydau. 

Yn ystod y Gynhadledd, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n ystyried pa fesurau y gallai'r Llywodraeth eu cyflwyno i helpu'r diwydiant yn y tymor byr, canolig a hir. 

Fe welwch nodyn technegol am y cymorth sydd ar gael yn y tymor byr i ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.