Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod diwydiant twristiaeth Cymru, yn dilyn dwy flynedd o dorri’r record o ran nifer yr ymwelwyr, wedi cael dechrau arbennig o dda i 2016.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys Arolwg Ymweliadau Dydd i Brydain Fawr bod 86 miliwn o breswylwyr Prydeinig wedi dod i Gymru i ymweld am y dydd yn ystod y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2016 gan greu gwariant o £3.2 biliwn.  O’i gymharu â’r 12 mis blaenorol, mae nifer y tripiau wedi cynyddu 12 y cant tra bo gwariant wedi cynyddu 30 y cant. 

Mae’r ffigurau hyn yn atgyfnerthu canfyddiadau arolwg baromedr twristiaeth ar gyfer mis Mai oedd yn dangos bod 40 y cant o fusnesau yn yr arolwg diwethaf wedi cael mwy o fusnes yn ystod Gŵyl y Banc mis mis Mai / hanner tymor 2016 o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2015.  Dywedodd 45 y cant arall bod y busnes a gawsant am y cyfnod rywbeth yn debyg i 2015.

Dywedodd dau allan o bob pump o’r busnesau a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod wedi gweld eu helw yn cynyddu.

Roedd y darlun o ran dechrau’r tymor ar gyfer ffigurau Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr sy’n mesur nifer y nosweithiau y mae ymwelwyr o Brydain Fawr yn aros yng Nghymru yn gymysg.  Yn ystod y 12 mis o fis Mai 2015 i fis Ebrill 2016, gwelwyd gostyngiad bach o 0.9 y cant yn nifer y tripiau a wnaed i Gymru. Wedi dweud hynny, roedd yr arian yr oedd pobl yn ei wario ar ymweliadau i Gymru yn y 12 mis yn gorffen ym mis Ebrill 2016 wedi cynyddu 1.9 y cant.

Mae nifer y bobl sy’n aros mewn lletyau yng Nghymru ddechrau’r haf hefyd yn edrych yn ffafriol.  Dros y 12 mis yn gorffen ym mis Mai 2016, roedd nifer yr ystafelloedd mewn gwestai oedd yn cael eu defnyddio yng Nghymru wedi cynyddu 1 pwynt canran o’i gymharu â’r 12 mis blaenorol ac roedd nifer y bobl oedd yn dod i aros mewn gwestai / llety gwely a brecwast yng Nghymru wedi cynyddu 3 y cant hefyd.

Roedd gwefan visit.wales.com yn faes arall lle gwelwyd cynnydd yn y gweithgareddau.  Yn ystod chwe mis cyntaf 2016, roedd nifer y bobl oedd yn ei defnyddio wedi cynyddu 6.93% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:  

“Mae diwydiant twristiaeth Cymru yn perfformio’n dda iawn.  Gwnaeth y gwariant gan ymwelwyr oedd yn aros yng Nghymru yn 2015 - sef £2.385 biliwn - dorri pob record.  Mae hyn wedi helpu i greu llawer iawn mwy o swyddi ac wedi ychwanegu gwerth i economi Cymru.  Ein camp nawr yw cynnal y lefelau hyn.

“Mae’r diwydiant ar y trywydd cywiri gyrraedd ei darged sef 10% o dwf gwirioneddol yn yr elw a wneir o ymwelwyr sy’n aros dros nos erbyn 2020.  Er bod yna ychydig o leihad yn nifer yr ymwelwyr o Brydain Fawr oedd yn dod yma ac yn aros dros nos, fe welwn bod y gwariant wedi cynyddu - newyddion da iawn i’r economi.  Yn ôl yr ymweliadau dydd a wnaed ym mis Mehefin, mae cynnydd dramatig wedi bod yn nifer yr ymwelwyr a’r arian sy’n cael ei wario.  Mae’r diwydiant yn hyderus ynghylch tymor yr haf eleni a byddwn yn talu sylw arbennig i’r modd ybydd canlyniad y refferendwm a chynnydd ym mhroffil Cymru o ganlyniad i’n llwyddiant yn nhwrnament Ewro 2016 yn effeithio ar y ffigurau.

“Yn ddiweddar, datgelwyd cam olaf ymgyrch ein Blwyddyn Antur a thros yr haf bydd yr arwydd ‘Epic’yn mynd ar daith ledled y wlad.  Nod yr ymgyrch fydd codi mwy o ymwybyddiaeth pobl o’r enw rhagorol sydd gan Gymru fel cyrchfan anturiaethau rhagorol yr haf hwn yn ystod ein Blwyddyn Antur.”