Neidio i'r prif gynnwy

Ddydd Mawrth 7 Mehefin, gosodwyd y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus gerbron y Senedd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r daith ddeddfwriaethol yn cynnwys pedwar cam ac os caiff ei phasio, mae’r Bil yn debygol o ddod yn gyfraith yn 2023. Mae testun y Bil, Nodiadau Esboniadol (trosolwg defnyddiol ynghyd â sylwebaeth cymal wrth gymal) a dogfennau cysylltiedig eraill ar gael yma.

Mae'r Bil yn cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i roi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru. Mae'n darparu ar gyfer fframwaith i wella lles pobl Cymru, gan gynnwys drwy wella gwasanaethau cyhoeddus, drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol.

Bwriedir i'r Bil ategu deddfwriaeth arall, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae sawl maes lle mae'r Bil yn rhyngweithio â Bil Caffael Llywodraeth y DU megis terminoleg a diffiniadau, yn y cyrff a gwmpesir gan y Biliau, ac wrth sefydlu mecanweithiau ar gyfer goruchwylio ac atebolrwydd.

Dyma yw nodau trosfwaol y Bil:

Partneriaeth Gymdeithasol

Rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol a gosod dyletswyddau newydd ar gyrff cyhoeddus yng Nghymru i gynnwys undebau llafur cydnabyddedig, neu lle nad oes undeb llafur cydnabyddedig gyda chynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth wneud eu gwaith.

Caffael sy'n Gyfrifol yn Gymdeithasol

Sicrhau bod gwariant cyhoeddus ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau yn cael ei wneud mewn modd sydd o fudd i bawb (ac nad yw'n canolbwyntio ar gost yn unig).

Gwaith Teg

Mae gwaith teg yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o Gymru fwy cyfartal a ffyniannus o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Datblygiad Cynaliadwy

Rhoi partneriaethau cymdeithasol wrth wraidd datblygu cynaliadwy - gwneud pethau nawr mewn modd sy'n ystyried yr effaith ar bobl fydd yn byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'r ddyletswydd Caffael sy'n Gyfrifol yn Gymdeithasol yn ymwneud â phennu amcanion sefydliadol sy'n cyfrannu at les cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, mwy o dryloywder ac adrodd ar ganlyniadau, a gwella'r broses o reoli contractau ac atebolrwydd.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am unrhyw newidiadau a wneir i'r Bil wrth iddo fynd drwy'r Senedd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Bil, anfonwch e-bost aton ni yn socialpartnership@llyw.cymru.